Tirwedd amgaeëdig o gaeau canoloesol ac ôl-ganoloesol, sy’n cynnwys o bosibl elfennau cynhanesyddol ffosiledig; patrwm caeau datblygedig/afreolaidd; ffiniau caeau ar ffurf waliau sych a chloddiau ag wyneb o gerrig yn bennaf; olion nodweddion mwyngloddio a rheilffordd ddiwydiannol. Mae hyd a lled y gweithgarwch amgáu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol fel y nodir gan dystiolaeth gartograffig. Waliau sych a chloddiau ag wyneb o gerrig.
Crynodeb
Tirwedd amaethyddol amgaeëdig ar hyd dyffryn Bargod Taf, a nodweddir gan batrymau caeau afreolaidd, waliau sych a chloddiau wedi’u gorchuddio â cherrig, a mân nodweddion diwydiannol (cloddio a nodweddion trafnidiaeth cysylltiedig).
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal dirwedd hanesyddol Bargod Taf yn cynnwys yn bennaf dirwedd amgaeëdig amaethyddol o dir pori sych a ffiniau caeau helaeth ar ffurf waliau sych. At ei gilydd rhennir y caeau gan waliau sych a chloddiau wedi’u gorchuddio â cherrig y ceir gwrychoedd ar y mwyafrif ohonynt, er bod cloddiau, ffosydd a ffensys pyst a gwifrau i’w cael hefyd. Mae’n debyg i’r waliau sych sy’n rhannu’r caeau a oedd yn eu lle erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol gael eu sefydlu yn ystod y cyfnod canoloesol ac mae’n debyg eu bod wedi cadw elfennau cynharach, yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol o bosibl. Mae’n debyg bod yr enwau lleoedd yn yr ardal, sef Bryn Cyriawg (Bryn Caerau yn ddiweddarach) a Nant-y-ffin yn cyfeirio at ffiniau gweinyddol gerllaw. Mae’r system gaeau yn gysylltiedig heddiw ag aneddiadau ôl-ganoloesol, gan gynnwys ffermydd Bryn Caerau, Cwm Bargod a Nant-y-ffin, sydd i gyd wedi’u lleoli ym mlaen y dyffryn ac yng nghymer tair prif isafon y dyffryn: sef afon Bargod Taf ei hun, Nant Gyrawd, a Nant-y-ffin.
Er y cynrychiolir gweithgarwch cloddio diwydiannol yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal, nid yw olion gweithgarwch cloddio, megis lefelydd, tomenni, siafftiau awyru a thramffyrdd wedi cael fawr ddim effaith ar y dirwedd amaethyddol gynharach ac at ei gilydd maent ar raddfa fach.
