Cefndir hanesyddol
Anheddiad pysgota bach anhygyrch ar ochr ogleddol aber Afon Mawddach tua’r môr oedd Abermaw nes iddo ddechrau datblygu yn y 18fed ganrif. Y môr oedd sail economi’r dref a dechreuwyd adeiladu llongau yn y 1750au. Erbyn 1770, roedd y dref wedi hen sefydlu yn borthladd bach yn ymwneud â masnach arfordirol, yn dibynnu’n bennaf ar ddiwydiant gwlân Meirionnydd. Gwnaed yr harbwr yn ddyfnach ac adeiladwyd cei newydd ym 1802, ac wedi agor y rheilffordd ym 1867, tyfodd y dref ymhellach wrth iddi ddechrau darparu ar gyfer y fasnach dwristiaid newydd. Mae pensaernïaeth y dref yn nodweddiadol o Oes Fictoria.
O ddiwedd y ddeunawfed ganrif, mae hanesion a ysgrifennodd sawl teithiwr yn rhoi cyfres o bortreadau o’r dref a phwynt dechreuol y gellir astudio hynt ei datblygiad diweddarach ohono. Maent yn dangos yn eglur bod Abermaw (fel sawl tref arall yng Ngogledd Cymru) wedi dechrau ar broses o newid cyflym gyda chynnydd hynod yn ei hadeiladau erbyn tua 1810 (Fenton, 1917 gol). Mae’n ymddangos bod dau brif sbardun i’r tyfiant hwn. Ehangu masnach oedd un roedd cant o longau wedi’u cofrestru yn y porthladd ym 1795. Ysgogodd hyn Ddeddf Seneddol ym 1797, ar gyfer atgyweirio ac estyn yr harbwr. Ni wnaeth y porthladd adennill y masnach â’r cyfandir wedi’r rhyfel yn erbyn Ffrainc, ond roedd y fasnach arfordirol yn parhau i fod yn brysur. Roedd y mewnforion yn cynnwys glo, pren o America a gwledydd Llychlyn, carreg galch, d a bwydydd, a byddai brethyn, pren, manganîs, mwyn copr a phlwm, llechi, menyn a chaws yn cael eu hallforio. Er iddi ddod yn fwyfwy anodd cyrraedd yr harbwr, parhau wnaeth y fasnach arfordirol nes adeiladu’r rheilffordd ym 1867 a achosodd i’r fasnach grebachu’n gyflymach. Roedd adeiladu llongau a’u hadfer yn cefnogi’r fasnach hon pan roedd ar ei hanterth.
Cyfrwng arall i dwf y dref oedd y cynnydd mewn cymryd gwyliau. Roedd dwy dafarn eisoes yn y dref erbyn 1800 – Cors y Gedol (gyda th llety mawr yn gyfagos) a’r Lion. Roedd wedi’i dyrchafu erbyn 1833 to an eminent rank among the watering places on this part of the coast’ ac roedd numerous respectable lodging houses’ wedi’u hadeiladu (Lewis, 1833). Diolch i ymdrechion tafarnwr Cors y Gedol, roedd baddondy, ystafell filiards a chynulliadau rheolaidd yn y gwesty yn ystod y tymor; roedd yna dri chapel ac Eglwys Dewi Sant, a adeiladwyd ym 1830.
Daeth tro mwy fyth ar fyd y dref wedi dyfodiad y rheilffordd, ac ysgogodd gyfnod o lawer o adeiladu: ailadeiladwyd gwesty Cors y Gedol ym 1870, a gellir dyddio llawer o’r terasau o dai llety a chartrefi yn y degawdau oedd yn dilyn (er enghraifft, teras Bro Gyntun, tua 1870). Yna, adeiladwyd sawl capel (Caersalem, ym 1866, yn union cyn y rheilffordd) ac Eglwys Sant Ioan a adeiladwyd ym 1889 yn arbennig ar gyfer ymwelwyr â’r dref oedd yn Saesneg eu hiaith. Erbyn 1902 with but few exceptions, all the houses in the town are let to visitors’ (Heywood). Daeth sefydliadau ac amwynderau trefol yn sgîl y twf sydyn, ynghyd â chyflenwad dr cyhoeddus o 1873 (o gronfa Llyn Bodlyn). Arwydd arall o natur drefol yr anheddiad yw sefydliadau masnachol – siopau a banciau: cyrhaeddodd Banc Gogledd a De Cymru ym 1870, ac adeiladwyd Morris and Co ym 1882.
