Skip to main content

Cefndir hanesyddol

Nodweddir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tir Comin Agored Capel Gwladys gan ei llwyfandir o fryniau isel a’i therasau llydan o rostir fynyddig agored heb ei gwella, sydd wedi’i gorchuddio mewn rhai mannau â brwyn a rhedyn trwchus. Mae’r tir, lle na cheir unrhyw wrychoedd nac adeiladau cyfannedd, yn graddol ddisgyn o’r gogledd tua’r de-ddwyrain ac yn draenio i Nant Bryncanol. Ar hyn o bryd fe’i defnyddir ar gyfer porfa arw, a borir gan ddefaid a merlod mynydd, a chan y cyhoedd ar gyfer gweithgareddau ‘pleser’, y mae nifer ohonynt yn fygythiad i adeiladwaith hanesyddol yr ardal.

Ar ochr ogledd-ddwyreiniol yr ardal nodwyd tirwedd archeolegol greiriol o gyn-gaeau âr amgaeëdig gyda grwn a rhych, ceuffyrdd a thystiolaeth o anheddiad yn ystod gwaith maes. Mae’r dystiolaeth ddogfennol a’r olion yn awgrymu dyddiad canoloesol neu ddyddiad ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol ar gyfer y gweithgarwch hwn, y gellir ei gysylltu â maenor ddemên Eglwyswladus y ceir cyfeiriadau ati mewn dogfennau. Mae’r enw lle Maerdy sydd ar fferm gerllaw (yn HLCA 004) yn ategu’r farn hon. Mae gwaith cloddio ar raddfa fach yn amlwg yn rhan ogleddol yr ardal hon.

Amherir ar yr ardal gan y graith lydan o borfa werdd wedi’i gwella, a grëwyd pan osodwyd pibell nwy yn y 1980au ac sy’n ymestyn i’r gogledd dros weddill y Tir Comin o gwr gorllewinol yr ardal hon.

Y nodwedd amlycaf, yn weledol ac yn ysbrydol, yn nhirwedd yr ardal hon yw olion safle eglwys Capel Gwladys a’i nodweddion cysylltiedig, a nodir erbyn heddiw gan groes. Cyfeirir at y safle, a leolir yn arwyddocaol gerllaw ffordd Rufeinig, ym Muchedd Gwynllyw Sant o’r 12fed ganrif mewn cyd-destun sy’n awgrymu ei fod yn eithaf hynafol bryd hynny. Mae’r olion yn cynnwys sylfeini’r eglwys hirsgwar sydd o gerrig sych (40′ wrth 19′), sy’n cynnwys twr gorllewinol, corff yr eglwys a’r gangell, wedi’u lleoli o fewn clostir. Darganfuwyd croes carreg garw â chroes gylch wedi’i hendorri arno ar y safle ym 1906 ac yn ôl pob tebyg mae’n dyddio o’r 8fed ganrif neu’r 9fed ganrif. Fe’i cedwir yng nghyntedd yr eglwys blwyf ddiweddarach yn Gelli-gaer. Mae’n bosibl bod clostir allanol, sy’n cynnwys wall allanol o gerrig, yn cynnwys yr anheddiad a gysylltir â Chapel Gwladys.

The area also preserves the significant remains of at least four small Roman military installations that are usually considered to be practice camps. These are small rectangular enclosures of varying size, having banks and ditches, with one at least showing signs of a distinctive internal clavicular gateway. Whilst the generally accepted interpretation may be correct it is worth noting that all these enclosures are visible from and to the fort, lie grouped in a distinct arc and provide clear vistas to the north-east and north-west that the fort at Gelligaer does not possess. They may therefore be considered to be part of the early Roman military deployment of the area providing important lines of sight from the fort and the means of signalling. Whatever their function these earthworks are clearly significant elements in the historic landscape.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodwedd amlycaf yr ardal hon o dir comin agored, yn archeolegol, yn ddiwylliannol ac yn weledol, yw olion Capel Gwladys, sy’n dyddio o ddechrau’r Oesoedd Canol yn ôl pob tebyg. Mae nifer o wersylloedd ymafer Rhufeinig yn ychwanegu diddordeb milwrol at yr ardal ac maent yn cysylltu â’r ceyrydd yn Anheddiad Hanesyddol Gelli-gaer (HLCA 001) i’r de. Darganfu gwaith maes dirwedd hanesyddol greiriol helaeth o gryn bwysigrwydd, yn enwedig am y gellir ei chysylltu â maenor ddemên Eglwyswladus y ceir cyfeiriadau ati mewn dogfennau.

002 Capel Gwladys Open Common