Skip to main content

Ardal a nodweddir gan dir comin wedi’i wella a amgaewyd, caeau mawr rheolaidd a sefydlwyd yn ddiweddar; tystiolaeth enwau lleoedd.

Crynodeb

Ardal o dir comin wedi’i wella amgaeëdig a nodweddir gan gaeau mawr rheolaidd a sefydlwyd yn ddiweddar.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Tir Comin Wedi’i Wella Garth Fawr yn cynnwys ardal o dir comin a fu’n destun gwelliannau amaethyddol, hy clirio cerrig a gwaith draenio, yng nghanol yr 20fed ganrif. Dengys tystiolaeth gartograffig fod yr ardal wedi’i lleoli yn wreiddiol y tu allan i’r ardal o dir amgaeëdig. Efallai fod enwau lleoedd cynharach ‘Cairn-mawr’ ym 1875 ac ar ôl hynny Garth Fawr (sef cae mawr), sy’n awgrymu henebion claddu neu gaeau cynhanesyddol, yn cyfeirio at yr anheddiad cyfagos i’r gorllewin o’r ardal o fewn ardal HLCA 033, ond yn yr un modd gallant gyfeirio at natur greigiog gynharach y tir comin heb ei glirio.

Ffynonellau

Garth Fawr Improved Common character area: improved and enclosed common land.