Bryngaer Oes yr Haearn ar gefnen pen bryn. Tirweddau o gaeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig yn tarddu o bosibl o’r cyfnod canoloesol ac yn ddiweddarach. Ceir ardaloedd o weddillion coetiroedd llydan-ddeiliog ar y llethrau mwyaf serth a phlanhigfeydd conwydd a rhai porfeydd agored ar dir a gaewyd yn gyntaf ar ddechrau’r 19eg ganrif. Tirlun plasty â gerddi, gyda phorthdy ac adeiladau eraill cysylltiedig, a adeiladwyd ar gyfer David Davies ym Mroneirion.
Cefndir Hanesyddol
Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Trewythen, Gwernerin, Carnedd a Llandinam ym mhlwyf degwm Llandinam yn Sir Drefaldwyn.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Ysbardun bryniog rhwng Afon Cerist ac Afon Trannon i’r gogledd ac Afon Hafren i’r de, gyda llethrau bryniau serth, a chefnen Cefn Carnedd yn ben ar y cwbl, ar uchder rhwng 130 a 270 metr. Priddoedd mân siltiog a lomog wedi’u draenio’n dda sydd yma gan fwyaf, dros greigwely siâl, gyda rhai brigadau creigiog moel mewn mannau. Yn economaidd, magu da byw oedd yn gwneud orau ar y tir uchel, a choetiroedd collddail a chonwydd a phorfa arw ar y llethrau mwy serth. Caeau afreolaidd mawr a bach sydd i’w gweld yn bennaf yn y dirwedd caeau. Ymddengys eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir o gyfnod canoloesol neu gynharach, sy’n gysylltiedig â ffermydd gwasgaredig. Mae’n debyg bod rhai o’r ffermydd hyn yn dyddio o’r cyfnod canoloesol.
Roedd cyfran sylweddol o ben bryn Cefn Carnedd, yn ogystal â rhai rhannau dwyreiniol yr ardal yn cynnwys Waun Dingle a’r llethrau uwchben Broneirion, yn destun deddf seneddol o ran cau tir ar ddechrau’r 19eg ganrif. Elfen neilltuol o’r dirwedd yw ardaloedd o goetiroedd llydan-ddeiliog lled-naturiol a hynafol wedi’u hailblannu ar y llethrau mwyaf serth heb eu hamaethu a dyffrynnoedd ag ochrau serth y nentydd, yn ogystal â nifer o barseli o goetir conifferaidd yn arbennig ar y llethrau y naill ochr i Gefn Carnedd. Mae’n debygol i lawer ohono gael ei blannu’n wreiddiol tua chanol y 19eg ganrif mewn ardaloedd o dir comin gynt.
Nid oes llawer o arwyddocâd i enwau lleoedd ar wahân i enwau coedwigoedd diweddar sy’n ymwneud yn bennaf â phlanhigfeydd o’r 19eg ganrif ar Ystad Dinam, er bod yr elfennau enwau lleoedd gwaun yn Waun Dingle, gwern yn Gwern-eirin, meirog yn Coed Meirog a rhedyn yn yr enw Caer’rhedyn hefyd yn awgrymu cyfyngiadau hanesyddol ar ddefnydd tir.
Mae’r fryngaer o Oes yr Haearn ar y gefnen pen bryn yng Nghefn Carnedd yn awgrymu anheddu a defnydd tir cynhanesyddol diweddarach yn yr ardal.
Mae bythynnod a ffermydd gwasgaredig yn cynrychioli’r anheddu presennol yn yr ardal, ynghyd â Broneirion a’i gasgliad o adeiladau cysylltiedig. Mae ffermydd gwasgaredig iawn yn cynrychioli anheddu cynharach o’r cyfnod canoloesol a diwedd y cyfnod hwn, megis Middle Gwern-eirin a’r bwthyn ffrâm bren cyfagos ar ochr y ffordd yn Little House. Mae hwn yn dyddio o 1692, ac mae’n bosibl mai’r porthdy ydoedd. Roedd bwthyn ffrâm bren arall gynt yn Lower Gwern-eirin. Mae golwg fferm gynharach i ffermdy Middle Gwern-eirin. Ailadeiladwyd hi mewn arddull Gothig fel fferm stad Stad Dinam ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yr anheddiad amlycaf yn yr ardal yw Broneirion, sy’n fila yn y dull Eidalaidd (bellach mae’n ganolfan gynadledda a hyfforddi breswyl ar gyfer mudiad y Guides). Fe’i hadeiladwyd ar safle newydd mewn lleoliad prydferth ar waelod llethrau coediog bryniau serth ar gyfer y diwydiannwr enwog David Davies ym 1864-65. Mae’n rhan o gasgliad o adeiladau a’u gerddi cysylltiedig, yn cynnwys porthdy Gothig, tai mawr eraill yn Fron Haul a Bryn-Hafren a theras o dai gweithwyr y stad. Ychwanegwyd mwy o dai at y casgliad o adeiladau’n ddiweddar.
Ffynonellau
Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Guilbert a Morris 1979; Hogg 1979; Jones 1983; Morgan 2001; Sothern a Drewett 1991; Smith 1975; Smith ac Owen 1955-56; Spurgeon 1972; Thomas 1938
