Mae’r disgrifiad canlynol, a godwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Mae Mynydd Hiraethog ym mhen gogleddol Mynyddoedd y Cambria ac mae’n cwmpasu rhannau mynyddig darnau eang a naturiol o dir i’r de, rhwng prif ddyffrynnoedd afonnydd Clwyd a Chonwy yng Ngogledd Cymru.Mae’n ardal llwm ac anial o rostir tonnog sydd,ar y cyfan rhwng 400 a 500m uwchben SO, ond sydd â sawl dyffryn yn torri ar draws yr ochrau gogleddol a dwyreiniol gan dreiddio i’r craidd mynyddig. Fodd bynnag, rhannau gogleddol a gorllewinol y massif yn unig yw’r ardaloedd a ddisgrifir yma fel tirwedd sydd yn cynnwys goroesiad trwch di-dor o rostir grug,sydd yn brin iawn yng Nghymru,a reolwyd ac a gynhaliwyd yn fwriadol fel rhostir ceiliog y mynydd a stad saethu ar ddechrau’r 20fed ganrif. Cafodd ei ddethol i beidio â chynnwys y rhan fwyaf o’r rhan ddwyreiniol sy’n cynnwys planhigfeydd coedwigaeth helaeth sy’n rhan o Fforest Cloclaenog,a oedd yn wreiddiol yn ymdebygu ac yn barhad i’r ardal a ddisgrifir yma.
Mae’r tirwedd rhostir hwn, fel sawl ardal fynyddig arall yng Nghymru wedi tarddu o economďau ucheldir Neolithig ac Oes yr Efydd neu,yn ôl dehongliadau o dystiolaeth archaeolegol o rannau eraill o Brydain,sydd hwyrach a’i wreiddiau yn y cyfnod Mesolithig blaenorol, pryd yr awgrymir i ardaloedd rhostir gael eu llosgi a’u clirio’n fwriadol ar gyfer hela.Newidiodd tirwedd cynhanesyddol yr ucheldiroedd wedi hynny wrth iddynt gael eu defnyddio ar gyfer pori yn yr haf dros sawl tymor, arfer a oedd yn seiliedig ar aneddiadau dros dro yn ystod yr haf neu’r hafodau a leolwyd yn y dyffrynnoedd neu ar hyd ymylon y rhostir. Ar adegau o orboblogi neu well hinsawdd,hwyrach y preswyliai pobl ar rai o’r safleoedd hyn yn barhaol,ac yn sicr ceid aneddiadau parhaol mewn hafodydd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.Roedd llawer o dori mawn yn digwydd yn yr ardal yn ystod y ganrif ddiwethaf,a gwelir olion toriadau a thomenni sychu o hyd,ynghyd â gweddillion y ffermydd ôl-ganoloesol a oedd yn ymelwa ar y mawn.
Ar Fynydd Hiraethog,diflannodd y tirwedd cynharaf hwn yn ei dro, a bellach gwelir olion trefn o reoli rhostir grug a osodwyd arno ar ddechrau’r 20fed ganrif.Tra bod y tirwedd hwn yn greadigaeth gymharol fodern,mae’r ehangder di-dor sydd wedi goroesi yn dal i fod yn brin yng Nghymru ac felly o werth hanesyddol;mewn mannau eraill gwaredwyd y rhostir grug a fu o dan reolaeth i geiliogod y mynydd yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Mae ehangder y tirwedd a nodir yma wedi ei ddewis i gynnwys y rhannau hyn o rostir grug sydd wedi goroesi a hefyd i adlewyrchu darnau o dir sydd wedi goroesi na fuont o dan y fath reolaeth ac sydd y tu allan i’r gyfundrefn.Mae llawer o hyn wedi goroesi oherwydd creadigaeth stad saethu gan Is-Iarll Devonport rhwng 1908 a 1925.Wedi’u gwasgaru dros ran helaeth o’r ardal mae olion ffosydd targedau a chysgodfannau o gerrig sychion ynghyd â waliau caeau,arwyddion ffiniau a gwaith cloddiog sy’n dyddio o’r cyfnod hwn fwy na thebyg. Mae’r ardal hefyd yn ymfalchďo mewn adfail o gaban hela yng Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym 1908–11 ar gyfer partďon hela.Tybir mai’r adeilad hwn, a gymerodd le bwthyn pren cynharach a fewnforiwyd o Norwy, ac sy’n dal i gael ei adnabod fel y Plas Pren,oedd y ty preswyl uchaf yng Nghymru gyda’r golygfeydd ehangaf ym Mhrydain. Mae’r adfeilion yn dirnod amlwg o hyd y gellir eu gweld ar draws yr ardal o sawl cyfeiriad.
Ar ben pob un o’r copaon lleol ceir grwpiau o garneddi claddu o Oes yr Efydd sydd bellach wedi eu gorchuddio gan y tirwedd cyfoes ac sydd yn ôl pob tebyg,yn dystiolaeth o weithgaredd ehangach yn y cyfnod hwn.Ni cheir tystiolaeth o aneddiadau cysylltiedig,er y canfuwyd grwpiau o aneddiadau diweddarach o fath cynhanesydddol a gloddiwyd yn archaeolegol yn ddiweddar yn ardal ddwyreiniol Hiraethog na chaiff ei gynnwys yma.Canfuwyd llawer o fflint gweithiedig yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig i Oes yr Efydd o amgylch ardal cronfa ddw r Llyn Aled a Llyn Aled Isaf.
Mae cronfa ddw r y Brenig,a adeiladwyd rhwng 1973 a 1976,a’r goedwigaeth o‘i hamgylch,sydd hefyd yn cynnwys nifer o safleoedd Oes yr Efydd ac ôl-ganoloesol,yn goruchafu’r tirwedd o’r de. Cafodd sawl cofadail a oedd yn agos i’r gronfa ddw r neu a foddwyd ganddi,eu cloddio cyn adeiladu’r gronfa, ac ailadeiladwyd sampl ohonynt fel rhan o lwybr neu daith archaeolegol.Mae rheoli adnoddau dw r hefyd yn thema ac yn swyddogaeth bwysig yn y rhan o ardal Hiraethog y sonnir amdani yma,gan fod y tirwedd yn cynnwys crynhoad dw r cronfa ddw r Alwen a adeiladwyd yn gynharach rhwng 1911 a 1916 i gyflenwi dw r i Gorfforaeth Penbedw, ynghyd â chronfeydd dw r llai Llyn Aled a Llyn Aled Isaf a adeiladwyd yn y 1930au i gyflenwi dr i gyrchfan gwyliau y Rhyl ar yr arfordir.
ELFENNAU THEMATIG TIRWEDD HANESYDDOL AR FYNYDD HIRAETHOG
Y Tirwedd Naturiol
Mae Mynydd Hiraethog a adnabyddir hefyd fel Rhostir Dinbych, yn ffurfio ucheldir mawr rhwng dau ddyffryn o bwys yng Ngogledd Cymru, sef Dyffryn Conwy i’r gorllewin a Dyffryn Clwyd i’r dwyrain. Mae’n ffurfio llwyfandir tonnog uchel, llawer ohono uwchlaw 400m uwch y dyffryn Datwm Ordnans (OD), ac mae pantiau nentydd yn rhedeg ar ei draws gan lifo i’r gogledd-ddwyrain i afon Conwy, i’r gogledd i afonydd Elwy a Chlwyd, ac i afonydd Alwen a Dyfrdwy i’r de a’r dwyrain.
Mae’r afonydd a’r nentydd hyn yn rhannu’r rhostir ymhellach yn nifer o flociau a’u nodweddion topograffigol eu hunain. Mae Afon Alwen, llyn blaenddwr naturiol Llyn Alwen, a nifer o bantiau nentydd sy’n bwydo “Afon Cledwen” ar ochr ogledd-orllewinol y rhostir yn gwahanu ardaloedd deheuol a gogleddol y rhostir. Mae crib uchel sy’n rhedeg o gopaon Foelasfechan a Moel Seisiog i’r gorllewin yn tremio dros ochrau deheuol a gorllewinol y rhostir trwy Foel Rhiwlug a Phen-yr-orsedd i Fwdwl-eithin i’r dwyrain. Mae’r olaf 532m dros OD, a dyma’r pwynt uchaf ar y rhostir.
Mae ochr ogleddol y rhostir yn rhannu yn nifer o flociau ar wahān, yn rhannol ar sail topograffeg ac yn rhannol ar sail defnydd tir modern. Mae yna un bloc mawr rhwng dyffrynnoedd Afon Cledwen i’r gorllewin ac Afon Aled a llyn blaenddwr Llyn Aled i’r dwyrain, gan gynnwys Creigiau Llwydion, Llys Dymper, Bryn Euryn, Bryn Mawr a Moel y Gaseg Wen. Mae ail floc yn cynnwys yr ardal i’r gogledd o afon Alwen, i’r dwyrain o afon Aled ac i’r gorllewin o Lyn Brenig, gan gynnwys Moel Bengam, Bryn Trillyn, Gorsedd Bran a Bryn-y-gors-goch.
Mae ochr ddwyreiniol y rhostir yn cynnwys copaon Tir Mostyn a’r Foel Goch, yn disgyn i uchder o tua 330m dros OD islaw argaeau cronfeydd dwr Alwen a Brenig ac yn diflannu i Goedwig Clocaenog i’r dwyrain. Mae cronfeydd dwr bellach yn meddiannu dau ddyffryn pwysig a dorrai ar draws y rhostir. Mae dyffryn Alwen, sy’n gymharol gul ag ochrau serth yn cyferbynnu ā dyffryn Brenig sy’n lletach ac yn fwy bas, ac mae’r ddau ddyffryn sy’n cyfuno yng nghymer Afon Alwen ac Afon Brenig ychydig y tu hwnt i ffiniau’r ardal tirwedd hanesyddol. Roedd llyn mawr naturiol wedi ymgasglu yn nyffryn Brenig yn ystod cyfnod diweddar y rhewlifoedd, ac fe ddihangodd yn y pen draw trwy geunant cul trwy ddrymlin oedd yn cau porth y dyffryn i’r de, tua safle’r argae modern.
Cymysgedd o greigiau gwaddod gan gynnwys grutiau Silwraidd, tywodfeini, cerrig llaid a siāl sy’n ffurfio daeareg Mynydd Hiraethog. Mae rhan helaeth o’r ardal wedi’i chuddio gan glog-glai a drymlinau, yn enwedig ar ochr ogleddol y rhostir (yn ardaloedd nodwedd Creigiau Llwydion, Moel Bengam, Bryn-y-gors-goch a Maen-llwyd). Mae daeareg a hydroleg wedi arwain at dri math sylfaenol o bridd o wahanol ansawdd yn y rhostir: pridd lom ucheldiroedd ag uwchbridd mawnog dros greigiau (Hafren) yn cynnal cynefinoedd rhostir a glaswelltir o werth cymedrol o ran pori; pridd dwrlawn yn ysbeidiol, sydd wedi gleio ac sy’n fawnog dros ddyddodion clog-glai (Wilcocks 2) yn cynnal porfa rostirol wleb a pheth glaswelltir parhaus o werth cymedrol o ran pori; a phridd mawn amrwd sy’n barhaol wlyb dros ffurfiannau mawn gorgors a basn (Crowdy 2) yn cynnal rhostir gwlyb a chynefinoedd gwlyb o werth cymedrol i isel o ran pori. Glaswelltir (Nardus strictus), ffurfiannau mawn a brwyn yn y pantiau, ac eangderau o rug yw’r llystyfiant helaethaf erbyn heddiw. Mae’r glawiad cyfartalog yn fwy na 1250mm y flwyddyn. Ar yr wyneb, o leiaf, mae enwau lleoedd ar Fynydd Hiraethog yn gwbl nodweddiadol o gymeriad rhostirol yr ardal, ac mae enwau cyfeiriadau topograffig yn rhemp, gan gynnwys yr elfennau canlynol: moel/foel, bryn/bryniau, clogwyn, craig/graig a creigiau, bron, cefn, rhiw, esgynfa a llech. Disgrifir lliw y nodweddion hyn yn aml, er enghraifft gwen/wen/wyn, du/ddu/duon, llwyd/llwydion, coch a rhudd neu maint y nodweddion, e.e. mawr/fawr, fechan a hir. Ymhlith y disgrifiadau eraill sy’n cynnwys enwau lliwiau ceir glas a llaethog, wrth ddisgrifio porfa a ffynnon. Ambell waith, disgrifir siāp nodwedd dopograffig unigryw trwy gyfeirio at ymadroddion megis braich, swch a thrwyn, a mwdwl (sydd o bosibl yn cyfeirio at siāp conigol y bryn). Mae nifer gyfyngedig o ymadroddion yn nodi’r defnydd a wneir o’r tir neu gyflwr y tir, gan gynnwys waen, ffridd/ffrith, fawnog, a nodir llystyfiant y rhostir yn y geiriau eithin, onen/onnen a criafolen. Cyfeirir at ddwr a ffynonellau dwr, megis rhaeadr, ffynnon, pwll, llyn, nant ac afon. Nodir nodweddion penodol eraill ar y dirwedd ā tharddiad naturiol neu artiffisial ag ymadroddion fel maen, a gelwir hynafolion eraill yn boncyn, groes a carnedd/garnedd. Nodir yr aneddiadau ā’r ymadroddion tai/ty, hafod/hafotty/fotty, a llys yn ogystal ā defnyddio enwau mwy penodol, fel Hen Ddinbych, a nodir y mannau cyfarfod ā’r ymadrodd gorsedd/orsedd. Nodir cyfeiriad aneddiadau neu berthynas aneddiadau a’i gilydd ā’r ymadroddion isaf, uchaf, tan a pellaf. Ar wahān i nifer o enwau priod, cyfeirir at bobl ā chymeriad chwedlonol fel Merddyn, derwydd, heilyn (y sawl sy’n cludo’r cwpan) a clochydd. Nodir perchnogaeth ā’r ymadrodd tir, ac efallai cynefir (?cynefin) a terfyn, a nodir trefniadau cysylltiadau ā naid-y-march a bwlch. Nodir anifeiliaid ac adar ā’r geiriau tarw, march, gaseg, ci, dafad, bleiddiau, brān, hydd (carw), hwyad ac alarch. I orffen, pwysleisir natur agored y tir yn yr ymadroddion haul a llannerch ac ymdeimlad atgofus o lymdra yn amlwg yn yr enw hiraethog ei hun, er bod peth amheuaeth ynglyn ā tharddiad yr enw.
