Cefndir hanesyddol
Y ddwy Ardd Gofrestredig, ar ben gorllewinol yr ardal ychydig y tu allan i Abermaw, Taith Gerdded Panorama a th Glan-y-Mawddach yw nodweddion mwyaf arwyddocaol yr ardal.
Mae Taith Gerdded Panorama yn Barc a Gardd Gofrestredig gradd II (PG (Gd) 26 (GWY)). Mae’n cynnwys llwybr troed o ddiwedd oes Fictoria, wedi’i wneud a’i gadw’n dda ac wedi’i greu i fanteisio ar y golygfeydd naturiol dramatig o gwmpas Abermaw. Mae golygfeydd gwych oddi yno, ac roedd gynt yn cynnwys ystafell de a thiroedd pleser’.
Nid yw hanes Taith Gerdded Panorama yn hysbys iawn ond dywedir bod y Parch. Fred Ricketts, a aeth ati i hybu a datblygu Abermaw yn gyrchfan wyliau ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, wedi llunio’r ‘tiroedd pleser’ ger y caffi. Mae’n bosibl ei fod hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y llwybr. Fodd bynnag, mae’r daith yn dilyn hynt ffyrdd a llwybrau troed hn. Mae’n llwybr sydd wedi’i adeiladu’n dda ac sydd wedi’i ddylunio i alluogi’r rhan fwyaf o bobl i fynd i ardal â golygfeydd hynod o hardd. (Ar ddechrau’r 1880au, codai Mr Davies o Westy Corsygedol dâl mynediad o geiniog trwy wiced doll’ a achosodd i bobl gwyno ac anfon llythyrau at y papurau newydd.)
Gelwid yr ardal yn Diroedd Pleser Panorama’ ac roedd golygfa i’w gweld o’r ystafell de ac o fannau yn uwch i fyny hefyd, er nad oes cofnod o erddi go iawn yno. Mae’n rhaid bod unrhyw blannu yn blannu dros dro gan nad oes unrhyw beth ar y safle heddiw nad yw’n ymddangos ei fod yn naturiol (ar wahân i ychydig o goed conwydd ar y bryncyn y tu ôl i safle’r ystafell de). Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y coetir ifanc sy’n gorchuddio’r safle nawr yn fwy diweddar na’r cyfnod pan roedd y daith gerdded fwyaf poblogaidd. Byddai golygfeydd ysblennydd dros yr aber ar hyd y llwybr cyfan bron, o’r ystafell de i’r olygfan uchel, cyn i’r coed dyfu. Erbyn hyn, mae’r coetir yn ymestyn dros y llethrau uwchben ac islaw safle’r ystafell de. Er mwyn gweld golygfeydd yn dda, rhaid mynd ymhellach ar hyd y llwybr tua’r olygfan. Erbyn heddiw, does dim olion seddau ger safle’r ystafell de (dengys ffotograffau cynnar feinciau pren y tu allan i’r caban).
Yn fwy cyffredinol, gwelir coetir collddail hn wedi’i blannu gyda chaeau gwasgaredig, sy’n rhan o stad Glan-y-Mawddach ar ddwy ochr rhan ogleddol y ffordd annosbarthedig. Rheda rhan orllewinol y ffordd annosbarthedig, sy’n arwain o’r ffordd fach o Abermaw, drwy dir agored; glaswelltir yn bennaf gyda pheth rhedyn, coed a phrysg. Wedi i’r llwybr troed adael y goedwig a dod allan ar y tir uwch lle mae’r olygfan, ceir llystyfiant rhostir, gydag ychydig o redyn yn gyntaf, ac yna grug, eithin, llus a glaswelltau.
Yn union islaw hyn, mae Glan-y-Mawddach, sy’n Barc a Gardd Gofrestredig gradd II* (PGW (Gd) 62 (GWY)), ac sy’n cynnwys gardd Edwardaidd ffurfiol a choetir hynod o ddiddorol. Saif ar safle trawiadol ar aber Afon Mawddach. Mae yna adrannau cudd anarferol yn yr ardd, pob un â chymeriad gwahanol ac wedi’i chysylltu â rhwydwaith cymhleth o lwybrau. Mae llawer iawn o goed a llwyni a gwrychoedd bythwyrdd wedi’u plannu yno, a rhy’r llwyni rhododendron ac asalea sioe ysblennydd. Adeiladwyd t Glan-y-Mawddach yn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei newid a’i ehangu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg – dechrau’r ugeinfed ganrif. Datblygodd Mrs Keithley’r ardd ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, rhwng 1900 a 1914.
Y tu hwnt i’r gerddi hyn, dengys map degwm Llanaber (heb ddyddiad penodol ond o ganol y 19eg ganrif) fod mwyafrif y llociau fwy neu lai fel ag y maent heddiw, y rhai mwyaf ar y llethrau coediog a chopaon bryniau, a chaeau llai yn yr ardaloedd isel.
Mae yna dai eraill o bwys yma sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif, oll yn wynebu Afon Mawddach ac yn arwydd o bwysigrwydd yr ardal ar y pryd. Maent yn cynnwys Neuadd Coesfaen (adeiladwyd ym 1844), â’i thr cloc neilltuol sydd i’w weld yn hawdd o Abermaw ac sy’n gwneud i’r neuadd edrych fel castell stori tylwyth teg, a Neuadd Glandwr (adeiladwyd tua 1840) ymhellach i’r dwyrain.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Parciau a gerddi, ‘plastai’ 19eg ganrif, llethrau coediog, golygfeydd
Cymysgedd yw’r llethrau coediog sy’n ymestyn ar hyd lannau (gogleddol a deheuol) aber Afon Mawddach (gweler hefyd ardaloedd 06, 07, 12 a 25), o goetir collddail lled-naturiol a phlanhigfeydd coed conwydd modern (20fed ganrif). Gan fod y rhan fwyaf o’r llethrau mor serth, nid oes tystiolaeth o ddyn yn preswylio yno. Y tu ôl i’r llethrau hyn, bu’r bryniau a’r dyffrynnoedd i’r gogledd-ddwyrain o Abermaw yn ganolbwynt sawl rhuthr am aur’ yng nghanol ac ar ddiwedd y 19eg ganrif, a gwelir amryw o nodweddion archeolegol diwydiannol pwysig sydd wedi goroesi yn rhai o’r mwyngloddiau. Ar lannau’r aber ei hun, gwelir plastai’ a gerddi o ganol y 19eg ganrif, sydd erbyn hyn yn aeddfed ac yn ffynnu.
