Tir amaethyddol amgaeëdig; safle gweithfeydd cloddio glo a mwyn haearn yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif; safle nodweddion trafnidiaeth ddiwydiannol a rheoli dwr; ffermydd ôl-ganoloesol a stablau diwydiannol; rhywfaint o weithgarwch adfer tir.
Crynodeb
Ardal gymysg o dir amaethyddol a diwydiannol a nodweddir gan weithfeydd glo a mwyn haearn yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, a nodweddion trafnidiaeth a rheoli dwr cysylltiedig. Gwnaed rhywfaint o waith adfer yn yr ardal, ond mae’n bosibl bod rhai nodweddion diwydiannol wedi goroesi, yn arbennig nodweddion trafnidiaeth.
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal dirwedd hanesyddol Clyn-Mil, Pencoedcae a Threbeddau yn cynnwys ffermydd Clyn-Mil Uchaf, Pencoedcae a Chwmblacks, a Threbeddau. Safle cyn-fferm ddiwydiannol Clyn-Mil Isaf a Phwll Glo Clyn-Mil (Rhif 1; glo a haearnfaen) gerllaw, ei gronfa ddwr gydbwyso. Lleolir yr ardal ar gwr y brif ardal mwyngloddio brig ac er bod rhywfaint o waith adfer wedi’i wneud o fewn yr ardal yn Nhrebeddau, gallai olion gorffennol diwydiannol yr ardal fod wedi goroesi, er enghraifft nodweddion trafnidiaeth megis incleins a thramffyrdd.
Nodwyd daliadau amaethyddol yr ardal ar fapiau ystâd yn dyddio o ganol y 18fed ganrif ac roeddynt yn rhan o Ystad Sain Ffagan (Cwmni Haearn Plymouth yn ddiweddarach). Mae’r ffermydd yn dilyn y traddodiad brodorol ôl-ganoloesol cyffredinol, er yr ymddengys nad oes fawr ddim o ddiddordeb i’w weld heddiw. Dangosir y fferm gynharaf yng Nghlyn-Mil Isaf (a ddymchwelwyd) erbyn 1850 a chanddi res bedeironglog o adeiladau sy’n fwy nodweddiadol o fferm ddiwydiannol. Cyfeiriwyd at yr adeilad fel stablau Clyn-Mil; yn debyg i’r stablau yn Nowlais, ymddengys fod yr adeilad hwn yn cynnwys stablau’r gwaith yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Plymouth.
Dechreuwyd datblygu cronfeydd mwynau’r ardal ar ddiwedd y 18fed ganrif pan sefydlwyd Gwaith Haearn Plymouth. Erbyn 1813 Mwyngloddiau Haearn oedd nodweddion amlycaf ardal Cwmblacks/Pencoedcae i’r gogledd, gan gynnwys Gwaith Glo Pencoedcae (gerllaw Pencoedcae Cottage). Cysylltai rhwydwaith cyfoes o dramffyrdd ac incleins y gwahanol weithfeydd yn yr ardal a’r tu hwnt i Waith Haearn Plymouth. Cynhwysai’r rhain gweithfeydd Haearnfaen a gweithfeydd stripio lleiniau yn yr ardaloedd cyfagos i’r gogledd ac i’r dwyrain, ac yn ardal Cwmblacks ei hun. Dengys y dystiolaeth gartograffig fod cynnydd wedi bod mewn gweithgarwch cloddio yn ystod y cyfnod 1850-1875, os nad ynghynt; roedd Pwll Glo Clyn-Mil Rhif 1 a’r New Pit ger Cwmblacks ar waith erbyn y cyfnod hwn ac roedd tomen anferth a oedd wedi’i chysylltu â Phwll Glo Clyn-Mil Rhif 1 gan dramffordd wedi’i chreu; mae’r domen hon i’w gweld heddiw mewn cyflwr lled-dirluniedig gerllaw ffordd yr A4060(C) sydd bellach yn ffordd ddeuol. Erbyn 1901/1905 roedd y ddau bwll glo yn segur; nid yw eu cyflwr presennol yn hysbys. Yn yr un modd, nid yw cyflwr presennol nodweddion diwydiannol eraill, megis lefelydd, ffyrdd aer, ffrydiau a chronfeydd dwr, yn hysbys.
