Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Yn ddaearyddol, mae Bro Caersws yn ardal naturiol drawiadol yng nghanol Canolbarth Cymru. Cyfyngir ar y go ly g fey dd allan o’r fro ym mhob cyfeiriad gan y bryniau a’r esgeiriau isel di-dor o’i hamgylch, sydd rhwng 300m a 400m uwchben SO. Mae llawr y fro, sy’n ymdd a n gos fel petai wedi’i amgáu ond sy’n llydan hefyd, yn wastad ar y cyfan, gan godi 20m yn unig mewn 5km, o 115m i 135m uwchben SO, o’r dwyrain i’r gor llewin. Mae’r ardal anhygoel naturiol hon, er yn fas, wedi gwneud y fro yn ardal o bwysigrwydd strategol a hanesyddol eithriadol yng Nghymru, tra bod cyflifiad Afonydd Carno a Thrannon gydag Afon Hafren hefyd wedi gwneud Caersws ynghanol y froyn ganolbwynt naturiol ar gy fer cysylltiadau. Roedd hyn fwyaf amlwg yn ystod y cyfnod Rhufeinig pan oedd rhwydwaith o ffyrdd yn tarddu o’r gaer Rufeinig yno, gan arwain ar hyd y cymoedd a thros y bryniau i’gogledd. Mae olion rhai ffyrdd yn weladwy o hyd mewn rhai lleoedd. Mae’r cyfuniad o dopograffeg naturiol a thystiolaeth o benderfyniad dyn i reoli tramwyfey dd a chysylltiadau felly wedi creu tirweddodd i ddodeb a chy wirdeb hanesyddol mawr.
Mae cyfres o amgaeadau bychain o Oes yr Haearn, sydd bellach i’w gweld ar y cyfan fel olion cnydau yn unig, yn awgrymu preswyliad cynhanesyddol yn yr ardal. Yn ddiweddar darganfuwyd amgaead hirgrwn mawr wedi’i amgylchynu â chlawdd a ffos toredig ychydig i’r gogledd o Gaersws, ac mae cloddiadau archaeolegol wedi darparu dyddiad Oes yr Haearn i’r llifwaddodion yn y ffos. I’r de orllewin o Gaersws, bryngaer amlgloddiog gymhleth Cefn Carnedd yw un o’r nifer o safleoedd a awgrymir ar gyfer brwydr olaf Caradog, er bod y cysylltiad ychydig yn wan. Fodd bynnag, mae’r holl olion hyn yn dystiolaeth glir o aneddiad, ac fwy na thebyg o ffermio dwys yn ystod Oes yr Haearn yn yr ardal.
Dechreuodd y dylanwad Rhufeinig gy da’r ymgy rchoedd cynnar yn erbyn yr Ordovici, y llwyth Oes yr Haearn a oedd yn p re swylio yng Ngo gledd Cymru. Sefyd lwyd caer i’r dwyrain o bentref presennol Caersws, ond erbyn tua AD 75, disodlwyd hon gan gaer new y dd wedi’i lleoli ger cyflifiad Afonydd Carno a Hafren. Yn ei hanterth, yn ystod yr 2ail ganrif, by dd a i’r gaer wedi bod yn strwythur trawiadol wedi’i hamddiffyn fel yr oedd gan ragfur tywodfaen coch a chy fres o hyd at dair ffos allanol. Y tum ewn i’r gaer,mae cloddio parhaus wedi datgelu cynlluniau’r prifgy f res o adeiladau cerrig ac olion y gwersyllty pren a’r stablau. O amgylch y gaer i’r de a’r dwyrain, sefydlwyd aneddiad sifilaidd sylweddol, a oedd yn cynnwys gweithdai, tafarn dai, a theml fechan yn ogystal ag adeiladau cartrefol. Mae’r baddondyadd a rganfuwyd ym 1854 bellach yn go r we dd o dan iard y rheilffordd.
Ni wyddys llawer am hanes canoloesol yr ardal hon. Ar ochr ddeheuol y fro mae dau gastell tomen a beili ym Mronfelin a Moat Farm, gyda thystiolaeth o mgaeadau cynharach o bosibl. Mae gan Gaersws ei hun gynllun stryd a fyddai’n cael ei gysylltu fel arfer ag aneddiad canoloesol, er nad oes unrhyw ystiolaeth archaeolegol i gefnogi hyn. Yn wir canolir y plwyf lleol ar Lanwnog a sefydlwyd mae’n debyg, yn ystod y 6ed ganrif gan Sant Gwynog, ac sy’n barhad i safle’r eglwys o’r telynegwr poblogaidd Cymraeg o’r 19eg ganrif, John Ceiriog Hughes, a fuar un pryd yn orsaf-feistr yn Llanidloes, ac yn ddiweddarach yn ruchwyliwr lein ar gangen Rheilffyrdd Cambria rhwng Caersws a’r Fan. Fe’i claddwyd yn Llanwnog.
Adeiladwyd y lein i’r Fan er mwyn cario’r mwyn o’r pyllau plwm pwysig yn Y Fan a Dylife, ac fel nifer o rannau gwreiddiol eraill Rheilffyrdd Cambria yn yr ardal, fe’i crewyd gan y diwydi – annwr a’r mentrwr, David Davies,a ddaeth yn Arglwydd Davies yn ddiweddarach, a oedd yn fwyaf enwog yn Ne Cymru am echdynnu glo o’r Rhondda a’i allforio ar hyd ei reilffordd ei hun a thrwy ei borthladd ei hun yn Y Barri. Mae ei dyˆ yn Llandinam, Broneirion, yn edrych dros y pentref ac yn Ganolfan Hyfforddi Geidiaid Cymru heddiw. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, adeiladodd y teulu Davies Plas Dinam, sydd bellach yn goruchafu dros y ffordd ogleddol i’r pentref, a grëwyd ran fwyaf mewn gwirionedd gan Davies. Mae Llandinam hefyd yn enwog fel un o’r plwyfi gwledig Cymreig cyntaf i dderbyn trydan, ym 1904. Mae gwreiddiau’r pentref, fodd bynnag, yn llawer cynharach gan fod yr eglwys yn ôl y sôn yn glas Celtaidd cynnar neu’n sefydliad mam eglwys.
Llunio Tirwedd Basn Caersws
Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.
Yr Amgylchedd Naturiol
Topograffeg
Mae Basn Caersws ar lawr rhan uchaf dyffryn Hafren rhwng y Drenewydd a Llandinam, ac ym mhentref Caersws mae ei ganolbwynt. Yno, ar uchder o rhwng tua 120 metr a 230 metr, mae’n ehangu i rhwng 1 cilomedr ac 1.5 cilomedr o led ger cymer Afon Hafren ag Afon Carno, Afon Trannon ac Afon Cerist. Mae dyffryn Afon Carno yn culhau i tua 200 metr o led ger Pontdolgoch tua’r gogledd, ac mae dyffryn Hafren yn culhau i tua 300 metr o led ger Llandinam, ac mae’n dechrau culhau ychydig mwy tua’r Drenewydd i’r dwyrain.
Mae’r bryniau’n codi, yn raddol i ddechrau, i’r de o’r afon hyd uchder o tua 220 metr, ac yna â llethrau mwy serth i fyny at y rhostir sy’n codi i tua 430 metr ar ffin de-ddwyrain ardal y dirwedd hanesyddol. I’r gorllewin, mae dau ysbardun bryniog ar ymylon y basn, gyda llethrau serth o boptu iddynt. Mae un o’r rhain rhwng Afon Hafren ac Afon Cerist, ac yn codi i uchder o tua 270 metr, ac mae’r ail rhwng Afon Cerist ac Afon Carno, ac yn codi i uchder o tua 290 metr. Yn gyffredinol, mae’r tir yn codi’n fwy graddol i’r gogledd hyd uchder o tua 250 metr, ond mae’n codi’n fwy serth yn union i’r gogledd o Lanwnog, lle mae’r bryniau’n cyrraedd uchder o 350 metr.
Daeareg a phriddoedd
Mae’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal gyfan yn cynnwys llechi a thywodfeini Silwraidd yn rhannau canolog a rhannau de-orllewin yr ardal, gyda sialau a grutiau i’r gogledd ar Alltwnnog ac i’r de-ddwyrain ar Allt y Gaer a Bryn Penstrowed.
Cafnau rhewlifol dwfn yw dyffrynnoedd Afon Hafren, Afon Carno ac Afon Trannon. Ar lawr y prif ddyffrynnoedd, ceir dyddodion trwchus o glai, dan haenau graeanog wedi’u dyddodi gan ddŵr tawdd rhewlifol, hyd at 68 metr o ddyfnder gyda’i gilydd. Mae yna waddodion llifwaddodol siltiog drostynt, wedi’u dyddodi gan afonydd, gyda pheth cerrig gro, o ganlyniad i ailweithio gro cynharach. Ffurfiwyd drymlinoedd sydd wedi goroesi fel cnyciau isel unigryw o Glai Clogfaen yn nyffryn Cerist, yn nyffryn y nant i’r gorllewin o Gefn Carnedd, a rhwng Caersws a Llanwnog, ac i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws i gyfeiriad Gwynfynydd.
Mae’r priddoedd mewn rhanbarthau cul ar hyd gorlifdir dyffryn Afon Hafren ac Afon Carno yn perthyn i gyfres Teme yr Arolwg Pridd. Priddoedd dwfn siltiog, athraidd a heb gerrig ydynt, gydag isbriddoedd graeanog mewn mannau. Maent yn gweddu orau i ffermio llaeth a magu da byw ar laswelltir parhaol a glaswelltir dros dro, gyda pheth tyfu cnydau grawn lle nad oes llawer o berygl o lifogydd. Mae dyffryn Cerist a’r ardal ar hyd Nant Manthrig i’r gogledd o Gaersws tua Llanwnog yn perthyn i gyfres Conway. Priddoedd mân siltiog a chleiog sy’n ddwfn a heb gerrig sydd yma, ac sy’n cael eu heffeithio gan ddŵr daear. Maent yn gweddu orau i laswelltir parhaol ar gyfer ffermio llaeth a magu da byw. Mae’r priddoedd ar y tir sy’n codi islaw’r bryniau i’r gogledd o Afon Cerist, rhannau o’r tir sy’n codi o amgylch Cefn Carnedd rhwng Afon Cerist ac Afon Hafren, y tir sy’n codi’n raddol yn nyffryn Carno i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o Lanwnog, a llethrau gorllewinol isel bryniau Bryn Penstrowed yn yr ardal rhwng Moat Farm a Neuadd Bronfelin, yn perthyn i gyfres Dinbych 1. Priddoedd mân lomog a siltiog wedi’u draenio’n dda yw’r rhain, dros greigiau. Maent yn gweddu i ffermio llaeth a thyfu cnydau grawn yn yr ardaloedd is, a magu da byw, coetir neu borfa arw ar diroedd uwch mwy serth. Mae’r priddoedd ar y tir sy’n codi’n raddol i’r gogledd-ddwyrain o Landinam yn perthyn i gyfres Brickfield 3 ac mae’r tir i’r gogledd o Gaersws ac i’r dwyrain o Lanwnog yn perthyn i’r gyfres Cegin. Mae’r cyntaf o’r rhain yn briddoedd mân cleiog a siltiog sy’n ddirlawn yn dymhorol, er mai priddoedd mân lomog wedi’u draenio’n dda sydd i’w cael mewn mannau; maent yn gweddu orau i fagu da byw a pheth ffermio llaeth ar laswelltir parhaol, a pheth tyfu cnydau grawn mewn mannau sychach. Priddoedd tebyg yw cyfres Cegin, sy’n gweddu orau i fagu da byw ar laswelltir parhaol, a ffermio llaeth ar dir is.
Afonydd a nentydd
Mae rhannau o loriau dyffrynnoedd y prif afonydd dan ddŵr am gyfnodau’n rheolaidd. Fodd bynnag, mae llifogydd dyffryn Hafren wedi’u lleihau ers adeiladu argae Clywedog yn y 1960au, a’r gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd ger Caersws, ar y cyd, mae’n debyg, ag adeiladu Rheilffordd y Cambrian ym 1863 a Rheilffordd y Fan ym 1871, ac yn ystod yr 20fed ganrif.
Mae ymyl gorlifdir a llawr dyffryn y rhan hon o Afon Hafren yn eithaf diddorol, ac mae’n ffurfio rhan o safle Adolygiad Cadwraeth Daearegol (ACD) Hafren Uchaf. Mae hanes manwl o esblygiad llawr y dyffryn a sianel yr afon wedi’i ddarganfod o astudiaethau o nodweddion geomorffolegol hynafol a mwy diweddar llawr dyffryn Hafren sydd wedi datblygu mewn ymateb i newidiadau naturiol, megis yr hinsawdd, yn ogystal â gweithgaredd dynol.
Dengys llawr y dyffryn gyfres o gerlannau afon, sianeli hynafol a bwâu llifwaddod o’r cyfnod Holosen a’r cyfnod Pleistosenaidd (cyfnodau hyd at tua 12,000 CC), sy’n dangos bod sianelau’r afon wedi bod wrthi’n mudo ac y bu gwaddodi llifwaddodol dros y 10,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae’n debygol bod y gerlan gynharaf yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Defensaidd Hwyr (tua 23,000 i 8,000 CC) fel casgliad o ddyddodion allolchi dŵr tawdd rhewlifol trwchus a graeanog, a gladdwyd gan ddyddodion diweddarach yn ardal y dirwedd hanesyddol. Mae yna awgrymiadau bod Afon Hafren wedi bod â chwrs mwy plethedig, o leiaf yn achlysurol. Mae’r rhan fwyaf o’r gorlifdir wedi bod yn gymharol sefydlog, a chydag un sianel afon, ers o leiaf 2,000 CC mae’n debyg, ac yn bendant ers tua 70 OC pan adeiladwyd y ffordd Rufeinig i’r dwyrain o Gaersws ar ei arwyneb, yn agos at sianel yr afon heddiw. Mae gwaddodiad ers hynny wedi arwain at gladdu’n rhannol y ffordd Rufeinig i’r dwyrain o Gaersws gan sawl centimetr o lifwaddod â graen main. Yn lleol, mae’r ffordd Rufeinig wedi cael effaith ar waddodiad yn y dyffryn; mae gan lawr llifwaddodol y dyffryn i’r gogledd o’r ffordd natur fwy cyfnewidiol o ran topograffeg na’r hyn sydd i’r de o’r ffordd. Mae astudiaethau wedi dangos bod sianel Afon Hafren yn parhau i gael ei hailweithio gan gasgliad o ystumiau sydd wedi bod yn weithredol ers y 3ydd ganrif OC i’r 6ed ganrif OC, ac sy’n gweithio’u hunain i lawr yr afon mewn ardal rhwng sawl metr i sawl can metr o led mewn mannau. Mae’r hen ystum afon i’r dwyrain o Gaersws yn dangos hyn yn glir. Mae’n amlwg ei bod wedi dinistrio rhan o’r ffordd Rufeinig i’r gogledd o’r afon sy’n arwain at y gaer Rufeinig.
Mae graddiant Afon Hafren yn y darn o’i gorlifdir sydd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn llai nag ydyw yn yr ardaloedd i fyny ac i lawr yr afon. Bu cyflenwad cynyddol o waddodion yn nyffryn Hafren yn y cyfnodau hanesyddol oherwydd nifer o resymau, yn cynnwys dirywiad yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â’r Oes Iâ Fach, rhwng tua 1590 a 1850 OC. Cafwyd hefyd ehangu ffermio âr a chau caeau yn helaeth yn y 19eg ganrif, a bu cyfnod dwys o fwyngloddio metel yn nalgylch pen uchaf Afon Hafren ar ddiwedd y 19eg ganrif. Arweiniodd hyn oll at gyfraddau cynyddol o waddodiad yng ngorlifdir yr afon.
Gwnaed newidiadau artiffisial i sianel afon Hafren i lawr yr afon o Landinam ym 1859, gydag adeiladu’r rheilffordd i Lanidloes. Cafodd sianel yr afon hefyd ei sythu gyda sianel wedi’i pheiriannu dros ddarn un cilomedr o hyd o’r afon, ger Neuadd Llandinam, yn ôl pob tebyg rhwng 1840 a 1886, er mwyn osgoi’r bygythiad i eiddo mae’n debyg. Ers hynny, fodd bynnag, mae’r afon wedi dychwelyd i fod â hynt ymdroellog. Cafodd llwybr rhan isaf Afon Cerist / Afon Trannon ei sythu rhwng dechrau’r 1830au a diwedd y 1840au, mewn ymgais i leddfu llifogydd mae’n debyg. Tua 1871, trowyd tua 5 milltir o Afon Cerist i sianel ddofn ffug, er mwyn galluogi adeiladu Rheilffordd y Fan, i’r gorllewin o Gaersws. Cynhaliwyd gwaith peiriannu sylweddol ar afon Trannon tua diwedd y 1970au.
Roedd tir mwyaf gwerthfawr y gorlifdir yn cael ei bori hyd at fin yr afon, a hyn gafodd y bai am golli coed ger glannau nentydd, a’r niwed a fu o ganlyniad i lannau afonydd yn nyffryn Hafren rhwng y Trallwng ac Amwythig.
