Neidio i'r prif gynnwys

Bloc o uwchdiroedd nodedig yn Ne Cymru yw Mynydd Margam, ar ochrau de orllewinol Blaenau Morgannwg, Ile maent yn cyfarfod P’r Fro ac yn edrych dros ac yn goruchafu dros y gwastadedd arfordirol cul ger porthladd a thref ddiwydiannol fodern Port Talbot. Uwchben y gwastadedd arfordirol ychydig yn uwch na lefel y m6r, mae Ilethrau’r mynydd yn codi’n serth at gyfres o lethrau mwy graddol a llwyfandiroedd rhwng 200 a 300m uwchben SO, gyda chopaon lleol yn cyrraedd dros 300m uwchben SO, a’r mwyaf ohonynt yw Mynydd Margam ei hun, sydd 344m uwchben SO, ynghanol yr ardal. Rhannwyd a minfylchwyd y mynydd cyfan gan saw1 ceunant a chymoedd bychain coediog, bob un â nant fechan yn codi mewn corstiroedd mawn ger y copaon. I’r gogledd ddwyrain,ffin yr ardal yw cwm Llynfi, isafon Afon Ogwr, ac i’r gogledd orllewin y ffin yw cwm coediog bychan Cwm Dyffryn. Y ffin deheuol yw Cwm Cynffig ym mhen Afon Cynffig, tra bod y ffin gorllewinol yn dilyn y draffordd M4 fodern sydd fwy neu lai yn dilyn ymyl y gwastadedd arfordirol.

Back to main map 010 Mynydd Margam Forest 001 Margam Abbey and Castle 016 Ton Mawr 015 Upper Park and Ton-y-grugos 007 Graig Goch and Heol Newydd 014 Moel Ton Mawr 013 Upper Cwm Kenfig 011 Waun-y-Gilfach 012 Nant y Gadlys and Nant Bryncynan 005 Llangynwyd 005 Llangynwyd 006 Eglwys Nunydd and Cwrt-y-defaid 008 Margam Village 003 Cwm Brombil and Graig Fawr 002 Cefn Crugwyllt and Cwm Maelwg 004 Mynydd Brombil and Ergyd Isaf 017 Cwm Dyffryn: Southern Valley Sides 009 Cwm Dyffryn and Cwm Farteg Railway Corridor 017 Cwm Dyffryn: Southern Valley Sides 009 Cwm Dyffryn and Cwm Farteg Railway Corridor

Goruchafir y tirwedd hanesyddol a nodir yma gan lethrau serth deheuol Mynydd Margam, lleoliad strategol a oedd yn rheoli llwybrau cynnar i Orllewin Cymru,gan gynnwys y brif ffordd Rufeinig oedd yn cysylltu caerau Rhufeinig Caerdydd a Chastell-nedd. Mae llawer o’r ardal wedi ei choedwigo bellach, er yn archaeolegol mae wedi elwa ar yr astudiaethau tirwedd cynnar a gynhaliwyd yn y 1930au. Mae’r ardal yn dangos parhad, dwyster ac amrywiaeth preswyliad dynol. Roedd hyn yn wreiddiol wedi’i ganolbwyntio a’i wasgaru ar y mynydd ei hun, er yn ddiweddar, ac yn anghymesur, tyfodd yn gyflym gan ymwthio i mewn i gyfyngiadau cul y gwastadedd arfordirol, lle roedd y cyfyngiadau topograffegol naturiol a’r rhwystrau ffisegol rhwng Blaenau a Bro Morgannwg yn caniatau hynny.

Yn sefyll uwchben gwaelodlin coediog trwchus y cwm a’r isdir, ond eto yn hygyrch o’r tir uchel cyfagos, bu’r mynydd yn ganolbwynt gweithgaredd dynol ers Oes yr Efydd o leiaf, ac mae tystiolaeth o hyn i’w gweld yn nifer y carneddau a’r beddrodau – rhai sengl a rhai mewn grwpiau. Cynrychiolir Oes yr Haearn yn dda hefyd gan glwstwr anarferol o fryngaearau nodedig, amgaeadau, aneddiadau a’r traciau oedd yn eu cysylltu. Mae Mynydd y Castell, Caer Cwm Philip a’r Bwlwarcau yn ffurfio cadwyn o gadarnleoedd oedd yn amddiffyn y dramwyfa strategol bwysig ar draws lethrau deheuol y mynydd. Fodd bynnag, mae’r caerau yn ogystal wedi’u lleoli er mwyn manteisio ar y tir pori mynyddig i’r gogledd, ac, yn wir,gallailr ffurf gymhleth a’r amddiffynfeydd llawer is yn Y Bwlwarcau awgrymu mai prif swyddogaeth y safle oedd cadw da byw yn hytrach nac amddiffyn. Mae cwrs y brif ffordd Rufeinig yn dystiolaeth o’r cyfnod Rhufeinig a ddilynodd, a gofnodwyd yn Antonine Itinerary yr ail ganrif, yn ogystal â’r darganfyddiad o ddwy garreg filltir Rufeinig yn yr ardal. Heddiw, cedwir ei chwrs fwy na thebyg ar hyd llinell Water Street.

