Skip to main content

Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

280 Eglwyswrw 276 Gochel Sythi 275 Cilgwyn 278 Carnedd Meibion-Owen 277 Trehaidd 279 Brynberian - Mirianog 274 Gellifawr 273 Tregynon 272 Banc Du 271 Mynydd-du 282 Hafod Tydfil 281 Mynydd Preseli 261 Llethr 258 Mynachlog-ddu 262 Pentre Galar 259 Gors Fawr - Waun Cleddau 263 Carn Wen 260 Foel Dyrch 264 Crugiau Dwy 259 Gors Fawr - Waun Cleddau 283 Waun Clyn Coch 284 Rosebush 270 Pant Maenog 269 Mynydd Bach 268 Maenclochog 267 Rhosfach 259 Gors Fawr - Waun Cleddau 266 Llangolman 265 Glandy Cross 259 Gors Fawr - Waun Cleddau

Character Areas

278 Carnedd Meibion-Owen

278 Carnedd Meibion-Owen Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys rhostir agored a thir wedi'i wella ar ei hochr dde-ddwyreiniol. Nid oes unrhyw dai cyfannedd. Yn ôl i'r map

279 Brynberian – Mirianog

279 Brynberian - Mirianog Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn gorwedd ar hyd cwr gogleddol Mynydd Preseli ac mae'n cynnwys caeau bach afreolaidd eu siâp, ffermydd a bythynnod gwasgaredig a lonydd troellog. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Mae'r cloddiau yn garegog ac arnynt ceir gwrychoedd. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir, ond ceir darnau o dir gwlyb, garw. Yn ôl i'r map

284 Rosebush

284 Rosebush Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn dirwedd ddiwydiannol a nodweddir gan lefelydd chwareli, tai gweithwyr ac elfennau o'r hen sailwaith megis rheilffordd nas defnyddir bellach.
Gweld mwy 284 Rosebush
Yn ôl i'r map

280 Eglwyswrw

280 Eglwyswrw Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ar draws tirwedd fryniog donnog i'r gogledd o Fynydd Preseli ac mae'n cynnwys tir pori bras wedi'i isrannu'n gaeau o faint canolig, anheddau gwasgaredig, adeiladau crefyddol a phentrefi bach. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol, ond mae defnyddiau modern wedi'u defnyddio hefyd. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Lleolir y ddau bentref Felindre Farchog ac Eglwyswrw ar hyd priffordd yr A487(T) sy'n croesi'r ardal hon. Yn ôl i'r map

283 Waun Clyn Coch

283 Waun Clyn Coch Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys caeau a ffermydd anghyfannedd sy'n gorwedd mewn pant cysgodol ar lethrau deheuol Mynydd Preseli. Ni sefydlwyd y ffermydd a'r caeau tan ar ôl 1840. Nid oes unrhyw wrychoedd erbyn hyn ar y cloddiau terfyn, ac mae i'r ardal gyfan olwg agored. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir gan mwyaf, a cheir darnau/pocedi o dir gwlyb, garw. Yn ôl i'r map

281 Mynydd Preseli

281 Mynydd Preseli Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys llain fawr o rostir agored. Er nad oes unrhyw anheddau cyfannedd yn yr ardal, mae llawer o safleoedd o weithgarwch dynol yn y gorffennol ac maent yn amrywio o henebion defodol ac angladdol cynhanesyddol, bryngaerydd - yn arbennig Y Foel Drygarn - i aneddiadau anghyfannedd yn dyddio o'r cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ôl i'r map

282 Hafod Tydfil

282 Hafod Tydfil Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys ynys fach o dir pori amgaeëdig ar Fynydd Preseli. Mae'r fferm wedi'i dymchwel ac mae'r gwrychoedd ar y cloddiau terfyn yn dechrau tyfu'n wyllt. Yn ôl i'r map

258 Mynachlog-ddu

258 Mynachlog-ddu Lleolir yr ardal gymeriad hon ar ochr dde-ddwyreiniol Mynydd Preseli ac mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi'u gosod mewn tirwedd o gaeau bach afreolaidd eu siâp. Canolbwynt yr ardal yw'r cydgasgliad llac o dai sy'n ffurfio pentrefan Mynachlog-ddu. Carreg yw'r prif ddefnydd adeiladu, er bod adeiladau o friciau, concrid a haearn rhychog yn bresennol hefyd. Rhennir y caeau gan gloddiau neu gloddiau o bridd a cherrig ac arnynt wrychoedd. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf a cheir pocedi o dir mwy garw. Yn ôl i'r map

259 Gors Fawr – Waun Cleddau

259 Gors Fawr - Waun Cleddau Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys tir agored o ansawdd gwael ar lawr dyffryn y rhan uchaf o Afon Cleddau Ddu a'i hisafonydd, wrth droed Mynydd Preseli. Mae bron y cyfan o'r ardal yn dir pori garw, ac mae'n cynnwys pantiau mawnaidd a chorslyd. Lleolir cylch cerrig Gors Fawr yn yr ardal hon. Yn ôl i'r map