Mae modd olrhain ambell enw topograffig, fel Wauneos (gwenn eneas) a Moel Seisiog (Moel-seissiauc) i ddiwedd y 12fed ganrif, a’r enw Hiraethog ei hun i Hir ‘hadok ar ddiwedd y 13eg ganrif, ond mae ansicrwydd ynglyn ā tharddiad y rhan fwyaf o enwau, rhai ohonynt yn ymddangos am y tro cyntaf ar fapiau degwm y 1840au neu ar y mapiau a gyhoeddodd yr Arolwg Ordnans yn y 1870au a’r 1880au. Mae gan rai safleoedd archeolegol enwau sydd yn eithaf hen. Enwir nifer o’r twmpathau claddu o’r Oes Efydd, gan gynnwys Boncyn Arian, o bosibl oherwydd bod pobl yn credu bod twmpathau fel hyn yn cuddio claddfannau trysorau. Mae Boncyn Crwn, Boncyn Cynefir Cleirrach, a Boncyn Melyn yn henebion angladdol cynhanesyddol a enwyd, ynghyd ag enwau ardaloedd megis “Pen-y-garnedd” a “Phen yr orsedd” a allai fod ag arwyddocād tebyg. Mae’n bosibl mai yn y groes sydd ar fin un o’r traciau hynafol sy’n cyfarfod ym mlaen Afon Fechan y mae tarddiad yr enw Bryn yr Hen-groes, neu fe allai fod yn gyfeiriad at loches ā thair coes i ddefaid a godwyd gerllaw. Mae nifer o enwau lleoedd neu enwau ar hynafiaethau yn ymddangos yn eithaf diweddar, fodd bynnag. Rhoddwyd yr enw Hen Ddinbych ar yr anheddiad canoloesol amgaeėdig ar ochr ddwyreiniol y rhos yn y 1860au. Sarn Helen yw’r enw a roddir heddiw ar y sarnau ar draws nant Aber Llech-Damer ger Hen Ddinbych ond a roddwyd cyn hynny ar ffurf Llwybr Elen neu Sarn Elen, i drac pwysig ar hyd ddyffryn Brenig ymhellach i’r gorllewin.
Y Tirwedd Gweinyddol
Credir fod ardal y tirlun hanesyddol yn rhan o diriogaeth y Silures, llwyth cyn-Rufeinig oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’n debyg fod y drefn lwythol yn y cyfnod hwn yn cael ei gynrychioli yn lleol gan nifer o fryngaerau ar hyd a lled yr ardal, gan gynnwys y rhai ym Mhen-rhiw-wen a Hillis ar ochr orllewinol yr ardal, a Phendre a Chastell Dinas tua’r de. Fe goncrwyd yr ardal gan y byddinoedd Rhufeinig ar ddiwedd y ganrif gyntaf, a chynrychiolir cyfnod y goncwest Rufeinig gan un neu ddwy gaer dros dro ar lan ogleddol afon Gwy i’r de o Gleirwy. Mae’n debyg fod yr ardal wedi cael ei threchu ac wedi dod yn rhan o’r ymerodraeth Rufeinig tua 70OC, ac wedi aros dan reolaeth y Rhufeiniaid hyd at ddechrau’r 5ed ganrif.
Erbyn dechrau’r oesoedd canol roedd yr ardal i’r gogledd o afon Gwy yn rhan o dywysogaethau Cymreig cynnar y daethpwyd i’w hadnabod fel Elfael a Rhwng Gwy a Hafren, ac roedd yr ardal i’r de o’r afon yn rhan o deyrnas Brycheiniog. Roedd Brycheiniog wedi ymddangos fel un o’r teyrnasoedd Brythonig cynnar yng Nghymru erbyn yr 8fed ganrif, ac mae’r traddodiadau cyn-Normanaidd yn awgrymu cysylltiad rhwng brenhinoedd Brycheiniog a Thalgarth ar y pryd. Mae’r chwedlau sylfaenol hyn o’r 11eg ganrif yn nodi mai Tewdrig oedd brenin y deyrnas tua’r 5ed ganrif efallai. Roedd Tewdrig, oedd yn hawlio ei fod yn ddisgynnydd Rhufeiniwr bonheddig, yn byw mewn lle o’r enw Garth Matrun, a chadarnheir mai’r garth, sef esgair y mynydd, yw’r bryn amlwg o’r enw Mynydd Troed, i’r de o Dalgarth, ac mai Garth Matrun yw Talgarth ei hun, ‘talcen y garth’ islaw Mynydd Troed. Yn ôl y traddodiad, fe sefydlwyd teyrnas Brycheiniog gan gymeriad chwedlonol o’r enw Brychan, wyr i Tewdrig, yn ôl pob golwg drwy ehangu teyrnas ei daid, a chreu canolfan weinyddol yn Nhalgarth yn nyffryn ffrwythlon afon Llynfi. Roedd Llyswen hefyd yn ganolfan o awdurdod seciwlar ar hyd yr echel hon yn y cyfnod cyn-goncwest, gyda chysylltiadau hanesyddol â Rhodri Mawr yn y 9fed ganrif.
Ymddengys fod gwrthdaro wedi bod rhwng teyrnas Brycheiniog a theyrnas newydd Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru erbyn y 9fed ganrif, a bod arweinwyr Brycheiniog yn ddiweddarach yn ystod y ganrif wedi ceisio cymorth y Brenin Alfred i’w hamddiffyn. Fe barhaodd y ddibyniaeth hon ar goron Lloegr hyd at y 10fed ganrif, a bu brenhinoedd Brycheiniog yn mynychu llys brenhinol Lloegr yn y 930au, er fod y deyrnas erbyn diwedd y 10fed ganrif yn cydnabod goruchafiaeth teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru. Ar ddechrau’r 10fed ganrif, fe unwyd teyrnasoedd Gwynedd a Phowys, gan gynnwys Rhwng Gwy a Hafren, o dan arweiniad Hywel Dda. Yn dilyn concwest y Deheubarth yn ystod teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn, tua canol yr 11eg ganrif, teyrnas Gwynedd oedd yn rheoli is-deyrnasoedd Brycheiniog a Rhwng Gwy a Hafren, dros dro.
Fe chwaraeodd dyffryn Gwy, yn yr un modd â dyffrynnoedd afon Wysg, Hafren a Dyfrdwy, ran bwysig yng nghoncwest Normanaidd dwyrain Cymru. Fe goncrwyd teyrnas Brycheiniog gan un o arglwyddi’r mers, Bernard de Neufmarché yn yr 1080au a’r 1090au. Pan drechodd Neufmarché Rhys ap Tewdwr, oedd yn rheoli De Cymru ac yn uwch-arglwydd ar Frycheiniog, roedd hynny’n achlysur o bwys mawr, ac fe’i diffiniwyd gan groniclwyr cyfoes fel ‘diwedd oes y brenhinoedd yng Nghymru’. Wedi hynny, fe rannwyd Canol Dyffryn Gwy yn arglwyddiaethau llai a’u cyflwyno’n rhodd i farchogion oedd wedi rhoi gwasanaeth i arglwydd y mers, a hwythau yn eu tro yn rhoi tir i fewnfudwyr o Loegr. Roedd arglwyddiaethau Aberhonddu, Blaenllynfi, Talgarth, Y Clas ar Wy, Dinas ac Elfael ymhlith y tiriogaethau newydd a grëwyd ar ryw adeg neu’i gilydd yn y wlad a goncrwyd. Am gyfnod bu Elfael, rhan o hen diriogaeth Rhwng Gwy a Hafren, yn naliadaeth mân-benaethiaid Brythonaidd o dan warchodaeth yr Arglwydd Rhys o’r Deheubarth, ond yn y diwedd daeth Elfael hefyd yn rhan o deyrnas arglwyddi’r mers, a oedd yn ddarostyngedig i frenin Lloegr ond a oedd ar yr un pryd yn rheoli darn o dir ar wahân rhwng Cymru a Lloegr oedd yn annibynnol ar strwythur sefydliadol a chyfreithiol brenhiniaeth Lloegr.
Fe gyflwynodd Neufmarché Y Gelli i William Revel, y gwr a adeiladodd y castell pridd cyntaf yn ôl pob tebyg yn Y Gelli, castell a fyddai’n parhau i fod yn un o’r elfennau pwysicaf yn y gwaith o reoli’r diriogaeth oedd newydd ei choncro. Fe rannwyd llawer o weddill yr iseldir yn fân arglwyddiaethau neu’n rhoddion i farchogion y byddai eu gwasanaeth yn parhau yn ddyledus, gan gynnwys cyfeillion Normanaidd neu aelodau o’r teulu megis Walter Clifford, a dderbyniodd stad fawr ym Mronllys, ac i denantiaid o’u hystadau Seisnig a ymfudodd i’r ardal wedi hynny.
Erbyn y 13eg ganrif, roedd amryw o’r arglwyddiaethau o fewn ardal y tirlun hanesyddol, fel nifer o arglwyddiaethau eraill y mers, wedi cael eu rhannu yn unedau Cymreig a Seisnig a oedd yn cydnabod y gwahaniaeth diwylliannol a oedd wedi parhau i wneud y mewnfudwyr Seisnig yn wahanol i’r boblogaeth gynhenid Gymreig. Cafodd amryw o faenorau ffiwdal yn dilyn cynllun y rhai Seisnig eu creu ar y tir isel a oedd yn haws ei drin, a phatrymau anheddiad a defnydd tir brodorol yn ymddangos ar y bryniau oddi amgylch. Roedd y brodoriaethau Cymreig a Seisnig a ymddangosodd yn arglwyddiaethau Talgarth a’r Gelli ar ôl y goncwest Normanaidd, yn allweddol i barhau’r gwahaniaethau rhwng arferion Cymreig a Seisnig o ran y gyfraith, etifeddu, dal tir, gweinyddiaeth sifil, dyledion a rhenti hyd at ymhell i mewn i’r 16eg ganrif.
Rhan gymharol fechan a gymerwyd gan diriogaethau Canol Dyffryn Gwy yn rhyfeloedd annibyniaeth diwedd y 13eg ganrif a hefyd yng ngwrthryfel Glyndwr ym mlynyddoedd cynnar y 15fed ganrif. Wedi’r Ddeddf Uno ym 1536, fe rannwyd yr ardal rhwng arglwyddiaethau Aberhonddu, Blaenllynfi a’r Gelli, a lyncwyd gan sir newydd Brycheiniog, ac arglwyddiaeth Elfael, a ddaeth yn rhan o sir newydd Maesyfed. Felly fe rannwyd canol dyffryn Gwy rhwng cantref Castell Paen yn Sir Faesyfed i’r gogledd a chantref Talgarth yn Sir Frycheiniog yn y de. Arhosodd rhan ddeheuol plwyf Y Clas ar Wy, i’r de o afon Gwy, yn rhan o Sir Faesyfed hyd at ganol y 19eg ganrif. Wedi hynny, cafodd ei uno â Thregoed a Felindre i greu plwyf sifil newydd Tregoed a Felindre. Fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 fe unwyd Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed o fewn sir newydd Powys.
Ceir amrywiaeth mawr yn y math o bridd o fewn ardal y tirlun hanesyddol, yn dibynnu ar hydroleg, y ddaeareg o dan yr wyneb a phresenoldeb dyddodion drifft neu lifwaddod. Ar wahân i rannau lle mae’r draeniad yn cael ei rwystro gan briddoedd stagnoglei cambig, yn uchel ar droed tarren y Mynydd Du, mae priddoedd brown sy’n draenio’n weddol dda yn gorchuddio’r rhan fwyaf o droedfryniau’r Mynydd Du a’r bryniau is i’r gogledd a’r gorllewin, ac mae hyn wedi caniatáu i’r tir gael ei drin ar gryn uchder uwchben lefel y môr. Mae mwy o amrywiaeth lleol mewn mathau o bridd ar hyd gwaelod dyffrynnoedd Llynfi a Gwy, ac yn ei hanfod mae hyn yn dibynnu a ydynt yn gorwedd ar bridd cleiog, dyddodion graean neu lifwaddod o’r afon. Mae’r rhan fwyaf o’r priddoedd ar y tir is yn hawdd eu gweithio, er fod llifogydd a dwr sy’n sefyll ar rai adegau o’r flwyddyn yn effeithio arnynt.
Dim ond ychydig o ddadansoddiad paleo-amgylcheddol a wnaed ar ddyddodion o fewn ardal y tirlun hanesyddol ei hun, ond mae’r gwaith a wnaed yng Nghomin Rhosgoch a nifer o safleoedd tir uwch a gwaelod dyffryn yn y rhanbarth yn dangos, erbyn tua 6000 CC y byddai’r ardal wedi ei gorchuddio â choedlannau derw, gyda llawer o goed palalwyf, llwyfenni, ynn, bedw, cyll ac ysgaw yn digwydd ar raddfa leol, a’r coedlannau’n ymestyn i uchder o 600m efallai uwchlaw Datwm yr Ordnans. Ceir arwyddion fod y gorchudd coediog naturiol hwn eisoes yn cael ei effeithio gan weithgarwch dynol erbyn y cyfnod Mesolithig, a cheir tystiolaeth o drin tir lleol ar gyfer cynhyrchu grawn yn y cyfnod Neolithig cynnar, o tua 4000 CC ymlaen. Bu clirio cyson ar y coed drwy gydol y cyfnodau cynhanesyddol, y cyfnodau Rhufeinig a chanol oesol, ac mae’n edrych yn debyg fod y gorchudd coed yn edrych rywbeth yn debyg i heddiw erbyn cyfnod y canol oesoedd diweddar, gyda darnau o goedlannau collddail cymysg lled-naturiol wedi’u cyfyngu i’r llechweddau mynyddig a’r dyffrynnoedd mwy anghysbell.
