Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon, â choedwigaeth fodern bellach yn ei gorchuddio, yn cynnwys o leiaf pum safle archeolegol o bwys (pob un yn rhestredig). Tystia’r rhain i hanes hir o ddefnyddio tir yma, yn enwedig yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae’r safleoedd yn cynnwys carneddi claddu ac aneddiadau cynhanesyddol diweddarach, yn cynnwys cylchoedd cytiau, llociau a’r waliau cysylltiedig.
Disgrifir y rhan fwyaf o’r ardal ar fap degwm 1839 Llangelynnin fel Common’ ac yn ôl y map hwnnw roedd yn cynnwys dim ond un neu ddau loc mawr. Yn anffodus, plannodd y Comisiwn Coedwigaeth goed yn yr ardal yn y 1960au, ond fe’i gwerthwyd yn weddol ddiweddar i fusnes preifat ac mae pren yn cael ei echdynnu yma nawr.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Coedwigaeth 20fed ganrif, archeoleg greiriol
Dengys yr awyrlun sy’n cyd-fynd hyd a lled y goedwigaeth fodern, nad yw’n asio o gwbl i’r archeoleg waelodol na’r dirwedd o gwmpas. O ran y dirwedd, y goedwigaeth sy’n drech, er bod yr archeoleg yn dal i fodoli oddi tani.
