Cliciwch ar y rhifau ar y map neu ar enw’r ardal yn y rhestr isod am fanylion yr ardal.

Mae’r ardal tirwedd hon mewn lleoliad mewndirol ymylol yn bennaf, yn ymestyn o lethrau dwyreiniol isaf y Rhinogau (hyd at 450m dros y Datwm Ordnans) i’r dwyrain ar draws y dyffryn isel y mae Afon Eden yn llifo drwyddo (tua 220m OD) a hyd at gopa Moel Oernant a Moel Ddu (uchafbwynt o 500m OD). Ym mhen uchaf Cwm Prysor mae ffin ddwyreiniol yr ardal. Mae’r ardal yn ymestyn o Gellilydan (anheddiad o’r 20fed a dyfodd yn bennaf o ganlyniad i ddyfodiad y gweithwyr a ddaeth i adeiladu’r argae (ardal 05) ar gyfer y cynllun trydan dwr) yn y gogledd, i ymyl y prif floc coedwig, sef Coed y Brenin, yn y de.
Ymhlith y prif themâu sy’n gwneud y dirwedd hanesyddol arbennig hon yn drawiadol mae olion sydd mewn cyflwr da o hyd o gyfathrebu, defnydd milwrol sy’n ymestyn o gyfnod y Rhufeiniaid hyd yn ddiweddar, ac yn fwy diweddar, cynhyrchu pwer. Yn ogystal â’r dystiolaeth ‘wrthrychol’ hon, mae’r ardal hefyd yn gyfoethog o ran cysylltiadau hanesyddol, chwedlonol a llenyddol.
Nid oes unrhyw fryngaerau yn yr ardal, ond mae’r adeiladau milwrol yn Nhomen-y-Mur (ardal 17 yn bennaf), sy’n ardal restredig, ac yn estyn dros sawl hectar, yn cynnwys un o’r tirweddau creiriol Rhufeinig pwysicaf ym Mhrydain. Mae’n debyg i’r gaer yng nghanol y cyfadeilau gael ei chodi tua 77 neu 78 OC o ganlyniad i ymgyrch Agricola. Dan Hadrian, lleihawyd maint y gaer a’i hailgodi o garreg, er nad yw’n ymddangos ei bod â garsiwn ynddi am gyfnod hir wedi’r ailadeiladu, ac mae’n bosibl iddi gael ei gadael yn segur erbyn canol yr 2il ganrif OC. Mae cyfres o wrthgloddiau ategol helaeth o amgylch y gaer, gan gynnwys amffitheatr, baddondy, mansio, gwersylloedd ymarfer a henebion claddu, rhai ohonynt yn unigryw ym Mhrydain.
Serch hynny, mae’r enw Tomen-y-Mur yn deillio o’r mwnt Normanaidd yr oedd y gaer yn darparu beili parod ar ei chyfer. Ychydig iawn a wyddys am hanes y mwnt y tu hwnt i’r ffaith fod William Rufus wedi ymgyrchu yno ym 1095. Tua phedair milltir i’r de-ddwyrain saif Castell Prysor (ardal 12), sef ‘a particularly impressive Welsh motte and bailey castle ’ (Avent, 1983, 8). Roedd ganddo gaen neu wyneb o gerrig a morter yn wreiddiol. Heddiw mae’n goroesi fel cyfres o furiau isel o rwbel ar ben brigiad naturiol o gerrig, a chyfres o adeiladau (yr hen feili, mae’n debyg) o amgylch ei waelod. Roedd yn bencadlys pwysig, efallai yn llys i’r cwmwd ar ddiwedd y 13eg ganrif (anfonodd Edward I lythyr o’r fan hon ym 1284), a’r dyffryn yr enwir yr ardal ar ei ôl, sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin dan ei gysgod. Dyma un o’r prif lwybrau i mewn i ganol Gwynedd y canol oesoedd.
Sefydlwyd gwersyll milwrol bychan ym Mryn Golau, tua phum milltir i’r de o Domen-y-Mur ar ymylon deheuol pentref Trawsfynydd, ar droad yr 20fed ganrif (ymyl ddeheuol ardal 12). Ym 1906, sefydlwyd safle helaethach a mwy parhaol yn Rhiw Goch yn nes i’r de: prynodd y Swyddfa Ryfel dir oddi wrth bobl leol a datblygodd y gwersyll. Cyn hir, roedd yr Adran Ryfel yn berchen ar 8,020 o erwau ym mhlwyf Trawsfynydd, i’r Fyddin Barhaol a’r Fyddin Diriogaethol fel ei gilydd gael ymarfer tanio. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, datblygodd y gwersyll yn ganolfan brysur, nid ar gyfer lletya’r milwyr yn unig, ond hefyd fel maes tanio a gwersyll carcharorion rhyfel.
Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd adeiladau mwy parhaol wedi’u codi yn lle’r pebyll. Unwaith eto, defnyddiwyd y fan fel gwersyll carcharorion rhyfel er, y tro yma, Eidalwyr yn hytrach nag Almaenwyr oedd y carcharorion. Wedi 1945, daeth y gwersyll yn llai pwysig, ond defnyddiwyd ef fwyfwy fel maes tanio ar gyfer arfau oedd heb eu defnyddio, a gludwyd ar y rheilffordd i Drawsfynydd, ac yna ar lorïau i Riw Goch. Erbyn 1948, roedd ‘Maes Tanio Trawsfynydd’ yn ymestyn hyd at ryw 8403 o erwau.
Caewyd y gwersyll fel sefydliad milwrol am y tro olaf ym 1957-8, ond ailagorodd bron ar unwaith i letya dros 800 o adeiladwyr o ardaloedd eraill a oedd yn codi atomfa Trawsfynydd (ardal 05).
Cyn hyn, prynwyd y tir y saif gorsaf trydan dwr Maentwrog, a’r llyn a’r argae oedd yn angenrheidiol i gyflenwi dwr ar ei chyfer, yng nghanol yr 1920au gan y North Wales Power Company: dechreuodd y gwaith ym 1925, ac agorwyd yr orsaf fis Hydref 1928. Ffurfiwyd Llyn Trawsfynydd trwy adeiladu pedair argae i gronni’r dwr. Dechreuodd y gwaith o adeiladu Atomfa Trawsfynydd fis Gorffennaf, 1959, ac o’r diwedd agorwyd yr orsaf fis Hydref 1968. Mae bellach wedi ei dadgomisiynu, ac mae’r safle’n cael ei hybu’n frwd erbyn hyn fel atyniad hamdden a thwristiaeth, ar gyfer pysgota a mynd mewn cychod yn bennaf.
Gan symud ymlaen at gysylltiadau diwylliannol, Tomen-y-Mur (dan yr enw Mur Castell, fel y’i gelwir yn y chwedl) yw un o brif safleoedd hanes pedwaredd cainc y Mabinogi, Math fab Mathonwy (gweler isod). Ganwyd Ellis Humphrey Evans (enw gwreiddiol Hedd Wyn) ym Mhenlan, Trawsfynydd, Meirionnydd ym 1887, ac yn fuan wedyn, fe symudodd y teulu i hen gartref ei dad, sef ‘Yr Ysgwrn’, fferm fynyddig fechan tua milltir i’r dwyrain o bentref Trawsfynydd (ardal 12). Daeth i amlygrwydd ar ôl ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 ym Mhenbedw am ei awdl, ‘Yr Arwr’ , ar ôl iddo eisoes gael ei ladd fis ynghynt yn y frwydr yn Passchendale. Yng nghanol yr holl deimlad a’r tristwch gorchuddiwyd y gadair â lliain du, a chyfeirir hyd heddiw at Eisteddfod Penbedw fel ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’. Dywedir i Sant John Roberts, un o ferthyron Cymreig enwocaf y Pabyddion, gael ei eni yn Rhiw Goch, Trawsfynydd, ym 1577. Magwyd ef fel Protestant, addysgwyd ef yn Rhydychen, ac aeth ymlaen i astudio yn Ffrainc a Sbaen. Maes o law, cafwyd ef yn euog o deyrnfradwriaeth (wedi troi’n Babydd) a dienyddiwyd ef ym 1610.