Tirweddau Anheddu
Mae tirwedd Mynydd Hiraethog, a astudiwyd yn helaeth, wedi bod yn ddylanwad pwysig wrth ddarparu yr hyn yr ystyrir bellach yn fodel ar gyfer hanes anheddu ucheldiroedd yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf y gosodiad ucheldirol anghysbell, ceir tystiolaeth bod pobl wedi bod yn byw ar Fynydd Hiraethog ers amser maith. Mae’r cofnod sy’n dod o ffynonellau archeolegol a hanesyddol yn gyflawn, er syndod, er ei fod yn ysbeidiol, gan gynnwys anheddu tymhorol ar rai adegau, a mwy parhaol ar adegau eraill oherwydd cyfuniad o ffactorau hinsoddol ac economaidd, ac mae’r cyfan wedi ei gysylltu’n annatod â hanes defnyddio’r tir. Trafodir hyn yn yr adran ddilynol.
Mae’r gweithgareddau dynol cynharaf y daethpwyd o hyd i dystiolaeth ohonynt ar Fynydd Hiraethog yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Mesolithig, ar ôl tua 6,000 CC, a gwelir hyn yn yr offer gwasgaredig o gerrig wedi’u crefftio a gafwyd wrth gloddio yn nyffryn Brenig i’r gorllewin o Hafoty Siôn Llwyd a ger y gwaith maes yn nyffryn Aled, o amgylch ymylon cronfa ddwr Aled Isaf. Yn draddodiadol, ystyriwyd bod darganfyddiadau o’r fath yn cynrychioli gwersylloedd dros dro lle trigai grwpiau teuluol bychain a oedd yn treulio gweddill y flwyddyn ar y tiroedd isel ger yr arfordir, ond a oedd yn dilyn y buchesi ceirw a’r helfilod eraill yn ystod yr haf wrth iddynt fudo i’r porfeydd ucheldirol mwy agored. Mae posibilrwydd bod rhai o’r cerrig cynhanesyddol cynnar gwasgaredig ar y rhostir yn dod o aneddiadau mwy parhaol, ond mae darganfod math unigryw o gornfaen du o’r bryniau calchfaen yn y bryniau i’r dwyrain o Brestatyn, 30km i’r gogledd-ddwyrain oddi yno, yn awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng y safleoedd ucheldirol hyn ac aneddiadau cyfoes eraill ar hyd arfordir Gogledd Cymru a thuag at enau Dyffryn Clwyd. Cafwyd tystiolaeth debyg hefyd mewn nifer o leoedd, yn enwedig o fewn dyffryn Brenig, gan gynnwys hapddarganfod Pen brysgyll Hafod-lom, sy’n awgrymu bod trigolion tymhorol yno yn ystod y cyfnod Neolithig canol neu ddiweddarach, tua 2,500 CC.
Er bod nifer o henebion claddu ac angladdol yn bresennol, ychydig o dystiolaeth sydd o aneddiadau ar y rhostir yng nghyfnod yr Oes Efydd cynnar. Mae’n bosibl bod aneddiadau tymhorol wedi parhau mewn ambell ardal. Unwaith eto, awgrymir hyn oherwydd yr offer carreg gwasgaredig a gafwyd o amgylch ymylon cronfa ddwr Aled Isaf. Mae’n ymddangos bod rhai o’r henebion, yn enwedig y rheiny o amgylch ymylon y rhostir, wedi eu gosod fel eu bod yn weladwy o’r preswylfeydd yr oedd pobl yn byw ynddynt yn fwy parhaol, ar y tir is. Awgrymir y gallai aneddiadau fod hyd yn oed wedi eu heithrio o’r dirwedd angladdol a defodol a grëwyd o amgylch blaenddyffryn eang Afon Brenig ac Afon Fechan, am gyfnod o dros 500 mlynedd yn ystod yr Oed Efydd cynnar. Mae’n bosibl y byddai poblogaeth sylweddol ei maint wedi bod yn byw ac yn gweithio o fewn tafliad carreg i feddrodau eu hynafiaid ar y pryd.
Mae’n bosibl fod strwythur pren ar siâp cylch, sef ty crwn o ganol yr Oes Efydd yn dyddio o tua 1,300 BC o bosibl, yn nodi diwedd y dirwedd gysegredig hon. Daethpwyd o hyd i hwn islaw carnedd ymylfaen (Brenig 6) tuag at flaen nant Aber Llech-Damer. Ceir tystiolaeth fwy sicr o anheddiad a adnewyddwyd, naill ai un dros dro neu un parhaol mewn ail strwythur tyllau pyst sy’n cynrychioli ty crwn ag aelwyd ganolog, yn perthyn i gyfnod yr Oes Haearn yn ystod y 3edd ganrif i’r ganrif 1af CC. Daethpwyd o hyd i’r rhain wrth gloddio preswylfa ôl-ganoloesol yn nyffryn Nant-y-griafolen (nodyn isod). Mae tystiolaeth i anheddu cynhanesyddol yn eithaf prin yn ardal y dirwedd hanesyddol yn gyffredinol. Fodd bynnag, nodwyd nifer o dai crwn posibl â sylfeini cerrig, gan gynnwys dau strwythur bychan â diamedr o tua 5-6m yn nyffryn Afon Twllan, tua blaen Bwlch-y-garnedd, ac mae’n bosibl bod y rhain yn gysylltiedig â nifer o domenni hel cerrig ac felly maent yn awgrymu anheddiad parhaol.
Mae yna dystiolaeth gyffredin a chydlynol o anheddu tymhorol a pharhaol mewn ffynonellau archeolegol a hanesyddol o’r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol ymlaen.
Mae fferm amgaeëdig sydd wedi ei rhan-gloddio yn dangos sefydliad ffermio sylweddol yn Hen Ddinbych yn nyffryn nant Aber Llech-Damer tuag at ochr orllewinol ardal y dirwedd hanesyddol, yn yr ardal a elwir Bisshopswalle (sef ‘wal’ neu ‘lloc’ yr esgob) erbyn diwedd y 1270au ac, o’i gymharu â safleoedd eraill, ymddengys fod annedd a nifer o gorlannau â thoeau wedi’u cynnwys o’i fewn, er mwyn i’r diadelloedd aeafu yn un o ardaloedd mwyaf cysgodol y mynydd. Mae enw Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch yn awgrymu ei fod yn safle i faenor eglwysig ar yr ucheldiroedd, ac yn ddiamau yn dangos bod un o dirfeddianwyr eglwysig canoloesol mwyaf pwysig wedi buddsoddi’n helaeth ynddo. Ni wyddys hyd yma enw’r sawl a sefydlodd y fferm, ond mae’n bosibl mai un o esgobion Bangor ydoedd, gan eu bod hwy unwaith yn berchen ar nifer o faenordai yn y plwyf. Roedd y fferm wedi ei sefydlu cyn y goncwest Edwardaidd, dan nawdd Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffydd “Ein Llyw Olaf”, mae’n bur debyg, ac roedd anialwch Bisshopswalle yn rhan o’r eiddo a roddwyd i Henry de Lacy, iarll Lincoln fel rhan o arglwyddiaeth newydd Dinbych ym 1282, ar ôl gwrthryfel a gorchfygiad Dafydd y tywysog Cymreig.
Mae’n bosibl bod y fferm arbenigol hon wedi bod yn un fyrhoedlog, gan ei bod yn amlwg nad oedd yn gweithredu fel fferm ddefaid erbyn y 1330au, gan fod arglwyddiaeth Dinbych yn gwerthu’r borfa o’i hamgylch bob blwyddyn i’r gymuned leol. Mae’r Survey of the Honour of Denbigh a gasglwyd ym 1334 yn datgan bod y porfeydd a oedd yn gysylltiedig â’r anheddiad yn gallu cynnal magu gwartheg yn yr haf a’r gaeaf, ac felly’n awgrymu bod yna aneddiadau gydol y flwyddyn o leiaf ym mannau mwy cysgodol y rhan hon o’r rhostir yn y cyfnod yma. Yn wir, diffinnir y tiroedd sy’n perthyn i Bisshopswalle yn yr arolwg trwy gyfeirio at Havothlum (Hafod-lom), ffermdy pwysig yn yr ardal, a safai ar y fan nes adeiladu cronfa ddwr Llyn Brenig yn y 1970au. Yn y 16eg ganrif, ymddengys mai hen dref oedd enw diweddarach Edward Lhuyd ar Bisshopswalle a Place amedowe (plas y meudwy, o bosibl) oedd enw John Leland arno. Mae’n ymddangos bod yr enw ‘Hen Ddinbych’ wedi ei fathu am y tro cyntaf yng nghanol y 19eg ganrif.
Mae anheddau bach oedd yn gysylltiedig â ffermio bugeiliol yn ystod y canol oesoedd yn fwy nodweddiadol o hanes anheddu diweddarach Mynydd Hiraethog. Mae hyn i’w weld yn nifer yr hafodydd ac, fel yn achos Hafod-lom y sonnir amdano uchod, mae tystiolaeth ddogfennol o’r rhain yn dyddio o ddechrau’r 14eg ganrif ymlaen. Ceir awgrym bod nifer fawr o anheddau tymhorol dros dro wedi datblygu yn nifer lai o ffermdai parhaol a thyddynnod dros gyfnod, a phob un ohonynt yn gysylltiedig ag aneddiadau gydol y flwyddyn, neu hendrefi, ar dir is, rhwyddach ei drin. Y rheswm dros hyn oedd patrwm cyfnewidiol defnydd tir. Cafwyd cynnydd ym mhoblogaeth yr ardal yn ystod diwedd y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif o ganlyniad i’r polisi bwriadol o wasgaru cymunedau Cymraeg Dyffryn Clwyd ar ôl creu arglwyddiaeth Dinbych. Fe arweiniodd hyn at adsefydlu trigolion nifer o’r cymunedau hynny ar ymylon Mynydd Hiraethog.
Gwyddys trwy ffynonellau hanesyddol am hafodydd cynnar eraill ar Fynydd Hiraethog. Crybwyllir Hafod-elwy, fel Hafod-lom, yn arolwg Survey of the Honour of Denbigh sy’n dyddio o’r 14eg ganrif a gellir ei gysylltu â dwy fferm ddiweddarach yn nyffrynnoedd Afon Alwen, sef Ty-isaf a Thy-uchaf, er bod planhigfa’r goedwig bellach wedi llyncu rhan o’r tiroedd.(Mae’r ty o’r enw Hafod Elwy ger Tan-y-graig, ymhellach i’r gogledd, yn amlwg yn fenthyciad mwy diweddar o’r enw.) Crybwyllir Hafod-y-llan yn gynt, yn y 16eg ganrif, ac mae’r enw’n parhau yn y tri thyddyn sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, ychydig islaw Hafod-elwy sef Hafod-y-llan-uchaf, Hafod-y-llan-isaf a Hafod-y-llan-bach, ac mae’n bosibl mai o’r Hauot y llan yma yr ysgrifennodd Llywelyn Tywysog Cymru at Edward I ym 1280. Cyfeirir at Havotty-llyn-dau-uchain, anheddiad na nodwyd mohono, ac sydd bellach dan Gronfa Ddwr Alwen, yn gynnar yn y 17eg ganrif.
Cofnodwyd nifer o enwau yn cynnwys yr elfen hafod ar Fynydd Hiraethog am y tro cyntaf yn ffynonellau cartograffeg y 19eg ganrif, fel yn achos Hafod-gau, Pant-y-fotty a Pant-y-fotty-bach ar ran ogleddol y rhostir i’r gorllewin o Aled Isaf, Hafod-yr-onnen a Hafoty Siôn Llwyd yn nyffryn Brenig. Nid yw pob un o’r tyddynnod hyn yn dyddio o’r canol oesoedd, fodd bynnag. Ar sail tystiolaeth gartograffig, ar ddechrau’r 19eg ganrif yr ymddangosodd Hafod-y-llan-bach ac, fel y nodwyd uchod, dim ond yn ystod yr 20fed ganrif yr atgyfodwyd enw’r Hafod Elwy presennol.
