Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys clwtyn bychan o goetir, o’r 20fed ganrif yn bennaf, sy’n tremio dros goetir collddail cynharach ar y llethrau gogleddol islaw ucheldir Dolgledr (ardal 08) uwchben yr aber (gweler hefyd ardal 12).
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Coetir, llethrau
Ardal fechan o goetir uwchben yr aber yw hon, yn union i’r dwyrain o Abergwynant ac ar brif lethrau’r massif uwchdirol sy’n codi uwchben Afon Mawddach. Mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau pennaf yn nodweddiadol o goedwigaeth fodern, er bod yr ardal ganol yn cynnwys ardal o goetir collddail hen.
