Cefndir Hanesyddol
Mae’r ffordd bresennol i fyny’r dyffryn ar ochr orllewinol yr afon yn weddol fodern, gan fod map degwm 1842 Dolgellau yn dangos bod y ffordd wreiddiol i fyny o’r aber i’r ffermydd uwchben ar ochr ddwyreiniol yr afon. Mae’n bodoli o hyd fel llwybr troed ac yn cysylltu ffermydd Cae’n-y-coed, Waen Fechan, Hafod-dywyll (ffermdy uwchdirol is-ganoloesol brodorol o bwys, wedi’i adeiladu o rwbel ac yn dyddio o tua 1600), Ffrwd-y-brithyll a Thyddyn Ivan Fychan (y cofnodwyd eu bod yn nhrefgordd Dolgledr). Ni wyddys beth yw tarddiad yr enw Kings’ a roddwyd i’r bont a’r t sydd erbyn hyn yn Hostel Ieuenctid. Cyn ysgol a th ysgolfeistr yw Caban Cadair Idris, gerllaw, a adeiladwyd ym 1876 mewn arddull Gothig syml. Bu’n gwasanaethu cymuned ffermio ffyniannus ar un tro (wedi’i seilio ar y ffermdai yn ardal 18 uchod). Nid oes unrhyw nodweddion archeolegol eraill wedi’u cofnodi yma.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Coetir
Ardal goediog fechan yw hon, sy’n gwbl wahanol i’r dirwedd o’i chwmpas. Mae’n ymestyn dros tua 88ha, yn cyfateb bron yn union i SoDdGA, (a ddynodwyd yn gyntaf ym 1957 ac a adolygwyd ym 1982) (CCGC SoDdGA cyf. Coedydd Abergwynant’ 31WNA). Coetir mawr o dderi yw hwn sy’n ymestyn ar hyd ceunant Afon Gwynant, a’i ochrau serth mewn mannau. Coed derw digoes sy’n gorchuddio llawer o’r ardal; ceir hefyd ardaloedd o goetir collddail cymysg, yn bennaf yr onnen a’r llwyfen lydanddail. Mae’r ardal yn bwysig hefyd oherwydd bryoffytau a rhedyn, rhai llwyni sy’n brin yn yr ardal a chyfoeth o blanhigion cen (ar y coed cyll, yn enwedig). Mae hyn oll yn cynnal set ddiddorol o rywogaethau adar sy’n magu. Tyfa’r cyfan dros gyfres o greigiau folcanig Ordoficaidd (gweler hefyd disgrifiadau ardaloedd 15 a 17) sydd ymysg y creigiau gwaddod, asidig, mwy cyffredin sy’n gyfrifol am olwg yr ardal gyfan o gwmpas Cadair Idris.
