Skip to main content

Cefndir hanesyddol

Nodweddir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tir Comin Agored Pen Garnbugail/Mynydd Fochriw gan ei hamgylchedd o rostir fynyddig uchel, a ddefnyddir fel porfa arw ar gyfer merlod mynydd a defaid. Yn hanesyddol mae’n enwog am ei bod yn cynnwys cymaint o archeoleg greiriol – sef henebion angladdol cynhanesyddol, aneddiadau canoloesol pwysig a systemau caeaeu yn bennaf. At ei gilydd mae’r ffordd Rufeinig sy’n rhedeg o Gelli-gaer yn y de i Aberhonddu yn y gogledd mewn cyflwr da ac mae’n nodwedd dirwedd allweddol.

Mae carnedd Pen Garnbugail sy’n dyddio o’r Oes Efydd i’w gweld yn glir yn edrych i lawr ar y dirwedd gynhanesyddol greiriol. Saif gerllaw copa Cefn Gelli-gaer ac mae’n cynnwys twmpath bron yn grwn, sy’n mesur 15.5m wrth 16.4m. O bobtu iddo mae ymyl o un neu ddwy haen o feini mawr wedi’u gosod yn wastad, tua 0.3m o uchder sydd yn dal i fod yn y golwg mewn rhai mannau.

Fodd bynnag, mae Pen Garnbugail yn cynrychioli dosbarth o henebion sy’n doreithog yn yr ardal hon, ac mae llawer ohonynt, gan gynnwys caeau carnedd, wedi’u lleoli yn agos at y garnedd hon ac ar ardaloedd cyfagos gan gynnwys Mynydd Fochriw.

Yn edrych i lawr ar yr ardal hon o dir comin mynyddig agored mae olion Pen Garnbugail, carnedd fawr o’r Oes Efydd a leolir yn y man uchaf ar Dir Comin Gelli-gaer, i’w gweld yn glir. Cyfoethogir yr ardal hon gan bresenoldeb henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, sy’n rhoi iddi ei phrif thema a naws. Hefyd nodweddir y dirwedd gan olion aneddiadau canoloesol, olion sy’n bwysig iawn, ar ffurf tai llwyfan a nodweddion tirwedd cysylltiedig, gan gynnwys ffiniau caeau ac efallai grwn a rhych hefyd. Mae gwaith cloddio a wnaed ar yr aneddiadau hyn yn y 1930au hefyd yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol bwysig am mai dyma oedd y gwaith archeolegol pwysig cyntaf a wnaed yng Nghymru i’r math hwn o anheddiad Cymreig brodorol.

The area is also notable for the well-preserved course of the Roman road running north-south to the east of Pen-Garnbugail on the line of a former prehistoric trackway. This section of the Roman road, comprising a pronounced agger with ditches either side, is one of the best preserved examples in south-east Wales. Below the road to the east lies an inscribed standing stone set within a small oval enclosure (see frontispiece). It is a roughly squared pillar-stone made of the local Pennant sandstone series. Lettering indicates a late 6th or early 7th century date.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Mae’n debyg bod archeoleg yn yr ardal hon fwyaf enwog am y tai llwyfan canoloesol, a gloddiwyd gan Aileen Fox rhwng 1936-8. Lleolir anheddiad Dinas Noddfa ar gwr gorllewinol yr ardal yn edrych i lawr ar gwm bach o’r enw Cwm Bargoed Taf. Mae’n cynnwys safleoedd dau dþ llwyfan hirsgwar a’u cloddweithiau cysylltiedig gan gynnwys cloddiau ar gyfer clostiroedd a thystiolaeth o amaethu ar raddfa fawr, a all berthyn i’r un cyfnod â’r dystiolaeth strwythurol. Y safleoedd hyn oedd y cyntaf o’u dosbarth i gael eu cloddio yng Nghymru ac, er na chafwyd unrhyw dystiolaeth a allai eu dyddio, roeddynt yn bwysig oherwydd y wybodaeth archeologol a ddarparwyd ganddynt ar ffurf tai, y modd y’u hadeiladwyd, y deunyddiau a ddefnyddiwyd ac ati.

006 Pen Garnbugail/ Mynydd Fochriw Open Common