Roedd cymeriad gofodol amlwg yn y twf. Mae rhai o’r adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi ar y tir mwy gwastad rhwng y draethlin a’r bryniau: A street is formed by a few mariners and fishermen’s houses, built on the strand’ (Y Parch. J Evans), ond ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yr adeiladu ar y llethrau serth a roddodd gymeriad neilltuol i’r lle: …a’r tai wedi eu gosod hyd yr ochrau sythion, y naill uwchlaw y llall, yn y fath fodd fel ag i roddi cyfleustra i’r rhai uwchlaw edrych i lawr cyrn simneiau y tai islaw iddynt.’ (Pennant, 1779). Principally built upon a high rock, rows of houses standing upon the shelves one above another, like part of the City of Edinburgh, and said to resemble the town of Gibraltar’ (Y Parch. J Evans, A Tour Through Part of North Wales in 1798). The most remarkable part of the place is a cluster of houses built many years back, occupying the sides of a little gully in the mountain, and rising one above the other to the very summit, looking like a lava of houses, as if they had been vomited out of the rock’ (Fenton). Gwelir y cymeriad hwn, sydd yn ei hanfod yn gymeriad y ddeunawfed ganrif, yn parhau hyd heddiw yn yr hyn a elwir nawr yn Hen Bermo’. Dyma’r ardal lle sefydlodd y Guild of Saint George ei hunan mewn 12 neu 13 o fythynnod a roddodd Mrs Talbot ym 1874.
Cyfnerthodd datblygiad ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr ymdeimlad o un stryd hir ond, yn ddiweddarach, ehangodd y dref i gyfeiriad y môr tua’r gogledd-orllewin hefyd: yn ystod y 1870au, adeiladwyd ar driongl o dir ar ochr dde-orllewinol y rheilffordd gan ddilyn cynllun mwy ffurfiol (1878 yw dyddiad 1-12 Marine Parade): efallai mai gweithgareddau’r Bwrdd Lleol (etholwyd y cyntaf o’r rhain ym 1872) oedd yn rhannol gyfrifol am y ffurfioldeb hwn.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Trefwedd, harbwr
Mae siâp y dref cyn tua 1750 yn parhau’n aneglur iawn, ond mae lleoliad a chymeriad adeiladau cynnar (yr ail ganrif ar bymtheg neu ynghynt), y gwyddom amdanynt yn rhoi rhai cliwiau. Ger yr harbwr, t-neuadd llawr cyntaf o ddiwedd y 15fed ganrif yw T Gwyn, sef adeilad prin a phwysig sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn. Gruffydd Fechan o Gors y Gedol oedd yn gyfrifol am ei adeiladu. Mae’r dewis o neuadd llawr cyntaf yn ddiddorol, yn enwedig yng ngoleuni’r patrwm adeiladu mwy diweddar yn y dref. Ymddengys bod hwnnw’n ffafrio rhannu eiddo fesul llawr, fel pe bai tir yn brin. Dengys adeilad cynnar arall sydd wedi goroesi yr arwydd cyntaf o hyn. T o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg yw Pen y Grisiau, sydd wedi’i adeiladu ar ongl sgwâr oddi ar y Stryd Fawr. Tybir bod tri aelwyd ar wahân ynddo yn wreiddiol, un uwchben y llall. Ymddengys bod yr unig adeilad arall y tybir ei fod yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg (Pen y Graig a Gibraltar Cottage) hefyd wedi’i adeiladu o’r dechrau i fod yn gyfadail o anheddau ar wahân, eto wedi’i rannu fesul llawr i raddau, ar safle serth yn yr ardal o’r enw Hen Bermo heddiw. Nid yw’r adeilad hwn wedi’i archwilio’n fanwl ac mae’n bosibl bod eraill, nad ydynt wedi’u nodi eto, o ddyddiad a math tebyg.
