Chwareli calchfaen yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais a Gwaith Haearn Rhymni a sefydlwyd yn ddiweddarach; coridor trafnidiaeth.
Crynodeb
Cyfres o chwareli yn dyddio o’r 19eg ganrif a gysylltir â Gwaith Haearn Dowlais a Gwaith Haearn Rhymni a sefydlwyd yn ddiweddarach.
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal dirwedd hanesyddol Chwareli Twynau Gwynion yn cynnwys chwarel galchfaen helaeth a ddatblygwyd gan Gwmni Haearn Dowlais o ddechrau’r 19eg ganrif, ar dir a brydleswyd o Ystad Bute. Roedd y chwareli wedi’u cysylltu â Dowlais gan dramffordd, goroesodd pont dramffordd ddyddiedig 1805/15 ychydig i’r de tan 1984 (HLCA 035). Daeth y chwarel i gael ei gysylltu â Gwaith Haearn Guest yn Rhymni ar ôl hynny, ac fe’i cysylltwyd â’r gwaith haearn gan Reilffordd Fwynau Rhymni (Calchfaen) tua 1864.
Dengys tystiolaeth gartograffig y gall yr ardal gynnwys yr olion yn gysylltiedig â thramffordd y chwarel, a arferai wasanaethu talcen y chwarel.