Deiliaid tir
Gorwedd ardal y prosiect bron yn llwyr o fewn plwyf Trawsfynydd. Roedd y plwyf hwnnw, yn y canol oesoedd, o fewn cwmwd Ardudwy Uwch Artro (y mwyaf a’r dwysaf ei boblogaeth o holl gymydau Meirionnydd) (Williams-Jones, 1976). Yn y gofrestr Merioneth Lay Subsidy Roll 1292-3, cofnodir mai Trawsfynydd oedd un o’r plwyfi tlotaf yn y sir, a’i werth rhwng 10 a 20 swllt i bob mil o erwau.
Ceir ychydig iawn o gyfeiriadau cynnar yn yr archif at ddaliadau tir yn y fan hon: ym mhapurau cyntaf y Nannau (Llsgrau A1 Nannau LLGC (1af Awst 1420/1)) y ceir y cyfeiriad mwyaf arwyddocaol (er nad yw’n arbennig o ddefnyddiol) sy’n cofnodi bod Goronwy ap Llywelyn o Adda o Drawsfynydd [Cae Adda heddiw mae’n bur debyg – ardal 06] wedi rhyddhau i John Salghell, bwrdeisiwr Harlech, denement o’r enw Hen Gastell yn Nhrawsfynydd [sef Tomen-y-Mur, o bosibl].
Mae’r wybodaeth a geir ar fap degwm Trawsfynydd a’i raniad (dyddiedig 1840), sy’n cwmpasu bron i 90% o ardal y prosiect, yn dangos mai dim ond pum tirfeddiannwr ‘mawr’ oedd yn y plwyf, ac mai unigolion oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o’r ffermydd. Er enghraifft, Thomas Price Anwyl, Ysw., oedd yn berchen ar lawer o’r tir o fewn ardal 06, i’r de o’r llyn presennol (h.y. ffermydd y mae’n ymddangos eu bod yn tarddu o ddiwedd y 18fed/dechrau’r 19eg ganrif; yn yr un ardal, mae’r tir a berthynai i Goed-y-rhygen (ni ellid darllen enw’r perchennog), anheddiad cynharach, yn ôl pob tebyg, hefyd yn fawr iawn; ac roedd Anne Jones yn berchennog ar sawl fferm yng Nghwm Prysor (gan gynnwys Yr Ysgwrn) a hefyd tir yn ne’r ardal; roedd Ymddiriedolwyr y diweddar Richard Parry, Ysw., yn berchen ar nifer fawr o ffermydd o amgylch Trawsfynydd (bellach o fewn ardaloedd 9, 12 a 16).
Nid yw map degwm Maentwrog (1841), sy’n cwmpasu rhan ogleddol yr ardal prosiect, gan gynnwys ardaloedd 16, rhan o 17, ac 18, yn dangos yr un fferm na stad fawr, eithr nifer o leiniau bychain o dir ar osod. Mae’r rhan fwyaf o’r darnau tir caeëdig yma yn fawr ac yn afreolaidd eu siâp, oherwydd y tir ymylol, o bosibl.
Mae’n debyg fod llawer o’r ardal wedi’i chau yn ffurfiol tua diwedd y 18fed – dechrau’r 19eg ganrif (gweler ardaloedd 9 a 16), er bod tystiolaeth o dir wedi ei gau’n gynharach ym muriau a phatrymau’r caeau i’r gorllewin o Lyn Trawsfynydd (ardal 06), ar hyd ochr ddeheuol Cwm Prysor (ardal 12) ac yn y dyffryn bychan i’r gorllewin o Foel Ddu (ardal 10).
Yn ystod y ganrif ddiwethaf, plannodd y Comisiwn Coedwigaeth gonwydd ar leiniau mawr o ran orllewinol yr ardal (ardal 01, 06 a 18 yn enwedig). O astudio mapiau cynharach (a gwaith maes diweddar, D Thompson, pers comm) ceir awgrym bod y planhigfeydd hyn yn cuddio’r dystiolaeth o gyfansoddiad tirwedd sydd yr un fath â’r hyn a welir i’r dwyrain cyfagos o’r fan hon (h.y. tirwedd o dir ymylol wedi’i gau yn y 19eg ganrif, gyda ffermydd bychain gwasgaredig a chaeau afreolaidd eu siâp).
Amaethyddiaeth
Disgrifiwyd plwyf Trawsfynydd yn yr 17eg ganrif fel un â thiroedd mor dlawd fel nad oedd modd tyfu cnydau ar dros ei hanner (Lhwyd, 1911). Dywedir mai tir pori digon tila oedd yn y plwyf bryd hynny, er bod tyweirch rhagorol mewn rhai corsydd ac roedd rhostir i’r defaid a’r gwartheg: cedwid oddeutu wyth cant o wartheg, dwy fil o wyn, cant o eifr a chant o geffylau yr adeg honno. Yn ogystal â hyn, tyfid ceirch, ynghyd â pheth rhyg a haidd (ibid).
Fel y cofnodwyd uchod, mae map degwm Trawsfynydd a’i raniad (dyddiedig 1840) yn dangos dim ond pump o dirfeddianwyr ‘mawr’ yn y plwyf, ac unigolion oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o’r ffermydd. Yn anffodus, nid yw’r rhaniadau bob amser yn cofnodi enwau’r caeau, er ei bod yn ymddangos bod yr enwau a awgryma (sydd efallai’n syndod o ystyried diwyg tir pori ucheldirol y dirwedd heddiw) yn sôn am amaethyddiaeth gymysg yn cynnwys tir pori a haidd, gyda lleiniau ‘garddio’ llai o amgylch y ffermdai.
Ychydig dystiolaeth sydd o arferion amaethyddol cynnar (cynhanesyddol neu ganoloesol) yn y dirwedd: mae’r safle rhestredig ar ben gogleddol Crawcwellt (ardal 04) islaw’r Rhinogau, sy’n cynnwys cyfres o waliau ymdroellog aneglur eu ffiniau islaw safle grwp o gytiau sydd o bosibl yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol hwyr, yn awgrymu bod pobl yn tyfu cnydau ac yn magu anifeiliaid i ryw raddau, er bod cloddio diweddar yn awgrymu mai rhan ategol yn unig o’r economi lleol oedd hyn ar y pryd. Mae safle anghysbell arall ar Ffridd Wen (ardal 11), yn ôl pob golwg grwp caeëdig o gytiau y tro hwn, a system grwn a rhych sydd wedi lled oroesi o’i amgylch (a ddatblygodd yn ddiweddarach, mae’n debyg – gweler y ffotograff) yn cynnig cipolwg ar economi amaethyddol cynnar a oedd yn cynnwys tyfu cnydau.
Fodd bynnag, mae dadansoddiad o’r muriau a phatrymau’r caeau presennol yn awgrymu’n gryf na chaewyd llawer o’r ardal yn ffurfiol hyd ddiwedd y 18fed – dechrau’r 19eg ganrif (gweler ardaloedd 9 a 16). Yn sicr, mae’r ardal i’r de o Lyn presennol Trawsfynydd, o ystyried ei statws SoDdGA (ardal 7), a’r ardaloedd cyfagos ar ei ymylon dwyreiniol a gorllewinol, yn awgrymu na chafodd yr ardal hon ei gwella’n amaethyddol dros y tymor hir. Fodd bynnag, ceir rhywfaint o dystiolaeth o gau tir yn gynharach (canoloesol?) ym muriau a phatrymau’r caeau i’r gorllewin o Lyn Trawsfynydd (ardal 06), ar hyd ochr ddeheuol Cwm Prysor (ardal 12) ac yn y dyffryn bychan i’r gorllewin o Foel Ddu (ardal 10). Fodd bynnag, ac eithrio ardal 10 o bosibl, nid oes yr un o’r rhain yn dangos tystiolaeth glasurol o gau tiroedd yn helaeth yn y cyfnod cynhanesyddol.
Nid yw rhan ogleddol ardal y prosiect, sy’n cynnwys ardal 16, yn ogystal â rhan o 17 ac 18, yn dangos yr un fferm na stad fawr, eithr nifer o leiniau bychain o dir ar osod. Mae’r rhan fwyaf o’r darnau tir caeëdig yma yn fawr ac yn afreolaidd eu siâp, oherwydd y tir ymylol, o bosibl, ac yn awgrymu bod y tir diffaith wedi’u gau yn hwyr yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Yn yr un modd, mae’r tiroedd caeëdig islaw y Rhinogau (ardal 02 yn enwedig), a hefyd llawer o’r tiroedd caeëdig sy’n nodweddiadol o’r systemau caeau sydd i’w gweld yn ardal 09 i’r gorllewin o’r ffordd bresennol ar ymyl y SoDdGA yn awgrymu llechfeddiannu’r tir diffaith gynt yn y ystod diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif (er bod dadansoddiad diweddar o rai o’r tai yn y fan hon, (e.e. Bryn Maen Llwyd) yn awgrymu eu bod yn dyddio o’r 17eg ganrif o bosibl. (J Alfrey, pers comm)).
