Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Dengys map degwm 1842 Dolgellau ffordd yn arwain i fyny ochr ddwyreiniol dyffryn Gwynant (bellach yn llwybr troed yn hytrach na llinell y ffordd bresennol), ynghyd â thraciau’n mynd oddi arni i gyfres o ffermydd megis Glasdir (gweler y ffotograff), Callestra, Ty’n-llidiart, Pant-y-piod, Nant-y-gwyrddeil, Cae-einion, Maes-yr-wynn, Erw-wen a Chefn-yr-Owen uchaf ac isaf (cyfanswm o ddeg fferm). Mae’r ffermydd hyn oll ar ochr orllewinol Afon Gwynant ac maent oll wedi’u cofnodi yn nhrefgordd Cefn-yr-Owen. Mae’r rhan fwyaf o’r ffermydd hyn yn breswylfeydd hyd heddiw (ac yn rhestredig) er mai adfeilion yw rhai. Ymddengys bod ardal Cefn-yr-Owen yn un o’r ardaloedd anheddu cynharaf yn y gymuned; dengys cofnodion treth 1292-3 ddeg annedd ar gyfer Cefn-yr-Owen a dim ond tri ar gyfer Dolgellau (Higham, 1994).

Cofnodir bod y rhan fwyaf o’r ffermydd presennol i’r dwyrain o Afon Gwynant yn nhrefgordd Dyffrydan: mae’r rhain yn cynnwys Dyffrydan ei hun, yn ogystal â Thyddyn-mawr, Penrhyngwyn, Tyddyn-rhiw a Thy-nant. Ychydig i’r gogledd o’r rhain, cofnodir bod cyfres arall eto o ffermydd yn nhrefgordd Dolgledr sy’n cynnwys Cae’n-y-coed, Waen Fechan, Hafod-dywyll, Ffrwd-y-brithyll (sy’n gorwedd yn ardaloedd 8 a 19), Tyddyn Ivan Fychan a ffermydd y tu allan i ardal y prosiect.

Yn anffodus, daliadau dan enw’r fferm yn unig sydd ar y map degwm, felly mae’n amhosibl ail-greu’r caeau go iawn oedd yn bodoli. Fodd bynnag, dengys gwaith maes yn eglur bod yn rhaid i’r rhan fwyaf o’r ffiniau presennol (rhai yn cael eu defnyddio ac eraill yn segur) ddyddio o ddechrau’r 19eg ganrif o leiaf. Mae’n debygol felly bod poblogaeth weddol ddwys yr ardal hon ar ddiwedd y cyfnod canoloesol wedi dylanwadu’n gryf ar ei thirwedd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ffermydd, patrymau caeau afreolaidd eu siâp, trac

Mae patrwm anheddu gwasgaredig ffermydd o’r 17eg ganrif, sydd yn fwy na thebyg ar safle aneddiadau canoloesol cynharach, yn nodweddu’r ardal. Mae llawer o’r rhain o bwys ac yn ffurfio grp sylweddol o ffermydd o ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’n cynnwys ffermdy Cae-einion a’i ysgubor (y ddau yn gradd II), y ddau o arddull frodorol ac wedi’u hadeiladu o rwbel â tho llechi, Cefn-yr-Owen-uchaf (gradd II*) ei hunan, Gallestra (gradd II, ac yn gasgliad diddorol o adeiladau fferm brodorol o’r 17eg ganrif), Nant-y-gwyrddail Bach (hefyd yn gradd II, casgliad t a beudy uwchdirol o ddiwedd y 16eg ganrif sydd o ddiddordeb sylweddol) a ffermdy a bloc stablau Nant-y-gwyrddail o’r 17eg ganrif. Waliau sych yw ffiniau’r caeau ac mae llawer ohonynt ar ben linsiedi sylweddol sy’n dangos eu hoedran (o leiaf canoloesol, mae’n debyg). Mae’r ddau drac sy’n croesi’r ardal (un yn ffordd a’r llall, ar y cyfan, bellach yn drac), hefyd o darddiad canoloesol, mae’n debyg.

Farmsteads, irregular fieldscape, trackway