Mae’n ymddangos bod tai cynnar eraill yn yr arddull frodorol rhanbarthol. Mae Anchor Cottage, t dwy uned, â simnai ar y talcen, yn gyfochrog â’r Stryd Fawr, ger yr harbwr. Mae yna adeiladau eraill yn y dref sy’n dyddio o’r cyfnod nesaf yn natblygiad traddodiadau adeiladu rhanbarthol, megis tai aml-lawr (Quay Cottage, Walsall House, Stryd yr Eglwys; ardal Cumberland Place).
Erbyn oddeutu 1800, roedd sawl cainc ym mhensaernïaeth y dref. Gwelir bythynnod bach gwasgaredig ar y llethrau uwch mewn ysgythriadau cynnar o’r dref yn dyddio, mae’n debyg, o ganol y ddeunawfed ganrif. Dengys y bythynnod â chroglofft hyn draddodiad brodorol rhanbarthol amlwg. Maent o ddiddordeb arbennig gan eu bod yn enghreifftiau cynnar o fythynnod bychain math o adeilad nad yw’n aml yn goroesi o’r cyfnod cynnar hwn. Ffurfiodd rhai ohonynt graidd y Guild of Saint George (Saint George’s Terrace, Rock Terrace, Caprera Cottage).
Gwelwyd y rhan fwyaf o ddatblygiad ar y llethrau is a’r tywodydd islaw. Mae sawl adeilad sylweddol a allai hefyd ddyddio o’r cyfnod cyn 1800 yn yr ardal hon: nodweddir y rhain gan adeiladau deulawr, gyda waliau o rwbel-slabiau, talcennau â chopa a simneiau ar y talcen o garreg gain. Mae Bennar Terrace yn enghraifft restredig o’r math yma o d. Fodd bynnag, mae’n dod yn amlwg bod sawl enghraifft arall o’r math hwn, wedi’u cuddio’n rhannol y tu ôl i ffasadau diweddarach.
Mae sawl t unigol sy’n dangos dylanwadau syniadau pensaernïol boneddigaidd, sy’n cynrychioli coethi’r arddull frodorol hon. Mae rhai adeiladau da o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ger y Stryd Fawr – mae’n bosibl mai Saint Anne House, sef gwesty’r Lion yn wreiddiol, yw’r gorau o’r rhain, ond mae Ty’n-y-coed, a Th Aber, y Stryd Fawr yn rhan o’r traddodiad hwn. Efallai bod siop hen bethau Maine House (wedi’i newid pan ychwanegwyd siop yn ddiweddarach) yn un arall. Mae pensaernïaeth goeth yn awgrymu ffyniant a bri’r dref yn y cyfnod hwn.
Roedd adeiladu tai pâr neu derasau byrion yn nodweddiadol o ddatblygiadau ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ffurf sy’n awgrymu hapadeiladu a phroses adeiladu drefnus. Nid yw rhai o’r rhain wedi newid llawer o’r traddodiad brodorol yn arbennig wrth ddefnyddio deunyddiau adeiladu er enghraifft, Walter Lloyd Jones and Co, a Bennar Terrace. Gwelir enghraifft o’r soffistigeiddrwydd roedd y broses adeiladu hefyd yn dyheu amdano yn Fron y Graig/Tan y Fron, Y Stryd Fawr, Graig Fach, Stryd yr Eglwys ac 1-4 Goronwy Terrace.
Mae’n ymddangos i glystyru anheddau barhau i fod yn nodwedd datblygu ar y llethrau is a oedd, erbyn hyn, yn llenwi: nodwyd un t fflatiau – Williams Buildings – ac mae’n bosibl bod yna fwy ohonynt. Dull adeiladu tra anarferol yw hwn a byddai archwiliad mwy manwl o fudd.