Hanes amgylcheddol
Cafwyd peth tystiolaeth o hanes llystyfiant cynnar ar gyfer Basn Caersws wrth ddadansoddi dyddodion mawn ychydig i’r gorllewin o Gaersws ar orlifdir Afon Hafren, ger ei chymer ag Afon Cerist ac Afon Trannon. Mae’r dyddodion mawn yn cynrychioli cynnydd sydyn mewn ardal lle mae draeniad yn cael ei rwystro ger cymer Afon Hafren ag Afon Carno, yn y cyfnod Neolithig tua 3,500 CC, dros gyfnod o tua 300 mlynedd. Yn dilyn hyn, roedd yna gyfnod o tua 2,000 o flynyddoedd rhwng y mawn uchaf ac adeiladu’r ffordd Rufeinig i’r gorllewin o Gaersws. Mae’n bosibl bod y ffordd hon wedi gwasanaethu mwyngloddiau plwm yng nghyffiniau’r Fan a Dylife, neu ei bod ar y ffordd i’r gaer fechan yng Nghae Gaer ger Llangurig. Dengys gweddillion planhigion yn rhan Neolithig y dilyniant drawsnewid o gynefinoedd dirlawn agored i ffen gyda gwern. Mae mawn sy’n cronni’n cynnwys paill rhanbarthol o goetir derw cymysg, lle mae’n ymddangos mai derw, cyll, pisgwydd, pinwydd a pheth gwern oedd yno’n bennaf. Parhaodd ardaloedd mawr cymharol gaeedig o brysg a choed yng nghyffiniau’r safle. Yn ddiweddarach, sychodd y tir rhywfaint a bu cynnydd mewn cyll a phinwydd a gostyngiad mewn gwern. Fodd bynnag, awgryma ehangu diweddarach mewn gwern bod ffen gwern wedi’i greu, a bod coetir derw cymysg wedi parhau, ond nid oes arwydd pendant o ddylanwad dynol cynnar ar yr amgylchedd yn y cyfnod hwn, hyd yma.
Y Dirwedd Weinyddol
Y grŵp gwleidyddol cynharaf y gwyddys amdano yn yr ardal yw’r llwyth brodorol o’r enw yr Ordofigiaid a oedd yn byw yng nghanol Cymru ar adeg y goncwest Rufeinig yn y ganrif 1af OC.
Nid oes unrhyw dystiolaeth o sefydlu gweinyddiaeth sifil yn ystod cyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid rhwng canol i ddiwedd y ganrif 1af OC a dechrau’r 5ed ganrif, ac mae’n bosibl mai byddin y Rhufeiniaid oedd yn gweinyddu’r ardal gydol y cyfnod hwn.
Ymddengys ei bod yn bosibl bod yr ardal yn rhan o deyrnas fechan neu gantref Arwystli erbyn dechrau’r cyfnod canoloesol. Fe’i cofnodwyd gyntaf yn Llyfr Domesday 1086 (fel ‘cantref Arvester’) ac mae ei enw’n awgrymu ei fod yn deillio o enw personol.
Yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach, gorweddai teyrnas fechan Arwystli rhwng dwy deyrnas fwy pwerus, sef Gwynedd i’r gorllewin a Phowys i’r dwyrain. Bu’n destun anghydfodau treisgar rhwng y ddwy deyrnas. Digon aneglur yw ei hanes cynnar ond erbyn diwedd yr 11eg ganrif, Roger de Montgomery, sef iarll Normanaidd oedd y deiliad. Roedd wedi cyfeddiannu’r diriogaeth o’i ganolfan grym ymhellach i’r dwyrain ond fe’i dychwelwyd i ddwylo teyrnlin frodorol yn ystod hanner cyntaf y 12fed ganrif. Bu brenhinoedd Gwynedd a Phowys yn ymladd yn ffyrnig dros Arwystli am gyfnod o tua chanrif a hanner, a chofnodwyd llawer o ladd a dinistrio adeiladau yn y cyfnod hwn. Er mai rhostir yn unig oedd llawer o’r cantref, roedd yn cynnwys peth tir ffrwythlon prin mewn dyffrynnoedd, yn enwedig yn nyffryn Hafren a’i llednentydd. Roedd iddo hefyd rywfaint o arwyddocâd strategol o ran darparu coridor cysylltiadau rhwng canol Cymru a’r Gororau. Roedd llanw a thrai o ran teyrngarwch yn y cyfnod hwn rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Gwynedd, rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Powys, rhwng brenhinlin Powys a Choron Lloegr, a hyd yn oed rhwng teyrnasoedd cystadleuol Gwynedd a Phowys. Parhaodd hyn tan gyfnod o sefydlogrwydd cymharol yn dilyn concwest Edward I o Gymru yn y 1280au, pan ddychwelwyd yr ardal i Gruffudd ap Gwenwynwyn a oedd yn rheoli Powys ar y pryd.
Roedd ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o Arwystli Iscoed, sef cwmwd mwyaf dwyreiniol neu israniad weinyddol y cantref. Stiwardiaid oedd yn ei weinyddu o ddechrau’r 13eg ganrif yn ôl pob tebyg. Daeth Pen-prys, ym mhlwyf Llanwnog, sydd bellach yn fferm o’r enw Park tua 2 gilomedr i’r gorllewin o Gaersws, yn ganolfan faenorol Arwystli Iscoed erbyn diwedd y 1290au. Mae’r ddau safle â ffos yn ardal y dirwedd hanesyddol, sef The Moat a Rhos Ddiarbed, wedi’u lleoli ar y tir sy’n codi i’r de o’r dyffryn. Maent yn bell o’r canolfannau poblogaeth cynnar, ac mae’n debygol eu bod yn cynrychioli canolfannau gweinyddol cymharol fyrhoedlog a oedd yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd Roger de Montgomery ar ddiwedd y 12fed ganrif.
Ym mlynyddoedd diweddarach y canol oesoedd cynhaliwyd y llysoedd cwmwd, sef y pentreflysoedd ar gyfer Arwystli Iscoed, yn Llandinam a Chaersws bob yn ail, sef y ddwy brif ganolfan boblogaeth yn yr ardal. Roedd llawer o diroedd yn Llanwnog ym meddiant esgob Bangor ar ddechrau’r 14eg ganrif, ac roedd ei denantiaid yn dod dan awdurdodaeth y llys esgobol yn ôl pob tebyg.
Yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, cafodd Arwystli ei ailfeddiannu gan y teulu Cherlton, arglwyddi Powys, ym 1401, ynghyd ag arglwyddiaeth Cyfeiliog ac arglwyddiaeth Caereinion, oddi wrth Syr Edmund Mortimer a oedd yn arglwydd amlwg y Mers, ac a oedd wedi’u meddiannu cyn hynny. Yn ddiweddarach, daeth yr arglwyddiaeth i ddwylo’r teulu Dudley, trwy’r teulu Tiptoft, ac fe werthwyd yr arglwyddiaethau i’r Goron yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII.
Gyda Deddf Uno 1536, rhannwyd arglwyddiaeth Arwystli yn drefgorddau maenorol a oedd yn tarddu, yn ôl pob tebyg, o ddechrau’r cyfnod canoloesol a’r cyfnod canoloesol ac a fu’n arwyddocaol tan ganol y 19eg ganrif. O fewn ardal y dirwedd hanesyddol cafwyd trefgorddau Escob a Castle, Wig, Caersws a Surnant ym mhlwyf Llanwnog, Trewythen, Carnedd, Gwernerin, Maes-mawr a Llandinam ym mhlwyf Llandinam, Bodaioch ym mhlwyf Trefeglwys, a Phenstrowed ym mhlwyf Penstrowed.
Yn dilyn y Ddeddf Uno, gweinyddwyd yr ardal fel rhan o Gantref Arwystli, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gantref Llanidloes yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Fe’i rhannwyd yn ddwy ranbarth, sef uchaf ac isaf, a oedd yn cyfateb yn fras i gymydau canoloesol Arwystli Uwchcoed ac Arwystli Iscoed. Roedd Basn Caersws yn y rhanbarth isaf, a oedd yn cynnwys plwyfi Llandinam, Llanwnog a Phenstrowed a rhan o blwyf Carno.
Mae ardal y diwedd hanesyddol heddiw yn bennaf yng nghymunedau Caersws a Llandinam, ond mae’n cynnwys rhannau bychain o gymunedau Mochdre ac Aberhafesb. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, mae’r cymunedau hyn yn rhan o sir newydd Powys, a ddaeth yn awdurdod unedol ym 1996.
Ffiniau eglwysig
Mae’r plwyfi eglwysig yn y rhan fwyaf o’r ardal yn rhan o ddeoniaeth Arwystli yn esgobaeth Bangor, heblaw am ardal fechan o blwyf Aberhafesb sydd yn rhan o esgobaeth Llanelwy.
Gwyddys am ddwy eglwys sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol, yn Llandinam a Llanwnog. Llandinam yw’r unig un o’r ddwy a restrir fel eglwys (ecclesia) yn nhrethiad y Pab Nicholas tua 1291 OC. Roedd hefyd yn eglwys gyd-gyfranedig, ac roedd sawl gweinidog yn rhannu ei bywoliaeth. Awgryma hyn mai clas o’r cyfnod canoloesol cynnar ydoedd yn wreiddiol yn ôl pob tebyg, a’i bod yn ganolfan eglwysig o bwys yn y rhanbarth. Ynghyd ag eglwys Llangurig, roedd yn un o’r ddwy fam-eglwys yn Arwystli, gydag eglwys yn y naill gwmwd a’r llall.
Amlygir statws eglwys Llandinam ar ddiwedd y 13eg ganrif gan y cymeriad Cynyr ap Cadwgan, abad y clas yn Llandinam. Roedd yn awdurdod ar gasglu testunau cyfreithiol Cymraeg ac fe sefydlodd linach o wŷr dysgedig yn y gyfraith.
Anheddu a Defnydd Tir
Datblygiad hanesyddol
Mae’r dopograffeg wedi dylanwadu’n amlwg ar batrymau defnydd tir ac anheddu hanesyddol yn ardal y dirwedd hanesyddol. Mae’r ardal yn ymestyn o gnewyllyn o gymerau afonydd yng Nghaersws, gyda dyffrynnoedd Afon Hafren, Afon Carno ac Afon Cerist/Afon Trannon yn gwahanu blociau amlwg o dir uwch o amgylch ymyl y basn. Ym mhob cyfnod, mae’n ymddangos bod anheddu yn gyffredinol wedi osgoi’r tir uchaf a’r tir isel ar hyd y prif afonydd, lle mae yna berygl cyfnodol o lifogydd. Ardal gymharol dlawd oedd Arwystli, gydag ardaloedd sylweddol o rostir yn rhan orllewinol y cantref. Felly, yn hanesyddol, mae tiroedd isel mwy ffrwythlon Basn Caersws wedi tueddu i ffurfio canolbwynt rhanbarthol pwysig ar gyfer anheddu a defnydd tir dwys.
Cynhanes cynharach
Fel y nodwyd mewn adran ar hanes amgylcheddol uchod, mae astudiaeth o ddyddodiad mawn ar waelod dyffryn ychydig i’r gorllewin o Gaersws yn awgrymu bod yr amgylchedd lleol wedi’i nodweddu gan brysg a choetiroedd llydan-ddeiliog yn y cyfnod Neolithig, tua 3500 CC. Derw, cyll, pisgwydd, pinwydd a pheth gwern a welwyd yn bennaf. Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth eglur o effaith ddynol sylweddol ar yr amgylchedd lleol yn y cyfnod hwn. Er hynny, mae yna dystiolaeth eglur o glirio ac anheddu ymhellach i lawr yr afon eisoes erbyn y cyfnod hwn, yn enwedig yn yr ardal rhwng Aberriw a Four Crosses. Mae’n debygol bod cymunedau a grwpiau dynol wedi dechrau manteisio ar adnoddau naturiol Basn Caersws, o leiaf yn dymhorol, o ddiwedd y cyfnod Mesolithig o leiaf, rhwng tua 8,000 a 4,000 CC ymlaen, er nad oes unrhyw dystiolaeth bendant o hyn wedi’i darganfod hyd yma.
Mae clwstwr o hapddarganfyddiadau tuag ochr orllewinol yr ardal, ar dir isel yn rhannau isaf dyffryn Cerist, dyffryn Trannon a dyffryn Carno, yn darparu’r dystiolaeth gynharaf o weithgaredd dynol. Mae’r rhain yn cynnwys darn o grochenwaith o’r cyfnod Neolithig cynnar a ddarganfuwyd ger Blackhall Cottages i’r de o Lanwnog, a bwyeill cerrig o’r cyfnod Neolithig a ddarganfuwyd ger Perth-eiryn, a ger Park. Gwyddys am ben brysgyll tyllog yn dyddio o’r cyfnod Neolithig neu o ddechrau’r Oes Efydd hefyd o Bontdolgoch.
Mae clwstwr o tua 5 ffos gylch yn cadarnhau gweithgaredd cynhanesyddol cynnar tebygol yn yr ardal hon o’r cyfnod Neolithig neu o ddechrau’r Oes Efydd. Gwyddys amdanynt o awyrluniau olion cnydau mewn ardal fach i’r gorllewin o Afon Carno ac i’r gogledd o Afon Cerist, ger Maesgwastad a Thyddyncanol, ar dir sydd ychydig uwchben llawr y dyffryn. Mae dwy ffos gylch arall wedi’u nodi yn yr ardal hon, i’r dwyrain o Afon Carno, yn yr ardal rhwng Blackhall Cottages a Llanwnog. Mae’n bosibl bod y ffosydd cylch yn cynrychioli henebion claddu, neu dai crwn o bosibl mewn rhai achosion, o gymunedau a oedd wedi ymgartrefu’n barhaol yn yr ardal ar ddiwedd y 3ydd neu ddechrau’r 2il fileniwm CC. Mae twmpathau llosg, o bosibl o’r Oes Efydd, wedi’u nodi yn agos at lan Afon Carno ger Maesteg, rhwng y ddau grŵp o ffosydd cylch. Mae safleoedd tebyg eraill, o bosibl yn cynrychioli gwahanol gymunedau eraill, eto wedi’u nodi o’r awyr mewn lleoliadau topograffig tebyg mewn mannau eraill yn ardal y dirwedd hanesyddol ym Masn Caersws, yn cynnwys clwstwr o dair ffos gylch fylchgrwn bosibl i’r gogledd o Fferm Porth, i’r de o Afon Hafren, a ffos gylch bosibl i’r de o fferm Red House.
Cynhanes diweddarach
Mae’n debygol i strwythur llwythol barhau i ddatblygu yn ystod Canol yr Oes Efydd ac yn ddiweddarach yn y cyfnod. Erbyn Oes yr Haearn, ymddengys mai’r Ordofigiaid oedd y prif lwyth yn y rhanbarth yn Oes yr Haearn cynhanesyddol diweddarach. Fel y gymdeithas Geltaidd ddiweddarach, mae’n debygol eu bod â threfniadaeth hierarchaidd, lle byddai penaethiaid llwythol y llwythau llai yn talu gwrogaeth i arweinwyr mwy pwerus uwch.
Ymddengys yn debygol yr adeiladwyd y fryngaer amlwg yng Nghefn Carnedd, i’r gogledd-orllewin o Landinam, fel anheddiad caerog ar yr ysbardun ucheldirol rhwng Afon Hafren ac Afon Cerist ar rhyw gyfnod yn ystod Oes yr Haearn. Mae ganddi sawl clawdd a ffos, sy’n amgylchynu ardal o fwy na 3 hectar, ac mae’n bosibl ei bod yn cynrychioli canolbwynt un o’r llwythau llai y byddai gan ei arweinydd bŵer ac awdurdod dros Fasn Caersws. Roedd y safleoedd caerog agosaf y gellid eu cymharu yn y cyfnod hwn rhwng 7 a 10 milltir i ffwrdd i’r naill gyfeiriad neu’r llall ar hyd dyffryn Hafren. Nid yw’r safle wedi’i gloddio, ond awgryma dystiolaeth o safleoedd tebyg mewn rhannau eraill o’r rhanbarth y gallai fod rhywun wedi byw yno yn ysbeidiol neu fwy neu lai yn barhaus yn ystod y cyfnod rhwng diwedd yr Oes Efydd, tua 700 i 800 CC, hyd at y goncwest Rufeinig yn y ganrif 1af OC. Byddai’r anheddiad ar ffurf pentref caerog, wedi’i ffurfio o nifer o dai crwn ac adeiladau a strwythurau eraill.
Gwyddys am grŵp o aneddiadau amddiffynedig llai, ar ffurf crwn sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol diweddarach, ar y tir uwch ar ochr ogledd-orllewin y basn. Gorwedda lloc Wyle Cop ar ochr nant i’r gogledd o Lanwnog, a gorwedda lloc Gwynfynydd ar dir llethrog i’r gogledd o Gaersws. Mae’r ddau yn amgylchynu ardal o tua 0.3 hectar. Mae lloc mwy, nad yw wedi’i orffen o bosibl, ac sy’n amgylchynu ardal o hyd at tua 4 hectar wedi’i nodi ychydig i’r dwyrain o Nant Manthrig, i’r gogledd-ddwyrain o bentref Caersws. Dangosodd dyddio radio carbon fod hwn yn dyddio o gyfnod 550-150 CC mae’n debyg.
