Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys aber lanw’r Afon Mawddach, â’i thraethellau a’i gwastatir corslyd, cyn belled i’r mewndir â’r A470 bresennol. Mae cloddiau draenio/llifogydd yn y pen mewndirol ac mae pontydd yn croesi yma a thros geg yr aber. Traphont yw’r ail, a adeiladwyd yn rhan o Reilffordd y Cambrian ym 1867, tra fo’r bont drestl tua’r mewndir (a adeiladwyd ym 1879 ar draws o Benmaen-pl) yn un o’r ychydig o strwythurau pren o’i fath ym Mhrydain.
Ym 1188, disgrifiodd Gerallt Gymro ei daith o amgylch Cymru gyda’r Archesgob Baldwin. Gwnaethant ddefnyddio fferi i groesi ceg Afon Mawddach yr un diwrnod aethom dros yr afon fforchog Maw mewn cwch’ (mae’n debygol fod hyn yn cyfeirio at y ffaith bod dwy fferi’n cael eu defnyddio, un o bwynt Penrhyn (Fairbourne bellach) i Ynys y Brawd, ac un arall, oddi yno i’r tir mawr yn Abermaw a oedd yn daith fyrrach). (Mae’n debyg bod y stori mai mynachod lleol oedd yn rheoli’r fferi yn y cyfnod canoloesol hwyr wedi deillio o enw’r ynys ger Abermaw.) Yn ddiweddarach, pysgotwyr lleol oedd yn gyfrifol amdani: yn ôl Survey of the Ports, Creeks and landing places on the Welsh Coast’ (a gyhoeddwyd ym 1569) Bermowe had towe litel Bootes that the said Res ap Res and Harry ap Eden do use to carry men over that passage’. O deyrnasiad George III, Ymddiriedolaeth Harbwr y Bermo oedd yn berchen ar y fferi. Roedd yn ei rhoi ar osod yn flynyddol i denantiaid oedd yn byw yn Fferm Penrhyn (ardal 11), ar ben gogleddol y pentir. Hyd at ei gwerthu ym 1860, y fferi oedd yn cynhyrchu prif incwm y fferm oherwydd rhedai’r Post Brenhinol ar y pryd o Ddolgellau i Abermaw, drosodd i Fferm Penrhyn ac yna ymlaen i Dywyn a Machynlleth.
Erbyn canol y 19eg ganrif, byddai’r fferi, oedd yn dal i hwylio o bwynt Penrhyn, yn cludo llechi o chwareli yn Nyffryn Panteinion, ynghyd â phlwm, copr a manganîs o Gyfannedd Fawr uwchben Arthog (ardal 15), dros yr aber i Abermaw (ardal 01), lle byddai llong yn eu cludo ymaith. Wrth i nwyddau o Abermaw gynyddu wedi’r 17eg ganrif, cynyddodd y galw am longau (ac felly, cynyddodd nifer yr iardiau cychod) ym Mhenmaen-pl a Borthwnog ac ati. Roedd Maes-y-garnedd, ar ochr ogleddol a phen dwyreiniol yr aber, yn ganolfan adeiladu llongau prysur, a hefyd yn ganolfan masnach ar gyfer dosbarthu nwyddau a marsiandïaeth (gan gynnwys blawd, blawd ceirch, ffa, rhyg, pren, rhisgl ac ati) o Abermaw i bobl leol yn y mewndir o gwmpas Dolgellau. Saif Penmaen-pl ar gilfach ar yr ochr ddeheuol. Roedd gwesty George III wedi’i adeiladu erbyn 1650, fel dau adeilad ar wahân yn wreiddiol, sef tafarn ac adeilad adeiladwyr llongau. Fel arfer, adeiladwyd y llongau yma ac yna’u halio draw i Abermaw er mwyn gosod yr hwyliau, y rigin ac ati. Gwelodd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif lawer o adeiladu llongau (lansiwyd 318 o longau rhwng 1750 a 1865), ond daeth i ben, fwy neu lai, gyda dyfodiad y rheilffordd ym 1867 (pan gyfunwyd y ddau adeilad). Rhed y rheilffordd, oedd yn mynd o orsaf Morfa Mawddach i Ddolgellau, o flaen y gwesty. Fe’i caewyd ym 1964, a dyma Llwybr Mawddach’ bellach: gwarchodfa gwylio adar yr RSPB yw rhan ohono. Y Strand’ yw’r disgrifiad o’r ardal ar fap degwm 1842 Dolgellau. Bu’r ardal yn denu twristiaid ac ymwelwyr ers dwy ganrif, ac roedd yn arbennig o boblogaidd yn ystod y cyfnod Rhamantaidd (gweler adran 8.7 uchod), pan nad oedd yn bosibl teithio i’r Cyfandir. Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, cafodd ei hybu’n frwd fel lle i ddiwydianwyr cyfoethog o Ganoldir Lloegr brynu tir ac adeiladu tai egsotig.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Aber, fflatiau llaid, cors, corslwyni
Mae aber Afon Mawddach wedi’i lleoli mewn dyffryn eang a gerfiwyd gan rew. Mae yno draethellau tywod helaeth ar ei hyd, gydag ardaloedd o ddyddodion lleidiog ac ardaloedd mawr o forfa heli. System aberol gyfan, fwy neu lai, yw hon, ac mae’n cynnwys enghreifftiau da o gyffindiroedd rhynglanwol i dirol, o forfa heli i gors bori ac mae’n cynnwys corslwyni, coetir a chreigiau’n dod i’r wyneb.
Aber dywodlyd ydyw’n bennaf, ond mae ynddi hefyd ardaloedd helaeth o lannau lleidiog (sy’n anarferol yng ngogledd Cymru), gan gynnwys rhai o’r fflatiau llaid cysgodol mwyaf helaeth yn ardal Bae Ceredigion. Mae stribed cul o graig o amgylch llawer o’r glannau uwch, llawer ohono wedi’i orchuddio â chennau ac alga gwymon. Ceir morfa heli (yr ardal fwyaf ond dwy ym Mae Ceredigion) ar hyd y ddau draeth ac mae ardaloedd helaeth o’r gorsen gyffredin. Mae Ro Wen, sef tafod o dywod a cherrig mân (ardal 10), yn amddiffyn ei genau, ac mae Abermaw (ardal 01) yn amddiffyn yr ochr ogleddol. Cynefinoedd aberol, yn enwedig gwaddodion lleidiog a morfeydd heli, corslwyni a chyforgors yw ei nodweddion arbennig. Mae yma hefyd rywogaethau o ddiddordeb sylweddol sy’n cynnwys sawl rhywogaeth adar y glannau, planhigion fasgwlar prin, bryoffytau ac infertebrata.
