Skip to main content

Ardal ddiwydiannol: gwaith haearn.

Crynodeb

Tirwedd ddiwydiannol, safle Gwaith Haearn Ivor, a agorodd ym 1839, ac a nodweddir bellach gan adeiladau diwydiannol nas defnyddir yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Ardal Gwaith Haearn Ivor yn cynnwys safle’r gwaith, a agorodd ym 1839 fel estyniad i Waith Haearn Dowlais, gyda phedair ffwrnais chwyth i ddechrau. Mae un adeilad wedi’i adeiladu o frics coch, yn dyddio o’r cyfnod ar ôl 1915, wedi goroesi o’r cyfnod cyn dyfodiad cwmni Dur Prydain.

Yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif trosglwyddwyd safle Gwaith Ivor i ffwndri a reolid gan gwmni Dur Prydain. Pan gaeodd y ffwndri ym 1987 daeth y cysylltiad rhwng Merthyr Tudful â’r diwydiant haearn i ben; cysylltiad a oedd wedi para am fwy na 200 o flynyddoedd.

Ffynonellau

Ivor Iron Works Area character area: site of the early 19th century ironworks with later disused industrial buildings.