Ychydig a wyddys am economi neu natur defnydd tir yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod natur a lleoliad y fryngaer gynhanesyddol ddiweddarach a llociau amddiffynedig llai, a phrinder tystiolaeth o anheddu ar lawr y dyffryn, yn awgrymu economi bugeiliol gan fwyaf. Byddai hyn yn ddibynnol ar fanteisio ar dir pori iseldirol yn ystod misoedd y gaeaf a thir pori ucheldirol yn ystod yr haf, ynghyd â pheth tyfu cnydau âr.
Y Cyfnod Rhufeinig
Er gwaethaf gwrthsafiad rhai o lwythau brodorol Prydain, cafodd llawer o dde a dwyrain Prydain ei goncro’n sydyn wedi i luoedd Rhufeinig lanio yn ne-ddwyrain Prydain yn 43 OC. O fewn ychydig o flynyddoedd, roedd Rhufain wedi sefydlu ffin wedi’i phlismona’n gref ar gyfer talaith newydd a gwerthfawr Britannia ar hyd ffin dros dro o leiaf, a oedd yn cau allan y tir a elwir yn Cymru a’r Alban heddiw. Mae’n ymddangos mai Caradog (a elwir hefyd yn Caratacus, Caractacus), a drefnodd y gwrthsafiad cynnar i’r fyddin Rufeinig. Tywysog brodorol oedd Caradog, a oedd wedi ffoi i Gymru o’i lwyth, y Catuvellauni, yn ne-ddwyrain Prydain. Mae’n debyg i’r fyddin Rufeinig ymgyrchu gyntaf i chwilio am Caradog dan raglawiaeth Ostorius Scapula, tua 51 OC. Dywed yr hanesydd Rhufeinig Tacitus wrthym am frwydr olaf a gynhaliwyd ar diriogaeth yr Ordofigiaid, pan roedd Caradog wedi ymgynnull byddin frodorol ar fryn serth, yr oedd modd mynd iddo ar draws afon beryglus. Ni wyddys lle roedd yr union leoliad, ond mae rhai o’r farn mai bryngaer Cefn Carnedd, o Oes yr Haearn, i’r gogledd-orllewin o Landinam oedd safle’r frwydr o bosibl. Gorchfygwyd y lluoedd brodorol gan fyddin o hyd at 20,000 o ddynion o sawl lleng Rufeinig ac amryw o unedau cynorthwyol, er i Caradog ei hun ffoi, a methodd y fyddin sicrhau rheolaeth ar y diriogaeth. Ymgymerwyd ag ymgyrchoedd pellach yn ystod y 50au a’r 60au, hyd nes y trechwyd tiriogaeth yr Ordofigiaid o’r diwedd erbyn tua’r flwyddyn 78 OC, yn ystod rhaglawiaeth Julius Agricola.
Mae rhwydwaith o ffyrdd milwrol a cheyrydd Rhufeinig, yn cynnwys y ddwy gaer ddilynol ar gyfer milwyr cynorthwyol Rhufeinig yng Nghaersws, canolfan ymgyrchu cynnar yn Llwyn-y-brain, ar lannau Afon Hafren, ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r pentref, a chaer ddiweddarach, fwy parhaol, ychydig i’r gogledd-orllewin o graidd y pentref, yn cynrychioli concwest tiriogaeth yr Ordofigiaid a’r plismona a fu ohoni o ganlyniad.
Mae’n debyg bod unedau’r marchoglu yn byw yn y gaer fwy parhaol yng Nghaersws, a oedd yn cwmpasu ardal o tua 3 hectar. I ddechrau, roedd yn gorwedd ar y blaen i amddiffynfa lengol yn Wroxeter, a chaer ganolraddol yng Nghaer Ffordun, cyn i’r ganolfan lengol gael ei symud i Gaer yn yr 80au. Mae’n debyg mai Mediomanum oedd yr enw ar Gaersws, sy’n ymddangos yn y Ravenna Cosmography, sef llawysgrif o’r 7fed ganrif sy’n seiliedig ar ffynonellau cynharach. Mae teils wedi’u stampio y daethpwyd o hyd iddynt yng Nghaersws yn awgrymu bod uned filwrol a godwyd yn nhalaith Rufeinig Iberia wedi garsiynu’r gaer ar un adeg.
Methodd trefi, sef canolfannau arferol gweinyddiaeth sifilaidd ledled y byd Rhufeinig, â datblygu yn y rhanbarth, ac mae’n bosibl bod y fyddin Rufeinig wedi parhau i weinyddu materion cyfreithiol ac ariannol trwy gydol y cyfnod Rhufeinig, rhwng diwedd y ganrif 1af a dechrau’r 5ed ganrif OC.
Datblygwyd anheddiad sifilaidd, a elwid vicus, ar ochrau deheuol a dwyreiniol y gaer Rufeinig yn y pentref yng Nghaersws, ac roedd masnachwyr a chrefftwyr o rannau eraill yr ymerodraeth Rufeinig yn byw yno. Mae’n ymddangos bod yr anheddiad wedi cwmpasu ardal o hyd at tua 8 hectar. Mae’n bosibl ei fod wedi cynnwys hyd at sawl can adeilad, y rhan fwyaf o bren mae’n debyg. Byddai’r fyddin Rufeinig wedi caniatáu’r anheddiad, ac roedd wedi’i osod ar grid o strydoedd a lonydd a oedd wedi’i gynllunio’n ofalus, gan ymestyn bron hyd at orlifdir Afon Hafren i’r de, a thu hwnt i Nant Manthrig i’r dwyrain.
Mae’n amlwg bod yr anheddiad sifilaidd yn ganolfan fasnachol a diwydiannol ffyniannus oedd yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r garsiwn. Mae gwaith cloddio wedi dangos y sefydlwyd poptai a thafarn neu dŷ gamblo, a bod gefeiliau a gweithdai wedi’u sefydlu ar gyfer cynhyrchu arfau haearn a gemwaith efydd. Adeiladwyd odyn teils ar gyfer cynhyrchu teils llawr. Adeiladwyd baddondy, a oedd mae’n debyg yn defnyddio dŵr o Afon Carno, i’r de o’r gaer, ac mae’n ymddangos bod mynwent hefyd wedi’i sefydlu yn yr ardal hon. Cafodd amrywiaeth eang o nwyddau egsotig eu mewnforio o’r ymerodraeth drwyddi draw, yn cynnwys gwydr a llestri bwrdd cain, breuanau ar gyfer malu ŷd, gwin, pigmentau ac olew coginio, gan greu cilfach fechan o ddinasyddion Rhufeinig, a allai fod wedi parhau yn ddiwylliannol wahanol i’r boblogaeth frodorol yn y cefn gwlad o amgylch.
Mae awyrluniau wedi dangos clwstwr o lociau bach petryal a lled-betryal ffos unigol neu ffos ddwbl, hyd at tua 0.3 hectar o faint, lai nag 1 i 2 cilometr o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws. Mae rhai ohonynt yn gorwedd yn gymharol agos at linell y ffyrdd Rhufeinig i’r gogledd a’r gorllewin o’r gaer, ac efallai eu bod yn gysylltiedig â nhw. Gwyddys am enghreifftiau rhwng Henfryn a Gwynfynydd i’r gogledd o Gaersws, ger Maesgwastad i’r gorllewin, a ger Gelli-dywyll i’r de. Gwyddys am safleoedd llai ar lawr y dyffryn i’r de o Ddolhafren, ac ar dir sy’n codi rhywfaint i’r de o Neuadd Llandinam. Nid oes dyddiad ar y grŵp hwn o lociau, ac mae’n bosibl bod rhai yn gynharach neu’n hwyrach o lawer o ran dyddiad. Fodd bynnag, efallai eu bod yn cynrychioli rhan o batrwm mwy gwasgaredig o ffermydd Rhufeinig yn ardal Caersws.
Cafodd llawer o Fasn Caersws ei ffermio’n gymharol ddwys o bosibl yn ystod y cyfnod Rhufeinig, a byddai’r dolydd a’r tir âr mwy gwerthfawr ar y tir is eisoes wedi’u rhannu’n gaeau, gyda llethrau bryniau a oedd wedi’u gorchuddio ag olion coetiroedd hynafol yn eu hamgylchynu. Byddai’r tir uwch yn darparu porfa arw yn yr haf ar gyfer preiddiau o ddefaid a gwartheg.
Fodd bynnag, ymddengys mai cymharol fyrhoedlog oedd yr anheddiad sifilaidd yng Nghaersws, ac yn ôl pob golwg fe ddirywiodd yn sydyn ar ôl tua 120 OC, pan symudwyd y rhan fwyaf o garsiwn y gaer Rufeinig i helpu i ddiogelu ffin ogleddol y dalaith. Ymddengys bod y gaer yng Nghaersws wedi’i chynnal hyd o leiaf y 3ydd neu’r 4ydd ganrif, o bosibl fel canolfan weinyddol â garsiwn wedi’i leihau’n sylweddol.
Y cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol
Erbyn diwedd cyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid ar ddechrau’r 5ed ganrif OC, mae’n ymddangos yn debygol bod ardaloedd iseldir Basn Caersws o leiaf yn cael eu ffermio’n weddol ddwys, â rhwydwaith gymharol glos o gaeau a ffermydd iseldirol efallai. Byddai economi ffermio cymysg yn manteisio ar y tiroedd âr gwell uwchben gorlifdir y prif afonydd, dolydd haf a thir pori gaeaf ar hyd min yr afon, ac adnoddau coetir a thir pori haf. Roedd tir y dolydd yn arbennig o werthfawr, gan fod nifer yr anifeiliaid a allai gael eu gaeafu yn dibynnu arno..
Ychydig a wyddys hyd yma am y sefydliadau gwleidyddol, crefyddol neu farnwrol a ddaeth i fodolaeth yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar, rhwng y 5ed ganrif a dechrau’r 11eg ganrif OC yn nheyrnas Arwystli a’i chymydau perthynol. Fodd bynnag, erbyn y Canol Oesoedd, fe ddatblygodd aneddiadau cnewylledig, ac roedd hyn, ynghyd â chasglu teyrngedau a’r ffaith i gymunedau cyfagos rannu tir comin, yn awgrymu bod hierarchaeth o arglwyddiaethau brodorol, llai â’r gallu a’r awdurdod i drefnu’r dirwedd, wedi dod i’r amlwg. Mae’n bosibl eu bod yn seiliedig ar batrwm esblygol o blwyfi a threfgorddau y gwyddys amdanynt o gyfnodau diweddarach.
Mae’n debygol bod elfennau o’r dirwedd bresennol o aneddiadau a phatrymau caeau hefyd wedi’u sefydlu yn y cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol. Mae’n debyg bod rhannau o’r ardal, yn benodol ar y tir sy’n codi o amgylch ymylon Basn Caersws, wedi parhau i gael eu ffermio o ffermydd gwasgaredig a oedd yn tarddu o’r cyfnod Rhufeinig, a chyda theuluoedd o ffermwyr rhydd-ddaliadol neu denantiaid stadau mwy yn ddeiliaid arnynt. Er nad oes hyd yma unrhyw dystiolaeth glir o ffurf na gwasgariad ffermydd y cyfnod hwn, mae’n debygol bod ffermydd heddiw yn cynrychioli rhai ohonynt. Mae’n debyg bod llawer o’r ffermydd hyn yn gysylltiedig â phatrymau o gaeau afreolaidd mawr neu fach, sy’n cynrychioli tirwedd a esblygodd dros sawl canrif trwy glirio a chau coetiroedd a phrysg yn raddol a phob yn dipyn o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Heddiw, mae gwrychoedd hynafol, yn cynnwys sawl rhywogaeth wahanol o goed a llwyni, yn aml yn ffinio’r caeau hyn. Ar y tir sy’n codi’n fwy serth, cânt eu cysylltu weithiau â glasleiniau, sy’n nodi lle roedd aredig ar gyfer cynhyrchu grawn yn fwy cyffredin ar un adeg. Roedd y tiroedd comin a oedd yn parhau heb eu cau neu’r ‘tir diffaith’, yn eiddo ar y cyd i rydd-ddeiliaid, a gellid eu defnyddio fel tir pori ar gyfer da byw megis gwartheg, defaid a merlod ac, fel y gwelwyd mewn cyfnodau diweddarach, fel ffynhonnell cerrig adeiladu, tanwydd a gwasarn anifeiliaid.
Mae’r aneddiadau eglwysig cnewylledig bychan yn Llandinam i’r de a Llanwnog i’r gogledd o’r afon yn cynrychioli patrwm gwahanol o anheddu a defnydd tir sy’n tarddu o’r cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol. Mae’r ddau, i raddau amrywiol, yn gysylltiedig â phatrymau gweddol amlwg o batrymau caeau hir tebyg i leiniau. Mae’r rhain yn fwy amlwg yn achos Llanwnog. Yn gyffredinol, gwrychoedd oedd yn eu ffinio ac mae’n ymddangos fel pe baent wedi tarddu o gau caeau âr, agored gynt, a fyddai’n cael eu trin ar y cyd. Mae rhai ohonynt yn parhau i fod yn gysylltiedig ag olion sy’n goroesi o dirwedd cefnen a rhych llydan. Awgryma hyn y gallai’r aneddiadau cnewylledig fod wedi codi o esblygiad canolfannau maenorol a chanolfannau eglwysig cysylltiedig, y gallai tai a bythynnod fod naill ai wedi’u denu atynt, neu fod wedi’u creu’n fwriadol gan orfodi gwacau a chreu caeau agored.
Mae’n bosibl bod arwyddocâd i’r ffaith fod canolbwynt gweinyddol yr ardal wedi symud o Gaersws erbyn dechrau’r cyfnod canoloesol, pan ymddengys yn bosibl bod y ddau anheddiad eglwysig newydd yn Llandinam i’r de a Llanwnog i’r gogledd o’r afon wedi dod i fodolaeth. Efallai fod y rhain hyd yn oed wedi deillio o batrymau perchnogaeth oedd eisoes wedi dod i’r amlwg yn ystod diwedd y cyfnod Rhufeinig. Nodir ymhellach diflaniad y ganolfan weinyddol filwrol gynt yng Nghaersws gan ddatgymalu amddiffynfeydd yr hen gaer Rhufeinig yno. Tybir bod y blociau sgwâr o dywodfaen coch sy’n ffurfio rhan o’r deunydd hynaf sydd wedi goroesi yn eglwys Llanwnog yn cynrychioli’r broses hon.
Ymddengys fod y ddau gastell pridd yn ardal y dirwedd hanesyddol, mwnt a beili Bronfelin a Moat Farm ar y tir sy’n codi i’r de o Afon Hafren, yn gysylltiedig â chyfnod y goncwest Eingl-Normanaidd tua diwedd yr 11eg ganrif. Er mai arwyddocâd milwrol byrhoedlog a gawsant o bosibl, ymddengys eu bod wedi parhau, fel canolfannau maenorol o bosibl, hyd ddiwedd y cyfnod canoloesol. Roedd canolfannau maenorol bychain eraill wedi datblygu yn Park (Pen-prys) erbyn diwedd y 13eg ganrif, ac erbyn dechrau’r 14eg ganrif, roedd rhan o blwyf Llanwnog yn ffurfio maenor eglwysig a ddaliwyd gan esgob Bangor.
Mae yna awgrymiadau bod arglwyddi Arwystli neu Powys wedi ymdrechu, o bosibl yn ystod y 13eg ganrif neu’r 14eg ganrif, i sefydlu bwrdeistref â marchnadoedd wythnosol yng Nghaersws, rhwng y rhai a grëwyd ymhellach i fyny’r afon yn Llanidloes ac ymhellach i lawr yr afon yn y Drenewydd. Erbyn yr 16eg ganrif, fodd bynnag, pentrefan bach ydoedd yn unig, yn y drefgordd leiaf ym mhlwyf Llanwnog a oedd, yn syml, wedi methu â datblygu.
Gellir cael ychydig o wybodaeth am fywyd cymdeithasol ac economaidd Arwystli yn y Canol Oesoedd o’r ddogfennaeth brin sy’n ymwneud â nifer o’r daliadau mwy. Roedd yn amlwg bod y cantref yn gymharol dlawd, ac yn ardal o ffermio cymysg fel y rhan fwyaf o Gymru. Er hynny, roedd rhai ardaloedd yn addas fel porfa arw yn unig ym misoedd yr haf. Byddai tenantiaid esgob Bangor ar ddechrau’r 14eg ganrif yn Llanwnog yn talu rhent mewn arian parod. Roedd hyn wedi disodli rhoi ceirch wedi’u malu a gwasanaethau medi. Yn yr un modd, byddai tenantiaid arglwydd y faenor yn Park ar ddechrau’r 13eg ganrif yn talu rhent mewn arian parod, a oedd wedi disodli rhoi llaeth, dofednod, blawd a cheirch wedi’u malu, gwasanaethau medi a chwynnu a lluestu ar gyfer gwŷr hela a chŵn hela’r arglwydd. Roedd hyn yn dangos bod Park yn ganolfan parc hela yn y Canol Oesoedd. Caniatawyd i genfeiniau o foch, a oedd yn eiddo i ganonau Awstinaidd Abaty Haughmond yn Swydd Amwythig, bori yng nghoed Pen-prys. Mae’n debygol bod magu da byw yn elfen bwysig o economi’r ardal yn ystod y Canol Oesoedd. Fodd bynnag, er ei bod yn amlwg erbyn dechrau’r 16eg ganrif o’r degwm eglwysig a oedd yn ddyledus i reithoriaid cydgyfranedig Llandinam bod y cynnyrch yn cynnwys ŷd, ŵyn, pren a llaeth, nid oes yna sôn uniongyrchol am wartheg.