Mae’n bosibl fod rhai o’r ffermydd ar hyd ymyl ddeheuol Cwm Prysor (Yr Ysgwrn, Bodyfuddau, Bronasgellog – ardal 12) a’u systemau caeau cysylltiedig hefyd o ddyddiad is-ganoloesol ac mae muriau’r caeau yn dangos tystiolaeth o adeiladu ‘cynnar’ ac o ailadeiladu.
Mae’r llu o feudai pellennig (adeiladau deulawr o gerrig yn bennaf, wedi eu codi yn unionsyth i mewn i lethrau graddol, gyda phen isaf agored a drws at y gwair a’r gwellt yn y pen uchaf) yn y rhan fwyaf o’r lleoliadau is, llai ymylol (megis ardaloedd 09 (gweler y ffotograff), 10, 12 a 16) yn dystiolaeth dda o ganolbwyntio ar economi amaethyddol ar sail gwartheg yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf. Mae gan lawer ohonynt bileri o lechi a dorrwyd â pheiriant yn cynnal y rhan fwyaf o strwythur y to, sy’n awgrymu iddynt gael eu codi ar ôl tua 1840. Mae’n arwyddocaol bod llawer o’r rhain wedi’u hatgyweirio fel rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol diweddar (Tir Cymen a Thir Gofal).
Yn y cyfamser, yn yr ardaloedd ucheldirol (er enghraifft ar ochrau dwyreiniol y Rhinogau ac ar Foel Oernant), ceir olion ambell (er nid llawer) hafoty, rhai ohonynt â chaeau bychain a chorlannau. Fodd bynnag, nid yw nifer y rhain yn helaeth o’i chymharu â nifer y rhai a geir yn yr ardaloedd i’r gogledd a’r gorllewin.
Anheddu
Cyfyngir tystiolaeth o anheddu cynhanesyddol yn yr ardal i Grawcwellt (lle ceir system caeau eang yn gorwedd islaw grwp gwasgaredig o gytiau crynion – ardal 04), a safle mwy hunangynhwysol ar lethrau gogledd-ddwyreiniol Ffridd Wen (ardal 11). Ceir disgrifiad manwl yn adran 8.5. Crynhoir y dystiolaeth drawiadol o anheddu Brythonig-Rufeinig (sef un o’r prif resymau y tu ôl i gynnwys yr ardal hon ar y Gofrestr) fel rhan o ardal 17. Mae’n cynnwys amffitheatr ac adeiladau eraill sy’n ymwneud ag isadeiledd milwrol, yn ogystal â’r gaer ganolog.
Dim ond tair trefgordd a gofnodir yn y plwyf anferthol hwn yn y cyfnod canoloesol (Williams-Jones, 1976), pob un ohonynt yn y pen gogleddol: Trawsfynydd (pentref modern yn SH706355, yr unig anheddiad cnewyllol yn yr ardal – ardal 08), Prysor (y cofnodir ei enw heddiw mewn cwm o bwys a chastell sydd yng nghanol y cwm (SH758369 – ardal 12), a Chefn Clawdd (fferm bellennig erbyn hyn ar droed y Rhinogau (SH678336) – ardal 02). Mae’r gofrestr Merioneth Lay Subsidy Rolls yn cofnodi 105 o drethdalwyr yn y plwyf ym 1292-3 (nifer gymharol uchel o’i chymharu â phlwyfi eraill, yn rhannol, mae’n sicr, oherwydd ei faint), ac roedd y rhan fwyaf ohonynt, fel y gellid disgwyl, yn talu’r dreth ar y gyfradd isaf bosibl. Serch hynny, ychydig dystiolaeth ffisegol sydd yn y dirwedd, os oes tystiolaeth o gwbl, o anheddu (canoloesol) ar ffurf ‘cytiau hirion’, hyd yn oed yn yr ardaloedd ucheldirol, ymylol, sy’n hynod.
Yn y 17eg ganrif, amcangyfrifid mai 300 o dai oedd yn Nhrawsfynydd, a 1200 oedd nifer y trigolion. Roedd 12 tyˆ ac eglwys yn Nhrawsfynydd ei hun, ac roedd y tir mor wael fel na lwyddwyd i dyfu cnydau yn hanner y plwyf (Lhwyd, 1911). Ym 1801, mae’r cyfrifiad yn dangos mai 1232 oedd poblogaeth plwyf Trawsfynydd, (sy’n cynnwys y rhan fwyaf o ardal y prosiect): wedi hynny fe gynyddodd y nifer ychydig hyd 1881, ac yna cynyddu’n sylweddol o 1553 i 1930. Diddorol yw nodi bod nifer y bobl a weithiai yn y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog wedi disgyn o 1834 ymlaen, felly ni wyddys ym mhle roedd y bobl hyn yn gweithio. Erbyn 1891, cafwyd gostyngiad cyflym yn y boblogaeth i 1615, ond fe gynyddodd eto i 1708 ym 1911 (ac erbyn hynny roedd gwersyll y Fyddin wedi hen sefydlu): fe ddirywiodd wedi hynny hyd 1961 (pan roedd yr atomfa yn cael ei hadeiladu) pan gynyddodd i 1878 o bobl: aeth y nifer i lawr i 1030 ym 1971 a disgyn fu’r hanes byth oddi ar hynny.
Mae’r dyddiad a nodwyd ar gyfer adeiladu’r ffordd dyrpeg (yr A470 bresennol) (gweler isod) rhwng 1777 a 1823 yn cefnogi’r awgrym mai diwedd y 18fed ganrif/dechrau’r 19eg ganrif oedd dyddiad anheddu’r ardal ganolog hon (rhwng Trawsfynydd a Choed y Brenin) yn bennaf. Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’r ffermydd yn dyddio o’r cyfnod hwn. Mae bron pob un ohonynt i’r gorllewin o’r brif ffordd (ac yn is na hi) ac mae eu systemau caeau o amgylch yn ymddangos fel llechfeddiannu ffiniau’r tir ymylol (er enghraifft o amgylch Bryn-crwn ac Adwy-deg). Yn sicr, roedd pob un ohonynt wedi’i sefydlu erbyn 1840, ond nid yw’n ymddangos bod yr un ohonynt (yn ffermydd neu’n batrymau caeau) mor hen â’r ffermydd yn y cwm llai i’r dwyrain (ardal 10) ac mae’n debygol bod y rhan fwyaf o’r anheddu wedi symud o’r ardal olaf hon i ymylon y tir Comin yn y cyfnod modern cynnar yn dilyn gwella mynediad.
Mae’n bosibl fod rhai o’r ffermydd ar hyd ymyl ddeheuol Cwm Prysor (Yr Ysgwrn, Bodyfuddau, Bronasgellog – ardal 12) a’u systemau caeau cysylltiedig hefyd o ddyddiad is-ganoloesol ac mae muriau’r caeau yn dangos tystiolaeth o adeiladu ‘cynnar’ ac o ailadeiladu.
Ychydig y tu allan i’r ardal i’r gogledd, anheddiad gwasgaredig braidd yw Gellilydan, a ddatblygodd ar ddechrau’r 20fed ganrif oherwydd i weithwyr (Pabyddion o Iwerddon oedd llawer ohonynt) ddod i mewn i’r ardal i godi’r argaeau ar gyfer y cynllun trydan dwˆr (ardal 05). Mae’r gysegrfa ymyl y ffordd a’r eglwys Babyddol i’r dwyrain o’r ffordd fawr yma, hefyd yn tarddu o’r cyfnod anheddu hwn. Daeth adeiladwyr a gyflogwyd i godi’r atomfa yn Nhrawsfynydd i hen wersyll milwrol Bronaber (ardal 20) ar ddiwedd y 1950au, ac mae llawer o’r adeiladau’n dyddio o’r cyfnod hwnnw, er bod cynllun yr anheddiad yn perthyn i’w hen fywyd.