Cynrychiolir y cyfnod canoloesol cynnar yn dda gan yr ail-breswyliad a awgrymir o’r bryngaerau, a’r Garreg Bodvoc o’r 7fed ganrif wedi’i gosod ar feddrod o Oes yr Efydd ar y mynydd. I’r de orllewin, ym Margam ac Eglwys Nunnydd, mae cysylltiadau crefyddol cynnar pwysig.Yma mae clwstwr o safleoedd crefyddol a henebion Cerrig Cristnogol Cynnar Arysgrifedig, sy’n gysylltiedig â chanolbwynt mynachaidd Cymreig cynnar.Tystiwyd i hyn gan yr abaty Sistersiaidd gwych ym Margam, y ty mynachaidd cyfoethocaf yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1147, ar safle y tybir iddo fod ar neu’n agos at ei ragflaenydd, a hefyd safle eglwysig bwysig yn Eglwys Nunnydd, cysegriad a gysylltir â Santes Non fwy na thebyg, mam Dewi, Nawdd Sant Cymru. Mae casgliad pwysig o henebion Cerrig Cristnogol Cynnar Arysgrifedig, sy’n ymestyn o’r 6ed i’r 11eg ganrifoedd, a ddarganfuwyd o fewn neu’n agos at yr ardal a ddisgrifir yma, yn cael ei gadw yn Amgueddfa Gerrig Margam ger eglwys yr Abaty.

Dim ond rhan o eglwys yr Abaty a rhannau o adeiladau cyfagos sydd wedi goroesi o’r sefydliad hwn a fu unwaith yn wych – roedd yr ardal gyfan a ddisgrifir yma yn gorwedd o fewn maenol yr Abaty. Yn dilyn y Diddymiad, prynwyd llawer o eiddo’r Abaty gan Syr Rice Mansel ac arhosodd yn y teulu tan 1942. Seiliwyd ty ‘r teulu ar adeiladau domestig yr Abaty, a addaswyd ac ychwanegwyd atynt mewn amrywiaeth o ddulliau adeiladu dros y cenedlaethau. Dymchwelwyd y ty ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac adeiladwyd plasty newydd, Castell Margam, yn y 1830au.Yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, y prif atyniadau ym Margam fu’r orendy Sioraidd gwych a adeiladwyd ym 1787-90 i ddarparu cartref ar gyfer casgliad o goed sitrws hynafol enwog a’r gerddi hamdden o’i amgylch a ddatblygwyd yn bennaf yn y 19eg ganrif. Lleolir y ty a’r gerddi mewn parc mawr â waliau o’i gwmpas sy’n deillio o’r cyfnod Tuduraidd.Wedi cyfnod o’i esgeuluso, prynwyd Parc Margam ym 1974 gan Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg gynt, a ddechreuodd ar raglen gynhwysfawr o adnewyddu ac adfer.

Dangosir parhad arwyddocad milwrol yr ardal gan gastell canoloesol Llangynwyd yn nwyrain yr ardal, sef canolfan weinyddol Tir larll, arglwyddiaeth arglwyddi Morgannwg, a hefyd yn fwy diweddar, ar esgair ddeheuol Mynydd Margam, gan Safle Chain Home Low Radar a’r Graig Fawr, a adeiladwyd fel rhan o fesurau amddiffynnol yr Ail Ryfel Byd.Yn llenwi’r olygfa i’r de-orllewin ac ar hyn o bryd y tu allan i’r ardal a ddisgrifir yma, mae ardal Port Talbot a Gweithfeydd Dur enfawr Abaty Margam. Maent yn cynrychioli enghraifft o dirwedd newydd sydd yn gyferbyniad gweledol llwyr ac yn gwbl anghymesur â’r tinvedd cynharach gerllaw a ddisgrifir yma, a luniwyd yn fwy dirgel.

