Skip to main content

Tirwedd gloddiol fodern: chwarel gerrig weithredol fawr; safle tramffordd ddiwydiannol, odynau calch; crefyddol, angladdol a defodol: safle carreg arysgrifedig Rufeinig.

Crynodeb

Chwarel gerrig weithredol fawr, a arferai gynnwys odynau calch a thramffordd ddiwydiannol yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Chwarel Vaynor yn cynnwys chwarel gerrig weithredol, a sefydlwyd yn ystod y 1870au i ddarparu calchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Cyfartha a oedd yn eiddo i Crawshay. Mae’r gwaith presennol wedi ehangu’n gyflym ers cael ei ailagor o dan AW Lewis, ac erbyn hyn mae’r ardal yn cynnwys casgliad o adeiladau a strwythurau chwarel modern, megis cludyddion a hopranau.

Ffynonellau

Vaynor Quarry character area: large active stone quarry.