Aneddiadau anghnewyllol
Yn ôl Lhwyd (1911), roedd y tai lle roedd rhywun yn byw ym mhlwyf Trawsfynydd yng nghanol y 17eg ganrif yn cynnwys Rhiw Goch (eiddo i’r Anrhydeddus Syr John Wynne a ddisgrifiwyd fel ‘parc’ )(ardal 20), Orsedd-las (ardal 09), Wyddow (heb ddod o hyd iddo), Yr Ysgwrn (ardal 12), Bronasgellog (ardal 12), Caer y Cyrrach (heb ddod o hyd iddo), Tyddyn Gwladus (heb ddod o hyd iddo), Celligen (heb ddod o hyd iddo), Llech Edris (Bryn Maen Llwyd, o bosibl), Dolgen, Goedyr hygun (heb ddod o hyd iddo), a Chae Adda (ardal 06)..
Mae cronoleg yr adeiladau sydd wedi goroesi yn yr ardal hon yn awgrymu hanes anheddu pendant a allai fod yn gysylltiedig â thystiolaethau eraill o ddefnydd tir hanesyddol.
Mae’n ymddangos bod yr adeiladau cynharaf sy’n goroesi i’w gweld ar lethrau deheuol Cwm Prysor (ardal 12) a’r llethrau gorllewinol mwy serth islaw Moel Ddu (ardal 10). Mae’n bosibl bod modd olrhain rhai i ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, er bod llawer ohonynt yn fwy diweddar na hynny. Ffermydd cymharol fychain yw’r rhan fwyaf ohonynt (mae’r Ysgwrn a Thyddyn Mawr, y dau yn adeiladau rhestredig, yn enghreifftiau da o hyn), ar wahân i Riw Goch yn unig. Mae’r tyˆ bonedd hwn yn dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif, ac mae’n nodweddiadol o’r adeiladau sy’n dangos dyheadau uchelgeisiol y boneddigion a oedd wrthi’n adeiladu stadau yn y cyfnod hwnnw. (Tyˆ mawr yw hwn, ac roedd ganddo borthdy ar wahân yn wreiddiol.) Mae’r tyˆ a’r porthdy fel ei gilydd wedi’u mireinio â phaneli arfbeisiol i arddangos achau’r perchennog. Yn yr ardaloedd nodwedd hyn, cynlluniau hirach y traddodiad is-ganoloesol sy’n nodweddu’r tai cynharach, ac mae rhai wedi’u codi yn erbyn y llethr, sydd hefyd yn arwydd o’u tarddiad cynnar.
Mae’n bosibl fod ardal fach o anheddiad creiriol ar lannau gorllewinol Llyn Trawsfynydd hefyd yn tarddu o gyfnod cynharach. Mae Tyn Twll yn amlwg yn ffermdy arall a adeiladwyd yn y traddodiad is-ganoloesol (mae adwy’r drws â charreg fwa (voussoir) yn awgrymu dyddiad o ddiwedd y 16eg – dechrau’r 17eg ganrif).
I’r gorllewin o Afon Eden (ardal 09), mae patrwm yr anheddiad yn awgrymu llechfeddiannu tir diffaith yn ddiweddarach (er bod safle trefgordd ganoloesol yn awgrymu bod gwreiddiau llawer cynharach i o leiaf ran ohono). Mae’n debyg bod tystiolaeth yr adeiladau hyn yn gyson â datblygiad o ddiwedd y 18fed – dechrau’r 19eg ganrif, er mai prin yw’r rhai a archwiliwyd yn fanwl (ac mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod Bryn Maen Llwyd, o leiaf, yn dyddio o gyfnod cynharach (J Alfrey, pers comm)).
Aneddiadau cnewyllol
Nid oes ond un anheddiad cnewyllol yn yr ardal, sef pentref Trawsfynydd ei hun (ardal 08): mae ganddo nodweddion pentref diwydiannol o’r 19eg ganrif, ac ehangodd yn ystod y ganrif honno (er na wyddys ei sail economaidd). Terasau byrion o fythynnod gweithwyr a geir yno’n bennaf, ond ceir cronoleg eglur o adeiladau o fewn y pentref, gyda chraidd cynnar y mae modd ei adnabod o amgylch yr eglwys, lle mae tystiolaeth o adeiladau cynharach, gan gynnwys y dafarn (Tyˆ Gwyn) a’r stablau y tu cefn iddi. Gellir olrhain cyfnod o dwf ar ddechrau’r 19eg ganrif mewn sawl adeilad brodorol Sioraidd (er enghraifft, y White Lion ar y Stryd Fawr, a Glasfryn) lle defnyddid blociau mawr o garreg, ac mewn rhesdai o gyfnod diweddarach yn y 19eg ganrif (â gwaith maen llanw) a ddatblygwyd ar hyd ymyl y brif ffordd i ogledd a de y canol gwreiddiol. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn y pentref (ar wahân i’r eglwys), lle collwyd llawer o’r manylion, ond wedi dweud hynny, mae’r cymeriad cryf cyffredinol yn parhau.
Mathau o adeiladau a deunyddiau adeiladu
Mae bron pob adeilad y tu allan i Drawsfynydd (gweler uchod, a’r disgrifiad ar gyfer ardal 08) yn ffermdy neu’n adeilad fferm. Mae’n ymddangos bod ffermydd llinellol (lle mae’r ffermdy a’r tai allan yn dilyn yr un llinell) yn fwy cyffredin ar dir uwch (er enghraifft, Tyddyn Mawr, ardal 09); ac mewn mannau eraill, gwelir bod grwpiau o adeiladau arbenigol yn fwy cyffredin (er enghraifft, ym Mryn Maen Llwyd a Thyddyn Sais, ardal 09). Mae beudai ar wahân (a rhai ysguboriau gwair, er enghraifft yr un sydd wedi ei chysylltu â Berth Ddu, ardal 09, ac yn ardal 16) hefyd yn nodwedd unigryw yn y dirwedd.
Yn yr ardal yn gyffredinol, cerrig adeiladu lleol a ddefnyddir amlaf, heb wyngalch na rendrad fel arfer. Mae’r rhan fwyaf o’r ffermdai (ac adeiladau eraill) yn rhai a adeiladwyd o gerrig morter, naill ai yn glogfeini neu’n rhai a naddwyd mewn chwarel, er bod rhai adeiladau fferm wedi eu codi o waliau cerrig sychion (er nad yw hyn mor gyffredin yn yr ardal hon ag ydyw yn Ardudwy, er enghraifft). Mae gwaith maen llanw yn nodweddu gwaith diwedd y 19eg ganrif, ac mae hyn yn ein galluogi i wahaniaethu rhwng gwahanol gyfnodau, er enghraifft ym mhentref Trawsfynydd (ardal 08). Yn anffodus, yn yr anheddiad diwydiannol bychan ger yr hen orsaf (teras Ardudwy a theras Tyˆ-llwyd), fe dorrwyd ar draws y traddodiad lleol cryf o ddefnyddio’r cerrig noeth wrth adeiladu a defnyddiwyd rendr spar-dash i ‘wella’r tai’. Yn gyffredinol, fodd bynnag, waliau cerrig noeth yw un o’r elfennau cryfaf yng nghymeriad yr ardal, a byddai parhau â’r traddodiad hwn yn dra dymunol.
Ac eithrio Rhiw Goch, a oedd â rhai o nodweddion y Dadeni yn perthyn iddo, mae’n ymddangos bod yr adeiladau oll yn rhan o’r traddodiad brodorol rhanbarthol, ac fe barhaodd felly nes canol y 19eg ganrif. Roedd arddull Sioraidd syml wedi’i fabwysiadu erbyn hynny. Fodd bynnag, dechreuodd un fferm, Berth Ddu (ardal 09), fagu nodweddion Sioraidd yn gynharach yn y 19eg ganrif. Mae golwg ffermdy stad arno. Mae hyn yn gweddu’n dda â’r model arfaethedig (gweler uchod) o ddatblygiad amaethyddol yr ardal ganolog oddeutu’r dyddiad hwn.
I’r gogledd o Afon Prysor (ardal 12), mae’n ymddangos bod yr adeiladau yn gyffredinol yn rhai llawer hwyrach, heb fawr o awgrym eu bod wedi eu codi cyn y 19eg ganrif (er bod y rhan fwyaf o’r ffermydd yn bodoli erbyn 1841). Ailwampiwyd llawer o’r ffermydd yn yr ardal hon dros y blynyddoedd diweddar, ond mae eu hamlinellau yn awgrymu cynllunio mwy cryno o gyfnod diweddarach.