Character Areas

Post-medieval settlement/fields; varied field pattern and distinctive field boundaries; settlement pattern: dispersed and minor ribbon development; minor communications.

Cwm Dyffryn: Ochrau Deheuol y Cwm

Anheddiad/caeau o'r cyfnod ôl-ganoloesol; patrwm caeau amrywiol a ffiniau caeau pendant; patrwm anheddu: datblygiad gwasgaredig a mân ddatblygiad hirgul; mân gysylltiadau. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwm… Yn ôl i'r map
Enclosed agricultural landscape with possible medieval (or earlier origins); post-medieval settlement/fields; distinctive field boundaries; Ancient Woodland; footpaths and tracks.

Ton Mawr

Tirwedd amaethyddol caeedig gyda tharddiadau canoloesol posibl (neu gynharach); anheddiad/caeau ôl-ganoloesol; ffiniau caeau pendant; Coetir Hynafol; llwybrau troed a llwybrau. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Ton Mawr,…
Gweld mwy Ton Mawr
Yn ôl i'r map
Enclosed upland grazing: large regular enclosures; distinctive field boundaries; relict archaeology: prehistoric, medieval and post-medieval settlement/fields; prehistoric enclosures (upland agricultural landscape features); buried archaeology: parchmark.

Parc Uchaf a Thon-y-grugos

Tir pori ucheldirol caeedig: clostiroedd rheolaidd mawr; ffiniau caeau pendant; archeoleg greiriol: anheddiad/caeau o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol; clostiroedd o'r cyfnod cynhanesyddol (nodweddion tirwedd amaethyddol ucheldirol); archeoleg… Yn ôl i'r map
20th century forestry plantation on former open unenclosed mountain; similar to HLCA 010; relict archaeology: funerary and ritual; communication features; accumulation of blanket peat with environmental potential.

Moel Ton Mawr

Planhigfa o goed o'r 20fed ganrif ar fynydd agored gynt; yn debyg i HLCA 010; archeoleg greiriol: angladdol a defodol; nodweddion cysylltiadau; gorfawn yn casglu gydag effaith bosibl… Yn ôl i'r map
Multi-period and multi-functional upland landscape with important relict archaeology: prehistoric and medieval settlement/fields, prehistoric funerary and ritual landscape, prehistoric enclosures (upland agricultural landscape features); accumulation of blanket peat with environmental potential; important prehistoric and medieval communication corridor.

Cwm Cynffig Uchaf

Tirwedd ucheldirol amgyfnod ac amlswyddogaeth gydag archeoleg greiriol bwysig: anheddiad/caeau o'r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol, tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol, clostiroedd cynhanesyddol (nodweddion tirwedd amaethyddol ucheldirol); gorfawn yn… Yn ôl i'r map
Ancient and other broadleafed woodland; medieval/post-medieval agricultural settlement/fields; post-medieval vernacular buildings; industrial (milling) archaeology.

Nant y Gadlys a Nant Bryncynan

Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; anheddiad/caeau amaethyddol o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol; archeoleg diwydiannol (malu). Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Nant y gadlys… Yn ôl i'r map
20th century forestry plantation; former unenclosed 'Waun'; footpaths and tracks.

Waun-y-Gilfach

Planhigfa o goed o'r 20fed ganrif; 'Waun' agored gynt; llwybrau troed a llwybrau. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Waun-y-Gilfach yn ardal fach, ar wahân o bennau bryniau… Yn ôl i'r map
Extensive 20th century forestry plantation (Ancient and other broadleafed woodland); formerly open mountain and enclosed land; former monastic land: grange and chapel; relict multi-period archaeological landscape: prehistoric, medieval, and post-medieval settlement (loose dispersed settlement pattern) and fields, prehistoric funerary and ritual with a prehistoric defensive element; prehistoric, medieval and post-medieval communications corridor; accumulation of blanket peat with environmental potential; industrial archaeological features.

Coedwig Mynydd Margam

Planhigfa o goed helaeth o'r 20fed ganrif (Coetir hynafol a choetir llydanddail arall); mynydd agored a thir caeedig gynt; tir mynachaidd gynt: maenor a chapel; tirwedd archeolegol greiriol… Yn ôl i'r map
Industrial/public railway/tramroad corridor; industrial railside settlement (terraced housing and large cemetery); former agri-industrial function.

