Ardal agored fach o goetir prysglog a thir pori; rhwydwaith o lonydd
Crynodeb
Tirwedd agored greiriol fach o dir pori a choetir prysglog, a arferai fod yn rhan o Fferm y Gurnos.
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal dirwedd hanesyddol Y Graig, y Gurnos yn cynnwys darn o dir sydd wedi goroesi a gysylltir â Fferm y Gurnos i’r de o Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Fe’i dangosir fel planhigfa o goed ffynidwydd a chaeau eraill ar fap degwm 1850, rhan o ystâd David Edwards, a brydleswyd i William Crawshay (gweler HLCA 052). Dengys tystiolaeth gartograffig (1875) fod yr ardal yn cynnwys rhwydwaith o lonydd yn arwain i Ddyffryn Taf Fechan a Chwarel a gwaith calch y Gurnos (gweler HLCA 012), a nifer fach o fân nodweddion cloddiol, a all fod yn byllau gro.