Mae’n debygol, fodd bynnag, bod cyfran o’r hafodydd hyn (fel yr awgrymir yn Survey of the Honour of Denbigh) wedi eu sefydlu erbyn dechrau’r 14eg ganrif, naill ai fel anheddau dros dro neu rai parhaol yn gysylltiedig â magu gwartheg at ddibenion cynhyrchu cig, cynhyrchion llaeth a chrwyn, mae’n debyg. Roedd yn amlwg bod nifer o’r anheddau’n wag cyn diwedd y 16eg ganrif a hanner cyntaf yr 17eg ganrif, pan roedd y cyfeiriadau dogfennol yn fwy niferus. Dyma’n amlwg oedd tynged y grwp hynod o saith annedd oedd â thrigolion dros dro neu barhaol a welir yn y llwyfannau, seiliau’r tai a’r llociau ar hyd lannau Nant-y-griafolen i’r gogledd o Hafoty Siôn Llwyd. Yn sgîl cloddio archeolegol gwelwyd eu bod wedi eu codi a bod pobl wedi bod yn byw ynddynt yn y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif. Mae natur glystyrog yr anheddau hyn yn ymddangos yn beth anarferol ar Fynydd Hiraethog, fodd bynnag, lle roedd un annedd ar ei phen ei hun neu bâr o anheddau fymryn uwchlaw ymyl y rhostir yn fwy nodweddiadol o batrwm yr anheddu yn y cyfnod, yma ac yn ardaloedd ucheldirol eraill Gogledd Cymru. Mae’n ymddangos bod ymgais i osgoi’r rhostir agored ehangach, gan fod yr anheddau cynnar, fel y rhai yn anheddiad Nant-y-griafolen, yn nyffrynnoedd y nentydd lle roedd yna fwy o gysgod, gwell porfa a ffynonellau dwr dibynadwy ar gyfer magu gwartheg. Roedd prif ddyffrynnoedd Afon Alwen, Afon Brenig ac Afon Fechan yn amlwg yn atyniad pwysig yn yr ystyr yma o gyfnod cynnar, a’r hyn a wnaethant mewn gwirionedd oedd estyn y parth anheddu i galon y rhostir. Gellir gweld aneddiadau nodweddiadol o’r math yma, yn llwyfannau adeiladu neu yn seiliau tai hir hyd at 4-5m o led a 8-9m o hyd mewn nifer o leoedd. Maent yn gysylltiedig yn aml â lloc neu glwstwr o gaeau, at ddiben godro neu fagu lloi o bosibl. Mae olion aneddiadau fel hyn a adawyd yn segur amser maith yn ôl i’w gweld ar flaenau pob un o ddyffrynnoedd y tair nant ar ochr ddeheuol y rhostir, sef dyffrynnoedd Nant y Foel, Afon Nug, ac Afon Llaethog. Mae’n debygol bod y rhain yn gysylltiedig â godro, gan fod enwau Ffynnon Llaethog ac Afon Llaethog, yn cyfeirio at hyn o bosibl.
Yn ystod diwedd y canol oesoedd ac yn fuan wedi hynny, cafwyd cynnydd ym mhwysigrwydd cynhyrchu gwlân yn yr ucheldiroedd yng Nghymru yn gyffredinol. Ystyrir mai natur llai llafurus ffermio defaid sy’n gyfrifol am benderfyniad pobl i adael llawer o’r ffermydd llaeth ar yr ucheldiroedd oedd yn gysylltiedig â ffermydd ar y tir is. Gwelir arwydd ffisegol uniongyrchol o’r broses yma yn achos nifer o aneddiadau blaenorol a droswyd yn gorlannau defaid neu’n gysgodfeydd, ac oherwydd i gutiau cerrig bychain dim ond tua 2-3m o led gael eu codi, yn aml yn ardaloedd llai croesawus y rhostir, fel cysgodfeydd dros dro i’r bugeiliaid. Roedd trigolion yn parhau yn nifer o’r ffermdai â gwreiddiau canoloesol hyd y 17eg a’r 19eg ganrif, fodd bynnag, yn enwedig yn nyffrynnoedd mwy ffafriedig a chysgodol, megis Alwen a Brenig, fel yn achos Hafod-lom, Ty-isaf, Ty-uchaf, Hafod-y-llan-isaf, a Hafod-y-llan-uchaf. Daeth aneddiadau newydd eraill i’r fei yn ystod y cyfnod hwn o ganlyniad i ddefnydd cynyddol o’r tir comin, er enghraifft y bythynnod a’r tyddynnod newydd y mae’n ymddangos iddynt gael eu sefydlu yn Nhan-y-graig, Tai-pellaf a Thai-isaf yn nyffryn Alwen, Rhwngyddwyffordd yn nyffryn Aled, ac efallai Hafoty Siôn Llwyd yn nyffryn Brenig. Roedd rhai o’r ffermwyr yn byw bywyd cymharol gysurus, er enghraifft yn Hafod-lom, a oedd yn fferm eithaf sylweddol ag enw da am gerdd a chân, ond roedd trigolion yr anheddau yn crafu byw mewn tlodi. Yn gynnar yn y 19eg ganrif, bocs pren yn fwrdd, a cherrig yn gadeiriau oedd unig gelfi un teulu fu’n byw yn Hafod-elwy.
Erbyn y 18fed a’r 19eg ganrif, roedd rhai o’r ffermydd mawr wedi datblygu yn safleoedd â nifer o adeiladau cerrig o amgylch tair neu bedair ochr i’r buarth. Dyma a welir yn Nhan-y-graig, yr hen ffermdy yn Hafod-lom, ac yn yr hapglystyrau o adeiladau bychain sy’n parhau i fodoli yn y coetir yn Hafod-y-llan-uchaf a Hafod-y-llan-isaf. Roedd gan y ffermydd llai yn y lleoedd mwy ymylol lai o gytiau fferm ar y cyfan ac, yn aml, ty ar ei ben ei hun fyddai’r trefniant, neu res o adeiladau lle byddai un neu fwy o gytiau fferm yn cael eu hatodi ar un pen i’r ty, er enghraifft fel yr un a welir yn Rhwngyddwyffordd a Waen-isaf-las neu, ambell waith, cynllun siâp L gyda chut fferm wedi ei osod ar ongl sgwâr i’r ty, fel a gafwyd gynt yn Hafod-yr-onnen. Mae’n bosibl fod y pâr o fythynnod carreg un llawr anghyfannedd yn Rhwngyddwyffordd a Bwlch-du yn nodweddiadol o anheddau’r 18fed ganrif. Yn ôl disgrifiad o’r 1930au, roedd gan yr olaf is-do o rug, ac uwch-do o frwyn, ynghyd â chrib o dyweirch. Mae’r ddau ffermdy bychan deulawr o garreg yn Hafoty Siôn Llwyd yn nodweddiadol o ffermdai diwedd y 19eg ganrif. Ailgodwyd y rhain yn yr 1880au, ac i ddechrau roedd ganddynt do o lechi, adwyon briciau a cherrig i’r ffenestri a’r drysau, a chut fferm ategol â ffwrn o frics.
Codwyd nifer o anheddau arbenigol ar y rhostir yn sgîl adeiladu ffordd dyrpeg ar ddechrau’r 19eg ganrif, gan gynnwys y ty tyrpeg yn Nhyrpeg Mynydd, y dafarn coets fawr o’r enw Sportsman’s Arms bellach ac, yn anad dim, porthdy’r helwyr yng Ngwylfa Hiraethog. Gellir gweld y tirnod hwn am filltiroedd. Codwyd ef ar ddechrau’r 20fed ganrif gan Is-iarll Devonport ar raddfa ac mewn arddull gynhenid Seisnig a oedd yn gwbl anghymharus â’r cyd-destun, ond a oedd yn sawru o fyd breintiedig a diddordebau cefn gwlad yn y dyddiau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Codwyd nifer o fythynnod ar hyd y ffordd dyrpeg newydd, gan gynnwys Bryn-pellaf a’r annedd fechan o’r enw Cottage Bridge ar ei ôl, er bod pob un wedi diflannu erbyn hyn. Codwyd anheddau newydd eraill islaw’r argae pan adeiladwyd Cronfa Ddwr Alwen yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Yn eu plith roedd gwersylltai i’r adeiladwyr a theras o dai mwy parhaol i’r gweithlu a oedd yn gweithio yn y gwaith dwr.
Cafwyd cyfnod arall o adael adeiladau yn segur ar Fynydd Hiraethog yn ystod yr 20fed ganrif. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ostyngodd y boblogaeth o’r nifer uchaf erioed ar ddiwedd yr 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif i’r lefel isaf ers sawl canrif, fel y gwelir o’r aneddiadau arunig yn Hafod-gau, Rhwngyddwyffordd, a Hafoty Siôn Llwyd, y ffermydd anghyfannedd yn Hafod-y-llan-uchaf a lyncwyd erbyn hyn gan y fforestydd, a’r ffermydd yn Hafod-yr-onnen a Hafod-lom, sydd bellach dan ddyfroedd cronfa ddwr Llyn Brenig ers y 1970au. Bron nad yw’n amhosibl canfod adfeilion nifer o fythynnod segur fel Pant-y-maen, ond mae’r sycamorwydd a fu unwaith yn eu cysgodi rhag y gwynt yn nodi’r lleoliad ar y dirwedd.
Defnydd Tir
Fel sy’n digwydd yn hanes yr aneddiadau, gwelir arlliw o batrymau yn hanes y defnydd tir ar Fynydd Hiraethog, diolch i gyfuniad o dystiolaeth o newid amgylcheddol, a thystiolaeth hanesyddol ac archeolegol sy’n cyflwyno microcosm o effaith gweithgareddau dyn ar ucheldiroedd Cymru ers yr oesoedd cyntefig.
Yn ddiamau, lle i fynd â’r anifeiliaid i bori dros yr haf oedd Mynydd Hiraethog o’r dechrau. Mae’n debygol mai buchesi o geirw coch gwyllt yr oedd y bobl Mesolithig yn eu hela oedd yno yn gyntaf, ac yna buchesi o wartheg, ac yn fwy diweddar diadelloedd o ddefaid o’r cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd ymlaen. Mae’r sylw o’r 19eg ganrif mai prif waith ffermwyr yr ardal oedd ‘gofalu am eu buchesi a’u diadelloedd’ mor wir heddiw ag yr oedd ganrifoedd yn y gorffennol pell.
Mae tystiolaeth yn y paill a welwyd wrth astudio dyddodion mawn ar Waen Ddafad a Chors-maen-llwyd yn cynnig hanes rhesymol fanwl o lystyfiant dyffryn Brenig ar ymyl ddwyreiniol Mynydd Hiraethog. Roedd y dirwedd rostirol wedi ei sefydlu o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar, o’i chymharu â dyffrynnoedd coediog y tir is o’i hamgylch. Erbyn tua 6000 CC roedd yr ucheldir yn foel ac yn ddi-goed, ond mae’n debygol fod coetir bedw a gwern ar hyd dyffrynnoedd mwy cysgodol yr afonydd a’r nentydd, a phîn, derw, llwyf a phalalwyf ar y tir is. Glaswelltir, gan gynnwys hesg a chawn mewn pantiau nad oedd y dwr yn llifo ohonynt yn dda oedd ar y rhostir, ac roedd hyn yn golygu bod mawn yn cael ei ffurfio. Mae’n bosibl mai yn y cyfnod Neolithig y cofnodwyd effaith gynharaf gweithgareddau dynol am y tro cyntaf. Fe estynnwyd rhostir glaswellt ac, yn anad dim, grug yn yr Oes Efydd, yn gyfoes â thirwedd defodau’r Oes Efydd, gan roi tirwedd agored, moel, tebyg i’r dirwedd heddiw. Roedd goruchafiaeth gynyddol y rhostir grugog o bosibl yn adlewyrchu newid o’r hinsawdd cymharol sych a chynnes i’r hinsawdd oerach a gwlypach a gafwyd o’r Oes Efydd ymlaen. Mae tystiolaeth bod gwern a bedw yn parhau i dyfu yn nyffrynnoedd yr afonydd a’r nentydd, er bod hynny i raddau llai na chynt, a bod cynnydd yn y coetiroedd cyll, o ganlyniad i goedlannu, o bosibl. Gwelir niferoedd bychain o beilliau grawn, sy’n awgrymu bod y rhain wedi eu tyfu’n gnwd rhywle yn y cyffiniau yn ystod cyfnodau’r Oes Efydd a’r Oes Haearn, ond mae’n bosibl bod hyn wedi ei gyfyngu i dir is. Gwelir dilyniant tebyg wrth astudio’r mawn ar Gefn Mawr, uwchlaw Llyn Aled. Fodd bynnag, yn y fan hon, ymhellach o ymylon y rhostir, cymharol ychydig dystiolaeth a geir o effaith dyn ar yr amgylchedd naturiol yn ystod y cyfnod Neolithig a’r Oes Haearn, cyn tua 1700 CC. Yng nghanol a diwedd yr Oes Efydd bu crebachiad yn y coetir, ac yn y cyfnod rhwng 200 CC a 60 OC, cafwyd y dystiolaeth gyntaf fod y tir yn cael ei drin a’i losgi, er mwyn rheoli’r rhostir grug o bosibl. Mae’r dilyniant yn y fan yma yn dangos cynnydd di-dor y grug ers y ganrif gyntaf, ynghyd â chynnydd yn y mawn, y ddau yn deillio mae’n debyg o’r ffaith fod yr hinsawdd yn wlypach ac yn oerach.
Mae cloddio nifer o henebion o’r Oes Efydd yn nyffryn Brenig, yn ategu’r darlun cyffredinol a geir o ddadansoddi’r paill. Mae hyn yn datgelu bod yr henebion wedi’u codi ar dirwedd rhostir agored, tebyg i’r hyn sydd i’w weld heddiw, lle roedd y borfa’n eithaf gwael, a lle na chafwyd fawr o dystiolaeth o dyfu cnydau o fewn ardal y rhostir ei hun, a oedd beth ffordd o safleoedd yr aneddiadau ar dir is. Adeiladwyd rhai o’r twmpathau claddu mwy yn y dirwedd benodol yma o dyweirch a oedd wedi’u cludo yno o bell. Mae’n bosibl eu bod wedi eu codi wrth greu tir âr newydd yn is i lawr, tuag at ymylon deheuol ardal y dirwedd hanesyddol. Byddai cyfanswm y deunydd mewn pedwar o’r twmpathau mwyaf yn cyfateb i godi tyweirch o leiniau o dir rhwng tua wythfed rhan o erw a hanner erw o ran maint. Mae henebion angladdol a defodol eraill ar Fynydd Hiraethog wedi’u codi o garreg, wrth i gerrig gael eu clirio i wella porfeydd cynharach, o bosibl.