Coridor Rheilffordd Cwm Dyffryn a Chwm Farteg

Pentref ystad o'r cyfnod ôl-ganoloesol gydag ychwanegiad hirgul o'r 20fed ganrif; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol (17eg-19eg ganrif) a phreswylfeydd maestrefol o'r 20fed ganrif. Cefndir Hanesyddol Mae ardal… Yn ôl i'r map
Post-medieval estate village with 20th century ribbon addition; post-medieval (17th-19th century) vernacular buildings and 20th century suburban residences.

Pentref Margam

Pentref ystad o'r cyfnod ôl-ganoloesol gydag ychwanegiad hirgul o'r 20fed ganrif; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol (17eg-19eg ganrif) a phreswylfeydd maestrefol o'r 20fed ganrif. Cefndir Hanesyddol Mae ardal… Yn ôl i'r map
An agricultural landscape of small evolved/irregular fields; scatter of post-medieval farmsteads and cottages.

Graig Goch a Heol Newydd

Tirwedd amaethyddol o gaeau datblygedig/afreolaidd bach; gwasgariad o ffermydd a bythynnod o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Graig Goch a Heol Newydd yn ardal o… Yn ôl i'r map
Agricultural and residential area with important historic associations; important ecclesiastic landscape with early origins; post-medieval fieldscape; relict archaeological landscape of early medieval/medieval/post-medieval settlement; interesting post-medieval vernacular buildings; buried archaeological remains in the form of finds (including medieval inscribed stones) and parch/crop marks; important communication corridor (Roman and later)

Eglwys Nunydd a Chwrt-y-defaid

Ardal amaethyddol a phreswyl gyda chysylltiadau hanesyddol pwysig; tirwedd eglwysig bwysig gyda tharddiadau cynnar; caeau o'r cyfnod ôl-ganoloesol; tirwedd archeolegol greiriol o anheddiad o'r cyfnodau canoloesol cynnar/canoloesol/ôl-ganoloesol; adeiladau… Yn ôl i'r map
Important diverse multi-period relict archaeological landscape, including: pre-historic and medieval settlement with associated field systems; prehistoric enclosures (upland agricultural landscape features); medieval military/defensive feature; post-medieval vernacular buildings; important well-documented historic associations; small, but important nucleated settlement with medieval (or earlier) origins, centred on medieval church and cemetery; dispersed scatter of settlement throughout the surrounding area; Ancient woodland.

Llangynwyd

Ucheldir caeedig, clostir o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn bennaf; tirwedd anheddiad ucheldirol anghyfannedd o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol gyda nodweddion angladdol a defodol creiriol o'r cyfnod cynhanesyddol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal…
Gweld mwy Llangynwyd
Yn ôl i'r map

Mynydd Brombil ac Ergyd Isaf

Ucheldir caeedig, clostir o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn bennaf; tirwedd anheddiad ucheldirol anghyfannedd o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol gyda nodweddion angladdol a defodol creiriol o'r cyfnod cynhanesyddol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal… Yn ôl i'r map
Steep west-facing hillside and deeply entrenched side valleys; mixed area of Ancient and other woodland and medieval/post-medieval agricultural enclosure developed from earlier valley core; multi-period relict landscape.

Cwm Brombil a Graig Fawr

Llechwedd serth yn wynebu'r gorllewin a chymoedd culrych iawn; ardal gymysg o goetir hynafol a choed eraill a chlostir amaethyddol o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol cynnar a ddatblygwyd o graidd… Yn ôl i'r map
Enclosed agricultural landscape with historic monastic associations and relict medieval settlement features; Ancient and other woodland; post-medieval vernacular buildings.

Cefn Crugwyllt a Chwm Maelwg

Tirwedd amaethyddol gaeedig gyda chysylltiadau mynachaidd hanesyddol a nodweddion anheddiad canoloesol creiriol; coetir Hynafol a choed eraill; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol… Yn ôl i'r map
Significant early medieval/medieval ecclesiastic and monastic centre with church and cemetery; important early medieval ecclesiastic/secular settlement and administrative focus; important and influential post-medieval gentry estate and deer park; registered parkland and gardens; post-medieval vernacular and other notable buildings; important relict multi-period/multi-functional archaeological landscape; buried archaeology includes cropmarks and find scatters; Ancient and other broadleafed woodland and plantation; important historic associations. 

Abaty a Chastell Margam

Canolfan eglwysig a mynachaidd o bwys o'r cyfnod canoloesol cynnar/canoloesol gydag eglwys a mynwent; anheddiad eglwysig/seciwlar pwysig o'r cyfnod canoloesol cynnar a chanolbwynt gweinyddol; ystad fonedd a pharc… Yn ôl i'r map