Tirwedd Ganoloesol/Ôl-ganoloesol; caeau afreolaidd bach yn gysylltiedig â daliadau amaethyddol ôl-ganoloesol; ffiniau caeau traddodiadol ar ffurf waliau sych.
Crynodeb
Tirwedd amaethyddol amgaeëdig ôl-ganoloesol arall.
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal dirwedd hanesyddol Blaen-y-Dyffryn yn cynnwys ardal sydd wedi goroesi o gaeau amaethyddol ôl-ganoloesol sy’n gysylltiedig â daliad Blaen-y-Dyffryn ar gwr Chwarel Vaynor sy’n weithredol. Mae’r ardal yn gymharol fach ac mae’n rhannu nodweddion â’r dirwedd amaethyddol ehangach ardal Dyffryn Glais i’r gogledd ac i’r dwyrain o ffin tirwedd hanesyddol Merthyr Tudful.
