Cefndir hanesyddol
Datblygiad hirgul’ o’r 19eg ganrif ar hyd y briffordd oedd wedi’i hestyn o Ddolgellau i Abermaw ar ddechrau’r 19eg ganrif yw’r Bont-ddu, bron yn gyfan gwbl. Dengys map degwm Llanaber o ganol y 19eg ganrif lond dwrn o dai yn unig ar hyd ochr ogleddol y ffordd (gweler y ffotograff), a hyd yn oed heddiw, wedi gwella’r ffordd, erys ochr ddeheuol y ffordd bron yn wag. O ganol y pentref, mae’r ffordd fach yn arwain i fyny i Hirgwm i’r gogledd o’r pentref, lle roedd canolbwynt y cloddio am aur yn ddiweddarach yn y ganrif. Dyma’r fenter sy’n gyfrifol am dwf a datblygiad yr anheddiad hwn a’i isadeiledd.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Datblygiad hirgul 19eg ganrif
Mae pensaernïaeth yr anheddiad, sy’n ymestyn ar hyd y briffordd, yn dyddio bron yn gyfan gwbl o’r 19eg ganrif, ar wahân i ryw ddau ddarn lle sythwyd y ffordd, gan adael y tai yn sefyll ychydig yn ôl oddi arni. Mae yna ddau westy a melin yn ogystal ag ambell deras o dai deulawr, ac ychwanegwyd nifer o breswylfeydd 20fed ganrif, garej ac ati. Mae i’r ardal ficrohinsawdd ardderchog heddiw ac mae’n cynnwys nifer arwyddocaol o erddi preifat diddorol (nad ydynt yn gofrestredig).