Archeoleg greiriol
Roedd y basn ucheldirol yn cynnwys mawnog fawr yn wreiddiol, sef Gors Goch, cyn i’r gwaith o adeiladau’r gronfa ddwr bresennol ddechrau ym 1926. Mae’n bosibl fod y basn hwn wedi cynnwys llyn naturiol a oedd yn ganolbwynt gweithgareddau yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar ac roedd yn lle y gellid ymweld ag ef yn aml fel ardal llawn adnoddau i economi helwyr-gasglwyr (gweler y dynodiad SoDdGA a geir gyda’r disgrifiad o ardal 07). Mae astudiaethau amgylcheddol o baill a gadwyd yn y mawnogydd ucheldirol yn Ardudwy, yn agos at y gorllewin, wedi dangos bod coetir datblygedig yn gorchuddio’r ucheldiroedd hyn cyn canol y pedwerydd mileniwm CC (Chambers a Price, 1988). Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth archeolegol o weithgarwch dynion ym masn Trawsfynydd yn perthyn i’r cyfnod hwnnw. I ryw raddau, mae hyn yn adlewyrchu patrwm tebyg mewn mannau eraill yng ngogledd-orllewin Cymru, lle ceir y rhan fwyaf o’r dystiolaeth o weithgarwch cyn y cyfnod neolithig ar yr arfordir. Mae’n bosibl nad oedd ardaloedd mewndirol ac ucheldirol yn hygyrch yn y cyfnod hwn, ag adnoddau yr oedd yn anos manteisio arnynt, ac felly ni fyddai pobl yn ymweld â hwy mor aml. Fodd bynnag, darganfuwyd tystiolaeth o weithgarwch yn ystod y cyfnod mesolithig mewn basnau ucheldirol mewn mannau eraill yn y gogledd-ddwyrain a de Cymru, ac mae’n bosibl fod tystiolaeth archeolegol ynghudd dan y gorgors neu bellach wedi’i boddi dan y gronfa ddwr.
Mae sefyllfa debyg yn wir am y cyfnod neolithig. Daw’r rhan fwyaf o dystiolaeth y gwyddys amdani, yn enwedig gwasgariad y beddrodau siambr, o ardaloedd yn agos at yr arfordir. Byddai anheddu wedi’i gyfyngu i ardaloedd bychain lle roedd y pridd yn hawdd ei glirio a’i drin. Fodd bynnag, fe barhaodd yr economi i ddibynnu i ryw raddau ar hela a chasglu, ac mae gwasgariad y darganfyddiadau ar hap o fwyeill cerrig neolithig yn darparu cliwiau am weithgarwch ehangach yn y dirwedd. Ceir darganfyddiadau o’r fath y tu hwnt i wasgariad y beddrodau siambr, yn y dyffrynnoedd mwyaf, ond nid oes llawer ohonynt i’w cael yn yr ucheldiroedd. Mae sawl bwyell o ddyffryn Mawddach a basn uchaf afon Dyfrdwy, ond daw’r agosaf i Drawsfynydd o ychydig i’r de yn Y Garn. Serch hynny, ceir un gwrthrych sy’n dyddio mae’n debyg o’r cyfnod Neolithig, sef crafell fflint y daethpwyd o hyd iddi yn ymyl erydog y gronfa ddwr ar waelod Bryn y Bleddiad ym 1929. Mae’n debygol, felly, bod deunyddiau eraill o’r un cyfnod dan y gorgors.
Yn ystod yr ail fileniwm CC, daw’r dystiolaeth o weithgarwch yn ucheldiroedd gogledd-orllewin Cymru yn llawer mwy cyffredin, fel y gwelir yn y cannoedd o henebion claddu o fathau sy’n nodweddu’r cyfnod hwnnw. Ceir y rhain mewn tri math o safle, yn gyntaf ar gopaon amlwg, yn ail, gerllaw llwybrau ac yn drydydd mewn grwpiau y gellid eu hystyried yn fynwentydd arbenigol neu’n ardaloedd angladdol neu seremonïol. Yn anffodus, nid yw’r lleoliadau hyn yn agos at ardaloedd yr anheddu o angenrheidrwydd. Nid oes o amgylch Trawsfynydd ond dwy garnedd, ac mae’r rhain yn agos at ei gilydd ar ysgafellau sy’n tremio dros ochr orllewinol y basn. Mae’n bosibl fod eu lleoliad cynnil a’u hwynebwedd lleol yn awgrymu eu bod yn gysylltiedig ag anheddiad cyfagos. Fodd bynnag, maent hefyd yn tremio dros lwybr hynafol pwysig drwy’r mynyddoedd felly mae’n bosibl mai gyda’r llwybr hwnnw yn unig mae’r cysylltiad.
Ceir tystiolaeth bellach o weithgarwch yn y basn yn ystod yr ail fileniwm CC ar ffurf sawl twmpath o gerrig wedi’u llosgi ger Crawcwellt a Bronaber. Mae enghreifftiau sydd wedi’u cloddio a’u dyddio mewn mannau eraill wedi dangos eu bod yn perthyn i’r cyfnod hwnnw yn bennaf (Davidson 1998). Gerllaw cyflenwad dwr y gwelir hwy fel arfer, ac mae pwll â leinin pren ganddynt, lle y credir y byddai cig yn cael ei goginio gan ddefnyddio cerrig poeth. Ni phrofwyd eu bod yn perthyn i anheddiad parhaol, a chredir eu bod yn safleoedd y byddai pobl yn ymweld â hwy yn dymhorol, yn ôl y rhaglen hela neu fugeilio.
Dengys tystiolaeth amgylcheddol o Ardudwy fod yr ucheldiroedd yn cael eu datgoedwigo yn ystod y trydydd a’r ail fileniwm a daeth tystiolaeth o ymyrraeth dynol i’r amlwg (Chambers a Price 1988). Roedd aneddiadau ar ucheldiroedd Ardudwy erbyn dechrau’r mileniwm cyntaf, fel y gwelwyd wrth i ddau anheddiad tebyg i’w gilydd gael eu cloddio, y naill a’r llall yn cynnwys un tyˆ crwn unigol mawr mewn lloc crwn consentrig (Kelly 1988). Nid oes ond un enghraifft bosibl o anheddiad tebyg yn Nhrawsfynydd, yn Ffridd Ddu ar lethr bryn ar ochr ddeheuol Cwm Prysor (gweler y ffotograff ar gyfer ardal 11). Ni chloddiwyd mo hwn, ond mae’n ymddangos ei fod yn dyˆ crwn mewn lloc consentrig a addaswyd yn ddiweddarach trwy ychwanegu tai neu gytiau pellach ac estyniad lloc unionlin.
Mae gwasgariad arteffactau cerrig o’r mathau sy’n nodweddiadol o’r hyn a geir yn yr ail fileniwm CC yng ngogledd-orllewin Cymru, er enghraifft bwyeill morthwyl a phennau brysgyll trydyllog, yn debyg iawn i wasgariad bwyeill cerrig neolithig, wedi’u cyfyngu i’r iseldir a’r dyffrynnoedd yn bennaf, ac nid oes dim o ardal Trawsfynydd. Fodd bynnag, darganfuwyd bwyeill pres, dwy o Domen-y-Mur ac un o Gwm Prysor yn ogystal â chelc yn cynnwys tri meingleddyf a blaen gwaywffon o Gwm Moch. Nid oes yr un o’r rhain yn golygu i anheddiad fod yma, gan fod pob un ohonynt yn agos at lwybrau o bwys. Byddai eitemau o’r fath yn dod o ardaloedd eraill, beth bynnag ac mae’r fwyell o Gwm Prysor, o fath sy’n dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd ar ddechrau’r mileniwm cyntaf CC, mewn arddull sy’n nodweddiadol o dde-ddwyrain Llundain neu’r Cyfandir. Mae’r llwybr trwy Gwm Moch yn cychwyn yn y gorllewin, efallai o harbwr ger aber Afon Artro yn Llanbedr, a saif meini hirion ac amrywiaeth o henebion claddu gerllaw (Bowen a Gresham 1967). Credir ei fod wedi croesi i’r de o brif fasn Trawsfynydd, ger Bronaber, lle saif maen hir, sef Maen Llwyd, ac yna wedi estyn ymlaen i ddyffryn Afon Gain ger maen hir arall, sef Llech Idris.
Roedd aneddiadau yn yr ardal yn bendant tua diwedd y mileniwm cyntaf CC. Mae sawl anheddiad gwasgaredig o dai crynion bychain yn gysylltiedig â chaeau neu lociau cromlinog afreolaidd eu siâp, wedi’u gorchuddio’n rhannol â gorgors ar Grawcwellt, yn ogystal ag yng Nghwm Moch a Chwm Prysor. Mae cloddio un o’r aneddiadau ar Grawcwellt (ardal 04) wedi dangos bod rhywrai yno rhwng tua 300 CC a 50 OC ac nad economi amaethyddol oedd ei brif economi, eithr economi wedi’i seilio ar ecsbloetio a thoddi mwyn haearn o’r gors leol (Crew 1998). Mae’n bosibl fod yr un peth yn wir o aneddiadau eraill gerllaw, a byddai’r cyfan wedi dirywio wrth i haearn ddod yn rhwyddach ac yn rhatach ei gyrraedd o ffynonellau eraill ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae amcangyfrifon ar sail swm y sorod yn awgrymu bod yr anheddiad wedi cynhyrchu oddeutu hanner tunnell o haearn coeth yn ystod ei oes (ibid ). Mae’r ardal hefyd yn cynnwys rhai cytiau diarffordd ar dir uwch, ac mae’n debygol i’r rhain fod yn aneddiadau bugeiliol, er enghraifft yng Nghwm Moch i’r gorllewin ac ar Ffridd Wen i’r dwyrain.
Nid oes unrhyw fryngaerau yn union ger Trawsfynydd i ddangos bod yna unrhyw ganolfan awdurdod yma ar ddiwedd y mileniwm cyntaf CC er gwaetha’r ffaith fod ei leoliad yn ganolbwynt i nifer o lwybrau naturiol a bod hyn yn cael ei ystyried yn strategol bwysig pan sefydlodd y Rhufeiniaid y gaer yn Nhomen-y-Mur (ardal 17). Fodd bynnag, gwnaed un darganfyddiad o statws uchel o dorri’r mawn yn rhywle arall yn y basn yn ystod y 19eg ganrif. Tancard o bren yw gyda chasin o efydd a dolen gain yn yr arddull Geltaidd hwyr, yn dyddio o ddiwedd y mileniwm cyntaf CC. Mae’n debyg iddo gael ei wneud yn ne-orllewin Lloegr, felly roedd yn eitem a fewnforiwyd. Mae’n bosibl iddo fod yn grair angladdol neu ddefodol, ond unwaith eto, gallai fod yn gysylltiedig â llwybrau yn hytrach nag ag anheddiad lleol.
Mae yma sawl anheddiad wedi eu hadeiladu o gerrig ac sy’n fwy sylweddol a chymhleth na’r rhai yng Nghrawcwellt, gan gynnwys yr un yn Ffridd Ddu, a grybwyllwyd uchod, a’r un yng Nghae Ddu, Gellilydan. Grwpiau cnewyllol o adeiladau a iardiau yw’r rhain. Mae’r un yng Nghae Ddu hefyd yn cynnwys adeilad petryal a chredir bod y math yma o aneddiadau yn ffermydd a oedd wrthi’n ymwneud â ffermio cnydau a gwartheg. O’u cymharu ag aneddiadau tebyg a gloddiwyd mewn mannau eraill yng ngogledd-orllewin Cymru, mae’n debygol iawn fod y rhain wedi’u meddiannu yn ystod y cyfnod Brythonig-Rufeinig a byddent wedi cael mantais o sefydlogrwydd gwleidyddol a chyfleoedd marchnata yr economi a Rufeineiddiwyd, gan helpu o bosibl i gyflenwi’r gaer yn Nhomen-y-Mur.
Parciau a Gerddi
Nid oes unrhyw barciau neu erddi dyluniedig o bwys yn yr ardal. Yr unig eithriad, o bosibl, yw’r dirwedd yn union o amgylch atomfa Trawsfynydd a ddyluniwyd gan Sylvia Crowe ym 1961/2. Dyluniwyd yr ardal o amgylch y monolith concrid newydd mewn Parc Cenedlaethol yn fwriadol i gyd-fynd â’r dirwedd (naturiol) o’i amgylch ac yn hynny o beth roedd yn llwyddiannus: does dim byd bellach yn gwahaniaethu rhwng y ‘naturiol’ a’r hyn a ‘blannwyd’ (gweler y ffotograff o ardal 05). Ar fap degwm Trawsfynydd, Bronasgellog ar ochr ddeheuol Cwm Prysor (ardal 12) yw’r unig fferm a ddangosir fel un sydd a gardd aeddfed (â choed ac ati).
Diwydiannol
O safbwynt hanesyddol, yr odynnau teils Rhufeinig ym Mhenystryd, gerllaw’r hen ffordd Rufeinig ar lethrau de-orllewinol Moel Ddu (ardal 19), yw’r olion diwydiannol mwyaf arwyddocaol. Maent yn ddiamheuol yn gysylltiedig â Thomen-y-Mur i’r gogledd ac yn ffurfio rhan bwysig o’r dirwedd greiriol Rufeinig helaeth o amgylch y gaer.
Ar wahân i hynny, ychydig o ddiddordeb archeolegol diwydiannol sydd yn yr ardal, ar wahân i nifer o chwareli llechi bychain segur. Caewyd chwareli llechi Braich-ddu i’r gogledd o Domen-y-Mur (ardal 15), sef yr unig rai arwyddocaol, ym 1868 (a dyma’r chwarel olaf y cludwyd ei llechi i lawr i Afon Dwyryd i’w cludo i ffwrdd ar gwch), er y defnyddiwyd hi am gyfnod byr yn yr 1980au, ac aflonyddwyd rhywfaint ar yr olion (Richards, 1991, 145). Mae pwll bychan a cheuffordd, ynghyd â thai allan, yng Nghefn Clawdd (ardal 04).
Cysylltiadau
Ceir tystiolaeth dda fod ffyrdd Rhufeinig yn ymestyn allan i’r gogledd–ddwyrain o Domen-y-Mur tuag at gaer Bryn-y-gefeiliau, i’r gogledd-orllewin (i lawr trwy harbwr ar Afon Dwyryd yn Felinrhyd, o bosibl) i Lystyn ac yn y pen draw i Segontium; i’r dwyrain (trwy’r gwersylloedd ymarfer yn Nolddinas) i Gaer Gai; ac i’r de (heibio i’r odynnau teils Rhufeinig ym Mhenystryd) i’r Brithdir. (Ceir disgrifiad manwl o’r ffyrdd yn Hopewell, 2004, a chrynhoad ohono yn y disgrifiad isod o ardal 17.) Mae’r cyntaf a’r olaf yn ffurfio rhan o Sarn Helen sy’n rhan o chwedloniaeth ganoloesol Cymru (gweler isod). Mae’n debygol fod y ffyrdd hyn yn cael eu defnyddio ymhell i’r canol oesoedd (gweler y disgrifiad o’r aneddiadau yn ardal 09 isod).
Mae archifau Hengwrt (Trafodion Cymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion, 1927) yn cynnwys rhai mapiau hynafol o Feirionnydd, ac ni ddengys yr hynaf ohonynt, dyddiedig 1578, yr un ffordd yn y sir. Mae’r nesaf (sydd hefyd yn dyddio o 1578, mae’n debyg) yn dangos un yn unig, o Ddinas i Ddolgellau i Lanfachraeth ac yna’n rhedeg mewn llinell syth dros y mynyddoedd i Harlech.
Sefydlwyd y ffyrdd tyrpeg cyntaf yng Nghymru ym 1777 (Pritchard, 1961). Roedd y Ddeddf a sefydlodd yr Ymddiriedolaeth yn un gyffredinol ac roedd yn cynnwys pob prif ffordd ym Meirionnydd: cadwyd hwn i fynd hyd chwarter olaf y 19eg ganrif. Roedd Ymddiriedolaeth Meirionnydd yn un endid, ond rhannwyd hi yn bum ardal o ran y ffyrdd, gan gynnwys Dolgellau a Mawddach, y ffordd i Abermo a’r ffordd rhwng Dolgellau a Maentwrog cyn belled â’r bont yn Nhrawsfynydd (gweler ardal 09).
Ym 1794, gwnaeth George Kay y sylw bod y ffyrdd ym Meirionnydd wedi gwella’n ddiweddar oherwydd y ffyrdd tyrpeg, ond eu bod yn ei farn ef yn dal yn rhy gul. Fis Ebrill, 1834, disgrifiodd gohebydd i’r Caernarfon and Denbigh Herald (C&D, 19/4/1834) gyflwr y ffordd rhwng Trawsfynydd a Dolgellau fel ‘disgraceful and dangerous’, gan ychwanegu, ‘in every yard of it there is a rut deep enough for the grave of a child and to ensure breakdowns the space between is filled up with lumps of stone each as large as cannon balls or Swedish turnips ’ (Pritchard, 1961, 29).
Ymddangosodd yr hysbyseb gyntaf am gynigion i osod tollborth yn Nhrawsfynydd ym 1823, a allai awgrymu dyddiad posibl cwblhau adeiladu’r adran hon o’r ffordd. Fodd bynnag, nid yw map y Swyddfa Bost dyddiedig 1823 (Archifau Dolgellau, ffeil plwyf Trawsfynydd) yn dangos unrhyw ffordd i’r gogledd o Ddolgellau, er y dangosir ‘Transvynith’ a hefyd Y Bala, Dolgellau, Harlech a Than-y-bwlch (gwesty a Swyddfa Bost oedd yr olaf ym 1798 (roedd ganddo’i stamp ei hun)) (ap Owain, dim dyddiad). Roedd yn bendant yn ymddangos ar fap dyddiedig 1827 (Dodd, 1925, 139). Mae’n ymddangos mai ffordd dyrpeg newydd sbon oedd y ffordd (gweler y disgrifiad o ardal 09 isod am ddatblygiad aneddiadau ffermio yn yr ardal hon), ond ni wyddys unrhyw beth am y llwybr y tu hwnt i Drawsfynydd, oddieithr mai’r Oakley Arms yn Nhan-y-bwlch oedd y swyddfa bost nesaf yn y gadwyn ar hyd y ffordd hon, felly mae’n rhaid bod y ffordd wedi cysylltu’r ddau le hyn. Rhoddwyd tollborth Trawsfynydd ar osod ym 1862 am £47 10s, sef un o’r rhenti isaf yn y sir (Archifau Dolgellau ZM/581/5). Cafodd y ffordd ei sythu a’i gwella ymhellach ym 1970.
Cangen Bala i Flaenau Ffestiniog rheilffordd y Great Western oedd un o’r ddrutaf i’w hadeiladu (ag iddi fwy na 70 pont a thraphont, ynghyd â milltiroedd o argloddiau a silffoedd), ac mae’n debyg mai hon oedd un o’r rhai a ddenodd y lleiaf o elw o holl reilffyrdd Cymru (Richards, 201, 141ff). Agorwyd rhan ohoni (sef y rhan agosaf i’r Bala) ar 11eg Tachwedd, 1882 (Southern, 1995), ac o’r diwedd fe gyrhaeddodd y Blaenau ym 1884. Roedd y llwybr yn dechrau o’r Bala ac yn mynd i mewn i’r ardal astudiaeth ar flaen Cwm Prysor, lle roedd yn croesi’r draphont enfawr (gweler ardal 12): yna fe lynai’n ansad at ochr ogleddol y dyffryn cyn cyrraedd gorsaf Trawsfynydd ac yna tuag at y gogledd (fymryn i’r dwyrain o’r ffordd A470 bresennol – gweler ardal 17), gan ddod at gyffordd yn Ffordd Maentwrog lle ymunai’r trenau o chwarel Braich-ddu, ac ymlaen yn y pen draw i Flaenau Ffestiniog. Byddai llechi o’r Blaenau yn cael eu cludo i’r Bala (ac yna ymlaen), a byddai’r gwasanaethau teithwyr a nwyddau yn ymestyn i Drawsfynydd a Phrysor (trwy isadeiledd o un orsaf neu arosfan ar bymtheg). Fodd bynnag, galluogi sefydlu gwersyll mawr hyfforddi milwyr o 1903 ym Mronaber (ardal 20 – arhosodd ar agor hyd y 1950au) oedd ei heffaith fwyaf, ac ym 1911, adeiladwyd gorsaf arbennig yn Nhrawsfynydd (yn union i’r gogledd o’r orsaf gyhoeddus) (mae Southern, 1995, yn cynnwys cynlluniau manwl) lle byddai milwyr, ceffylau a gynnau mawrion a gludid o’r Bala yn cael eu dadlwytho ac yn teithio’r rhan olaf o’r daith ar y ffordd. Byddai’r meysydd tanio yn cael eu defnyddio gan y Fyddin Barhaol a’r Fyddin Diriogaethol fel ei gilydd yn ystod tymor gwersylla blynyddol a fyddai fel arfer yn ymestyn dros gyfnod o oddeutu 6 mis yn ystod yr haf.
Caewyd y rheilffordd i deithwyr am y tro olaf ym 1960 ac i nwyddau ym 1961, er bod yr adran o Drawsfynydd i’r Blaenau wedi’i chadw, a chysylltiad wedi’i ffurfio â Chyffordd Llandudno i wasanaethu adeiladau atomfa newydd Trawsfynydd (ardal 05). Caewyd yr orsaf yn gyfan gwbl ar 4ydd Mai, 1964. Gellir gweld hyd heddiw olion y rhan fwyaf o lwybr y rheilffordd yn croesi’r dirwedd, ac mae olion cymharol helaeth yr orsaf a’r iard nwyddau yn Nhrawsfynydd bellach yn storfa nwyddau amaethyddol. Erys olion yr orsaf filwrol, rhyw 200 llath i’r gogledd, yn weddol gyfan.
Cysylltiadau diwylliannol
Mabinogion
Mae Tomen-y-Mur (dan yr enw Mur y Castell, fel y gelwir ef yn y chwedl) yn un o brif leoliadau’r stori ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy. Yn dilyn gorchfygiad Pryderi a genedigaeth Lleu Llaw Gyffes, mae Math a Gwydion yn creu gwraig i Leu allan o flodau’r dderwen, blodau’r banadl a llysiau’r forwyn, a thrwy hud a lledrith fe greasant y forwyn decaf a welodd unrhyw ddyn erioed, a’i henwi’n ‘Blodeuwedd’. Pan ddywed Gwydion wrth Fath y bydd yn anodd i unrhyw ddyn aros yn ben heb fod ganddo dir, cytuna Math i roi’r gantref orau bosibl i Leu, sef Dunoding, ac yna mae’n ei sefydlu mewn llys o’r enw Mur y Castell, yn ucheldiroedd Ardudwy, lle mae’n rheoli er boddhad i bawb.
Un diwrnod, pan ddychwela Lleu i Gaer Dathal i ymweld â Math, mae Blodeuwedd yn clywed swn hela gerllaw, ac fe wahodda Gronw Pefr, arglwydd Penllyn, i’w llys. Y noson honno mae’r ddau yn ymserchu yn ei gilydd ac yn cysgu gyda’i gilydd. Maent yn disgyn mewn cariad, ac ar yr ail noson, awgryma Gronw Pefr y dylent ladd Lleu, ac mae’n dweud wrth Blodeuwedd am ddarganfod sut y gallant gyflawni hyn. Mae hi’n gwneud hyn trwy ei holi’n ofalus. Wedi i Blodeuwedd ei fradychu, mae Gronw yn taro Lleu ar lan Afon Cynfael, â gwaywffon y mae wedi bod wrthi am flwyddyn yn ei llunio, ac mae Lleu, nesa peth at farw, yn hedfan ymaith ar ffurf eryr. Dychwela Blodeuwedd a Gronw i’r llys, ac ar y diwrnod canlynol mae Gronw yn trechu lluoedd Ardudwy ac yn rheoli’r ardal honno yn ogystal â Phenllyn.