Mae’n debygol bod rhyfela rhwng dwy o deyrnasoedd Cymru, sef Gwynedd a Phowys yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, plâu’r 14eg ganrif a gwrthryfel Glyndŵr ar ddechrau’r 15fed ganrif, oll wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad anheddu a defnydd tir yn ardal y dirwedd hanesyddol, ac mae’n debygol bod hyn wedi arwain at newidiadau amlwg mewn patrymau defnydd tir a phatrymau deiliadol arferol.
Y cyfnod ôl-ganoloesol a’r cyfnod modern
Fel y nodir isod yn yr adran ar adeiladau, mae’n ymddangos bod adeiladu clwstwr o ffermdai iseldirol mawr, a chanolfannau stadau neu ganolfannau maenorol â statws uchel yn Neuadd Llandinam, Maes-mawr, Perth-eiryn, Park, Carneddau a Llwyn-y-brain, yn cynrychioli atgyfodiad yn yr economi wledig yn yr 16eg ganrif hyd ddechrau’r 17eg ganrif. Mae gwasgariad yr adeiladau hyn, yn enwedig yn y tiroedd isel ar hyd dyffryn Hafren, dyffryn Carno, dyffryn Cerist a dyffryn Trannon, yn awgrymu newidiadau eang o ran patrymau perchnogaeth. Roedd hyn yn ymwneud â chau tir yn barciau a chau tir mewn ardaloedd cymharol helaeth o ddolydd comin iseldirol ar gyfer magu da byw, ac yn gysylltiedig â ffermydd a wnaeth yn amlwg ddatblygu economïau amaethyddol arbenigol.
Mae taliadau tenantiaid y faenor yn Park ar ddechrau’r 13eg ganrif, sylwch uchod, yn ei gwneud yn eglur mai parc hela oedd hwn yn y Canol Oesoedd. Mae’n debygol mai dyma oedd un o’r rhesymau pam y daeth yn stablau ceffylau brenhinol erbyn diwedd yr 16eg ganrif, yn ystod teyrnasiad Elizabeth I. Rhoddwyd pob demên, tiroedd a dôl yn ‘Park Penprise’ i ieirll Penfro ym 1562. Mae’n debygol ei fod yn arwyddocaol bod William, iarll Penfro a Robert, iarll Caerlŷr, sef stiward ac arglwydd Arwystli yn eu tro, ill dau wedi bod yn Feistr Ceffylau’r Frenhines hefyd yn y cyfnod hwn. Bu Powys yn ganolfan nodedig o ran bridio ceffylau ers y Canol Oesoedd, gyda Gerallt Gymro yn tybio y gellid olrhain y ceffylau o waed pur ar ddiwedd y 12fed ganrif yn ôl i geffylau Sbaen, a fewnforiwyd gan iarll Amwythig ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif.
Mae’n debygol mai anghydfodau ynghylch cau dolydd comin yr iseldir ym Masn Caersws oedd sail cwynion, yn ystod teyrnasiad Edward VI o bosibl, bod ‘parkes of Caersouse [Caersws]’ wedi eu ‘given awaie … from the burgesses to keep the king’s breeding mares’ yn Park. Mae arwyddion hefyd bod clirio a chau coetiroedd wedi parhau o amgylch ymyl y basn yn y cyfnod hwn. Tua’r adeg hon, ar ddiwedd yr 16eg ganrif, dywedwyd bod ‘Park Penprise’ yn rhan o ‘the forest of Fryth called Frith Penryse’. Mae’r term ffridd yn awgrymu tir wedi’i gau ar ymyl yr ucheldiroedd, ac mae’n debygol ei fod yn gysylltiedig â’r tir sy’n codi i’r gogledd o Park, sef ymyl gogledd-orllewin y basn, yn ardal hen goedwig Pen-prys, lle roedd canoniaid Haughmond yn dal hawliau mesobr i’w moch. Ceir cyfeiriad penodol at lechfeddiannau ar dir diffaith Arwystli, uwchdiroedd a oedd gynt heb eu cau, a thir comin yr iseldir o bosibl, mewn arolwg o arglwyddiaeth Arwystli a baratowyd ar ran iarll Caerlŷr ym 1574.
Yn ystod diwedd yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, parhaodd llawer o’r canolfannau stadau a’r ffermydd mwy a grëwyd yn ystod y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif i ddod i amlygrwydd trwy brynu a chyfuno daliadau, a thrwy gydbriodasau. O ganlyniad, erbyn diwedd yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif, llond dwrn yn unig o deuluoedd yr uchelwyr oedd yn berchen ar gyfran anghymesur o’r tir amaethyddol gorau ym Masn Caersws. Ymysg y teuluoedd amlwg erbyn y cyfnod hwn roedd y teulu Pierce o Lwyn-y-brain, y teulu Price o Park, y teulu Davies o Neuadd Maes-mawr, y teulu Glyn o Fferm Maes-mawr, y teulu Jones o Drewythen, a’r teulu Read o Landinam.
Byddai amrywiaeth o newidiadau radical i batrymau anheddu a defnydd tir yn dilyn yn sgil y newidiadau mewn arferion amaethyddol a thrafnidiaeth ffyrdd a wnaeth ysgubo’r wlad ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Etifeddodd Syr Watkin Williams Wynn o Wynnstay hawliau maenorol Arwystli. Roedd yn dirfeddiannwr amlwg o ogledd Cymru a oedd yn frwd dros wella’i diroedd. Cafodd y teitl answyddogol ‘Tywysog Cymru’, ac roedd yn hybu cau tir comin a thir diffaith y cantref, y dywedwyd eu bod ‘o ychydig werth yn eu cyflwr presennol’. Byddai cau tir yn caniatáu buddsoddi mewn clirio, ffensio a draenio, a fyddai’n gwella cynhyrchiant y tir, yn caniatáu tyfu cnydau porthiant i helpu â gaeafu stoc, ac yn chwarae rôl bwysig mewn rhaglenni rheoli bridio. Caewyd tir Arwystli o ganlyniad i Ddeddf Seneddol a basiwyd ym 1816, ac a daeth i rym yn llawn yn y 1820au.
Fe effeithiodd y ddeddf cau tir ar ardal o bron i 6 cilomedr sgwâr, sef ychydig yn llai nag 20 y cant o gyfanswm arwynebedd ardal y dirwedd hanesyddol. Tir pori garw oedd y rhan fwyaf o’r tir oedd wedi’i gau, ac roedd rhydd-ddeiliaid wedi’i ddefnyddio ar gyfer eu defaid a’u gwartheg. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oedd eu ffiniau wedi’u mapio na’u diffinio o’r blaen. Dan dermau’r ddeddf cau tir, roeddent bellach wedi’u rhannu rhwng arglwydd y faenor a’r tirfeddianwyr a oedd â hawliau pori. Roedd yn cynnwys rhan o’r tir uwch i’r gorllewin o Bontdolgoch, ardal o dir sy’n codi ger Gwynfynydd i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws, y sbardun o dir uwch yn amgylchynu Cefn Carnedd i’r gogledd-orllewin o Landinam, ardal sylweddol o’r tir uwch rhwng Moel Iart a Bryn Penstrowed ar hyd ymyl deheuol Basn Caersws, ond roedd hefyd yn cynnwys ardaloedd sylweddol o ddolydd iseldirol ym mhentref Caersws ac o’i amgylch, rhan isaf Afon Carno ger ei chymer ag Afon Hafren a rhan isaf Nant Manthrig, ychydig i’r gogledd o Gaersws. Crëwyd tirwedd caeau neilltuol o ganlyniad i’r symudiad cau tir, a nodweddir gan gaeau bach, mawr a mawr iawn ag iddynt ochrau syth, neu lociau rhostirol, y mae gwrychoedd un rhywogaeth neu ffensys pyst-a -gwifrau yn eu diffinio’n aml. Roedd rhai ardaloedd cymharol fach o ffriddoedd (ardaloedd o dir pori garw) yn Llandinam, rhan o Foel Iart, yn parhau yn dir comin agored. Arweiniodd y dosbarthu a fu o’r dirwedd at well rheolaeth ar dda byw, a dirywiad ym mhwysigrwydd ffaldau anifeiliaid o’r math a fu unwaith yn Pound, gerllaw ardal o dir nad oedd wedi’i gau gynt, ar y ffordd sy’n rhedeg i’r gogledd o Gaersws.
Sefydlwyd planhigfeydd coetiroedd yn ystod y 19eg ganrif mewn rhai ardaloedd a gafodd eu cau o ganlyniad i ddeddf cau tir Arwystli, yn enwedig ar y bryniau i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o Landinam. Cafodd ardaloedd eraill o goetir eu plannu yn yr 20fed ganrif fel coetir conwydd Alltwnnog, a blannwyd ym 1954, er enghraifft.
Gwnaeth deddf cau tir Arwystli ddarpariaeth ar gyfer talu iawndal i lechfeddiannau bythynnod. Daeth yr holl lechfeddiannau a wnaed mwy nag 20 mlynedd ynghynt ac na thalwyd rhent na dirwyon ar eu cyfer, yn eiddo i’r deiliaid, ond nid oedd ganddynt hawl i unrhyw gyfran o’r tir comin. Yn achos llechfeddiannau a wnaed llai nag 20 mlynedd ynghynt neu y talwyd rhent amdanynt, byddent yn cael eu hystyried yn eiddo i’r sawl a fyddai’n derbyn y rhent. Fodd bynnag, roedd y bythynnod neu’r llechfeddiannau ‘anghyfreithlon’ hyn yn gymwys ar gyfer iawndal os oedd eu preswylwyr yn dlawd. Ymddengys bod clystyrau o fythynnod yn ardal Little London, ar y bryniau i’r gogledd-ddwyrain o Landinam, ac ym mhentref Caersws ac o’i amgylch, yn cynrychioli llechfeddiannau 20 oed a hŷn, yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif neu’n gynharach, ac a gyfreithlonwyd gan ddeddf cau tir 1816. Fe ddaeth rhai o’r bythynnod hyn yn anghynaladwy, a bellach mae yna nifer o safleoedd tai wedi’u gadael (ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif mae’n debyg) mewn rhai ardaloedd ffiniol, fel ger Little London a Bryn Belan, er enghraifft.
Mae gwelliannau i’r tir er mwyn cynyddu cynhyrchiant amaethyddol yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif wedi gadael eu hôl mewn rhai ardaloedd ffiniol ucheldirol ac iseldirol. Roedd cynlluniau draenio a oedd yn ymwneud â ffosydd draenio a draeniau ceramig wedi’u claddu yn cael eu cynnal o ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen mae’n debyg. Roedd hyn yn cynnwys systemau helaeth ar dir a oedd yn ddirlawn yn dymhorol o amgylch Llwyn-y-brain i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws, ar dir ger Nant Manthrig i’r gogledd o Gaersws, ac yn rhan isaf dyffryn Cerist a dyffryn Trannon i’r gorllewin o Gaersws. Mae’n debygol i dirwedd cefnen a rhych cul gael ei chreu hefyd i wella draenio mewn rhai ardaloedd, fel er enghraifft ger Fferm Gwynfynydd i’r gogledd o Gaersws. Mae carneddi carega’n darparu tystiolaeth weledol o glirio tir a gwella tir pori ucheldirol mewn rhai ardaloedd, fel ar Foel Iart, er enghraifft.
Parhaodd pentref Llanwnog, pentref Llandinam a phentrefan Caersws i ddatblygu ac ehangu bob yn dipyn, gan yn raddol gronni swyddogaethau lled-drefol. Sefydlwyd ysgol yn Llandinam yn ystod cyfnod y Frenhines Elisabeth dan nawddogaeth tirfeddianwyr lleol, ac yn ddiweddarach yn Llanwnog a Chaersws. Daeth llysoedd maenorol, sef y pentreflysoedd lle y daethpwyd i gytundeb ar anghydfodau lleol amrywiol, i gael eu cynnal ddwy waith y flwyddyn yn Llandinam a Chaersws bob yn ail. Adeiladwyd tafarndai yn y ddwy ganolfan hyn ac yn Llanwnog o ganlyniad i welliannau i rwydwaith y ffyrdd ac adeiladu pontydd newydd neu rai gwell o ganlyniad i’r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.
Mae’n bosibl i’r pentrefan ym Mhontdolgoch ddechrau datblygu yn y Canol Oesoedd, yng nghyffiniau melin flawd a bwerwyd gan ddŵr, a oedd yn harneisio pŵer Afon Carno. Rhwng yr 17eg ganrif a diwedd y 19eg ganrif, fe ehangodd yn raddol, i gynnwys melin lifio, melin flawd a melin wlân, gyda tai melin a bythynnod gweithwyr cysylltiedig. Cafodd dyfodiad y rheilffyrdd ar ddechrau’r 1860au ychydig o effaith ar ddatblygiad Pontdolgoch a Llandinam, er mai ar Gaersws y bu’r effaith fwyaf nodedig, ger cyffordd llinell y Cambrian a llinell Canolbarth Cymru, ac o ddechrau’r 1870au, cyffordd Rheilffordd y Fan a oedd yn gwasanaethu’r mwyngloddiau plwm a barytes i’r gogledd o Lanidloes. Ychwanegodd dirywiad y diwydiant gwlân ar ddechrau’r 19eg ganrif at y broblem tlodi gwledig, ac roedd yn ffactor a gyfrannodd at adeiladu Tloty Undeb Deddf y Tlodion Caersws a’r Drenewydd ar gyrion dwyreiniol Caersws yn y 1830au. Ar ei anterth, roedd yn gartref i 258 o dlodion, llawer ohonynt o’r diwydiant gwlân.
Mae ffermydd gwasgaredig o feintiau amrywiol yn nodweddu’r dirwedd wledig fodern. Y prif ddefnydd tir ledled yr ardal bellach yw glaswelltir parhaol ar y tir gwell a phorfa arw ar dir y bryniau. Cynhelir peth ffermio llaeth o hyd ar y tir is, gan aeafu gwartheg dan do yn ystod misoedd y gaeaf. Cynhyrchir gwartheg yn bennaf ar gyfer lloi i’r farchnad stôr, gan aeafu’r mwyafrif o wartheg mewn buarthau a staliau rhyddion. Ym misoedd yr haf yn unig y defnyddir porfeydd rhostirol, yn bennaf ar gyfer cynhyrchu defaid. Bydd pesgi ac wyna’n digwydd yn bennaf ar diroedd is yn ystod misoedd y gaeaf. Ychydig o gnydau âr a dyfir bellach, os o gwbl. Ar un adeg, roedd ffermio moch ar raddfa fechan yn bwysicach, yn ôl y cutiau moch sydd wedi goroesi o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, mewn nifer o ffermydd a thyddynnod, ond mae hyn yn anghyffredin bellach. Gwerthwyd llawer o ffermydd a oedd yn wreiddiol yn rhan o stadau mwy yn ystod y 1920au i denantiaid cyfredol a barhaodd â mentrau teuluol, er bod llawer o ffermydd bellach yn cael eu rhedeg gan un ffermwr. Arweiniodd y dwysáu mewn ffermio ar ddiwedd yr 20fed ganrif at gyfuno ffermydd, y rhai llai yn arbennig, i greu unedau mwy dichonadwy. Mae’r helfeydd ffesantod ar y stadau a’r pysgota brithyll yn ardal Llandinam yn ychwanegu at yr incwm gwledig.
Adeiladau yn y dirwedd: cymeriad aneddiadau
Mae i’r tri anheddiad cnewylledig yn Llanwnog, Caersws a Llandinam gymeriad gwahanol iawn. Yr eglwys ganoloesol yw canolbwynt Llanwnog, ac mae’n cynnwys o leiaf un adeilad sy’n dyddio o’r 17eg ganrif. Mae cyfres o ffermydd yn amlwg yn y pentref, ac mae’r adeiladau fferm sydd wedi’u cadw yn cyfrannu llawer at ei gymeriad. Er ei wreiddiau Rhufeinig, mae gan Gaersws gymeriad pentref ar ochr y ffordd a ddatblygodd ger croesfan afon bwysig, cyffordd a hen gyffordd rheilffordd. Er bod yna o leiaf un adeilad cynhenid traddodiadol yn y pentref, mae ei gymeriad yn llawer mwy trefol a diwydiannol na gwledig, mewn sawl agwedd, er ar raddfa fechan iawn. Felly mae datblygiad yn cynnwys cyfres o resi tai, ac un ohonynt â thri llawr, yn dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau’r 19eg, ac sy’n atgof o’r rhesi sy’n gysylltiedig â’r diwydiant gwlân ym Mhenygloddfa, y Drenewydd. Mae llawer o’r gweddill yn amlwg yn ddiweddarach na’r rheilffordd, ac mae yna nifer o unedau bach diwydiant ysgafn. Mae’n ymddangos bod rhan hynaf Llandinam yn tarddu o gyfnod cynnar, gyda nifer o adeiladau’n goroesi o’r 17eg ganrif, ac mae yna sawl adeilad bach brodorol wedi’u clystyru mewn patrwm anffurfiol sy’n atgof o sgwatio. Mae Stad Dinam wedi ychwanegu gorchudd o ddatblygiad wedi’i gynllunio at yr anheddiad anffurfiol hwn, ac mae canolbwynt adeiladu diweddarach wedi symud at y briffordd.
