Skip to main content

Datblygiad tai cymdeithasol yn dyddio o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, adeiladau domestig, cyhoeddus a masnachol.

Crynodeb

Tirwedd drefol yn dyddio o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd a ddisgrifir fel cymuned hunangynhwysol a gynlluniwyd gan benseiri, enghraifft o gynllunio cymdeithasol yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Ardal dirwedd hanesyddol Trefechan a gynlluniwyd ym 1947 (Arthur J Hayes a Gordon H Griffiths). Ystâd gyngor y bwriedid iddi weithredu fel cymuned ar wahân â’i hadeiladau cyhoeddus ei hun; cynllun ffyrdd ffurfiol, mae’r tai i gyd yn dai pâr ar ongl i’r cyfuchliniau, ac maent wedi’u hadeiladu o wahanol ddeunyddiau: brics moel neu â phlastr garw arnynt, slabiau rhag-gastiedig, a chladin pren.

Ffynonellau

Trefechan character area: modern architect-designed self-contained community.