Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Yn ddiamau, defnyddiwyd ardal Mawddach yn ddwys yn yr ail fileniwm CC, fel y gwelir yn y ddau grynodiad arwyddocaol o henebion angladdol a defodol nodweddiadol o’r cyfnod hwn sydd yn yr ardal. Mae un ar lethrau deheuol Allt-lwyd, ger Llwyngwril, a’r llall ar y llwyfandir i’r de o Lynnau Cregennen, Arthog. Mae’r ddwy ardal yn cynnwys amrywiaeth o fathau o henebion angladdol ac, yn ardal Cregennen, mae nifer o feini hirion a cherrig cafn-nod. Mae llwybr hynafol Ffordd-ddu yn cysylltu’r ddwy ardal a gellir cyrraedd ardal Cregennen ar lwybr arall o’r gorllewin a nodwyd yn llwybr cynhanesyddol gan fod dwy res o feini hirion a sawl carnedd gladdu yn ei nodi (Bowen a Gresham 1967). Ni nodwyd yma unrhyw anheddiad o’r cyfnod fel y cyfryw hyd yn hyn, ac mae’n debygol fod y ddwy ardal yn ganolbwyntiau arbenigol gweithgarwch angladdol a defodol. Efallai nad oedd yr anheddiad cysylltiedig yn bell i ffwrdd, naill ai yn iseldir y gwastadedd arfordirol, mewn dyffrynnoedd neu ar lethrau ychydig uwchben y gwastadedd arfordirol fyddai wedi’u draenio’n well.

Erys y caeau mawr afreolaidd eu siâp a welir ar fap degwm 1839 Llangelynnin bron yn union yr un fath heddiw. Common’ yw label bron pob un ohonynt. Gwelir ar y map nifer o draciau heb eu hamgáu hefyd yn croesi’r ardal.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Archeoleg gynhanesyddol greiriol, amgylchedd anghysbell

Prif nodweddion yr ardal yw’r olion archeolegol (cynhanesyddol) creiriol sydd wedi’u gwasgaru ar hyd yr hen Ffordd-ddu, yn rhan ogleddol yr ardal ar hyd pen y clogwyn. Fel arall, ychydig o ddiddordeb hanesyddol sydd yn y rhan fwyaf o’r ardal, ar wahân i’r waliau sychion syth sy’n nodweddiadol ohoni. Dyma sy’n rhannu’r ardal yn llociau mawr sy’n dyddio o’r 19eg ganrif.

Relict prehistoric archaeology, remote atmosphere