Traddodiadau adeiladu
Mae’r adeiladau sydd wedi goroesi ym Masn Caersws yn cyfrannu’n sylweddol at gymeriad a chydlyniad ardal y dirwedd hanesyddol, lle gellir adnabod nifer o themâu pensaernïol arwyddocaol. Mae’r ardal yn nodedig am ei chronoleg hir o adeiladu, gyda deunydd canoloesol wedi goroesi yn yr eglwysi yn Llandinam a Llanwnog, a chyda nifer o dai yn dyddio o’r 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif o leiaf, rhai ohonynt yn awgrymu cyfnod cymharol lewyrchus ar yr adeg hon. Fodd bynnag, mae’n ddiddorol bod rhai adeiladau cymharol fach wedi goroesi o’r 17eg ganrif. Mae yna rai adeiladau da o’r 18fed ganrif, ond mae’n amlwg y bu cyfnod o weithgarwch adeiladu yn ystod y 19eg ganrif, yn gysylltiedig â gwella’r rhwydwaith o ffyrdd tyrpeg, datblygu nifer o’r stadau mawr a dyfodiad y rheilffyrdd. Er bod tyddynnod o’r cyfnod hwn yn parhau’n gadarn yn y traddodiad brodorol, daw llawer o’r ffermdai ac adeiladau eraill o draddodiadau pensaernïol gwâr. Mae adeiladu’r 20fed ganrif yn cynnwys mudiad tyddynnod y cyngor sir, adeiladu parhaus ar stad Plas Dinam, a pheth adeiladu tai cyngor. Mae datblygu preifat sylweddol hefyd wedi bod yng nghefn gwlad, yn enwedig yn y bloc o dir i’r gogledd-ddwyrain o Lanwnog yn yr 20fed ganrif.
Deunyddiau adeiladu
Mae’r ardal gyfan yn hynod o amrywiol o ran ei defnydd o ddeunyddiau adeiladu. Defnyddiwyd fframiau pren yn yr adeiladau cynharaf, ond ymddengys fod hyn wedi parhau yn hirach yn achos y rhai o statws is. Awgryma’r ffaith fod nifer o adeiladau nenfforch wedi goroesi yn yr ardal fodolaeth traddodiad cynharach. Gwnaeth y ffermdy yn Llwyn-y-brain, i’r dwyrain o Gaersws, a Phorth-gwibedyn, ar ochr ddeheuol y dyffryn i’r de-ddwyrain o Gaersws, ddechrau fel tai neuadd â nenfforch yn y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae bwthyn ym Mhontdolgoch yn cynnwys cyplau ffrâm bocs a chyplau nenfforch.
Gwyddys am ysguboriau nenfforch sydd efallai yn dyddio o’r 16eg ganrif ym Mherthddu, ychydig y tu hwnt i ffiniau de-orllewinol ardal y dirwedd hanesyddol. Collwyd adeilad o’r math hwn, sef ysgubor nenfforch â waliau â fframiau pren yn Nhre-gastell, tuag Aberhafesp yn gymharol ddiweddar, pan gafodd ei ddymchwel yn yr 1980au. Yn ddiamau, mae llawer o adeiladau eraill a oedd yn perthyn i’r traddodiad hwn wedi diflannu o’r ardal heb gofnod.
Mae nifer o dai bonedd arunig yr iseldir wedi goroesi yn yr ardal, megis Neuadd Llandinam a Neuadd Maes-mawr, ychydig uwchben gorlifdir Afon Hafren a Pherth-eiryn ger Llanwnog, sy’n dangos y defnydd amlwg o bren yn parhau yn yr 16eg ganrif a thrwy gydol yr 17eg ganrif ar gyfer fframio bocs â physt cynhaliol yn agos at ei gilydd. Mae hyn yn arwydd penodol o statws uchel. Daeth Neuadd Llandinam i feddiant John Read, uchel siryf o’r teulu Herbert o Lanffynhonwen yng nghanol yr 17eg ganrif. Cartref Griffith Lloyd, uchel siryf yn y 1570au oedd Maes-mawr (sydd bellach yn westy). Bu’n gartref eto i uchel siryfion yn y 1660au, yn ystod y Rhyfel Cartref. Strwythurau â fframiau pren oedd nifer o dai a ffermdai amlwg eraill hefyd i ddechrau, ac mae’n debyg bod ganddynt oll doi gwellt yn wreiddiol. Adeiladwyd tŷ a oedd yn eiddo i’r teulu Herbert yn Park, Pen-prys gynt, ger cymer Afon Carno ac Afon Trannon mewn modd tebyg, â phren â physt cynhaliol yn agos at ei gilydd, tua diwedd yr 17eg ganrif. Roedd Carnedd, rhwng Afon Cerist ac Afon Hafren, eto â ffrâm bren yn wreiddiol. Ychwanegwyd asgell groes ffrâm bren at y neuadd gynharach â nenfforch yn ffermdy Llwyn-y-brain yn y cyfnod hwn.
Mae’n debygol i dechneg adeiladu â fframiau pren barhau i gael ei defnyddio’n gyffredin ar gyfer adeiladau llai yn yr 17eg ganrif ac wedi hynny. Mae’n debygol bod Little House, i’r gogledd-orllewin o Landinam, sy’n dyddio o 1692, yn enghraifft brin sydd wedi goroesi o adeilad bach gwledig unllawr â ffrâm bren, a oedd ar un adeg yn fwy cyffredin o lawer yn yr ardal. Mae yna sawl bwthyn, yn cynnwys ym mhentref Llandinam er enghraifft, ac ar ochr y ffordd i’r de o’r pentref, sydd â’r coed hirfain sy’n nodweddiadol o draddodiadau fframio pren diweddarach mor ddiweddar â’r 18fed ganrif neu hyd yn oed ddechrau’r 19eg ganrif. Gwelir estyll tywydd ar bron iawn yr holl adeiladau amaethyddol â fframiau pren, tra bod adeiladau domestig yn nodweddiadol yn ‘ddu a gwyn’, â phaneli wedi’u plastro yn mewnlenwi fframiau bocs.
Dechreuwyd defnyddio carreg yn gynnar ar gyfer adeiladu’r eglwysi canoloesol yn Llanwnog a Llandinam, lle mae yna ychydig o ddeunydd carreg canoloesol wedi goroesi o’r 13eg ganrif i’r 15fed ganrif. Yn achos Llanwnog o leiaf, ystyrir ei fod yn cynnwys peth tywodfaen cochlyd o amddiffynfeydd y gaer Rufeinig ym mhentref Caersws. Defnyddiwyd carreg yn helaeth ar gyfer adeiladau domestig, adeiladau amaethyddol ac adeiladau bach diwydiannol, o ddechrau’r 17eg ganrif ymlaen mae’n debyg. Mae yna amrywiadau amlwg yn y ffordd y’i defnyddiwyd, yn amrywio o rwbel garw i flociau sgwâr a phatrymog. Mae’n debygol bod nifer o chwareli bach sydd wedi’u gwasgaru ledled yr ardal yn ffynonellau cynnar o garreg ar gyfer adeiladu. Fodd bynnag, o ddechrau’r 19eg ganrif, ac yn gynharach mae’n debyg, roedd y chwarel gerrig fasnachol oedd eisoes ym Mhenstrowed, ychydig y tu hwnt i ffin de-ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol, yn cynhyrchu. Mae’r amrywiadau hyn yn adlewyrchu statws cymdeithasol a threfniadaeth gwaith adeiladu, cymaint â chronolegau adeiladu.
Defnyddiwyd brics mewn nifer o dai o statws uwch yn y 18fed ganrif, a daethant i gael eu defnyddio’n fwy helaeth yn ystod y 19eg ganrif, wrth iddynt barhau’n aml i gael eu dewis fel y deunydd ar gyfer adeiladau o statws cymharol uchel. Hyd at tua hanner cyntaf y 19eg ganrif, ymddengys y cynhyrchid brics yn lleol, gan ddefnyddio dyddodion rhewlifol o glai brics da, sydd i’w gweld mewn band sy’n rhedeg o ddyffryn Cerist a dyffryn Trannon, i’r gogledd o Afon Hafren, i’r ardal i’r gogledd ac i’r gogledd-orllewin o Gaersws. Gwyddys am odynau teils Rhufeinig ym mhentref Caersws ei hun. Mae yna dŷ sy’n dyddio o’r 18fed ganrif ym mhentref Llandinam, sy’n defnyddio brics er mwyn addurno, mewn modd sy’n awgrymu hyder sylweddol yn y deunydd, ac mae’n arwydd o’i statws. Mae ffrynt o frics sy’n dyddio o’r 18fed ganrif gan Perth-eiryn, tŷ ffrâm bren statws uchel o’r 17eg ganrif ym Mhontdolgoch. Adeiladwyd hen Dloty Undeb Deddf y Tlodion Caersws a’r Drenewydd yng Nghaersws (Ysbyty Llys Maldwyn yn ddiweddarach, ac mae wedi’i drosi’n llety preswyl yn ddiweddar), rhwng 1837-40. Roedd hyn yn rhannol mewn brics a gynhyrchwyd mewn gweithfeydd brics a sefydlwyd yn y caeau ychydig i’r gogledd-ddwyrain, ac yn rhannol mewn cerrig o chwarel Penstrowed. Ymddengys bod brics lleol wedi’u gwneud â llaw wedi’u defnyddio hefyd ar gyfer adeiladu casgliadau o adeiladau fferm yn yr ardal, fel yng Ngharnedd a Threwythen-fawr.
Tua diwedd y 19eg ganrif, daeth defnyddio brics lliw i fod yn ffasiynol, ochr yn ochr â’r coch mwy traddodiadol. Roedd y defnydd hwn o sawl lliw o bosibl yn awgrymu cynhyrchu lleol, er yr ystyrir weithiau mai nodwedd o’r cyfnod ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd oedd hyn, pan ddaeth cludiant yn haws. Ystyrir bod defnyddio brics lliw yn gysylltiedig â nawddogaeth stad yn aml hefyd, megis Church House Farm, sef y fferm fwyaf yn Llanwnog, sydd â nifer o nodweddion yn cynnwys simneiau ar ongl groeslinol sy’n awgrymu cymeriad stad. Roedd nifer o weithfeydd brics masnachol wedi’u sefydlu yn y gymdogaeth erbyn ail hanner y 19eg ganrif, yn cynnwys gweithfeydd brics Parry a Jones, ychydig i’r gogledd o Afon Hafren yn y Drenewydd. Mae amryw o adeiladau yng Nghaersws a Llanwnog yn dangos amrywiaeth arbennig o dda o liwiau a mathau o frics ar gyfer tai ac adeiladau eraill, yn cynnwys defnyddio brics melyn ar gyfer sied peiriannau Rheilffordd y Fan a adeiladwyd ym 1871.
Deunydd arall sy’n fwy amlwg yn ddiwydiannol yw haearn rhychog. Dechreuwyd ei ddefnyddio’n helaeth o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif ar gyfer siediau a chytiau fferm, megis y rhai sy’n gysylltiedig â melin Tŷ Coch ym Mhontdolgoch, ac yn enwedig ysguboriau gwair. Mae hefyd i’w weld weithiau fel cladin ar gyfer talcennau bregus tai.
Er bod yna, yn gyffredinol, ddilyniant o ddeunyddiau adeiladu o bren i garreg i frics, mae cysylltiad agos hefyd rhwng y deunyddiau a ddefnyddir a statws cymdeithasol, a defnyddiwyd pren ar gyfer adeiladau llai ymhell wedi i garreg neu frics gael eu defnyddio ar gyfer tai o statws uwch. Gwelir yn glir y dilyniant o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd yn yr adeiladau a ailadeiladwyd neu a ailadeiladwyd yn rhannol gyda deunydd ‘newydd’, ond gellid defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau hefyd, ac mae yna enghreifftiau o adeiladau sy’n defnyddio fframiau pren rhwng talcennau o garreg: gellir gweld y rhain fel camau yn natblygiad technegau adeiladu, ond mae’n bosibl bod defnyddio deunydd ‘newydd’ hefyd yn nodi statws. Gwelid llechi Gogledd Cymru fel deunydd ar gyfer toi ar bron bob adeilad, o’r 19eg ganrif.
Mathau o adeiladau a hanes cymdeithasol ac economaidd
Mae nifer o dai heb dir yng Nghaersws a Llandinam, ond y tu hwnt i’r aneddiadau hyn, mae gan y mwyafrif o adeiladau gysylltiad amlwg ag amaeth, boed hynny fel ffermydd neu fel tyddynnod. Mae yna amrywiadau clir ym meintiau ffermydd, yn cynnwys sawl fferm fawr i’r gorllewin o Afon Hafren, ond ceir cyfres hefyd o dyddynnod llai o lawer yn yr ardal hon ac mewn ardaloedd eraill, yn cynnwys rhai â fawr ddim o adeiladau allan amaethyddol. Mae yna rai bythynnod ffermydd wedi’u gwasgaru ledled yr ardal o hyd, a nifer ohonynt yn dyddio o’r 17eg ganrif.
Gellir gwahaniaethu o bosibl rhwng ffermydd ucheldirol llai (yn nodweddiadol ag adeiladau wedi’u hadeiladu mewn rhes), a’r ffermydd iseldirol mwy, lle mae’r adeiladau ar wahân. Yn aml, mae rhai o’r tyddynnod llai yn edrych fel llechfeddiannau, ond mae llawer o’r ffermydd mwy yn edrych fel ffermydd stad, oherwydd cymeriad pensaernïol y ffermdai a ffurf a gosodiad yr adeiladau fferm eu hunain. Maent yn cynnwys nifer o enghreifftiau o adeiladau o’r 19eg ganrif sydd wedi’u cynllunio’n dda ac wedi’u hadeiladu o frics, er enghraifft yng Ngharneddau a Threwythen-fawr, fel y crybwyllwyd uchod. Yn gyffredinol, mae’n ymddangos mai lletya stoc oedd eu diben, ac maent weithiau yn ychwanegiad at adeiladau fferm â fframiau pren ag estyll tywydd cynharach o lawer, a oedd hefyd, mae’n debyg, yn gysylltiedig â stoc. Mae’n ymddangos bod y casgliadau hyn o adeiladau’n cynrychioli effaith gwelliannau fferm a roddwyd ar waith gan nifer o’r stadau mwy yn ystod y 19eg ganrif, megis y teulu Read a’r teulu Crewe-Read o Neuadd Llandinam a Phlas Dinam a’r teulu Williams Wynn o Wynnstay.
Mae’n ymddangos bod ysguboriau haearn rhychog yn nodwedd o ffermydd stad yn benodol, ac maent yn cynrychioli cyfnod pellach o fuddsoddi tua diwedd y 19eg ganrif ac i mewn i’r 20fed ganrif, gan bwysleisio pwysigrwydd parhaus magu stoc yn yr economi amaethyddol. Mae yna hefyd gyfres bwysig o dyddynnod cyngor sir cynnar yn yr ardal, yn cynnwys, er enghraifft, Maesteg, Lôn Wig, Caersws.
Cymeriad pensaernïol
Roedd nifer o’r ffermydd a’r tai mwy yn yr ardal, megis Neuadd Llandinam, Neuadd Maes-mawr a Park wedi’u ffurfio fel canolfannau stad o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif. Fodd bynnag, mae’n ymddangos mai ychydig o ddylanwad a gafodd y cyfnod cynharach hwn o stadau, y tu hwnt i gyfoeth uniongyrchol y prif dŷ ei hun. Yn y 19eg ganrif, daeth dylanwad y stadau ar gymeriad yr adeiladau yn ardal nodwedd y dirwedd hanesyddol yn fwyfwy amlwg. Iaith bensaernïol aruchel Broneirion, yn y dull Eidalaidd (bellach mae’n ganolfan gynadledda a hyfforddi breswyl ar gyfer mudiad y Guides), â’i borthy Gothig ac adeiladau eraill cysylltiedig (Fron Haul a Bryn-Hafren) sy’n rhoi’r arwydd cyntaf o hyn. Adeiladwyd y casgliad o adeiladau, sy’n gorwedd ychydig uwchben y gorlifdir wrth odre’r bryniau i’r gorllewin o Landinam, ar gyfer y diwydiannwr amlwg David Davies ym 1864-65. David Walker o Poundley a Walker oedd yn gyfrifol am y cynllun. Mae Plas Dinam yn blasty hynod o gain, ac adeiladwyd cyfres o swyddfeydd cysylltiedig i’r dwyrain o’r tŷ. W. E. Nesfield a gynlluniodd y tŷ, yn yr arddull frodorol ganoloesol Seisnig. Fe’i adeiladwyd ar safle newydd ym 1873-74 ar gyfer Capten J. O. Crewe-Read o Neuadd Llandinam, yna bu disgynyddion David Davies yn byw yno.
