Skip to main content

Tir pori ucheldirol amgaeëdig; caeau rheolaidd wedi’u rhannu gan ffensys pyst a gwifrau; tirwedd grefyddol, angladdol a defodol.

Crynodeb

Tirwedd ucheldirol amgaeëdig a nodweddir gan henebion angladdol yn dyddio o’r Oes Efydd a mastiau cyfathrebu modern.

Cefndir Hanesyddol

Lleolir ardal dirwedd hanesyddol Mynydd Aberdâr ar gwr gogledd-orllewinol Tirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful, lle y mae’n codi i esgair Mynydd Aberdâr. Er bod y rhan fwyaf o’r ardal yn dir agored, mae’n amlygu patrwm amrywiol a chymhleth o ran y defnydd a wnaed o’r tir yn y gorffennol. Ar hyd y copa ceir cyfres o Garneddau yn dyddio o’r Oes Efydd, ond nid oes unrhyw dystiolaeth o weithgarwch cynnar. Ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, roedd rhan helaeth o’r llethrau is wedi’i hamgáu, ac mae rhannau o’r maeslun a ddeilliodd o hynny wedi goroesi, yn arbennig i’r gogledd o’r A465.

Ffynonellau

Mynydd Aberdare character area: enclosed upland landscape.