Skip to main content

Datblygiad tai modern; coridor trafnidiaeth hynafol (ar y cwr dwyreiniol).

Crynodeb

Datblygiad tai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Lakeside Gardens yn cynnwys datblygiad llinellol o dai maestrefol, ar wahân yn bennaf o fewn eu gerddi eu hunain yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Erbyn hyn nid oes fawr ddim o ddiddordeb hanesyddol yn yr ardal ar wahân i’r ffordd (sy’n arwain bellach i Ystâd y Gurnos) sy’n dynodi ffin ddwyreiniol yr ardal y credir ei bod yn cadw llinell Ffordd Rufeinig gynharach o’r gaer ym Mhenydarren, sy’n arwain trwy’r Gurnos i fan croesi ar Afon Taf Fechan ym Mhontsarn.

Ffynonellau

Ardal gymeriad Lakeside Gardens: datblygiadau tai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif.