Skip to main content

Cefndir hanesyddol

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol y Tir Comin Amgaeëdig Gorllewinol yn cynnwys ardal o borfa amgaeëdig wedi’i gwella, a fyddai wedi bod yn fynydd-dir agored gynt. Mae’r ardal gyfan yn graddol godi o anheddiad Gelli-gaer tua’r gogledd mewn cyfres o lwyfandiroedd grisiog, y mae eu llethrau gorllewinol wedi’u rhicio gan bedwar cwm – sef Cwm Nant Llwynog, Cwm Nant Wen, Cwm Nant y Garth a Chwm Nant Ddu.

Nodweddir yr ardal hon gan dirwedd ar ffurf llwyfandir o fryniau isel lle y ceir porfa amgaeëdig a phatrwm anheddu o ffermydd wedi’u gwasgaru yma ac acw. I’r de fe’i rhennir gan linell y ffordd Rufeinig, a adwaenir fel Heol Adam, sy’n rhedeg tua’r gogledd o’r ceyrydd yn Gelli-gaer. Mae’r enw lle Adam yn dra amlwg yn y rhan hon o’r ardal gymeriad – ‘Penheol Adam’, ‘Tir Adam Uchaf’, ‘Tir Adam Isaf’. Fodd bynnag, nid yw tarddiad yr enw personol hwn yn hysbys, er yr awgrymir ei fod yn tarddu o’r enw biblaidd – Adam – sef y dyn cyntaf – sy’n ychwanegu llên gwerin a hygrededd at henaint mawr y ffordd. Ceir rhai aneddiadau hirgul gwasgaredig ar hyd Heol Adam, a ymestynnid ymhellach pe caent eu mewnlenwi â thai yn y dyfodol.

Trwy’r ardal drwyddi draw clostiroedd hirsgwar bach i ganolig eu maint yw’r caeau at ei gilydd, a chanddynt ffiniau ag ochrau syth fel arfer. Yn y rhan ddeheuol mae’r ffiniau hyn yn cynnwys cloddiau, wedi’u leinio rywsut-rywfodd â thywodfaen Pennant, sy’n cynnal coed a llwyni bach, sef celyn, drain gwynion ac ynn. Ymhellach i’r gogledd, yn agosach at y tir comin agored, mae ffiniau’r caeau hefyd yn cynnwys waliau sych mawr ac mae yna dystiolaeth o ddatblygiad gofodol a chronolegol y ddau fath hyn o ffin cae – o’r math yn cynnwys clawdd yn y de i waliau sych yn bennaf yn y gogledd. Dengys y caeau yn y rhan ddeheuol ychydig o arwydd o gyn-amaethu grwn a rhych.

Yn archeolegol ychydig a wyddom am ran ddeheuol yr ardal hon, lle y gall gweithgareddau amaethyddol fod wedi dinistrio llawer o’r dystiolaeth. Mae Maen Catwg, y garreg gefn-nod fawr o’r Oes Efydd yn eithriad nodedig ac yn nodwedd amlwg yn y dirwedd.

The chronological development of this area would benefit from detailed study. The enclosed field pattern had been laid by the end of the 18th century and shows little change to that existing today. Aerial photography indicates a complex palimpsest of archaeological features with clear indications of field systems earlier than the formal enclosures. This pattern could be associated with medieval or early post-medieval activity involving organised encroachment onto the flanks of the Common. It is noticeable that the individual plateaux contain the relict remains of probable medieval settlement such as at Coly-Uchaf and Coed y Hendre. Both these sites, containing rectangular buildings similar to the platform houses elsewhere on the Common, are unexcavated.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodwedd amlycaf yr ardal hon o dir comin agored, yn archeolegol, yn ddiwylliannol ac yn weledol, yw olion Capel Gwladys, sy’n dyddio o ddechrau’r Oesoedd Canol yn ôl pob tebyg. Mae nifer o wersylloedd ymafer Rhufeinig yn ychwanegu diddordeb milwrol at yr ardal ac maent yn cysylltu â’r ceyrydd yn Anheddiad Hanesyddol Gelli-gaer (HLCA 001) i’r de. Darganfu gwaith maes dirwedd hanesyddol greiriol helaeth o gryn bwysigrwydd, yn enwedig am y gellir ei chysylltu â maenor ddemên Eglwyswladus y ceir cyfeiriadau ati mewn dogfennau.

003 Y Tir Comin Amgaeeding Gorllewinoln