Gwelir adlewyrchu dau batrwm pendant yn y defnydd a wneir o dir yn nosbarthiad yr henebion o’r Oes Efydd ar Fynydd Hiraethog. Yn ardal dyffryn Brenig ceir cyfuniad o amrywiaeth eang o safleoedd angladdol a defodol, ac mae’n ymddangos ei bod yn dirwedd a ddefnyddid ar gyfer gweithgareddau seremonïol dros gyfnod o dros hanner can mlynedd gan gymuned a oedd yn byw yn ne’r rhostir, mae’n debyg. Ceir patrwm arall mewn mannau arall ar Fynydd Hiraethog, lle na cheir yn gyffredinol ond grwpiau henebion neu rai unigol, heb unrhyw strwythurau seremonïol arbenigol yn gysylltiedig â hwy. Nid hap a damwain mo dosbarthiad yr henebion claddu hyn o bell ffordd, ac fe ymddengys y gallent fod yn nodau tiriogaeth yn ogystal ag yn safleoedd claddu.
Mae’n debygol bod y twmpathau claddu mawr ger ymyl y rhostir ym Mlaen-y-cwm sy’n tremio dros ddyffryn Afon Hyrdd ac yn y Boncyn Crwn sy’n tremio dros Ddyffryn Aled yn gysylltiedig â chymunedau oedd yn meddiannu’r dyffrynnoedd isel ar wahân ar ochr ogleddol y rhos. Mae’n bosibl bod llinyn o garneddi crynion ar hyd grib Gorsedd Bran, sydd bellach wedi ei guddio’n rhannol gan y blanhigfa goed, hefyd yn nodi porfeydd ucheldirol arferol y cymunedau oedd wedi ymgartrefu yn nyffrynnoedd Nant y Lladron a Lliwen tuag at Fylchau a Nantglyn, ar ochr ogledd-ddwyreiniol y rhos. Yn yr un modd, mae’n ymddangos bod y twmpathau sydd i’w gweld fesul un neu fesul grwp ar gopaon deheuol y rhos, fel ar Foel Seisiog, Moel Bengam a Phen yr Orsedd, yn adlewyrchu’r modd y byddai’r cymunedau a oedd yn byw i’r de o’r rhos yn manteisio ar y porfeydd hynny. Mae henebion eraill tebyg wedi’u gwasgaru yn ardal Bwlch-y-garnedd tuag at flaen Afon Twllan, ac yn nyffrynnoedd Alwen uchaf ac Aled uchaf sy’n is ac yn agosach at ganol y rhos.
Po bellaf y mae’r henebion claddu hyn o ymyl y rhos, mwyaf tebygol ydyw eu bod yn arwydd o anheddu tymhorol cynnar sy’n gysylltiedig â phori ar yr ucheldiroedd. Fel y nodwyd yn yr adran flaenorol, mae strwythur pren crwn, ty crwn o bosibl, a gafwyd islaw carnedd ymylfaen tua blaen nant Aber Llech-Damer ac, yn fwy sicr na hynny, y ty crwn o’r Oes Haearn a ddarganfuwyd yn nyffryn Nant-y-griafolen, yn awgrymu anheddiad tymhorol posibl yng nghanol yr Oes Efydd. Mae nifer o domenni hel cerrig a geir mewn cysylltiad â dau dy crwn â muriau o gerrig yn ardal Bwlch-y-garnedd ym mlaen dyffryn Afon Twllan yn awgrymu y tyfid cnydau cynnar mewn lleoedd eraill ar ochr ddeheuol y rhos, efallai yn y cyfnod cynhanesyddol neu yn oes y Rhufeiniaid. Gwyddys am domenni hel cerrig eraill sydd o bosibl yn arwydd o dyfu cnydau cynnar mewn mannau eraill, yn enwedig yn y dyffrynnoedd mwy cysgodol, er enghraifft y rhai i’r gorllewin o Aled Isaf ac ar Waen Ddafad lle nodwyd grwp o 30 o bentyrrau bychain o gerrig.
Ychydig iawn o wybodaeth bellach sydd ar gael ynglyn â’r defnydd o’r tir a’r anheddu ar Hiraethog hyd yr Oesoedd Canol, er bod lle i gredu bod y patrymau eglur o anheddu a’r defnydd tymhorol o’r tir a oedd wedi dod i’r amlwg erbyn y cyfnod hwn wedi parhau i ddatblygu trwy’r mileniwm cyntaf OC, nes arwain at batrwm o drawstrefa a oedd yn cynnwys manteisio ar adnoddau deuol yr ucheldir a’r iseldir ar sail hendref a hafod. Yn wir, fe fu’r cyfuniad o dystiolaeth hanesyddol ac archeolegol, a’r dystiolaeth a ddaeth o enwau lleoedd a mapiau cynnar o Hiraethog yn ddylanwadol wrth esbonio cylchredau anheddu a defnydd tir tymhorol sy’n nodweddiadol o’r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar yng Nghymru yn gyffredinol. Yn ôl y model yma, ar ôl aredig a hau caeau’r iseldir yn y gwanwyn, fe fyddai’r anifeiliaid yn cael eu gyrru i fyny i borfeydd yr ucheldir Galan Mai er mwyn i’r amaethwyr allu medi’r gwair yn y dolydd. Roedd angen i rai aelodau o’r teulu symud i’r hafod ar yr adeg hon o’r flwyddyn i ofalu am yr anifeiliaid ac i wneud menyn a chaws, a’r dyddiad traddodiadol i symud yn ôl i’r hendre yn is i lawr y bryn oedd Gwyl yr Holl Saint (Calan Gaeaf).
Mae’r darlun mwyaf eglur o’r prosesau oedd yn gysylltiedig â hyn yn ymwneud â nifer o dyddynnod a oedd yn perthyn i’r eglwys, ar ochr ddeheuol y rhos, ac mae dogfennau cynnar ar gael sy’n tystio i hyn. Roedd arglwyddi Cymreig lleol wedi rhoi nifer o eiddo cysylltiedig dan yr enwau Tiryrabad-isaf a Thiryrabad-uchaf ar hanner deheuol y rhos wedi eu rhoi yn rhodd i’r abaty Sistersaidd yn Aberconwy erbyn diwedd y 12fed ganrif, ac roedd y ddau yn cynnwys ardal pori ucheldirol helaeth a neilltuwyd ar gyfer hwsmonaeth gwartheg drefnus a chynnyrch cig a llaeth, yn gysylltiedig â phlastai ar yr iseldir. Enwir yn benodol porfa wartheg yn ardal Pentre Llyn Cymmer. Ni cheir unrhyw sôn am renti yn nogfennau’r 1290au, sy’n awgrymu bod y mynaich yn parhau i reoli’r tyddynnod hyn eu hunain yn y cyfnod hwnnw. Erbyn y 1330au, mae’n amlwg bod cyfran o’r plastai hyn yn cael eu gosod i denantiaid lleyg oedd â hawl i godi hafod dros dro yno, fel mannau eraill tebyg yng Nghymru, i’w galluogi i fanteisio ar borfeydd yr ucheldiroedd yn ystod yr haf. Gwelir gwerth isel y tir pori, fodd bynnag, yn y ffaith fod rhai o’r tenantiaid yn talu trwy roi anrheg fechan i’r abad bob blwyddyn yn hytrach na rhent fel y cyfryw. Roedd rhai teuluoedd lleol wedi dod yn stiwardiaid etifeddol a oedd yn rheoli tiroedd yr abaty i raddau helaeth erbyn diwedd yr oesoedd canol. Cafodd pob un o dyddynnod yr eglwys ar Fynydd Hiraethog eu morgeisio yn gynnar yn y 16eg ganrif oherwydd yr anawsterau ariannol a oedd yn wynebu abaty Aberconwy, a gwerthwyd gweddill y tyddynnod ar gyfnod y Diddymiad, tua chanol y 16eg ganrif.
Gwelir patrwm tebyg yn Hen Ddinbych o aneddiadau gwasgaredig dros dro yn codi wrth i stad eglwysig cynnar chwalu, tuag ochr ddwyreiniol y rhos. Roedd yr fferm amgaeëdig hon, a adwaenid gyntaf fel Bisshopswalle ar un adeg yn cynnwys nifer o gytiau defaid hyd at 25m o hyd i aeafu’r defaid ar y mynydd, ac roedd yn gysylltiedig i raddau helaeth â’r fasnach wlân a oedd yn gyffredin ymysg stadau eglwysig canoloesol yn ardal y Cotswolds ac mewn lleoedd eraill yn Lloegr wedi iddynt gael eu atafaelu oddi wrth Dafydd ap Gruffudd a’u rhoi wedi hynny i iarll Lincoln fel rhan o arglwyddiaeth Dinbych yn gynnar yn y 1280au. Nid oes tebyg i’r safle hwn yng Ngogledd Cymru, ac mae’n bosibl mai olion arbrawf byrhoedlog ar ddefnyddio ucheldir Cymru ydoedd.
Erbyn dechrau’r 14eg ganrif, roedd yr arglwydd yn gosod y borfa a oedd unwaith yn gysylltiedig â’r fferm i’r gymuned ar gyfer magu gwartheg, ac mae’n debyg mai dyma oedd y prif ddefnydd a wnaed o’r tir dros sawl canrif o’r adeg honno. Dywedir, er enghraifft, y gallai’r 1,128 erw o borfa ucheldirol oedd yn rhan o Bisshopswalle ar yr adeg yma gynnal 8 tarw a 192 buwch drwy’r gaeaf a’r haf. Fel y trafodwyd uchod, mae hyn yn cefnogi’r awgrym mai unedau ffermio gwartheg yn y canol oesoedd oedd nifer o’r hafodydd ar ymylon y rhostir. Roedd Havodlom (Hafod-lom) a Havodelwe (Hafod-elwy) yn ddau hafod o’r fath ar hyd ymyl y rhostir, yn nyffrynnoedd Afon Brenig ac Afon Alwen, ac mae’r cofnod cynharaf ohonynt yn yr arolwg o arglwyddiaeth Dinbych yn 1334. Disgrifir Havodelwe fel diffeithwch o 650 erw allai gynnal 180 anifail, ac mae’n bosibl o ystyried eu gwerth mai gwartheg ac ychen oedd y rhain. Roedd yr aneddiadau cynnar hyn fel nifer o eraill a nodwyd trwy dystiolaeth gwaith maes, yn nifer o ddyffrynnoedd y nentydd ar ochrau deheuol a dwyreiniol Mynydd Hiraethog. Golygai’r lleoliad cysgodol a’r pridd mwy maethlon yn y fan honno bod porfeydd ucheldirol yn cael eu defnyddio yn nes ac yn nes at ganol y rhos – mae ochrau dwyreiniol Mynydd Hiraethog ymhlith yr ardaloedd â’r dwysedd uchaf o ffermydd bychain yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac mae’n debyg bod nifer o hafodydd eraill o amgylch ymylon y rhostir â’u gwreiddiau yn y tiroedd y byddai’r arglwyddi lleol yn eu rhoi ar osod yn hytrach nag yn y stadau eglwysig.
Roedd y patrwm trawstrefa seiliedig ar yr hafod a’r hendre eisoes wedi crebachu’n aruthrol trwy Gymru erbyn canol y 18fed ganrif, yn bennaf oherwydd pwysigrwydd cynyddol ffermio defaid o ddiwedd yr oesoedd canol ymlaen. Diben hyn yn y lle cyntaf oedd cynhyrchu gwlân, ac yna gwlân a chig. Arweiniodd y gwahanol alwadau oherwydd ffermio defaid at adael nifer o’r ffermydd llaeth cynharach, er i rai o’r hafodydd yn y lleoedd mwy croesawus ddatblygu yn ffermydd bychain sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu gwartheg cig eidion yn yr ardaloedd lle roedd y glaswelltir wedi’i wella, ar dyfu grawn ar y caeau mwyaf ffrwythlon, ac ar hwsmonaeth defaid yn ardaloedd uwch a mwy pellennig y rhos. Ymddengys i’r dymuniad i reoli bridio, i rwystro diadelloedd o ddefaid rhag crwydro i un ochr i’r rhos, ac i ofalu am y borfa arwain at greu llociau mawr neu ffriddoedd ar y rhostir, ac fe welir hyn mewn amryw o enwau’r lleoedd, er enghraifft Ffriddog, Ffrithuchaf, Ffrith-y-foel a Ffridd Fawr. Mae cyfeiriad at ffriddoedd ‘Havott Elway’ yn nyffryn Alwen ym 1537 yn awgrymu bod y broses eisoes wedi dechrau erbyn dechrau’r 16eg ganrif, er nad oes amheuaeth y cyflymodd hyn yn sgîl y gwelliannau amaethyddol helaeth a gafwyd o ganol y 18fed ganrif ymlaen.
Arweiniodd y system defnydd tir a gododd ar Fynydd Hiraethog erbyn canol y 19eg ganrif at batrwm o ffermydd cymharol fychain o amgylch ymylon y rhostir, lle roedd hinsawdd, cysgod, a hygyrchedd gwael oll yn cyfuno i leihau hyfywedd economaidd yr amaethu. Roedd cyfran uchel o’r ffermydd ym meddiant y perchnogion ac, erbyn y dyddiad hwn, magu gwartheg eidion a defaid am eu cig a’u gwlân oedd prif gynheiliaid yr amaethu yn y fan yma. Byddai gwartheg yn cael eu magu ar laswelltir wedi’i wella ger y fferm, ac yn cael eu gyrru i’r farchnad yn yr hydref neu eu gaeafu mewn beudái gwartheg ger y fferm a’u cynnal ar gyflenwad o wair tenau’r mynydd. Fe fyddai mamogiaid bridio yn cael eu gaeafu ar ffermydd ar yr iseldir, ac yn wyna yn hwyr fis Mawrth neu’n gynnar mis Ebrill yn y caeau amgaeëdig ger y fferm a’u dychwelyd i’r bryn i bori tua chanol mis Mai. Adeiladwyd cytiau fferm nodweddiadol o gerrig ar gyfer godro, storio bwyd anifeiliaid a gaeafu stoc ar rai o’r ffermydd mwy yn y 18fed a’r 19eg ganrif, gan gynnwys yr adeiladau blaenorol yn Hafod-lom a’r casgliad o adeiladau sy’n goroesi yn Nhan-y-graig.
Mae tystiolaeth o dyfu cnydau ar raddfa fechan yn gysylltiedig â nifer o ffermydd ucheldirol, wedi i awyrluniau neu dystiolaeth gwaith maes nodi cribau amaethu yn Hafod-yr-onen. Ceirch oedd y cnwd mwyaf cyffredin ar ôl haidd yn y data amaethyddol ar gyfer Mynydd Hiraethog ar droad y 19eg ganrif, ac roedd trigolion Cerrig-y-drudion yn ystyried bara gwyn yn foethus hyd yn oed mor hwyr â’r 1830au, gan eu bod fel arfer yn bwyta cacen geirch neu fara haidd. Ceir cyfeiriadau penodol am y tro cyntaf at dyfu cnydau ar Fynydd Hiraethog yn ystod y 16eg ganrif. Cyfnod oedd hwn pan roedd llawer o ddiddordeb yng ngallu sawl rhan o’r wlad i gynhyrchu yn amaethyddol. Yn ei daith o amgylch Prydain yn 1530au, disgrifiodd John Leland gantref Uwch Aled, â llawer ohono yn cwmpasu Mynydd Hiraethog, fel ‘y rhan waethaf o dir Dinbych, a’r mwyaf diffrwyth. Golygai’r holl gorsydd, y creigiau a’r tir rhostirol a’i bridd oer nad oedd yr ardal yn addas i ddim ond magu ceffylau a defaid, er bod ceirch a rhyg yn cael eu cnydio. Mae’n amlwg i economi amaethyddol Mynydd Hiraethog barhau i fod yn anrhagweladwy, ac ychydig iawn o gyfle oedd i’w wella, gan mai ychydig iawn oedd wedi newid yn y cyfnod o 300 mlynedd rhwng diwedd y 16eg a diwedd y 18fed ganrif pan soniodd Walter Davies fod y canlynol yn wir am ambell ran o Ros Hiraethog. ‘… ni heuir unrhyw rawn ar wahân i geirch, sy’n wydn, a gwelir caeau cyfan o’r rhain ambell flwyddyn, mor wyrdd â chennin ym mis Hydref, heb fod yn debyg o aeddfedu o gwbl.’ Er gwaethaf gwelliannau amaethyddol eang y 18fed a’r 19eg ganrif, ar Fynydd Hiraethog oedd un o’r darnau mwyaf o dir heb ei amgáu yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac yng nghanol y 19eg ganrif, tir comin o hyd oedd hanner ardaloedd y prif blwyfi degymu oedd yn cwmpasu’r rhos, sef Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas), Gwytherin, Llansannan, Nantglyn, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Y Gyffylliog a Cherrigydrudion.
Gwelir hanes defnydd tir yn parhau ac yn datblygu o’r cyfnod canoloesol ymlaen yn y patrymau anheddu, y llociau a’r strwythurau a welir yn nirwedd Mynydd Hiraethog heddiw.
Roedd ffermydd bychain megis Hafod-yr-onnen a Hafod-lom (y ddwy bellach dan ddyfroedd Llyn Brenig), yn nodweddu patrwm defnydd tir y mannau isaf yn y dirwedd hanesyddol. Mae’n debygol bod y rhain â’u gwreiddiau yn yr hafodydd unigol dros dro yn y canol oesoedd cyn dod yn ffermydd parhaol. Byddai hafod ar ymylon tir y fferm, gerllaw’r mynydd agored yn datblygu ei hafod ei hun yn ei dro, ymhellach i mewn i’r rhostir. Yn y cyfamser, byddai amgáu a sefydlu ffermydd megis Ty’n-y-ddol a Rhos-ddu yn y fan hon yn y cyfamser yn arwain at gydweddu’r anheddau tymhorol cynharach mewn tirwedd oedd yn cynnwys caeau bychain afreolaidd oedd yn fwy nodweddiadol o ffermio iseldirol a’r hendrefi a oedd unwaith yn gysylltiedig â hwy. Daeth patrwm llociau’r iseldir i’r rhostir oherwydd fod dyffryn Brenig yn cynnwys mwy o gysgod a phridd oedd rhywfaint yn well.
Ceir ail batrwm o nifer o ffermydd mwy anghysbell a oedd unwaith â phobl yn byw ynddynt drwy’r flwyddyn yng nghanol y mynyddoedd. Mae’n bosibl bod rhai o’r rhain hefyd o darddiad canoloesol, ond aros yn ynysoedd o dir amgaeëdig yn y rhostir oedd eu hanes, naill ai fesul un fel yn achos Hafoty Siôn Llwyd yn nyffryn Brenig (ardal nodwedd Maen-llwyd), neu fesul clwstwr, fel yn achos y gosodiad llinellol ar hyd lan ogleddol dyffryn Alwen, sef Hafod-y-llan-isaf, Hafod-y-llan-uchaf, Hafod-elwy Ty-isaf a Thy-uchaf (y mae planhigfeydd coed bellach yn ei guddio, yn ardal nodwedd Bryn-y-gors-goch), neu yn achos yr aneddiadau lluosog sy’n ffurfio blociau mwy cryno tuag at ochr ogleddol y rhos ym Mhant-y-fotty a Phant-y-fotty-bach, Waen-isaf-las a Waen-isaf-uchaf (yn ardal nodwedd Creigiau Llwydion). Fe barodd y broses o ledaeniad parhaus ac o greu ffermydd a bythynnod newydd o’r cnewyll cynharach hyn ymhell i’r 18fed a’r 19eg ganrif, ac mae Rhwngyddwyffordd a Hafod-y-llan-bach yn ddwy enghraifft o anheddau â llociau sy’n dyddio o’r cyfnod yma. Ymddengys bod tir y fferm arunig yn Nhy’n-y-llyn, i’r gogledd o Lyn Aled (ardal nodwedd Creigiau Llwydion) ac o bosibl clwstwr o ffermydd heddiw, gan gynnwys Tan-y-graig, Ty-isaf a Thai-pellaf, i’r gogledd o Afon Alwen (ardal nodwedd Tan-y-graig) yn gorgyffwrdd â’r rhostir yn y cyfnod diweddarach hwn. Mae llawer o’r aneddiadau ‘ynysig’ hyn a adawyd yn segur yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif, yn gysylltiedig â phatrwm cynnar nodweddiadol o gaeau bychain â ffiniau crom o amgylch y fferm i fagu lloi ac i odro. Yn ddiweddarach, fe ddatblygodd y rhain yn llociau porfa garw helaethach a mwy unionlin wrth symud i mewn i’r rhostir agored. Aeth ffermydd tebyg ond llai llwyddiannus yn segur gan ddadfeilio ar y rhostir cyn y 19eg ganrif, ar ôl methu â throsi i sefydliad parhaol wrth i bwysigrwydd ffermio defaid gynyddu. Gwelwyd nifer o’r aneddiadau hyn wedi ymgaregu â threigl amser, gyda’u llociau â chloddiau, yn nhystiolaeth gwaith maes a gafwyd o amgylch ymylon y rhos.
Gwelir trydydd patrwm amlwg ar ochr orllewinol y rhos, uwchlaw ddyffryn Conwy, lle aeth yr anheddiad a’r llociau y tu hwnt i’r strimyn hafodydd cyn y 19eg ganrif, fel y gwelir yn enwau’r lleoedd: Hafoty-fawr, Hafoty-fach, Hafod-las, Hafod-y-geunen, Hafoty-cerrig a Hafoty-gwyn sydd cryn bellter islaw ffiniau’r rhostir. Mae patrwm defnydd tir yn yr ardal i’w weld yn y gyfres o lociau mawr amlochrog â chloddiau, ffensys a waliau, yn dilyn amgáu ardaloedd helaeth o borfa garw ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, mae’n debyg (ardaloedd nodwedd Moel Maelogen a Fawnog-fawr), ac mae rhai o’r rhain wedi eu gwella ymhellach dros y blynyddoedd diweddaraf.
Mae’r twf ym mhwysigrwydd ffermio defaid rhwng diwedd y canol oesoedd a heddiw wedi arwain at adeiladu amrywiaeth o strwythurau carreg a phridd i gysgodi’r ddiadell a oedd yn pori yno gydol y flwyddyn, yn enwedig ar rannau uwch a mwy agored y rhos. Mae’r rhain yn amrywio o gloddiau ac atalfeydd gwynt syml i strwythurau mwy cymhleth ar ffurf croes neu lythyren L neu Z, i amddiffyn y defaid rhag gwyntoedd o wahanol gyfeiriadau. Mae rhai o’r strwythurau yn rhai cymharol diweddar, er bod eraill wedi dadfeilio ac yn eithaf hen. Mae ambell un wedi ei adeiladu o ddeunyddiau adeilad blaenorol. Mae’n bosibl mai cysgodfa gerrig â thair braich ar flaen dyffryn Brenig yw tarddiad yr enw Hen-groes, sy’n parhau yn yr enw Bryn yr Hen-groes a gofnodir yn yr ardal yma. Yr enw Waen Ddafad ar ystlys ddwyreiniol dyffryn Brenig, yn ddiddorol, yw’r unig le ar Fynydd Hiraethog sydd â’i enw yn gysylltiedig â magu defaid. Yn yr un modd, mae’r angen i gasglu’r defaid ynghyd ar wahanol adegau o’r flwyddyn ar gyfer cneifio, nodi, dipio neu gwlio wedi arwain at gorlannau defaid niferus ar y rhos, a llawer o’r rheiny ar lwybrau neu o amgylch ymylon y rhostir. Mae’r corlannau hyn, fel y cysgodfeydd, yn dyddio o wahanol gyfnodau, ac yn amrywio o ran ffurf o lociau bychain â waliau i strwythurau mwy eu maint a mwy manwl sy’n cynnwys nifer o wahanol ffaldau. Mae llawer o’r ffaldau cerrig hyn bellach wedi mynd yn segur, a’r rhai newydd, a godwyd o bren, pyst, gwifren a dalenni haearn gwrymiog, ynghyd â strwythurau eraill, yn darparu maeth atodol.
Bellach, mae gwaith cynhyrchu pren yn fasnachol i’w weld ar y rhan helaeth o ymyl ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Mae gwaith cwympo coed ac ailblannu yn mynd rhagddo yn helaeth mewn rhai ardaloedd. Mae’r planhigfeydd ffynidwydd, sy’n ffurfio rhan o Goedwig Clocaenog, dan reolaeth y Fenter Coedwigaeth, yn cwmpasu miloedd o hectarau o gyn rostir, ac maent yn dyddio o’r 1930au yn bennaf, yn dilyn yr argyfwng mewn ffermio ucheldirol cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae llawer o’r goedwigaeth o fewn ardal y dirwedd hanesyddol yn dyddio o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd nifer o ardaloedd llai o ffynidwydd a ffynidwydd cymysg yn yr ardal ger Ty-isaf i’r gogledd o Gronfa Ddwr Alwen ac yng nghyffiniau Tan-y-graig eisoes wedi’u plannu erbyn dechrau’r 19eg ganrif, fodd bynnag, ac roedd planhigfeydd eraill wrthi’n cael eu plannu yn yr ardal gyffredinol hon yn ystod y 19eg ganrif.
Am gyfnod gweddol fyr yn gynnar yn yr 20fed ganrif, rheolwyd llawer o’r rhostir grug yn enwedig ar ochr ddeheuol y rhos, yn stad i saethu grugieir, ac mae porthdy hela Gwylfa Hiraethog yn dystiolaeth archeolegol o’r gweithgaredd yn y cyfnod hwnnw. Mae’r porthdy yn dyddio o ddau ddegawd cyntaf yr 20fed ganrif, ac mae ganddo carnau saethu cerrig a phridd. Trefnir y carnau saethu yn grwpiau neu’n llinellau, ac weithiau fe’u nodir â charneddi. Mae’r carnau saethu hyn i’w gweld ar sawl ffurf, gan gynnwys muriau byr, strwythurau petryal, crwn neu hanner crwn a rhai mwy cymhleth eu siâp gan gynnwys rhai ar ffurf H, L neu T.
Erbyn heddiw, saif rhannau mawr o rostir ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Hiraethog, a neilltuwyd oherwydd ei rhostir uchel a’i chorsydd, a’i hamrywiaeth o adar sy’n bridio yno. Caniateir pori dwysedd isel yno.
