Cefndir hanesyddol
Canolbwynt yr ardal hon yw dyffryn bach anghysbell Afon Cwm-mynach sy’n arwain o lannau gogleddol Afon Mawddach gydag ardal ehangach o goedwigoedd a chaeau a amgaewyd yn ddiweddarach (yn bennaf yn y 19eg ganrif, mae’n debyg). Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i chofnodi o anheddu cynhanesyddol yma, er bod sawl safle annedd gwledig gwag yn arwydd o anheddu yn y 16eg ganrif ac yn ddiweddarach. Tai o’r 17eg ganrif yw’r rhai cynharaf sydd wedi’u cofnodi (gweler isod). Ceir peth tystiolaeth hefyd o gloddio am aur ar ddiwedd y 19eg ganrif yn yr ardaloedd i ffwrdd o’r aber. Planhigfa gonifferaidd fodern yw llawer o’r ardal sy’n wynebu aber Afon Mawddach ei hun.
Tua 1860, darganfu perchennog y mwyngloddiau copr uwchlaw’r Bont-ddu (ardal 05) aur. Cododd berchnogion Figra and Clogau Copper Mining Company, (sydd wedi’i leoli y tu allan i’r ardaloedd nodwedd sy’n cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn) drwydded i echdynnu aur, ac erbyn mis Mai 1861, roedd yr elw’n ddigon i gychwyn rhuthr am aur yn yr ardal ar raddfa fach. Sefydlwyd Mwynglawdd Aur Gwynfynydd tua’r amser yma hefyd, ond daeth cloddio o ddifrif i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Per dr oedd yn gyrru’r holl fwyngloddiau hyn; er y gwyddys am tua 150 o siafftiau a lefelau yn y mynyddoedd i’r gogledd o’r Bont-ddu, y tri phrif ardal o weithgarwch oedd y rhai a restrir uchod (Farr, 2001). Mwyngloddio ceuffyrdd oedd ym mwynglawdd Clogau, wedi’i ganoli ar dwnneli ar oleddf a gloddiwyd â llaw tan y 1870au, pan gyflwynwyd driliau cywasgu. Olwyn ddr a adeiladwyd i fod yn felin fathru ar gyfer y mwynglawdd copr yn wreiddiol oedd yn gyrru Mwynglawdd Figra, ac fe’i haddaswyd at ei diben newydd ym 1862. Roedd llwybr igam-ogam ac inclein yn ei chysylltu â’r mwynglawdd uwchben. Adeiladwyd melin newydd â thyrbin yn ei gyrru ar ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd melin lai i lawr yr afon yn cael ei defnyddio tan y 1930au.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Gweddillion mwyngloddio, ffermdai cynnar, caeau afreolaidd, coetir
Mae yna bedwar adeilad cofrestredig yma (pob un yn gradd II): Fila Sioraidd cain o ddiwedd y 17eg ganrif yw Gwesty Borthwnog Hall. Gwnaed rhai newidiadau iddo yn y 19eg ganrif. Ffermdy brodorol uwchdirol o ddechrau’r 17eg ganrif yw Cae-mab-seifion, sydd wedi cadw llawer o’i gymeriad gwreiddiol a, gerllaw, mae Cesailgwm-bach, sydd hefyd yn ffermdy o ddechrau’r 17eg ganrif. Cyfadail t a beudy o rwbel wedi’i wynnu yn dyddio o ddiwedd y 17eg ganrif yw Maestryfer. Mae cymysgedd o goetir collddail a chonifferaidd yn gorchuddio llawer o’r ardal, yn enwedig y llethrau. Mae yna gaeau agored â waliau sych yma ac acw (gweler y ffotograff) ar lethrau agored y dyffryn uwchben yr aber.
