Cefndir hanesyddol
Gwelir yr anheddiad bychan, braidd yn ddi-nod, hwn (nad oes ganddo enw ar y rhan fwyaf o fapiau nac ar y ddaear ychwaith) ar fap degwm Llanaber (heb ddyddiad penodol ond o ganol y 19eg ganrif). Arno, gwelir cyfres o oddeutu dwsin o adeiladau wedi’u gosod o gwmpas cyfres afreolaidd o bedwar neu bum trac bach sy’n troelli o amgylch llethr serth sy’n wynebu tua’r de ar ochr orllewinol aber Afon Mawddach, lle llifa Afon Dwynant i’r aber.
Mae dau o’r ffermdai cerrig rwbel bychan, ger Capel Cutiau ei hun yn rhestredig. Mae un ohonynt yn fach, o’r math aml-lawr â simnai ar y talcen, gydag adeilad fferm bychan wedi’i ychwanegu ar y pen uchaf, a’r llall, i’r gogledd-orllewin o’r un cyntaf, yn d cyntedd dwy-uned bychan sy’n dyddio, mae’n debyg, o’r 19eg ganrif.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Tai bychan yn dyddio o’r 19eg ganrif, gerddi egsotig, lonydd cul
Cymysgedd eclectig o arddulliau yw’r bensaernïaeth, a dengys y ffotograff y felin fawr, sy’n dyddio, mae’n debyg, o’r 18fed ganrif, a’i gardd egsotig. Nid oes adeiladau gwasanaethu yn yr anheddiad hwn, ar wahân i’r capel. Mae’r gerddi’n eithaf dramatig, rhywbeth sy’n nodweddiadol o sawl gardd ar hyd glan yma’r aber.