Mae arwyddion o nawddogaeth stad hefyd ym mhentref Llandinam, yn y gyfres o fythynnod ar hyd ochr y ffordd i’r gogledd o’r pentref, sydd â ffurfiau Celf a Chrefft amlwg gyda’u waliau plastr garw gwyn, a’u ffenestri casment â phaenau bach, ond hefyd yn institiwt y pentref, yr ysgol, a’r capel sydd â chryn waddol. Mewn mannau eraill, mae graddfa a chymeriad adeiladau fferm hefyd yn awgrymu gwaith a noddwyd gan y stadau, ac mae yna rai ffermdai a gafodd eu hailadeiladu, mae’n debygol, trwy nawddogaeth stad, yn cynnwys Middle Gwern-eirin i’r gorllewin o Froneirion, a Chaetwp i’r gogledd-ddwyrain o Blas Dinam. Mae’r ddau yn enghreifftiau o adeiladu mewn arddull Gothig ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae Neuadd Lwyd, i’r de o’r pentref, yn perthyn i genhedlaeth gynharach, tua 1830-40, ond mae’n bosibl bod ei chymeriad Sioraidd gwâr a’r to talcennog yn arwyddion o nawddogaeth stad. Ar y cyfan, fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y stad wedi tyfu dros gyfnod yn ystod y 19eg ganrif. Mae ei hadeiladau wedi’u codi ar safleoedd ffermydd ffyniannus eraill a sefydlwyd yn gynharach neu wedi ychwanegu atynt mewn cyfnod amlwg o welliant. Mae’n ymddangos bod hanes tebyg i bentref Llandinam, lle cafodd y pentref ei ehangu dan nawdd y stad.
Mae’n bosibl i stadau eraill hefyd chwarae rhan mewn llunio’r dirwedd. Yng Nghaersws, er enghraifft, tŷ sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif yw Dolaethnen, a chanddo gymeriad pensaernïol gwâr. Mae’n gysylltiedig â stad Williams Wynn. Mae’n bosibl i’r tŷ stad tal o garreg sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif ym Mhen-y-borfa-fawr, ar y briffordd i’r gogledd-orllewin o bentref Caersws, eto gael ei adeiladu ar gyfer yr un stad.
Yn achos cyfnodau cynharach, er bod yr holl waith adeiladu’n perthyn i draddodiad brodorol, mae yna ystod amlwg o feintiau tai, a soffistigeiddrwydd mewn cynllunio ac adeiladu. Felly mae Neuadd Llandinam a Neuadd Maes-mawr yn nodweddiadol nid yn unig am eu maint sylweddol a’u defnydd helaeth o ddeunyddiau, ond hefyd am eu cynllunio rhanbarthol. Mae ganddynt gynllun mynedfa drwy lobi sy’n nodweddiadol o Ddyffryn Hafren ar ddechrau’r 17eg ganrif. Roedd llawer o adeiladau eraill o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yn fwy syml o lawer o ran eu hadeiladu a’u cynllunio, ond yn y 19eg ganrif, bu hwrdd arall o weithgarwch adeiladu, pan welwyd yr adeiladau mwyaf dinod yn unig yn glynu at y traddodiadau brodorol. Mae hyn wedi’i nodi yn gyntaf gan gyflwyno brics, yna gan ddefnyddio ffurfiau Sioraidd wâr. Yn ddiweddarach, fel y nodwyd uchod, cyflwynwyd arddulliau eraill, yn cynnwys arddull Eidalaidd a Gothig ym Mroneirion, ac arddull frodorol ganoloesol Seisnig ym Mhlas Dinam.
Diwydiant
Cynrychiolir y diwydiannau echdynnu gan chwareli bychain ar gyfer cerrig adeiladu yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg. Fe’i cofnodwyd yn rhannau mwy bryniog ardal y dirwedd hanesyddol, i’r de, i’r gogledd-orllewin ac i’r gogledd-ddwyrain. Roedd y chwarel fwyaf, sef chwarel gerrig fasnachol ym Mhenstrowed ychydig y tu allan i ffin de-ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol, ar waith erbyn dechrau’r 19eg ganrif o leiaf.
Mae’n hysbys bod dyddodion rhewlifol o glai yn ardal Caersws wedi’u cloddio ar gyfer cyflenwi odynau a oedd yn cynhyrchu teils yn y cyfnod Rhufeinig ac ar gyfer cynhyrchu brics i adeiladu’r wyrcws yng Nghaersws yn y 1830au.
Ceir cofnodion o siafftiau neu lefelau mwynglawdd arbrofol ger Little London (ar y bryniau i’r gogledd-ddwyrain o Landinam), yng Nghoedwig Mwynglawdd Carnedd (i’r gogledd-orllewin o Landinam), ac ym Mwthyn Llwyn-y-brain (i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws). Ychydig o hanes y mentrau hyn sydd wedi’i olrhain, er ei bod yn ymddangos yn debygol eu bod wedi’u cloddio ar ddiwedd y 19eg ganrif mewn ymgais i olrhain estyniad i gyfeiriad y dwyrain o’r wythïen llawn plwm a oedd yn cael ei hecsploetio ar y pryd yn y Fan, i’r gogledd o Lanidloes.
Roedd pŵer dŵr yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o leoliadau yn y dirwedd hanesyddol, o leiaf ers y cyfnod canoloesol i’r cyfnod modern yn ôl pob tebyg, ac roedd yn cefnogi nifer o ddiwydiannau prosesu. Ceir tystiolaeth ddogfennol o bandy a melin ŷd ym mhentrefan Pontdolgoch i’r gogledd o Gaersws erbyn y 1670au, ond erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd yno hefyd felin lifio, a phob un yn manteisio ar afon Carno a oedd yn llifo’n gyflym. Mae melin ŷd Pontdolgoch, neu Melin Pont y Ddol Goch gynt, bellach yn segur, ond mae adeilad melin o garreg â thri llawr gydag odyn sychu a thŷ melin cyfagos a adeiladwyd o frics yn dystiolaeth ohoni. Cafodd y felin ei hailwampio yn y 1880au ac, ar un adeg, roedd ganddi ddwy olwyn dros y rhod. Adeilad ffrâm bren oedd y pandy gynt , ac mae bellach wedi’i drosi’n dŷ. Walk Mill yw’r enw arno nawr (enw Saesneg ar bandy), ond Pandy y Ddol Goch oedd yr enw arno ar un adeg. Sefydlwyd melin lifio Pontdolgoch, a bwerwyd gan ddŵr ac sy’n dal ar agor, ym 1913 gan ddisodli melin ddŵr gynharach. Mae pwll llifio yn Fferm Henblas, i’r dwyrain o Bontdolgoch, yn cynrychioli gwaith prosesu coed cynharach, a gofnodwyd yn y 1880au. Ymhlith y nodweddion eraill sy’n dal i fodoli ac sy’n gysylltiedig â defnyddio pŵer dŵr mae ffrwd felin a oedd yn mynd â dŵr o Afon Carno, ymhellach i fyny’r afon o Bontdolgoch, a llyn melin sydd rhwng yr afon a’r ffordd ym Mhontdolgoch.
Ychydig ymhellach i lawr yr afon roedd Afon Carno hefyd yn cael ei harneisio i weithredu melin wlân ym Maesteg ger Pont Wig. Gelwid y felin gynt yn Gwig Manufactory a Weeg Woollen Factory, ac mae hi bellach wedi’i dymchwel er bod olion y ffrwd felin i’w gweld. Mae enwau lleoedd yn awgrymu bod nifer o bandai eraill wedi bod yn ardal y dirwedd hanesyddol gynt, enwau sy’n cynnwys Pandy Rhos a Pandy Bach yng nghymuned Llanwnog, a Waulk Mill ar nant Ffinnant, ychydig i’r gogledd o Landinam (mae ‘waulk’ yn ffurf arall ar y gair Saesneg ‘walk’). Ar ddechrau’r 19eg ganrif, ‘Upper Mill’ oedd yr enw arni.
Roedd ardal Llandinam yn weithredol o ran cynhyrchu golosg ar ddiwedd yr 17eg a dechrau’r 18fed ganrif. Dywedid ei bod wedi cyflenwi gefeiliau gwaith dur y teulu Lloyd o Ddolobran, ger Meifod yn nyffryn Efyrnwy tua 20 milltir i’r gogledd, ond hyd yn hyn nid oes cofnod o unrhyw dystiolaeth o’r diwydiant hwn wedi goroesi.
Mae’n hysbys bod dwy hen efail gof o’r 19eg ganrif, a chynharach o bosibl, ym Mhontdolgoch: dangosir un ohonynt ar fapiau’r Arolwg Ordnans o’r 1880au ac mae’r llall yn cael ei nodi yn enw’r tŷ Efail Troed-y-rhiw. Yn yr un modd, cofnodir gefeiliau eraill yng Nghaersws a Llandinam.
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Trwy gydol hanes, mae Basn Caersws, a saif ger cymer Afon Hafren a’i llednentydd, sef Afon Trannon, Afon Cerist ac Afon Carno, wedi bod yn rhan o goridor cysylltiadau o bwys, gan roi mynediad o’r gororau a Chanoldir Lloegr yn y dwyrain i ganol a gorllewin Cymru.
Roedd yr ardal ymhell tu hwnt i’r pwynt ar Afon Hafren yr ystyriwyd ei bod yn bosibl teithio arni yn y 18fed ganrif. Yn ogystal â chario cychod ysgafn, mae’n bosibl fod yr afon wedi cael ei defnyddio tan ddechrau’r 19eg ganrif efallai, yn dymhorol o leiaf, i gludo coed a nwyddau eraill i lawr yr afon. Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth sicr sydd o’r gweithgarwch hwn.
Ffyrdd Rhufeinig
Safai’r gaer Rufeinig a’r anheddiad sifil ym mhentref Caersws ar ganolbwynt rhwydwaith strategol o ffyrdd milwrol Rhufeinig a oedd yn cysylltu â cheyrydd Rhufeinig mewn mannau eraill.
Roedd un o’r prif ffyrdd yn arwain i gyfeiriad y dwyrain tuag at y gaer yng Nghaer Ffordun ac yna ymlaen i’r amddiffynfa lengol olynol a’r ddinas Rufeinig yn Wroxeter. Mae darnau o’r ffordd Rufeinig sydd mewn cyflwr da wedi goroesi fel gwrthglawdd sy’n dal i sefyll yn ardal y dirwedd hanesyddol mewn caeau i’r de o Afon Hafren, rhwng Neuadd Maes-mawr a Red House. O’r fan honno tua’r dwyrain gorwedda o dan y ffordd bresennol tuag at y Drenewydd yn ôl pob tebyg. Mae’r ffordd yn amlwg yn croesi Afon Hafren i’r gorllewin o Neuadd Maesmawr, er mwyn mynd trwy borth deheuol y gaer Rufeinig ger yr ysgol gynradd gynt yng Nghaersws. Ond, yn ôl pob tebyg, mae’r rhan fwyaf o’r darn yma o’r ffordd a’r bont Rufeinig dros yr afon wedi cael eu dinistrio gan symud graddol ystumiau’r afon.
Mae llwybr y ffordd sy’n arwain o borth dwyreiniol y gaer wedi’i holrhain o dystiolaeth olion cnydau a gwrthglawdd sydd wedi goroesi. Mae’n dilyn llwybr sy’n gyfochrog â Lôn Manthrig, Caersws, yna mae’n gwyro i’r gogledd o Lys Maldwyn ac yn gadael ardal y dirwedd hanesyddol, fwy neu lai ar hyd llinell y ffordd fodern yn Llwyn y Gog Mae’r ffordd wedi’i holrhain yn ysbeidiol tua 10 milltir tuag at Ddolanog yn nyffryn Banw. Nid yw ei nod terfynol wedi’i gadarnhau hyd yma, ond mae’n bosibl iddi barhau dros y Berwyn tua’r ceyrydd Rhufeinig yn Llanfor neu Gaer Gai ger y Bala, yn nyffryn Dyfrdwy.
Tybir bod llwybr y ffordd Rufeinig sy’n arwain o borth gogleddol y gaer Rufeinig wedi’i sefydlu am bellter o tua 100 metr, gan redeg i gyfeiriad Llanwnog. Wedi hynny, ni ellir bod yn sicr ynghylch ei hynt, er y tybir ei bod yn rhedeg ar hyd dyffryn Carno, fwy neu lai ar hyd llinell yr A470, ac ymlaen o bosibl tuag at y gaer Rufeinig ym Mhennal yn nyffryn Dyfi, i’r gorllewin o Fachynlleth.
Gellir olrhain y ffordd sy’n arwain o borth gorllewinol y gaer am tua 1.5 milltir, hyd at y man lle mae’n gadael ardal y dirwedd hanesyddol yn nyffryn Trannon a dyffryn Cerist. Wedi croesi Afon Carno, mae darnau ysbeidiol o gloddweithiau, a weithiau llwybr y ffordd fodern rhwng Tynrhos a Choedyparc, yn cynrychioli ei llwybr. Tybir bod y ffordd yn rhedeg tua’r gorllewin i’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrogbren, ac yna ymlaen hefyd o bosibl tua’r gaer Rufeinig ym Mhennal.
Mae llwybr y ffordd Rufeinig i’r de o Gaersws tua chaer Rhufeinig Castell Collen ger Llandrindod yn llai sicr, er bod rhan o’r ffordd wedi’i nodi yn y caeau chwarae ychydig i’r de o’r afon yng Nghaersws. Credir ei bod yn rhedeg oddi yno am bellter ar hyd dyffryn Hafren, heibio i Landinam, fwy neu lai ar hyd llinell y ffordd fodern, cyn torri ar draws y bryniau i’r de.
Ni wyddys am ba hyd wnaeth y rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig barhau i gael ei ddefnyddio, ond mae yna dystiolaeth bod y caerau yng Nghaer Ffordun a Chaersws wedi parhau mewn gwasanaeth, i raddau llai o bosibl, hyd y 3edd neu’r 4edd ganrif OC. Felly mae’n ymddangos yn debygol i rai elfennau o’r rhwydwaith lleol hwn barhau i gael eu defnyddio tan y cyfnod hwnnw.
Ffyrdd canoloesol a diweddarach
Ychydig a wyddys am gwrs y ffyrdd canoloesol neu ffyrdd diweddarach yn yr ardal, tan y gwelliannau helaeth a wnaed yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Mae mapiau cynnar gan Saxton (1578) a Camden (1637) yn dangos y prif ganolfannau poblogaeth ond, yn gyffredinol, ychydig o fanylion maent yn eu rhoi am y prif lwybrau trwodd yn ystod y cyfnod hwn.
Ffyrdd y porthmyn
Erbyn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, roedd Basn Caersws wedi dod yn ganolbwynt pwysig ar ffyrdd porthmyn a oedd wedi’u datblygu i yrru gwartheg o ganolbarth a gorllewin Cymru i farchnadoedd mewn trefi ar hyd y gororau a thu hwnt. Ymddengys i ddwy ffordd drwy’r ardal ddod yn bwysig. Roedd un llwybr yn rhedeg o ardal Machynlleth, trwy Benffordd-las a Threfeglwys heibio i ddyffryn Trannon a dyffryn Cerist i Gaersws, yna’n cymryd llwybr iseldirol ar hyd rhan uchaf dyffryn Hafren i’r Drenewydd, y Trallwng ac Amwythig a thu hwnt. Roedd ail lwybr o ardaloedd Cwmystwyth a Rhaeadr Gwy yn arwain i Langurig a Llanidloes, i gyrraedd ardal y dirwedd hanesyddol yn Llandinam. Yna roedd yn cymryd y tir uwch i’r de o ddyffryn Hafren heibio i Little London, gan wahanu i’r dwyrain o Fochdre, naill ai ar hyd llwybr mwy gogleddol ar hyd Lôn Las Ceri i Drefesgob neu tua’r de heibio i Bettws y Crwyn i gyfeiriad Llwydlo a thu hwnt. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd nifer o fasnachwyr gwartheg wedi sefydlu yn ardal Caersws i fanteisio ar y fasnach hon.
Ffyrdd tyrpeg a phontydd wedi’u gwella
Cafwyd gwelliannau sylweddol i’r prif rwydwaith o ffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn dilyn derbyn Deddf Dyrpeg Sir Drefaldwyn 1769, a gyflawnwyd o’r 1790au ymlaen. Rhoddodd hon bwerau i atgyweirio amryw o ffyrdd penodol a’u lledu ac i godi tollau trwy dollbyrth i dalu am y gwaith hwn a gwaith cynnal a chadw parhaus. Gellir olrhain y gwelliannau hyn ar gyfres newydd o fapiau ffordd a gyhoeddwyd o’r cyfnod hwn ymlaen, yn cynnwys Map of North Wales John Evans (1797), Map of Montgomery G. Coles (1809) a Map of North Wales Philip and Sons (1853).
Gwnaed gwelliannau i’r ffordd o’r Drenewydd i Fachynlleth, a redai i’r gogledd o Afon Hafren heibio i Aberhafesp (B4568) gan groesi ardal y dirwedd hanesyddol, heibio i Fwthyn Llwyn-y-brain, Llanwnog a Phontdolgoch, yn y cyfnod cynnar. Wedi hynny, adeiladwyd y ffordd dyrpeg newydd i’r de o’r afon, a elwid ‘Long Length’ (A489). Roedd yn rhedeg trwy Landinam ac ymlaen i Lanidloes, ac roedd hefyd yn troi i ffwrdd i’r gogledd i Bontdolgoch, heibio i Gaersws. Adeiladwyd ffordd dyrpeg newydd hefyd o’r de o Bontdolgoch tua Threfeglwys, heibio i Wig (ar hyd llinell y B4569). Codwyd cerrig milltir ar hyd nifer o’r ffyrdd hyn o leiaf, ac mae enghreifftiau o sawl un o’r rhain, o ddiwedd y 18fed ganrif mae’n debygol, wedi goroesi, yn cynnwys rhai ger y fynedfa i Dy-mawr, a gyferbyn â rhodfa a phorthdy Plas Dinam, ar yr A489, a ger Aelybryn ac i’r gorllewin o Lanwnog ar y B4568.