260 Foel Dyrch

260 Foel Dyrch Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn un o fryniau anghysbell Mynydd Preseli. Tir agored ydyw a orchuddir yn gyfan gwbl â phorfa arw. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd, er bod ffermydd anghyfannedd yn un o nodweddion y dirwedd. Mae chwarel nas gweithir bellach yn elfen amlwg yn y dirwedd. Yn ôl i'r map

261 Llethr

261 Llethr Mae'r ardal gymeriad hanesyddol hon yn cynnwys caeau a ffermydd ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd Preseli. At ei gilydd mae'r tai allan wedi'u hadeiladu o gerrig ac maent yn dyddio o'r 19eg ganrif. Un o nodweddion y dirwedd yw'r defnydd a wneir o welydd o gerrig sych fel ffiniau caeau. Yn yr 20fed ganrif plannwyd coedwigoedd o goed coniffer ar draws caeau a ffermydd gwag ar y llethrau uchaf.
Gweld mwy 261 Llethr
Yn ôl i'r map

262 Pentre Galar

262 Pentre Galar Roedd yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn dir comin agored nes iddo gael ei amgáu trwy Ddeddf Seneddol ym 1812. Mae'r system o gaeau rheolaidd eu siâp, y ffermydd gwasgaredig a'r ffyrdd i gyd yn dyddio o'r cyfnod hwn. Carreg yw'r prif ddefnydd adeiladu. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Tir pori wedi'i wella a lleiniau o dir mwy garw yw'r defnydd a wneir o'r tir. Yn ôl i'r map

267 Rhosfach

267 Rhosfach Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ar lethrau deheuol Mynydd Presesli. Mae'n cynnwys caeau bach o dir pori a thir pori garw, a phocedi bach o dir comin. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Mae bythynnod unllawr a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yn nodweddiadol o'r ardal hon. Nid oes fawr ddim coed, ar wahân i'r rhai mewn gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt ar y cloddiau o bridd neu gerrig.
Gweld mwy 267 Rhosfach
Yn ôl i'r map

263 Carn Wen

263 Carn Wen Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys bryn bach agored o dir prysglog. Mae olion chwarel a adawyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif yn elfen amlwg yn y dirwedd. Nid oes unrhyw aneddiadau, coed na ffyrdd yn yr ardal hon.
Gweld mwy 263 Carn Wen
Yn ôl i'r map

264 Crugiau Dwy

264 Crugiau Dwy Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ar hyd crib esgair ar ochr dde-ddwyreiniol Mynydd Preseli. Fe'i rhennir yn gaeau mawr gan ffensys gwifrau, ond ar wahân i dir pori wedi'i wella yn y pen gogleddol, tir pori garw yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf. Nid oes unrhyw aneddiadau na ffyrdd, ac, ar wahân i blanhigfa fach o goed coniffer, tirwedd foel ydyw i bob pwrpas. Yn ôl i'r map

265 Glandy Cross

265 Glandy Cross Ffordd yr A478 yw canolbwynt yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Lleolir system o gaeau eithaf rheolaidd eu siâp a ffermydd a bythynnod gwasgaredig o bob tu i'r ffordd hon. Datblygodd tai hirgul ac adeiladau eraill yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn Glandy Cross ac Efailwen. Mae henebion defodol ac angladdol, gan gynnwys cylch cerrig Meini Gwyr, yn un o nodweddion yr ardal hon. Yn ôl i'r map

266 Llangolman

266 Llangolman Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys caeau afreolaidd eu siâp, ffermydd a bythynnod gwasgaredig, lonydd cul a choetir ar ochrau serth dyffrynnoedd. Ceir nifer o wahanol fathau o adeiladau yn amrywio o ffermdai mawr i fythynnod unllawr. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Rhennir y caeau gan gloddiau neu gloddiau o bridd a cherrig, ac arnynt ceir gwrychoedd. Tir pori yw'r tir amaeth gan mwyaf. Yn ôl i'r map

268 Maenclochog

268 Maenclochog Pentref Maenclochog yw canolbwynt yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Cynlluniwyd y pentref hwn ac mae'r tai, y ffermydd, y siopau, y tafarndai a'r capeli wedi'u gosod o amgylch lawnt bentref hirsgwar lle y saif yr eglwys. Mae'r mwyafrif o'r adeiladau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. O bob tu i'r pentref ceir caeau cul hir sy'n perthyn i system o lain-gaeau amgaeëdig. Tir pori yw'r tir amaeth gan mwyaf. Yn ôl i'r map

