Skip to main content

Coridor trafnidiaeth: rheilffyrdd a ffyrdd cyhoeddus, Coetir Hynafol.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth yn seiliedig ar Ddyffryn Taf Fechan, a nodweddir gan rwydweithiau rheilffyrdd cyhoeddus yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif, gan gynnwys Cyd-Reilffordd B&M/LNWR a strwythur trawiadol Dyfrbont Glais ym Mhontsarn.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Taf Fechan yn cynnwys nodweddion yn gysylltiedig â Chyd-Reilffordd B&M a LNWR (a adeiladwyd gan y BM, ac a ddefnyddid ar y cyd o 1879), Llinell Aberhonddu a Merthyr Tudful, a Llinell Merthyr Tudful Tredegar a’r Fenni (LNWR) a Thwnnel Morlais (1879). Mae strwythurau arbennig o drawiadol yn cynnwys Dyfrbont Glais ym Mhontsarn (a adeiladwyd gan Savin a Ward 1866). Mae olion Llinell Aberhonddu a Merthyr Tudful, i’r gogledd-ddwyrain o gyffordd y Pant yn cael eu rhannol ailddefnyddio gan Reilffordd Mynydd Aberhonddu ar hyn o bryd. Mae nodweddion nodedig eraill yn cynnwys tyrau awyru Twnnel Morlais.

Ffynonellau

Taff Fechan character area: transport corridor based on public rail networks of the 19th century.