Daeth tafarndai ar ymyl y ffordd i fodolaeth, a oedd yn gwasanaethu’r nifer gynyddol o deithwyr ffordd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, yng Nghaersws (Unicorn Inn), Llandinam (Lion Inn) a Llanwnog (Temperance Hotel, bellach wedi’i ailenwi’n Talbot House).
Adeiladwyd neu ailadeiladwyd nifer o bontydd ffyrdd hefyd yn ystod y cyfnod hwn, fel rhan o’r gwelliannau cyffredinol. Ailadeiladwyd pont Caersws, gyda’i thri bwa o gerrig yn fuan wedi 1821, unwaith i’r sir ddod yn gyfrifol amdani. Thomas Penson, sef Syrfëwr Sirol Sir Drefaldwyn a’i chynlluniodd, ac roedd yn disodli pont garreg gynharach y dywedwyd bod ganddi ddau fwa, a disgrifiwyd hi fel bod ‘in a very bad state’. Adeiladwyd pont ffordd Wig, gydag un bwa o gerrig ym 1847. Penson oedd wedi cynllunio hon hefyd, ac roedd yn disodli dwy bont lai dros Afon Carno. Mae dwy bont arall gan Penson dros Afon Carno wedi’u haddasu’n sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys y bont garreg gydag un bwa ym Mhontdolgoch, a ailadeiladwyd tua’r 1870au ac y gosodwyd rheiliau metel a choncrid ar ei phen pan ledaenwyd y ffordd yn yr 1980au, ac ail bont ychydig i’r gorllewin o Gaersws, ar yr hen ffordd dyrpeg i Drefeglwys. Cafodd hon ei hailadeiladu ym 1835, gan ddisodli dwy bont gynharach, ond cafod ei hailadeiladu mewn concrid a metel yn dilyn hynny, tua diwedd yr 1980au.
Eto, Penson a gynlluniodd y bont ffordd haearn bwrw gydag un bwa, ar draws afon Hafren yn Llandinam. Cwblhawyd hi ym 1846, a hon oedd pont ffordd haearn gyntaf Sir Drefaldwyn. Roedd yn disodli pont bren gynharach. Castiwyd y cydrannau yn Hawarden Ironworks, ac roedd y math o adeiladwaith a ddefnyddiwyd yn debyg i’r hyn a ddefnyddiai Telford. Contractwr y ffyrdd newydd at y pontydd, a’r wal cynnal ar gyfer y ffordd, oedd y diwydiannwr enwog, David Davies o Landinam; hwn oedd ei gontract cyhoeddus cyntaf.
Dywedir bod y bont droed a elwir Festival Bridge, ar draws afon Hafren ger ffin ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol ger Ty-mawr yn dyddio o Ŵyl Prydain 1951.
Y Rheilffyrdd
Cwblhawyd rheilffordd Llanidloes a’r Drenewydd ym 1859, â gorsaf yn ardal y dirwedd hanesyddol yn Llandinam. Roedd y llinell ar wahân i weddill y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol am sawl blwyddyn, ac adeiladwyd hi gan ddefnyddio llafur a chyfalaf lleol, a bu’n help i lansio gyrfa’r diwydiannwr o Gymro, David Davies o Landinam. Roedd David Davies hefyd yn ymwneud ag adeiladu Rheilffordd Croesoswallt i’r Trallwng ym 1859/1860, a llinell y Trallwng i’r Drenewydd ym 1861. Roedd Rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes wedi’i chysylltu â hon yn y Drenewydd. Adeiladwyd llinell y Drenewydd a Machynlleth ym 1862, gan fforchio o linell y Drenewydd a Llanidloes yn Moat Lane, i’r de o Gaersws, lle roedd yna arosfan a sied peiriannau. Daeth y linell yn rhan o rwydwaith Rheilffordd y Cambrian ym 1864. Adeiladwyd gorsafoedd ar y linell hon yn yr ardal yng Nghaersws a Phontdolgoch. Agorwyd Rheilffordd Canol Cymru tua’r de o Lanidloes i Raeadr Gwy ac ymlaen i Builth Road a Three Cocks hefyd ym 1864, ac fe unodd â Chwmni Rheilffordd y Cambrian yn y 1860au. Ym 1871, adeiladwyd Rheilffordd y Fan, a oedd yn gwasanaethu’r mwynglawdd plwm a barytes yn Van, i’r gogledd o Lanidloes, gan fforchio o linell y Drenewydd i Fachynlleth yng Nghaersws, a rhedeg tua’r gorllewin ar hyd dyffryn nentydd Cerist a Thrannon. Roedd hefyd yn cludo teithwyr o 1873 ymlaen ac, ar ôl rhai anawsterau, ailagorwyd y llinell i Reilffyrdd y Cambrian gludo nwyddau ym 1896. Adeiladwyd sied peiriannau a swyddfa rheolwr y rheilffordd yng Nghaersws.
Cafodd adeiladu’r rheilffyrdd peth effaith ar batrymau draenio lleol. Addaswyd sianel afon Hafren i lawr yr afon o Landinam yn ystod adeiladu’r rheilffordd i Lanidloes ym 1859, ac ym 1871, trowyd cwrs tua 5 milltir o afon Cerist i sianel ddofn ffug, er mwyn galluogi adeiladu Rheilffordd y Fan.
Yn dilyn y rhyfel byd cyntaf, daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o Reilffordd y Great Western, a gafodd ei gwladoli fel British Railways ym 1948, a’i diwladoli yn y 1990au. Mae llinell y Drenewydd i Fachynlleth yn parhau i fodoli, ond mae’r llinellau eraill yn yr ardal bellach wedi cau. Caewyd Rheilffordd y Fan ym 1940, 20 mlynedd wedi cau mwynglawdd Van ym 1920. Caewyd llinell y Drenewydd i Lanidloes i deithwyr i’r de o Gyffordd Moat Lane ym 1963, ond bu’n cario rhai nwyddau tan 1967. Cafodd ei chadw ar agor i gludo deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer adeiladu cronfa ddŵr Clywedog i’r gorllewin o Lanidloes y cwblhawyd ei hadeiladu ym 1966.
Mae Gorsaf Caersws â thŷ’r gorsaf feistr a’r caban signalau sydd ynghlwm yn parhau i gael eu defnyddio. Fodd bynnag, mae’r hen orsaf rheilffordd a thŷ’r gorsaf feistr ym Mhontdolgoch bellach wedi’u trawsnewid yn dŷ, a safleoedd yr hen orsaf yn Llanidloes a’r arosfan a’r sied peiriannau ym Moat Lane yn unig sy’n goroesi. Mae sied peiriannau Rheilffordd y Fan yn goroesi ar ymylon gorllewinol pentref Caersws, a chaiff hwn ei ddefnyddio bellach fel storfa mewn iard diwydiannol. Mae cwrs llinell rheilffordd Canolbarth Cymru, sydd wedi’i datgymalu ac sy’n rhedeg ar hyd ochr ddeheuol dyffryn Hafren, i’r de o Moat Lane, a hen linell Rheilffordd y Fan i’r gorllewin o Gaersws, yn parhau i ffurfio nodweddion tirwedd amlwg, gyda thoriadau ac argloddiau yn trawslunio nentydd wedi’i sianelu a ffiniau caeau cynharach.
Tirweddau Cysylltiadol
Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn gysylltiedig â nifer o unigolion a fu’n amlwg ym mywyd diwydiannol a diwylliannol Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.
Ganed David Davies (1818-90) yn Llandinam, a dechreuodd weithio fel mân labrwr a llifiwr. Dywedir mai ef oedd y miliwnydd o Gymro cyntaf i wneud ei ffortiwn ei hun. O’r elw a wnaed o gontractau cynnar i adeiladu pontydd ffyrdd yn Sir Drefaldwyn, megis y bont haearn bwrw ar draws Afon Hafren yn Llandinam ym 1846, daeth yn gontractwr ar gyfer y rhaglen fawr o adeiladu rheilffyrdd a oedd yn mynd rhagddi yng nghanolbarth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes a gwblhawyd ym 1859, y rheilffordd o Groesoswallt i’r Drenewydd a gwblhawyd ym 1861 a’r rheilffordd o’r Drenewydd i Fachynlleth a gwblhawyd ym 1862. Wedi hynny, fe fuddsoddodd yn y glofeydd a oedd yn datblygu’n sydyn ar dir a oedd yn cael ei brydlesu oddi wrth y teulu Crawshay yn y Rhondda. Ffurfiwyd yr Ocean Coal Company o lwyddiannau Glofa Cwmparc yn Nhreorci, a dyna sut y cafodd y llysenw ‘Davies the Ocean’. Sefydlodd Ddociau’r Barri ar gyfer allforio glo, gan gystadlu â theulu pwerus Bute a reolai Dociau Caerdydd.
Parhaodd i fyw yn Llandinam trwy gydol ei fywyd, a pharhaodd i addoli yn y capel Methodistaidd Calfinaidd yno. Comisiynodd y plasty Eidalaidd ym Mroneirion, ar draws yr afon o Landinam, i ddod yn gartref iddo ym 1864-65. Roedd y tiroedd ar gael i’r gymuned leol chwarae gemau yno a chynnal gweithgareddau eraill. Yn ddiweddarach, prynodd Plas Dinam, ychydig i’r gogledd o’r pentref, yn ogystal â’r ystâd a oedd yn gysylltiedig ag ef, i’w fab Edward a’i deulu. Daeth yn gymwynaswr lleol o bwys o ran prosiectau adeiladu, megis yr elusendai yn Llandinam, a chwaraeodd ran fawr hefyd yn sefydlu Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth. Roedd yn flaenor y Methodistaidd Calfinaidd, ac yn gefnogwr hael y Symudiad Ymosodol, a oedd yn ymdrechu i ddod â’r efengyl i drefi diwydiannol a chymunedau dyffrynnoedd De Cymru. Saif Cerflun David Davies, sef copi efydd o’r cerflun yn Nociau’r Barri, ger y cynaliadau a adeiladodd ar ochr ddeheuol y bont ffordd ar draws Afon Hafren yn Llandinam.
Gadawodd David Davies ffortiwn sylweddol i’w ddwy wyres, Gwendoline (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963). Er hynny, magwyd y ddwy chwaer mewn traddodiad Anghydffurfiol Cymreig caeth, ac fe wnaethant barhau yn Sabatholwyr ac yn llwyrymwrthodwyr caeth hyd eu marwolaeth. Daethant yn gymwynaswyr o bwys o ran elusennau a sefydliadau diwylliannol yng Nghymru. Dechreusant gasglu gweithiau celfyddyd ym 1906, ac erbyn 1924 roeddent wedi datblygu’r casgliad mwyaf o weithiau Argraffiadwyr a gweithiau Ôl-Argraffiadwyr Ffrainc ym Mhrydain. Gyda’i gilydd, gwnaethant drosglwyddo casgliad oedd yn weledol drawiadol o fwy na 260 o weithiau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, a thrawsnewidiodd hyn gymeriad casgliad celf cenedlaethol Cymru yn llwyr. Daeth y ddwy chwaer i gael eu cysylltu’n agos â’r plasty mawr yng Ngregynog, a brynasant ym 1920, ond roeddent wedi dechrau datblygu eu casgliad o baentiadau pan roeddent yn byw ym Mroneirion, Llandinam, yr oeddent wedi ei etifeddu oddi wrth eu taid. Ymhlith y pethau a brynwyd oedd nifer o ddarluniau trist ond ffasiynol o dlodi gwledig y 19eg ganrif gan Millet, Daumier ac eraill. Dywedwyd bod hyn yn awgrymu dyfnder eu pryder ynglŷn â chymdeithas, a’i fod wedi rhagawgrymu eu penderfyniad, yn ddiweddarach yn eu bywydau, i roi’r gorau i gasglu gweithiau a gwneud gwaith elusennol yn lle.
Cymeriad arall o bwys ym mywyd diwylliannol Cymru sy’n gysylltiedig â’r dirwedd hanesyddol yw John Ceiriog Hughes (1832-87), sef bardd telynegol enwog o Gymro a chasglwr alawon Cymreig. Ymhlith ei weithiau mae ‘Dafydd y Garreg Wen’ a ‘Clychau Aberdyfi’. Gorwedda fedd Hughes, a oedd yn eglwyswr, ym mynwent eglwys Llanwnog. Dychwelodd i Gymru i weithio fel gorsaf-feistr yn Llanidloes ym 1868. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd ef yn oruchwyliwr cyntaf Rheilffordd y Fan, a oedd wedi’i hagor yn ddiweddar. Gweithiai o’i swyddfa yng Nghaersws, a bu hyn yn ddechrau cyfnod pwysig a chynhyrchiol o ran ei weithgaredd llenyddol, a oedd yn cynnwys llawer o gerddi Cymraeg poblogaidd a oedd yn aml yn sentimental.
Ffynonellau Gwybodaeth Eraill
Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Basn Caersws mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.
Ffynonellau cyhoeddig
Anon. 1883. ‘Montgomeryshire famed breed of horses’, Montgomeryshire Collections 16, 161-4.
Anon. 1886, ‘Llandinam’, Montgomery Collections 19 (1886), 351-4.
Andrews, L. S., 1940. Changes in land utilisation in the Upper Severn valley, Montgomeryshire, 1750-1936, unpublished MSc thesis, University of Wales.
Anthony, C. R., 1995, ‘Penson’s Progress: the work of a nineteenth-century county surveyor’, Montgomeryshire Collections 83.
Barker, P. P., 1991. Geophysical survey in five areas in and around the town of Caersws, unpublished report.
Barker, P. A., 1993. A Report for Clwyd-Powys Archaeological Trust on a Geophysical Survey carried out at Causeway Enclosure – Henfryn, Caersws, Stratascan.
Barker, P. P., 1997. Geophysical Survey carried out at Llandinam-Llanwrin pipeline, Caersws, Powys.
Barton, P. G., 1999. ‘A history and conspectus of Montgomeryshire water corn mills’, Montgomeryshire Collections 87, 1-90.
Barton, P. G., 2003. ‘The timber and sawmilling trade in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 91, 29-52.
Barnwell, E. L., 1870. ‘The early antiquities of the county of Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 3.
Baugham P. E., 1980. A Regional History of the Railways of Great Britain. Vol 11. North and Mid-Wales.
Bosanquet, R. C., 1909. ‘Excavations in Roman Wales’, Manchester Guardian 13 July 1909.
Bridgeman, G. T. O., 1868. ‘The princes of upper Powys’, Montgomeryshire Collections 1, 105-6.
Bridgeman, G. T. O., 1868. ‘The Welsh lords of Kerry and Arwystli’, Montgomeryshire Collections 1, 233-52.
Britnell, J. E., 1989. Caersws Vicus, Powys: Excavations at the Old Primary School, 1985-86, British Archaeological Reports, British Series 205.
Britnell, W., 1999. ‘Early prehistory’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 17-20.
Britnell, W., 1999. ‘Bronze Age’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 21-5.
Britnell, W., 1999. ‘Iron Age’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 26-9.
Britnell, W., 1999. ‘Roman period’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 30-3.
Britnell, W. J., 2001. Middle Wye Historic Landscape. Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 420.
Britnell, W J., 2002. Mynydd Hiraethog: Historic Landscape Characterization, CPAT Report 455.
Britnell, W. J., 2003. Maelor Saesneg: Historic Landscape Characterization, CPAT Report 525.
Britnell, W. J., 2003. Ty-draw, Llanarmon Mynydd Mawr, Powys: Interim Report on Survey and Excavation in 2002/03, CPAT Report 541.
Britnell W. J., 2004. Elan Valley Historic Landscape. Historic Landscape Characterization, CPAT Report 613.
Britnell, W. J., 2006. Middle Usk Valley: Brecon and Llan-gors. Historic Landscape Characterization, CPAT Report 764.
Britnell, W. J., 2005. Vale of Llangollen and Eglwyseg Historic Landscape Characterization, CPAT Report 683
Britnell, W. .J, and Martin, C. H. R., 1999. Dyffryn Clwyd Historic Landscape: Historic Landscape Characterization, CPAT Report 320.
Britnell, W. J., and Martin, C. H. R., 1999. Dyffryn Tanat Historic Landscape: Historic Landscape Characterization, CPAT Report 319.
Britnell, W. J., and Martin, C. H. R., 2000. Bro Trefaldwyn Historic Landscape: Historic Landscape Characterization, CPAT Report 356.
Britnell, W. J., Martin, C. H. R., and Hankinson, R., 2000. Holywell Common and Halkyn Mountain Historic Landscape: Historic Landscape Characterization, CPAT Report 357.
Burnham, H., 1995. A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys.
Cadw, 1999. Powys. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 1: Parks & Gardens.
Cadw, 2001. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 2.2: Landscapes of Special Historic Interest.
Carr, A. D., ‘A debatable land: Arwystli in the Middle Ages’, Montgomeryshire Collections 80 (1992), 39-54.
Caseldine, A., 1990. Environmental Archaeology in Wales.
CCW 1998. LANDMAP: The Landscape Assessment and Decision Making Process, draft handbook for consultation, Countryside Council for Wales.