269 Mynydd Bach

269 Mynydd Bach Amgaewyd yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon trwy Ddeddf Seneddol ym 1815. Sefydlwyd system o gaeau rheolaidd eu siâp, anheddau a ffyrdd yn y flwyddyn honno ar dir a fuasai'n dir comin gynt. Ffermydd a bythynnod gwasgaredig o gerrig yw'r prif fathau o aneddiadau. Ar wahân i blanhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif, tir pori a lleiniau o dir garw yw'r prif ddefnydd a wneir o'r tir. Mae ffyrdd syth llydan yn nodweddiadol o'r ardal hon. Yn ôl i'r map

270 Pant Maenog

270 Pant Maenog Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn un blanhigfa fawr o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif. Sefydlwyd y blanhigfa hon yn rhannol dros gaeau a ffermydd a adawyd yn wag o ganlyniad i Ddeddf Seneddol a basiwyd ym 1815 ac yn rhannol dros dir agored Mynydd Preseli. Yn ôl i'r map

271 Mynydd-du

271 Mynydd-du Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon mewn dyffryn cysgodol ar lethrau de-orllewinol Mynydd Preseli. Mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi'u hamgylchynnu gan gaeau bach, a chaeau mwy o faint ar lethrau uwch. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Mae'r gwrychoedd ar y cloddiau a'r cloddiau o bridd a cherrig erbyn hyn wedi diflannu, ac mae i'r dirwedd olwg agored iawn, am nad oes fawr ddim coed. Tir pori wedi'i wella a lleiniau o dir gwlyb garw yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf. Yn ôl i'r map

272 Banc Du

272 Banc Du Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys tir pori wedi'i wella sy'n lled-amgaeëdig ar lethrau de-orllewinol Mynydd Preseli. Diflannodd y gwrychoedd ar y cloddiau terfyn amser maith yn ôl ac oherwydd nad oes unrhyw goed mae i'r dirwedd olwg agored. Nid oes unrhyw anheddau cyfannedd..
Gweld mwy 272 Banc Du
Yn ôl i'r map

273 Tregynon

273 Tregynon Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ar lethrau gogledd-orllewinol Mynydd Preseli ac fe'i nodweddir gan gaeau o faint bach i ganolig a ffermydd gwasgaredig. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Ar wahân i'r rhai sy'n rhedeg ar hyd lonydd a llwybrau, nid oes unrhyw wrychoedd ar y cloddiau. Tirwedd foel ydyw i bob pwrpas. Tir pori wedi'i wella yw'r tir amaeth yn bennaf.
Gweld mwy 273 Tregynon
Yn ôl i'r map

274 Gellifawr

274 Gellifawr Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesdyddol hon yn gorwedd ar draws dyffryn bas ar lethrau gogledd-orllewinol Mynydd Preseli. Mae'n cynnwys caeau bach afreolaidd eu siâp sydd â chloddiau a chloddiau o gerrig ac arnynt wrychoedd o bob tu iddynt, a ffermydd gwasgaredig. Mae yno ddwy fferm weddol fawr. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Cymysgedd o dir pori wedi'i wella, tir âr a thir pori garw yw'r tir amaeth. Yn ôl i'r map

275 Cilgwyn

275 Cilgwyn Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn gorwedd mewn pant tonnog ar ochr ogleddol Mynydd Preseli ac mae'n cynnwys caeau bach afreolaidd eu siâp, ffermydd bach, bythynnod, adeiladau crefyddol, lonydd troellog a choedwigoedd bach. Mae gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt ar gloddiau caregog yn rhoi golwg dra choediog i'r dirwedd. Carreg yw'r defnydd adeiladu traddodiadol. Tir pori wedi'i wella a rhywfaint o dir mwy garw yw'r tir amaeth.
Gweld mwy 275 Cilgwyn
Yn ôl i'r map

276 Gochel Sythi

276 Gochel Sythi Lleolir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ar ochr ddeheuol Mynydd Carn Ingli ac mae'n cynnwys caeau bach afreolaidd eu siâp a ffermydd anghyfannedd. Mae'n debyg bod y ffermydd a'r caeau yn dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif. Ar lefelau uwch mae'r caeau yn newid yn rhostir, ond mae tir pori gwell i'w weld ar lefelau is. Yn ôl i'r map

277 Trehaidd

277 Trehaidd Mae ardal gymeriad tirlun hanesyddol yn cynnwys caeau gyda siâp eithaf rheolaidd a ffermydd, bythynnod a thai gwasgaredig. Mae'r aneddiadau yn amrywio mewn arddull, deunydd adeiladu a'r dyddiad, ond yn gyffredinol maent yn perthyn i'r 19eg a'r 20fed ganrif. Nid yw'r gwrychoedd ar y cloddiau terfyn sydd wedi'u gwneud o bridd neu o bridd a cherrig mewn cyflwr da. Tir pori wedi'i wella yw'r prif ddefnydd a wneir o'r tir, a cheir rhywfaint o dir mwy garw ac ychydig o dir âr.
Gweld mwy 277 Trehaidd
Yn ôl i'r map