Skip to main content

Coridor trafnidiaeth; ffordd a phontydd a adeiladwyd yng nghanol yr 20fed ganrif.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth yn cynnwys enghreifftiau pwysig o waith cynllunio pontydd yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol yr A465(C) Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn cynnwys y cysylltiad ffordd a adeiladwyd ym 1964. Mae nodweddion pwysig yn cynnwys y tair pont ffordd gyfoes sy’n cario Ffordd yr A465(C) dros afonydd a nentydd, y newidiwyd un ohonynt ers hynny. Adeiladwyd y pontydd ffordd hyn gan Rendel, Palmer a Tritton (Penseiri ymgynghorol Alex Gordon a’i Bartneriaid), o goncrid dur yn ôl cynlluniau gwahanol, dwy â phâr o asennau bwaog parabolig ac un â thri bwa ar gantilifrau o ddau biler. Enillodd y pontydd hyn wobrau dinesig ym 1968.

Ffynonellau

A465 (T) Heads of the Valleys Road character area: route of mid 20th century arterial road.