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Cymharol ychydig o lwybrau, traciau neu ffyrdd sy’n croesi Mynydd Hiraethog. Mae’n debyg fod dau lwybr pwysig rhwng Dyffryn Dyfrdwy a Dyffryn Clwyd yn eithaf hynafol, ond erbyn hyn mae ffyrdd mwy modern wedi eu disodli bron yn gyfan gwbl. Y ffordd gynharach rhwng Pentrefoelas a Dinbych oedd y pwysicaf o’r llwybrau hyn, ac roedd ei hynt ychydig yn fwy dwyreiniol na’r ffordd bresennol, gan redeg o Fwlch-y-garnedd, Bwlch-gwyn i ddwyrain Tan-y-graig at bont dros afon Alwen yn Nant Heilyn ac oddi yno trwy Bont-y-Brenig a Bryn Maen i Nantglyn. Disodlwyd y llwybr yma yn y 1820au a’r 1830au cynnar gan y ffordd dyrpeg, a oedd ar yr un hynt â’r A543 presennol trwy Cottage Bridge, Pont-y-clogwyn a’r Sportsman’s Arms ac yna ymlaen i Fylchau, lle roedd tolldy gynt yn Nhyrpeg Mynydd ar ymyl ddeheuol y rhos. Disgrifir y ffordd yn Topographical Dictionary of Wales, Lewis, a gyhoeddwyd ym 1833, fel a ganlyn, ‘ffordd ardderchog’. . . a adeiladwyd yn ddiweddar . .dros y mynyddoedd.’ Cafwyd gwelliannau ers hynny, ond mae olion y muriau gwreiddiol a’r cloddiau yn goroesi yma a thraw, ynghyd â Cottage Bridge, sef pont ffordd gerrig un bwa o ddechrau’r 19eg ganrif dros Afon Alwen a nifer o chwareli cynnar ar ochr y ffordd i gloddio am ddeunyddiau adeiladu. Ymddengys i’r dafarn yn y Sportsman’s Arms, a elwid ar un adeg yn Tan-bryn-trillyn, ynghyd â’r patrwm rheolaidd o gaeau ar y rhostir yr arferai’r ffordd droelli o’u hamgylch, ddatblygu yn dafarn y goets fawr, a oedd yn cynnig lifrau a thir pori i wasanaethu’r teithwyr cynnar dros y rhos.
Mae’r ail lwybr cynnar a oedd yn cysylltu Cerrigydrudion a Dinbych bellach dan ddyfroedd Llyn Brenig. Roedd yn rhedeg ar hyd ddyffryn Brenig ac Afon-fechan heibio i Elorgarreg a Hafod-lom, heibio i Hafoty Siôn Llwyd trwy Ryd Siôn Wyn a Bwlch-du ac oddi yno i lawr i darren Mynydd Hiraethog i gyfeiriad Dinbych trwy Garreg Lwyd, gan groesi ar flaen dyffryn Afon Fechan â nifer o lwybrau a thraciau bychain a oedd yn ymuno â’r llwybr cynharach o Bentrefoelas i Ddinbych trwy Nantglyn, i’r Gogledd o Fryn-yr-hen-groes. Cyfeiriodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd at y llwybr hwn sy’n debygol unwaith eto o fod yn un hynafol iawn, tua diwedd y 17eg ganrif, dan yr enw Llwybr Elen neu Sarn Elen, sef enw a roddir ar nifer o ffyrdd hynafol eraill yng Nghymru. Mae ffordd fodern bellach trwy’r blanhigfa goed wedi disodli’r trac hynafol yma i’r gorllewin o Gronfa Ddwr Brenig sy’n rhannu yn ganghennau yn y gogledd i ymuno â’r ffordd o Bentrefoelas i Ddinbych i’r gogledd o’r Sportsman’s Arms ac i’r dwyrain ar draws ymyl ogleddol y rhostir, heibio i Faen-llwyd. Mae’r enw Sarn Helen yn cael ei gadw yn y sarnau ar draws y nant wrth ymyl Hen Ddinbych. Roedd trac hynafol arall yn yr ardal hon yn cysylltu rhan uchaf dyffryn Brenig â’r Gyffylliog a Rhuthun i’r dwyrain, gan redeg trwy Goedwig Clocaenog trwy ddyffrynnoedd Aber Llech-Damer ac Afon Clywedog, a heibio i’r anheddiad canoloesol yn Hen Ddinbych.
Mae’r rhan fwyaf o draciau eraill ar y rhos, llawer ohonynt eto yn debygol o fod yn rhai eithaf hen, yn tueddu i fod yn llwybrau pellter byr a ffurfiwyd i gysylltu’r hendrefi a’r cymunedau â’r porfeydd rhostirol, (yr hafodydd), y ffermydd anghysbell yr oedd trigolion ynddynt trwy’r flwyddyn, gweithfeydd torri mawn neu chwareli a oedd yn darfod yn ddirybudd cyn iddynt gyrraedd eu nod. Dangosir amrywiol lwybrau ar nifer o fapiau o’r 19eg ganrif, a rhai ohonynt hefyd yn dangos nentydd â sarnau a phontydd troed yn eu croesi. Mae rhai ohonynt wedi diflannu ers hynny. O’r cyfnodau cynharaf, cerdded neu gyrru cert ych fyddai’r ffordd mwyaf cyffredin o deithio ar y rhos neu ar ei draws. Mae pedolau, sbardun a darnau o harneisiau a gafwyd wrth gloddio un o’r tai cynnar ar Nant-y-griafolen yn awgrymu bod rhai ffermwyr wedi bod yn marchogaeth i’w hanheddau ucheldirol ac yn ôl ar gefn ceffyl.
Y ffordd dyrpeg o Bentrefoelas i Ddinbych ar ddechrau’r 19eg ganrif oedd y ffordd gyntaf i allu cludo cerbydau neu draffig arall ag olwynion yn ddibynadwy dros Fynydd Hiraethog bob adeg o’r flwyddyn, gan arbed arian ar siwrneiau’r gaeaf o’r gogledd i’r de a fyddai’n gorfod mynd i gyfeiriad Llanrwst ar y dwyrain neu Gorwen ar y gogledd. Yn ogystal â gwella’r cysylltiadau, fe arweiniodd adeiladu’r ffordd dyrpeg at allu’r genhedlaeth gyntaf o lawer o dwristiaid i gyrchu rhostir mynyddog llwm Mynydd Hiraethog.
Tirweddau Diwydiannol
Ychydig iawn o ddiwydiant a gafwyd ar dirwedd Mynydd Hiraethog. Mae’n debygol i’r gwaith o godi mawn a cherrig ddyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif, ac mae olion unigryw ond anymwthiol o’r gwaith yma i’w gweld yma ac acw ar y rhos.
Gwelir olion torri’r mawn, gwaith a wnaed yn draddodiadol yn ystod mis Mai, yn y pantiau petryal a’r ceudodau llawn dwr mewn nifer o’r basnau nentydd mawnog ledled y rhos, yn arbennig ar y llwyfandir tonnog i’r de o Afon Alwen ac ar y llethrau a’r esgeiriau i’r dwyrain o Lyn Alwen. Byddai llawer o’r ffermydd o amgylch ymyl y rhos yn torri, yn sychu ac yn cludo adref ddigon o danwydd at eu defnydd eu hunain. Roedd rhai ffermydd yn parhau i dorri mawn hyd at y 1950au, a dywedir i un fferm fod wedi parhau â hyn hyd yr 1980au. Mae tarddiad y diwydiant mawn yn ansicr ond, fel ffynhonnell tanwydd gaeaf, nid yw’n debygol o fod wedi cael ei ddefnyddio nes i’r coetir naturiol ar lethrau isaf y mynydd gael ei ddisbyddu, ond mae’n debygol iddo gael ei ddefnyddio i gyflenwi’r anheddau dros dro neu dymhorol ar y rhostir o gyfnod llawer cynharach. Mae’r dystiolaeth ddogfennol gynharaf o gloddio am y mawn yn yr ardal i’w weld yn y Survey of the Honour of Denbigh a gasglwyd ym 1334, sy’n cofnodi hawliau mawnfa tenantiaid nifer o dreflannau, gan gynnwys un y cofnodir iddo fod ar anialwch y tir comin yng Ngwytherin, lle roedd y tenantiaid yn talu 12c am drwydded i gloddio am dyweirch. Mae’n siwr i’r gwaith o dorri mawn barhau’n ddi-dor trwy gydol y canol oesoedd a’r cyfnod ôl ganoloesol ac, erbyn y 1830au, roedd un sylwebydd yn ei ystyried yn un o brif weithgareddau trigolion yr ardal, ynghyd â magu gwartheg a defaid a nyddu a gweu. Mae nifer o fapiau degwm y plwyfi ar ffiniau’r rhos yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn nodi’r mawnfeydd neu’r mannau torri mawn ar y rhostir, ac weithiau ceir traciau yn cysylltu’r rhain â ffermydd yr iseldir. Gwelir tystiolaeth archeolegol pellach o gloddio am fawn yn y llwyfannau arbennig a godid i sychu mawn a hyd yn oed pentyrrau segur o fawn ar y rhostir, er enghraifft ar Foel y Gaseg-wen ac yn nyffryn Nant Goch ar flaen Afon Cledwen. Mae’n bosibl mai canlyniad torri mawn yw’r carneddau a’r cerrig gwasgaredig mewn ambell le.
Mae mân chwareli at ddibenion codi ffermdai, cutiau fferm a waliau i’w gweld o amgylch ymylon y rhostir, ac yn aml maent ar y llwybrau sy’n arwain at ffermydd yr iseldir neu’n gysylltiedig â ffermdai a thyddynnod y mae eu tir wedi ymestyn i mewn i’r rhostir. Agorwyd chwareli bychain eraill ar gyfer cerrig ffordd, ac mae’r mân chwareli ar gyfer adeiladu ffyrdd a gwaith adeiladu atodol yn amlwg ar hyd y ffordd dyrpeg o’r 19eg ganrif sy’n torri drwy’r rhostir ar yr hynt rhwng Pentrefoelas a Dinbych. Nifer o chwareli slabiau cerrig segur fu’n fasnachol ar raddfa fechan, yn rhannol guddiedig gan y planhigfeydd coed uwchlaw Nantglyn, a nifer o’r chwareli hyn, yn enwedig Chwarel Nantglyn a Chwareli Aber, yn arbennig o brysur ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif yn diwallu’r galw lleol yn bennaf. Llifio â’r llaw oedd y dull mwyaf cyffredin, er bod peth tystiolaeth ar gael bod llifio mecanyddol wedi mynd rhagddo yn chwarel Aber. Roedd cynhyrchu wedi dod i ben yn chwarel Aber erbyn y 1920au, ac yn Nantglyn erbyn y 1950au. Mae’n ymddangos i nifer o chwareli agor yn fwy diweddar, er enghraifft ger Aled Isaf, er mwyn cael deunyddiau i godi rhai o’r cronfeydd dwr a’r gwaith peirianneg cysylltiedig.
Roedd nyddu edafedd gwlân a gwneud brethyn eisoes wedi dod yn un o’r diwydiannau cydnabyddedig yn ‘rhannau uchaf Sir Ddinbych’ o gyfnod y Frenhines Elisabeth ymlaen, ac ystyried mai gweu sanau oedd prif weithgaredd merched yr ardal yn y 1830au. Byddai’r rhan fwyaf o’r gwlân wedi dod o gneifio yn y gwanwyn, ond byddai rhai o’r trigolion tlotaf yn draddodiadol wedi casglu gwlân yr oedd y defaid yn ei fwrw yn naturiol. Gwelir olion nyddu’r gwlân â’r llaw ar y rhos ei hun o’r canol oesoedd ymlaen, o bosibl, yn nifer y gwerthydau o’r 15fed a’r 16eg ganrif a gafwyd wrth gloddio rhai o’r tai a oedd yn rhai tymhorol yn nyffryn Nant-y-griafolen, ar ochr ddwyreiniol y rhos, ac yn nifer o hapddarganfyddiadau mewn mannau eraill.
Llynnoedd, Cronfeydd dwr a Phyllau
Mae nentydd, afonydd, llynnoedd naturiol a chronfeydd dwr yn elfen unigryw a phwysig yn nirwedd Mynydd Hiraethog. Llyn-y-foel-freche, Llyn Bran, Llyn Alwen a Llyn Aled yw’r llynnoedd naturiol, ac maent rhwng 2ha a 45ha o ran maint, sef cyfanswm o tua 86ha. O’r rhain, fodd bynnag, ehangwyd Llyn Aled a Llyn Bran trwy adeiladu argaeau ar ddechrau’r 20fed ganrif. Roedd llyn naturiol bychan arall, o’r enw Llyn Dau-ychain, tua’r un maint â Llyn-y-foel-freche, yn yr ardal lle mae Cronfa Ddwr Alwen bellach. Roedd Llyn Alwen, y mwyaf o’r llynnoedd naturiol na ddatblygwyd mohonynt yn elfen bwysig wrth ddynodi Mynydd Hiraethog yn SoDdGA. Mae nifer o byllau llai i’w gweld ar Fynydd Hiraethog, yn enwedig ar ochr orllewinol y rhos ar Fawnog-fawr a Swch Maes Gwyn, a llawer ohonynt mewn corsydd mawn ac yn deillio o’r gwaith torri mawn a oedd yn dal i ddigwydd hyd at y 1950au a hyd yn oed yn fwy diweddar na hynny mewn ambell le.
Cronfa ddwr Alwen (150ha), Aled Isaf (28ha) a Llyn Brenig (354ha), yw’r prif gronfeydd dwr ar Fynydd Hiraethog, a thua 530 ha yw cyfanswm eu harwynebedd. Maent wedi boddi safleoedd cynhanesyddol cynharach a chaeau a ffermydd segur o darddiad canoloesol ac ôl-ganoloesol yn achos cronfeydd dwr Alwen a Brenig. Cronfa Ddwr Alwen, a adeiladwyd rhwng 1911-16, yw’r cynharaf o’r rhain, ac mae i’w gweld yn nyffryn cymharol gul afon Alwen i’r gorllewin o Bentre Llyn Cymmer. Saif yr argae uchel, crwm o flociau concrid â wynebau cerrig, a’r falfdy yn y dull Eidalaidd yn y coetir i’r dwyrain o’r argae, ac mae’r gronfa ddwr yn ymdroelli i galon y rhostir ymhellach i’r gorllewin. Islaw’r argae mae gweithfeydd trin dwr yn ogystal â gwaith hyn, tai barics a theras o dai gweithwyr a godwyd yr un pryd â’r argae. Codwyd yr argae gyntaf i gyflenwi dwr i dref Penbedw ond erbyn heddiw mae’r gronfa ddwr yn rheoli’r cyflenwad i ogledd-ddwyrain Cymru, a daw’r cyflenwad dwr o’r afonydd y mae’n eu bwydo yn hytrach nag o’r gronfa ddwr ei hun. Mae cronfa ddwr llai Aled a adeiladwyd ym 1934, ac Aled Isaf a adeiladwyd ym 1938, ychydig yn fwy diweddar. Mae gan Aled Isaf, unwaith eto, argae crwm, uchel sy’n cludo’r ffordd fodern, a falfdy concrid symlach. Crëwyd cronfeydd dwr llai Llyn Aled a Llyn Bran trwy estyn y llynnoedd naturiol oedd yno eisoes trwy osod cloddiau llawer is o bridd a cherrig i weithredu fel sarn i’r ffordd, a falfdy carreg i Lyn Aled a llifddor i Lyn Bran.