Nes dyfodiad y rheilffordd, glynodd adeiladu trefol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fwy neu lai at y traddodiad Sioraidd. Ar adegau, byddai’n fwy neu’n llai boneddigaidd’ yn ei ddyheadau ond fe fyddai’n cyd-fynd ar y cyfan gan mai deunyddiau lleol oedd yn cael eu defnyddio’n gyffredin. Deuai arlliwiau’r traddodiad hwnnw o’r amrywiol ddulliau o drin y garreg leol (a fyddai’n nodweddiadol yn cael ei thrin mewn blociau mawr iawn). Heriwyd y cydlyniad hwn gan dwf cyflym y dref yn dilyn dyfodiad y rheilffordd, a gyflwynodd mathau a thraddodiadau adeiladu eithaf gwahanol. Yn y lle cyntaf, roedd unedau’r datblygu’n aml yn fwy, gyda therasau hwy. 1-12 Marine Terrace (1878) oedd y mwyaf ohonynt, o bosib, sef prosiect mwyaf uchelgeisiol y dref o ran maint a oedd, yn wreiddiol, yn gyfansoddiad cymesur. Roedd adeiladau diweddarach y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd yn dalach, gyda 3, 4 a hyd yn oed 5 llawr. Yn aml, byddent yn defnyddio arddull gwaith maen newydd (gwaith maen llanw) ac yn cyflwyno elfennau pensaernïol eraill. Mae’r talcen dormer a’r ffenestr grom yn ddwy o’r rhain. Gwelwyd y ffenestr grom, yn arbennig, mewn tai llety glan y môr. Roedd yna hefyd fwy o eclectigiaeth arddulliadol, â geirfa ehangach o fanylion (clasurol, dadeni a gothig). Mae adeiladau Bellevue a filas Hendre yn enghreifftiau da o hyn.
Mae yna enghraifft arall o’r bensaernïaeth newydd hon yn yr adeilad masnachol oedd yn nodweddu’r prif stryd. Mae Ael y Don, Stryd yr Eglwys, sy’n dyddio o 1871, yn deras mawr cymesur; mewn mannau eraill ar echel y Stryd Fawr a Stryd yr Eglwys, adeiladau unigol ar blotiau unigol yw llawer o’r datblygiad. O bosibl, mae hyn yn arwydd o darddiad cynharach anheddu yn yr ardal hon, gan bod hon yn broses ddatblygu sy’n awgrymu cyfyngiadau ar faint y plotiau oedd ar gael. Dengys adeiladau unigol yn yr ardal hon bwysigrwydd masnach yn y dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn anad dim fel noddwr arddulliau pensaernïol a mathau o adeiladau penodol. Mae enghreifftiau unigol da yn cynnwys Morris and Co a’r Banc y Midland, ond mae amrywiaeth bensaernïol y brif stryd sy’n deillio o’r patrwm datblygu hwn yn rhoi cymeriad cryf i’r dref.
Er bod deunyddiau adeiladu wedi’u mewnforio cyn hyn, daeth ffynonellau deunyddiau newydd yn sgîl oes y rheilffordd: daeth bric a theracotta i’r amlwg, ynghyd â charreg nad yw’n lleol, a haearn bwrw daeth y rheiliau yn adeiladau Bellevue o ffowndri yn Birmingham.
I gloi, felly, datblygodd Abermaw yn llawer mwy ysbeidiol wedi tua 1880. Mae cyfres o dai ar wahân o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif ar y llethrau uwch, ond mae’r ehangu mwyaf, tua’r gogledd-orllewin, yn y tai cyhoeddus o ganol yr ugeinfed ganrif, sydd ar wahân i ran hanesyddol y dref. Yr hyn sydd yno heddiw, felly, yw cyrchfan sydd wedi’i chadw’n dda, lle gellir olrhain yn eglur penawdau dilynol o’i hanes hyd ei hanterth tua 1880.
