Cefndir Hanesyddol
Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r caeau ar fap degwm 1839 Llangelynnin yn fwy o ran maint na’r caeau sy’n bodoli heddiw, sy’n awgrymu bod y rhan fwyaf o’r caeau hyn wedi’u creu ers hynny. Ychydig o aneddiadau a safleoedd archeolegol sydd yma.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Waliau sychion, patrymau caeau
Nodweddir yr ardal gan ei phatrwm neilltuol o waliau sychion y caeau ar y llethrau sy’n wynebu’r môr uwchben ac o amgylch Llwyngwril.