Mae Llynnoedd Aled ac Aled Isaf wedi cysylltu â’i gilydd, ac ar un adeg fe’u bwriadwyd i gyflenwi dwr i’r Rhyl a Phrestatyn ar arfordir Gogledd Cymru, er nad adeiladwyd y ddyfrbont oherwydd diffyg arian. Bellach, defnyddir y cronfeydd dwr i reoli llif y dwr i Afon Aled. Mae’r gronfa ddwr fwyaf ar Fynydd Hiraethog, a godwyd rhwng 1973 ac 1976, sef Llyn Brenig a’i hargae bridd enfawr ar draws dyffryn lletach afon Brenig, yn adlewyrchu cyfnod dylunio a pheirianneg mwy diweddar, sy’n gosod pwyslais ar symud tir ar raddfa fawr yn hytrach na defnyddio concrid. Mae’r gronfa ddwr yn darparu dwr ar gyfer cartrefi a diwydiant yng ngogledd-ddwyrain Cymru a hefyd yn helpu i reoli llif tymhorol Afon Dyfrdwy a chyflenwi Camlas Llangollen. Mae’r cyferbyniad rhwng dyluniad a graddfa Cronfa Ddwr Alwen a Llyn Brenig yn darparu darlun diddorol o’r newidiadau o ran cysyniad a dyluniad cronfeydd dwr a’u heffaith ar y dirwedd yn ystod yr 20fed ganrif, o ganlyniad i’r dechnoleg sydd ar gael i’r diwydiant adeiladu sydd, yn ei dro, wedi dylanwadu ar y math o ddyffryn y gellir adeiladu cronfa ddwr ynddo, a’r math o dirwedd sy’n cael ei chreu o ganlyniad i hynny. Mae’r rhain bellach yn ganolbwynt pwysig i’r gweithgareddau hamdden y rhoddir ystyriaeth iddynt isod.
Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
Nid elfennau gweladwy pennaf y dirwedd sydd wedi goroesi o’r gorffennol cynhanesyddol yn unig mo’r twmpathau claddu gwych sy’n amlwg ar esgeiriau rhostir Mynydd Hiraethog; maent hefyd wedi dod yn fwy arwyddocaol na’r mynydd ei hun. Bu henebion angladdol a defodol cynhanesyddol Mynydd Hiraethog yn ganolbwynt astudiaeth ddyfal, yn enwedig ers y 1970au pan gynigodd prosiect adeiladu cronfa ddwr Llyn Brenig un o gyfleoedd prinnaf y blynyddoedd diweddar i archwilio amrywiaeth o fathau o henebion o’r un cyfnod mewn un tirwedd.
Cafodd cyhoeddiad o ganlyniadau’r gwaith yma cryn ddylanwad wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o swyddogaeth y gwahanol fathau o henebion, a’r hyn y dylid ei ddeall wrth ddehongli eu lleoliad yn y dirwedd, yng Nghymru a thu hwnt. Mae ail-greu nifer o’r henebion wedi hynny, yn rhan o lwybr archeolegol, wedi sicrhau bod cynulleidfa ehangach nad ydynt yn arbenigwyr yn cael cyfle i weld y canlyniadau, ac hefyd wedi caniatáu i ni sy’n gweithio yn y maes ddeall syniadau ynghylch lleoliad nifer o henebion yn y dirwedd.
Gellir gweld dau batrwm unigryw yn y dirwedd, ac mae’r ddau fel ei gilydd yn ymddangos yn arwyddocaol o ran defnydd cyfoes o’r tir. Yn y cyntaf, ceir casgliad o henebion angladdol a defodol yn nyffryn rhostirol Afon Brenig ac Afon Fechan ac, yn yr ail, ceir twmpathau claddu ar gopaon bryniau ac esgeiriau mewn mannau eraill ar Fynydd Hiraethog.
Un agwedd arbennig ac anarferol ar wasgariad yr henebion angladdol a defodol cynhanesyddol ar Fynydd Hiraethog oedd darganfod y dirwedd ddefodol a sefydlwyd o amgylch Afon Fechan ar flaen dyffryn Brenig am gyfnod o 500 i 600 mlynedd rhwng tua 2100 CC a 1500 CC, o gyfnod diweddaraf yr Oes Neolithig i gyfnod cynnar yr Oes Efydd. Ar gopa Tir Mostyn, y pwynt uchaf lleol ger blaen Afon Fechan mae henebyn cynharaf y grwp. Twmpath syml o’r cyfnod Neolithig hwyr ydyw. Mae’n arwyddocaol o bosibl nad oes unrhyw gladdu yn gysylltiedig â’r twmpath. Mae’n bosibl mai’r bwriad felly oedd nodi hawliad tiriogaethol y gymuned a’i cododd. Roedd pedwar o dwmpathau tyweirch mawr, tri o garneddi claddu bychain o gerrig, carnedd gylch, carnedd ymylfaen a charnedd llwyfan fawr ymhlith y cydrannau eraill a ddaeth yn rhan o’r grwp. Mae astudiaeth fanwl o’r grwp yn dangos ei fod yn grwp o henebion sydd yn ei hanfod yn wynebu ar i mewn o fewn tirwedd gysegredig, wedi ei neilltuo, a’u bod wedi eu llunio a’u hadeiladu gan un gymuned unigol. Mae cynnwys carnedd ymylfaen, carnedd gylch a charnedd llwyfan o fewn y grwp yn pwysleisio ymwneud y gymuned â seremoni yn hytrach nag â beddrodau i gyfran ddethol o’r meirw. Mae lleoliad nifer o henebion ar esgeiriau ac ysgafelloedd, sydd i’w gweld yn eglur oddi isod, gan awgrymu ei bod yn debygol bod y gymuned a oedd yn cynnal y dirwedd arbennig hon yn byw yn is i lawr y dyffryn, ymhellach i’r de. Mae presenoldeb dau gylch cerrig posibl sydd wedi eu distrywio, yn dyddio o’r Oes Efydd yn nyffryn Alwen, y naill o fewn ardal y gronfa ddwr a’r llall yn y goedwig, yn awgrymu elfennau o dirwedd ddefodol debyg yn yr ail ddyffryn afon o bwys, sy’n treiddio i galon ardal y rhostir.
Pwysleisir natur arbennig dyffryn Brenig yn y patrwm cyferbyniol o henebion cynhanesyddol a geir mewn mannau eraill ar Fynydd Hiraethog, ac mae’r rhain yn fwy nodweddiadol o’r rhanbarth yn gyffredinol, gan fod yr henebion claddu naill ai yn unigol neu’n llinellol ac i’w gweld mewn mannau amlwg ar gopaon bryniau ac esgeiriau. Mae nifer o’r henebion hyn, megis Boncyn Crwn sy’n tremio dros Ddyffryn Aled a’r henebion ar Orsedd Bran i’w gweld am filltiroedd. Ymddengys bod gan leoliad yr henebion hyn, er eu bod yn ddiamau wedi eu dewis am resymau ysbrydol, reswm ymarferol dros eu bodolaeth. Mae’n ymddangos bod eu gwasgariad cyffredinol, fel y nodwyd yn yr adran flaenorol ar ddefnydd tir, yn dangos maint yr ardaloedd pori y manteisiwyd arnynt yn ystod yr Oes Efydd, yn ogystal â dull o rannu’r dirwedd yn diriogaethau dan reolaeth nifer o wahanol gymunedau a oedd yn byw o amgylch y rhos, a hynny am y tro cyntaf, o bosibl. Mae’n bosibl bod y llyfnwr saethau carreg a ddarganfuwyd yn gysylltiedig â chladdfa o’r Oes Efydd mewn tomen ar Fwdwl-eithin, yn awgrymu bod y rhostir wedi ei ddefnyddio i hela helfilod yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r llyfnwr saethau yn eitem anarferol a ddarganfuwyd mewn lleoedd eraill weithiau, ynghyd ag eitemau eraill o offer saethyddiaeth cynhanesyddol.
Cadwraeth a Hamdden
Mae hanes diweddar Mynydd Hiraethog yn darparu gwersi pwysig ynghylch yr effaith y gall gwerthoedd a chanfyddiadau cyfnewidiol ei chael ar y dirwedd. Hyd at mor ddiweddar ag ail hanner y 19eg ganrif, roedd prif werth y mynydd wedi’i fesur yn nhermau ei werth economaidd yn unig, ar ôl cael ei ddisgrifio gan awdur o’r 16eg ganrif, er enghraifft, fel ‘y darn gwaethaf o holl dir Dinbych’ a chan awdur o’r 19eg ganrif fel ‘darn mawr o fynydd a rhostir diflas’. Roedd hygyrchedd gwael a diffyg elfennau deniadol yn y dirwedd wedi arwain at ei diystyru gan awduron topograffi cynnar. Un o’r ychydig olygfeydd naturiol a grybwyllwyd oedd y rhaeadrau ar Afon Aled, ychydig i’r gogledd o ardal y dirwedd hanesyddol. Yn Tour of Wales Thomas Pennant, a gyhoeddwyd yn y 1780au, oedd hyn. Yn eironig, efallai, adeiladu ffordd dyrpeg Pentrefoelas i Ddinbych ar ddechrau’r 19eg ganrif a wnaeth y dirwedd uwchdirol yn fwy hygyrch, a helpu meithrin canfyddiad mwy rhamantus o dirwedd. Tystir i hyn yn y disgrifiad sydd braidd yn ffansďol ac sy’n ymddangos yn Highways and Byways in North Wales Bradley, a gyhoeddwyd ym 1898.
‘Y llwyfandir porffor, anialwch mud Hiraethog, lle dawnsia’r tylwyth teg ger y llynnoedd unig, lle gwęl teithwyr diweddar olygfeydd annaearol, a lle’r uda chnudoedd o gwn gwyn â chlustiau cochion trwy’r niwl ar drywydd y ceirw rhithiol, a chreiriau’r oes gynhanesyddol wedi’u gwasgaru ymhob man.’
Wedi adeiladu’r prif ffordd arall dros y mynydd, sef y ffordd newydd trwy’r goedwig i’r gogledd o Gerrigydrudion, yn y 1970au o ganlyniad i adeiladu cronfa ddwr Llyn Brenig mae’r mynydd yn fwy hygyrch byth.
Ar ôl ei ecsbloetio’n economaidd am sawl cant neu fil o flynyddoedd, mae’r rhostir erbyn heddiw ar y cyfan wedi ei reoli mewn dull sydd hefyd yn ystyriol o gadwraeth y llystyfiant uwchdirol a’r cynefinoedd bywyd gwyllt, ac o’i werth fel adnodd addysg a hamdden, a’i ymdeimlad o ddiffeithwch ac anghyfanedd-dra. Y cadwyni mynyddoedd ar bob gorwel, gan gynnwys y Carneddau a Moel Siabod i’r gorllewin, Carnedd y Filiast a Chadair Berwyn i’r de, a Bryniau Clwyd i’r dwyrain, sy’n ysgogi’r gwerthoedd synhwyrol ac ysbrydol hyn.
Yn fwy diweddar, dechreuwyd gwerthfawrogi ei werth hanesyddol o safbwynt esblygiad y dirwedd. Roedd diddordeb archeolegol ym Mynydd Hiraethog wedi dechrau yn y 1850au pan ddaeth gwrthrychau o nifer o dwmpathau claddu a agorwyd gan chwarelwyr yn chwareli Nantglyn at sylw’r hynafiaethwyr am y tro cyntaf. Datblygodd diddordeb mwy ysgolheigaidd yn hanes a hynafiaethau’r rhostir yn ystod yr 20fed ganrif, gan ddechrau â’r Inventory a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1914, a pharhau â Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire gan Ellis Davies a gyhoeddwyd ym 1929, erthygl E Davies ar y testun ‘Hendre and hafod in Denbighshire’ a gyhoeddwyd yn y Denbighshire Historical Society Transactions ym 1977. Ymhlith y gweithiau pwysig cysyniadol mwy diweddar mae Excavations at the Brenig Valley Frances Lynch, A Mesolithic and Bronze Age Landscape in North Wales a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru ym 1993 a chynnwys Mynydd Hiraethog yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2001.
Mae’r dirwedd o ran coedwigaeth a chronfeydd dwr a grëwyd yn bennaf yn yr 20fed ganrif wedi arwain at amrywiaeth eang ac amrywiol o ddiddordebau hamdden. Er mai cynhyrchu coed yn fasnachol a rheoli dwr yw prif swyddogaethau’r tirweddau modern hyn, mae ymylon y cronfeydd dwr a’r planhigfeydd conifferaidd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol, mân gyfleusterau y mae’r Fenter Coedwigaeth a Dwr Cymru yn bennaf wedi eu darparu, gan gynnwys llwybrau ag arwyddbyst, mannau parcio, mannau picnic, canolfan ymwelwyr, amgueddfa, llwybr natur a llwybr archeolegol. Mae’r cronfeydd dwr mwy eu maint, yn enwedig Aled Isaf, Llyn Aled, Cronfa Ddwr Alwen a Llyn Brenig, hefyd yn cynnal amrywiaeth o chwaraeon dwr, gan gynnwys hwylio, sgďo, plymio tanddwr a physgota.