Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Gardd a pharc bach ynghyd â gardd lysiau a thai allan yw Abergwynant, yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. (Fe’u dynodwyd yn gradd II ar Gofrestr Parciau a Gerddi Cadw – PGW (Gd) 32 (GWY).) Yn ôl eu golwg, lluniwyd pob un ohonynt ar yr un pryd, ac ychydig o newid fu iddynt ers hynny.

Saif y ty a’r fferm ar y rhan fwyaf o safle gweddol wastad a chysgodol ar lannau deheuol aber Afon Mawddach. Mae’r ty, ger gwaelod llethr cefnen sylweddol tua’r tir yn wynebu’r de-ddwyrain, gyda golygfa i lawr dros yr ardd ac yna i fyny tua’r bryniau i’r de o ochr y dyffryn. Ty talcennog, solet o oes Fictoria yw hwn, wedi’i adeiladu o garreg lwyd ar gynllun sgwâr, gyda chyrn simneiau mawr ac estyll tywydd ag addurniadau sy’n mynd dros ben llestri. Yn ôl y sôn, Syr Hugh Bunbury adeiladodd y ty ar gyfer Syr Robert Peel, a fu farw ym 1850, ond anodd yw dod o hyd i wybodaeth am gysylltiadau Peel â’r ardal hon. Yn ddiweddarach, bu’n eiddo i deulu Richards-Peel. Gwerthwyd y ty a bu’n westy o 1951 hyd 1992. Wedi hynny, bu’r t yn wag hyd yn ddiweddar. Bwriedir ei agor fel gwesty unwaith eto wedi cwblhau’r atgyweirio.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ty o oes Fictoria, parc a gardd wedi’u dylunio

Mae cyfres o adeiladau stabl wedi’u cysylltu, bythynnod, cerbyty, gardd lysiau ac ati o amgylch y ty. Codwyd yr holl adeiladau o garreg gyda tho llechi, ac mae wal gerrig yn eu cysylltu ac yn amgáu’r buarth. Mae’r rhan fwyaf o’r parc, i’r gogledd ger aber Afon Mawddach, yn fryniog ac yn goediog, ar y gefnen ger yr afon. Saif fferm y plas ar dir gwastad tua’r de-orllewin, y tu hwnt i Afon Gwynant. Mae ardal fechan o barcdir agored ar rediad graddol ar ochr ddwyreiniol yr afon a saif y t ar ei ymyl ogledd-ddwyreiniol. Mae’r gerddi llysiau a’r buarth stabl yn y dyffryn gogledd-orllewinol. Coedwigoedd a phwll pysgod mawr sydd yn y dyffryn de-ddwyreiniol. Mae’n amlwg nad yw’r pwll yn naturiol gan fod argae ar draws ei ddyffryn bychan.

Gwelir y parcdir lle mae’r dyffrynnoedd yn agor allan, gyda’r ardd yn y canol, yn union i’r de o’r ty. Felly mae ei ardd a’i barc yn amgylchynu’r t, gyda choedwigoedd yn y cefn. Mewn gwirionedd, gorwedda tua chornel ddeheuol y parc, tra bo’r ardal goediog, fwy ei maint yn y gogledd, y dwyrain a’r gorllewin. Mae rhwydwaith helaeth o lwybrau a rhodfeydd yn y coetir tua’r gogledd; erbyn heddiw, maent wedi’u gorchuddio â thyfiant ond, hyd yn ddiweddar, roedd milltiroedd, yn llythrennol, o lwybrau hamdden yno. Coetir derw hynafol yw’r coetir ar y llethr i fyny o ymyl aber Afon Mawddach.

Gellir adnabod y parcdir yn hawdd i’r de o’r goedwig ac erys nifer o goed enghreifftiol yn yr ardal yn union i’r de-ddwyrain o’r ty. Mae yna frigiadau creigiog yn yr ardal hon ac mae’n debyg na chafodd ei haredig, er bod y gweddill wedi’i aredig. Ymhellach tua’r dwyrain, mae pwll pysgod mawr, artiffisial, lle bu cwt cwch ar un adeg. Tua’r gogledd-ddwyrain i hwn, rhwng y prif rodfa a’r A493, mae coedwig yn llenwi’r triongl hir o dir. Ymddengys bod yr ardd, y coedwigoedd a’r parcdir oll o’r un cyfnod ac, o ran arddull, maent yn cyd-fynd â’r dyddiad o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a awgrymwyd ar gyfer y ty. Dengys mapiau fod cynllun heddiw yn debyg iawn i’r cynllun ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg/cychwyn yr ugeinfed ganrif, a chan fod ei arddull yn debyg iawn i arddull oes Fictoria, efallai’n wir ei fod yn wreiddiol. Cafodd y gerddi a’r parcdir eu cynnal a’u cadw yn ystod y cyfnod pan fu’n westy, ond ni fu llawer o newidiadau.

Mae’r ardd yn weddol fach o ran maint ac yn cynnwys llwyni neu ardd wyllt’ ynghyd â lawnt ar rediad graddol a theras o amgylch y ty. Wrth gwrs, nid yw’r ardd wyllt, sef ‘wilderness’ ar ail argraffiad map 25-modfedd yr Arolwg Ordnans, yn wyllt mewn unrhyw ystyr modern. Mae ei chynllun yn hynod gymhleth a manwl a phlannwyd llawer o lwyni yno. Mae’n debygol fod yr ardd lysiau yn dyddio o’r un cyfnod â’r ty. Yn ôl pob tebyg, mae’r berllan yn dyddio fwy neu lai o’r un cyfnod â gweddill y gerddi a’r parc, ond efallai ei bod wedi’i hychwanegu at yr ardd lysiau pan ehangwyd honno ychydig yn ddiweddarach.

Victorian house, designed park and garden