Collens, J., 1988. ‘Iron Age and Romano-British Settlement in the Upper Severn Valley’, unpublished PhD thesis, University of Birmingham.
Cozens, L., 1953. The Van and Kerry Railways, with the Kerry Tramway.
Cozens, L., Kidner, R. W. and Poole, B., 2004. Mawddwy, Van & Kerry Branches.
Clough, T. H. McK. and Cummins, W. A. (eds), 1988. Stone Axe Studies. Volume 2. The Petrology of Prehistoric Stone Implements from the British Isles, Council for British Archaeology Research Report No. 67.
Crossley, F. H. and Ridgway, M. H., 1947. ‘Screens, lofts and stalls situated in Wales and Monmouthshire. Part V’, Archaeologia Cambrensis 99, 179-230.
Daniels, C. M, Jones, G. D. B. and Putnam, W. G., 1966. ‘Excavations at Caersws, 1966. Interim Survey’, Montgomeryshire Collections 59, 112-15.
Daniels, C. M, Jones, G. D. B. and Putnam, W. G., 1968. ‘Excavations at Caersws, 1967. Interim Survey’, Montgomeryshire Collections 60, 64-6.
Daniels, C. M, Jones, G. D. B. and Putnam, W. G., 1970. ‘Excavations at Caersws, 1968. Interim Survey’, Montgomeryshire Collections 61, 37-42.
Davies, A. S., 1940. ‘The charcoal iron industry of Powys Land’, Montgomeryshire Collections 46, 31-66.
Davies, E., 1975. A Gazetteer of Welsh Place-Names.
Davies, E. H. C., 1977. ‘Porth Farm, Caersws’, Montgomeryshire Collections 65, 25-31.
Davies, J. Conway, 1943-44. ‘Montgomeryshire manorial records in the National Library of Wales from 1536 onwards’, Montgomeryshire Collections 48, 53-85.
Davies, J. Conway, 1945-46. ‘Lordships and manors in the county of Montgomery’, Montgomeryshire Collections 49, 74-150.
Davies, J. L. and Jones, R. H., 2006. Roman camps in Wales and the Marches.
Davies, W., 1829. ‘Parochial History of Llan-wynnog in Montgomeryshire’, Cambrian Quarterly Magazine 1, 33 (reprinted ed. D. S. Evans; London, 1868).
Davies, W., 1810. A General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales, London.
Dawson, M. L., 1983, “Llwyn Y Brain (caersws I) Roman Fort “, Archaeology in Wales 23, 50.
Dempsey, J., 1997. ‘Llandinam – Llanwrin Water Mains, Stage 1 – Llandinam – Talerddig: archaeological excavation’, unpublished report, CPAT report 252 November 1997.
Eisel, J. C., 1986. ‘The church bells of Montgomeryshire’, Archaeologia Cambrensis 135, 163-96.
Ellis, D. M., 1935. Astudiaethau o Enwau Lleoedd Sir Drefaldwyn, unpublished MA thesis, University of Wales.
Ellis, H., (ed.), 1838. Registrum vulgariter nuncapatum: The Record of Caernarvon.
Evans, E., 1949-50. ‘Arwystli and Cyfeiliog in the sixteenth century. An Elizabethan inquisition’, Montgomeryshire Collections 51, 23-37.
Evans, G. G., 1986. ‘Stream names of the Severn basin in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 74, 49-69.
Evans, M., 2004. ‘The Davies sisters of Llandinam and Impressionism for Wales, 1908–1923, Journal of the History of Collections. 16, 219-53.
Fisher, J., 1917. Tours in Wales (1804-1813) by Richard Fenton, Cambrian Archaeological Association.
Foster-Smith, J. R., 1978. The Mines of Montgomery and Radnorshire, British Mining 10, Northern Mines Research Society.
Garbett-Edwards, M., 1987. ‘Llandinam Bakehouse’, Montgomeryshire Collections 75.
Gasquoine, C. P., 1922, A Biography of a Railway.
Gater, J., Gaffney, C. and Gaffney, S., 1990. ‘Report on geophysical surveys: Caersws, Powys’, unpublished report.
Gater, J. and Ovenden, S., 1991. ‘Report on geophysical surveys: Caersws – Second Survey’, unpublished report.
Gibson, A. M., 1997. ‘Llandinam-Llanwrin Water Mains, Stage 1 – Llandinam-Talerddig: Archaeological Evaluation’, unpublished report, CPAT Report 238.
Gibson, A. M., 1998. Prehistoric Funerary & Ritual Sites: Upper Severn Valley, CPAT report 277 May 1998.
Gilman, K., 2002. Modelling the effect of land use change in the upper Severn catchment on flood levels downstream, English Nature Research Reports 471.
Grant, I., 2003. Caersws Pumping Main Replacement. Archaeological Watching Brief, CPAT Report 523.
Guilbert, G. and Morris, E., 1979. ‘Cefn Carnedd’, Archaeology in Wales, 19.
Hamer, E., 1868-69. ‘Ancient Arwystli, its earthworks and other ancient remains’, Montgomeryshire Collections 1 (1868), 207-32; 2 (1869), 51-65.
Hamer, E., 1879. ‘A parochial account of Trefeglwys’, Montgomeryshire Collections 12, 1-28.
Hankinson, R., 1993. Caersws to Llanidloes Gas Pipeline, Powys: field evaluation, CPAT Report 63 May 1993.
Hankinson, R., 1994. Caersws to Llanidloes Gas Pipeline II: watching brief and excavation, CPAT Report 104 July 1994.
Hankinson, R., 2003. Land adjacent to Bridge End House, Caersws, Powys. Archaeological Evaluation, CPAT Report 537.
Hankinson, R. and Jones, N. W., 2003. BT Exchange, Manthrig Lane, Caersws, Powys. Archaeological Excavation. Final Report, CPAT Report 481.1.
Haslam, R., 1979. The Buildings of Powys.
Hoare, R. Colt, 1806. The Decription of Wales by Giraldus.
Hogg, A. H. A. and King, D. J. C., 1963, ‘Early castles in Wales and the Marches’, Archaeologia Cambrensis 112, 114.
Hogg, A. H. A., 1979. British Hill-Forts. An Index, British Archaeological Reports, British Series 62.
Hooke, J. M., Horton, B. P., Moore, J. and Taylor, M. P., 1994. Upper River Severn (Caersws) Channel Study, unpublished report, Department of Geography, University of Portsmouth.
Howell, A., 1875-83. ‘Roads, bridges, canals, and railways in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 8 (1875), 313-34; 9 (1876), 177-92; 16 (1883), 1-22.
Jarrett, M. G., 1969. The Roman Frontier in Wales.
Jarrett, M. G.., 1994. Early Roman Campaigns in Wales. The Seventh Annual Caerleon Lecture. National Museum of Wales.
Jenkins, D., 1990. ‘The demography of late Stuart Montgomeryshire, c.1660-1720’, Montgomeryshire Collections 78 (1990), 73-113.
Jenkins, D. (ed.), 1999. The Historical Atlas of Montgomeryshire.
Jones, G. D. B., 1961. ‘Montgomeryshire. Caersws: the Roman road system’, Bulletin of the Board of Celtic Studies 19, 177–92.
Jones, H. Longueville, 1870. ‘On the antiquities of Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 3 (1870), 203-10.
Jenkins, J. G., (ed.), 1969. The Welsh Woollen Industry.
Jones, I. E., 1983. ‘The Arwystli Enclosures 1816-1828’, Montgomeryshire Collections 71, 61-9.
Jones, I. E., 1985. ‘The enclosure of the Llanidloes and Caersws Commons’, Montgomeryshire Collections 73, 54-68.
Jones, I. E., 1987. ‘Montgomeryshire on old maps’, Montgomeryshire Collections 75 (1987), 9-28.
Jones, I. G., 1980. ‘Patterns of religious worship in Montgomeryshire in the mid-nineteenth century’, Montgomeryshire Collections 68, 93-118.
Jones, M. C., 1870. ‘The devolution of the manors of Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 3 (1870), 29-50.
Jones, M. C., 1879. ‘Enclosure of common lands in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 12, 267-96.
Jones, M. C. and W. V. Ll., 1871. ‘Incidents connected with the rebellion of Owen Glendower in Powysland’, Montgomeryshire Collections 4, 325-44.
Jones, N. W., 1993. ‘Caersws Roman Fort and Vicus, Montgomeryshire, Powys, 1984-92’, Montgomeryshire Collections 81, 15-96.
Jones, N. W., 1996, Caersws Sewage Treatment Works: archaeological assessment, CPAT report 200 October 1996.
Lea, J. W., 1975. Soils in Powys I. Sheet SO 09 (Caersws), Soil Survey Record No. 29.
Leeks, G. J., Lewin, J. and Newson, M. D., 1988. ‘Channel change, fluvial geomorphology and river engineering: the case of the Afon Trannon, mid-Wales’, Earth Surface Processes and Landforms 13, 207-23.
Lewin, J., 1987. ‘Historical river channel changes’, in K. J. Gregory, J. Lewin and J. B Thornes (eds), Palaeohydrology in Practice: A River Basin Analysis, Chichester, 161-75.
Lewis, S., 1833. Topographical Dictionary of Wales.
Lunt, W. E. (ed.), 1926. The Valuation of Norwich.
Maas, G. S., Brewer, P. A. and Macklin, M. G., 2001. A Geomorphical Reappraisal of the Upper Severn GCR Site, unpublished report, Institute of Geography and Earth Sciences, University of Wales, Aberystwyth.
Maxfield, C. E., 2003. Llandinam Hall, Llandinam – E/08/3330: Tir Gofal Historic Environment Report – HE2, CPAT Report 568.
McCullough, A. E., 2005. Tir Gofal Management Plan: Heritage Management Information (HE1). Moat Farm – E/08/5279, CPAT HE1.
Montgomeryshire Genealogical Society, 1997. Montgomeryshire Records. Parish of Llanidam, Memorial Inscriptions MR/MI/19.
Moore-Colyer, R., 1991. ‘Horse and equine improvement in the economy of modern Wales’, Agricultural History Review 39, 126-42.
Moore-Colyer, R., 1993. Welsh Cattle Drovers.
Morgan, R., 1982. ‘The territorial divisions of medieval Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 70, 11-39.
Morgan, R., 2001. A Study of Montgomeryshire Place-Name.
Morris, E. R., ‘Monasteries, religious houses and their properties’, Montgomeryshire Collections 70, 134-6.
Morris, T., 1979. ‘Mining activity near Newtown, Powys’, Montgomeryshire Collections 67, 109-16.
Owen, B., 1990. ‘The Newtown and Llanidloes Poor Law Union Workhouse, Caersws, 1837-1847’, Montgomeryshire Collections 78, 115-60.
Owen, G. D., 1964. Elizabethan Wales.
Owen, W. J., 1993. Lower Green, Caersws, Powys: field evaluation, CPAT Report 73.
Parry, E. W., 1998. Revd John Parker’s Tour of Wales and its Churches (1798-1860).
Peate, I. C., 1940. The Welsh House.
Pennant, T., 1783. A Tour in Wales, 2 vols, London.
Petts, D., 2002. ‘Cemeteries and boundaries in Western Britain’, in S. Lucy and A. Reynolds (eds), Burial in Early Medieval England and Wales, Society for Medieval Archaeology Monograph 17, 24-46.
Price, J., 1998, ‘Caersws to Talerddig Gas Pipeline, Carno’, Archaeology in Wales 38, 105.
Pritchard, R.T., 1962. ‘Montgomery Turnpike Trusts’, Montgomeryshire Collections 57.
Pryce, F. N., 1940. ‘The excavation of 1909 at Caersws’, Montgomeryshire Collections 46, 67-90.
Pryce, J., 2002. Llandinam, a Glimpse of the Past.
Pryce, T. D., 1931. ‘The fort at Caersws and the Roman occupation of Wales’, Montgomeryshire Collections 42, 17-67.
Pryce T. E., 1884. ‘Half timbered houses of Montgomeryshire. IV. Park’, Montgomeryshire Collections 17, 360-68.
Pryce T. E., 1886a. ‘Half timbered houses of Montgomeryshire. VI.-Perth-eiryn’, Montgomeryshire Collections 19, 125-8.
Pryce T. E., 1886b. ‘Half timbered houses of Montgomeryshire. VII. Llandinam Hall’, Montgomeryshire Collections 19, 351-4.
Purseglove, J., 1989. Taming the Flood: A History and Natural History of Rivers and Wetlands, Oxford.
Putnam, W. G., 1961-62. ‘The Roman road from Forden to Caersws’, Montgomeryshire Collections 57, 141-9.
Putnam, W. G., 1998. ‘A section across the Roman Road north of Caersws’, Montgomeryshire Collections 86, 1-4.
Rivet, A. L. F. and Smith, C., 1979. The Place-Names of Roman Britain.
RCAHM, 1911. Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouth I – County of Montgomery.
Silvester, R. J., 1992. Montgomeryshire Historic Settlements, CPAT Report 40
. Silvester, R. J., 1999. Welsh Historic Churches Project. The Historic Churches of Montgomeryshire: a synthesis, CPAT Report 304.
Silvester, R. J., 2004. Early Medieval Ecclesiastical and Burial Sites in Mid and North-East Wales. The Field Assessment and its Impact on the Overall Study, CPAT Report 612.
Silvester, B. and Hankinson, R., 2002. Early Medieval Ecclesiastical and Burial Sites in Mid and North-east Wales: An Interim Report, CPAT Report 468.
Silvester, B. and Hankinson, R., 2003. Early Medieval Ecclesiastical and Burial Sites in Mid and North-east Wales: The Second Report, CPAT Report 534.
Silvester, R. J., 2004, Early Medieval Ecclesiastical and Burial Sites in Mid and North-East Wales. The Field Assessment and its Impact on the Overall Study, CPAT Report 612.
Silvester, R. J., 2004. The Roman Roads of East and North-East Wales. A Second Report, CPAT Report 621.
Silvester, R. J. and Frost, P., 1999. Welsh Historic Churches Project. The Historic Churches of Montgomeryshire: church survey, CPAT Report 310.
Silvester, R J, & Owen, W J,. 2003. Roman Roads in Mid and North-East Wales: The First Report, CPAT Report 527.
Smith, J. B., 1998. Llywelyn ap Gruffudd, Cardiff.
Smith P., 1975. Houses of the Welsh Countryside.
Smith P., and Owen C. E. V., 1955-56. ‘Traditional and Renaissance elements in some late Stuart and early Georgian half-timbered houses in Arwystli’, Montgomeryshire Collections 50-51.
Soil Survey of England and Wales. Soils of England and Wales. Sheet 2 Wales, Scale 1:250,000.
Sothern, E. and Drewett, D. R., 1991. Montgomery Inventory of Ancient Woodland (Provisional), Nature Conservancy Council.
Sothern, E. & Drewett, D. R., 1991. Montgomery Inventory of Ancient Woodland, Nature Conservancy Council.
Soulsby, I., 1983. The Towns of Medieval Wales.
Spurgeon, C. J., 1966. ‘The castles of Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 59, 1-60.
Spurgeon, C. J., 1972, ‘Enclosures of Iron Age Type in the upper Severn Basin ‘, in C. Burgess and F. Lynch, Prehistoric Man In Wales and the West, 339-41.
Stephens, G. R., 1986. ‘The stamped tiles of Caersws’, Montgomeryshire Collections 74, 32-7.
Stephenson, D., 2005. ‘The most powerful persons in the land: patterns of power in Arwystli in the twelfth and thirteenth centuries’, Montgomeryshire Collections 93 (2005), 17-36.
Stephenson, D., 2006. ‘The Arwysli case’, Montgomeryshire Collections 94, 1-13.
Thomas, D. R., 1868. ‘Arwystli’, Montgomeryshire Collections 1, 253-6.
Thomas I., 1938. Top Sawyer.
Thomas, J. G., 1955-56. ‘The distribution of the commons in part of Arwystli at the time of the enclosures’, Montgomeryshire Collections 54, 27-33.
Thorpe, L., 1978. Gerald of Wales. The Journey through Wales, and The Description of Wales.
Toller, H., 1997. ‘The Roman road from Castell Collen to Caersws, Radnorshire and Montgomeryshire’, Archaeologia Cambrensis 146, 60-78.
Vaughan Owen, C. E., 1955-56. ‘An Arwystli Note-Book: No. 2’, Montgomeryshire Collections 55, 34-39.
Vaughan Owen, C. E., 1957-58. ‘An Arwystli Note-Book: No. 4. Some dated half-timbered houses’, Montgomeryshire Collections 55, 89-91.
Walker, D., 1871. ‘Some account of the rood screen and timber work of Powys-land. No. 2 – Rood Screen, Llanwnog Church’, Montgomeryshire Collections 4, 181-4.
Walker, M. J. C., James, J. H., Caseldine, A. E. and Hankinson, H., 2000. ‘A mid-holocene pollen record from a peat sequence beneath a Roman road at Caersws, Powys’, Archaeology in Wales 40, 9–13.
Williams H., 1991. Davies the Ocean Cardiff: The Railway King and Coal Tycoon.
Williams R., 1884. ‘Montgomeryshire Worthies’, Montgomeryshire Collections 17.
Wilson, D. R., 1984. ‘Defensive outworks of Roman forts in Britain’, Britannia 15, 51-61.
Zaluckyj, S. and J., 2006. The Celtic Christian Sites of the Central and Southern Marches.