Llyn uwchdirol naturiol wedi ei ymestyn yn gronfa ddwr ar ddechrau’r 20fed ganrif yng nghanol ardal rostirol Mynydd Hiraethog.
Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal o fewn plwyfi degwm 19eg ganrif, Llansannan a Henllan. Disgrifir y llyn gyntaf gan Thomas Pennant yn y 1780au fel ‘llyn bychan y mae’r afon yn llifo ohono . . . ymysg y mynyddoedd du a rhostirol’.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Mae’r gronfa ddwr yn cwmpasu ardal tua 0.4km² ar uchder o tua 370m dros y Datwm Ordnans, ar dir uchel yn gyffredinol wedi ei amgáu ond yn agored i’r gogledd. Adeiladwyd yr argae carreg a phridd ar ben gogleddol y llyn sydd hefyd yn cynnal ffordd fach ar draws y rhos ym 1934, ynghyd â thwr falfdy isel â wyneb o garreg. Gorwedd y llyn ar falen Afon Aled sy’n bwydo system Afon Elwy. Mae dyddodion hynafol dan ddwr ar waelod y llyn yn arwyddocaol o bosibl i amgylchedd a hanes defnydd tir Mynydd Hiraethog. Defnyddir y llyn heddiw ar gyfer hwylio a physgota hamdden. Mae’r clwb cychod ar ochr ogleddol y llyn wedi disodli fferm Ty’n-y-llyn a welir ar fap degwm 1841. Bu’r ty cychod a’r polyn baner yma ers y 1870s.
Ffynonellau
- Cofnod o Safleoedd a Henebion
- Pennant 1783;
- Hollett 2000.
