Pencaer
Character Areas
Garn Fawr
Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Garn Fawr yn cynnwys darnau bryniog bach o rostir agored, creigiog. Nid oes unrhyw adeiladau cyfannedd. Lleolir bryngaer Garn Fawr sy’n dyddio o’r oes haearn yn y man uchaf, Garn Fechan ar gopa is a chaer Ysgubor Fawr ar lethrau is. Mae hen waliau sych yn dangos bod yr ardal wedi’i hamgáu ar un adeg.
Yn ôl i'r map
Garnwnda
Mae Garnwnda yn boced o rostir uchel, creigiog yng nghanol caeau a ffermydd. Ni cheir unrhyw adeiladau yn yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon. Mae maen hir yn dyddio o’r oes efydd a beddrod siambr neolithig yn nodweddion tirwedd hanesyddol pwysig.
Yn ôl i'r map
Wdig
Mae Wdig yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach ac mae’n cynnwys seilwaith porthladd a gorsaf reilffordd ynghyd â datblygiadau preswyl a adeiladwyd ar safle cyfyngedig. Ni ddatblygodd Wdig tan y 19eg ganrif, ac mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
Yn ôl i'r map
Llain Arfordirol Wdig i Aberbach
Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llain Arfordirol Wdig i Aberbach yn cynnwys clogwyni uchel a llain gul o ben clogwyn. Yr unig adeiladau yw goleudy Pen Strwmbwl a hen fwthyn y ceidwad, a strwythurau gwag a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn ôl i'r map
Llanwnda
Mae Llanwnda yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol o ffermydd a chaeau. Mae’r caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp ac fe’u rhennir gan gloddiau caregog a waliau sych. Mae’r ffermydd hefyd yn fach iawn ac wedi’u gwasgaru’n eang. Mae’r unig glystyrau o aneddiadau yn Llanwnda, Ciliau a Phontiago, ac mae’r rhain yn fach iawn.
Yn ôl i'r map
Pen Caer
Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Pen Caer yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau yn nannedd gwyntoedd mynychaf yr Iwerydd. Mae’n ddi-goed. Nodweddir yr ardal hon gan ffiniau caeau ar ffurf waliau sych a chloddiau caregog enfawr. Fe’i nodweddir hefyd gan y defnydd a wnaed o sgim sment dros doeau llechi’r tai a’r adeiladau amaethyddol.
Yn ôl i'r map