Ymhen hir a hwyr, daw Gwydion o hyd i’r eryr, ac mae’n troi Lleu yn ôl yn ddyn ac yn ei dywys i lys Math i wella. Flwyddyn yn ddiweddarach, maent yn mynd ati i geisio dial ar y dyn a achosodd i Leu ddioddef. Maent yn cynnull byddin o Wynedd ac yn gorymdeithio i Ardudwy, i Fur y Castell. Mae Blodeuwedd yn ffoi o’r llys ac mae Gwydion yn ei newid yn dylluan, ac mae Lleu yn lladd Gronw yn yr un ffordd ag y cafodd ef ei hun ei daro. Yna mae Lleu Llaw Gyffes yn gorchfygu’r wlad unwaith eto ac yn ei rheoli’n llewyrchus, gan ddod maes o law yn arglwydd ar Wynedd.
Hedd Wyn
Ganwyd Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) ym Mhenlan, Trawsfynydd, Meirionnydd ym 1887, yn fab hynaf o un ar ddeg o blant a anwyd i Evan a Mary Evans. Yn fuan wedi hynny, fe symudodd y teulu i hen gartref ei dad, sef ‘Yr Ysgwrn’, fferm fynydd fechan, tua milltir i’r dwyrain o bentref Trawsfynydd (ardal 12). Ar wahân i gyfnod byr iawn yn gweithio yn ne Cymru, dyma lle bu’n byw ar hyd ei oes nes y galwyd ef i’r fyddin. Erys ‘Yr Ysgwrn’ (sydd bellach yn adeilad rhestredig) hyd heddiw yn nwylo’r un teulu, ac mae Gerald, nai Hedd Wyn, yn parhau â’r traddodiad o ffermio.
Dechreuodd Ellis farddoni yn gynnar, gan ennill ei gystadleuaeth gyntaf yn ddeuddeg oed mewn cyfarfod llenyddol lleol. Fe enillodd ei gadair gyntaf yn Y Bala ym 1907 gyda cherdd o’r enw ‘Dyffryn’. Wedi hyn fe enillodd gadeiriau yn Llanuwchllyn (1913), Pwllheli (1913), Llanuwchllyn (1915) a Phontardawe (1915). Ar wahân i gystadlu, byddai hefyd yn cyfansoddi barddoniaeth am achlysuron a phobl yn ardal Trawsfynydd. Rhoddodd cyfarfod o feirdd lleol yr enw barddol Hedd Wyn arno yn Ffestiniog Awst 20, 1910.
Er na ddaeth yn filwr o fwriad na greddf, galwyd Ellis i ymuno â’r fyddin fis Ionawr 1917. Wedi cyfnod hyfforddi byr yn Litherland, ger Lerpwl, fe gyrhaeddodd Fflandrys rywdro yn ystod yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd ei gatrawd wedi’i gorsafu ger Pilken Ridge yn paratoi ar gyfer brwydr Passchendale. Ar Orffennaf 31, roedd brwydro ffyrnig a lladdwyd llawer, gan gynnwys Hedd Wyn a fu farw o’i glwyfau. Claddwyd ef ar faes y frwydr, er i’w gorff gael ei symud oddi yno ar ddiwedd y rhyfel a’i ailgladdu ym mynwent Artillery Wood.
Ym 1917, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhenbedw. ‘Yr Arwr’ oedd testun awdl y gadair, a phenderfynodd Hedd Wyn gystadlu. Gweithiodd yn ddiwyd, a gorffennodd ei gerdd yng Ngwlad Belg ym 1917. Ddydd Iau, Medi 6, roedd pafiliwn yr Eisteddfod dan ei sang i glywed beirniadaeth T. Gwynn Jones. Yn ei farn ef a’i ddau gyd-feirniad, roedd y bardd â’r ffugenw ‘Fleur-de-lis’ yn gwbl haeddiannol o’r wobr. Yna cododd yr Archdderwydd Dyfed ar ei draed i gyhoeddi i’r gynulleidfa mai Preifat E H Evans – Hedd Wyn – a laddwyd fis ynghynt yn y rhyfel yn Passchendale oedd yr enillydd. Yng nghanol emosiwn a thristwch mawr, gorchuddiwyd y gadair â lliain du. Hyd heddiw sonnir am Eisteddfod Penbedw fel ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’. Eugeen Vanfleteren, ffoadur o wlad Belg a oedd wedi ymsefydlu ym Mhenbedw, oedd wedi gwneud y gadair. Gan ddefnyddio symbolau Celtaidd a Chymreig, creodd Vanfleteren un o’r cadeiriau Eisteddfodol mwyaf trawiadol a welwyd erioed. Ar 13 Medi, 1917, fe gyrhaeddodd y gadair Trawsfynydd ar y trên, a chludwyd hi i’r Ysgwrn â cheffyl a chert.
Ym 1918, cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth Hedd Wyn, sef Cerddi’r Bugail, ac ar Awst 11, 1923, dadorchuddiwyd cerflun ohono ym mhentref Trawsfynydd. Ym 1991, gwnaed ffilm nodwedd amdano a enwebwyd ar gyfer gwobr Oscar (fel y ffilm orau mewn iaith dramor).
Saint John Roberts (1577 – 1610)
Honnwyd mai yn Rhiw Goch, Trawsfynydd, y ganwyd ef ym 1577, ac mae’n debyg mai yn Eglwys Sant Madryn, Trawsfynydd y cafodd ei fedyddio. Ef oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts, ac roedd yn frawd i Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen. Sonnir eu bod yn byw naill ai yn Gelli Goch neu yn Nhyddyn Gwladus. Roedd yn gefnder i Robert Lloyd, Rhiw Goch, sef AS cyntaf Meirionnydd. Ar garreg nadd adwy’r drws yn Rhiw Goch ceir llythrennau cyntaf enw Robert Lloyd, ynghyd â’r flwyddyn 1610, sef y flwyddyn y merthyrwyd Sant John Roberts. Credir ei fod wedi derbyn ei addysg gynnar oddi wrth fynach a ddifeddiannwyd o Abaty Cymer, wedi i Harri’r VIII ddiddymu’r mynachlogydd.
Magwyd ef yn Brotestant, ac ymunodd â Choleg Sant Ioan, Rhydychen ar 26 Chwefror 1595/6. Yna daeth i gysylltiad â John (Leander) Jones a William Laud, a ddaeth wedi hynny yn Archesgob (Protestannaidd) Caer-gaint. Gadawodd Rhydychen i astudio’r gyfraith yn Furnival’s Inn yn Llundain cyn penderfynu teithio i’r cyfandir. Tra roedd ym Mharis, daeth yn Babydd yn eglwys gadeiriol Notre Dame ac yna aeth i Goleg y Jeswitiaid yn Bordeaux, cyn ymuno â’r un Urdd yn y Coleg Saesneg yn Valladolid, yng ngwlad Sbaen, ar 18 Hydref 1598. Y flwyddyn ddilynol, aeth i Abaty Sant Benedict yn Valladolid, lle daeth yn fynach Benedictaidd, ac ar ôl rhai misoedd, aeth ymlaen i gyflawni ei nofyddiaeth yn Abaty enwog Sant Martin yn Santiago de Compostela tua diwedd 1600. Byddai’n arddel yr enw Fray Juan de Mervinia, sef y Brawd John o Feirionnydd – a oedd yn ddewis anarferol, gan fod y rhan fwyaf o offeiriad yn dewis enw eu mynachlog. Mae hyn yn awgrymu bod ei hen wlad yn annwyl iawn iddo, a bod ganddo barch mawr tuag at Gymru.
Ordeiniwyd ef ac aeth ar y Genhadaeth Seisnig ar 26 Rhagfyr 1602. Ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr yn dilyn diddymiad y mynachlogydd gan Harri’r VIII. Ystyrir y ffaith hon yn un hynod bwysig, gan fod rhai yn gweld cyfatebiaeth rhwng hyn a hanes Awstin Sant. Ysgrifennodd Dom. Weldon: “He was the first who, out of a monastery, after the suppression of monasteries in England, attacked the gate of hell, and provoked the prince of darkness, in his usurped Kingdom, which he overcame, like his great master, the Prince of Martyrs, by losing his life in the conflict ”.
Yn ôl yr ysbïwr, Lewis Owen (Y Llwyn, Dolgellau), “He was the first that had his Mission from the Pope, and his own Spanish prelate to go to England, which made him not a little proud that he should be a second Augustine monk, to convert and reconcile his countrymen to the Roman Anti-christ”. Er gwaethaf cael ei ddilyn gan ysbïwyr, llwyddodd i lanio yn Lloegr yn Ebrill 1603.
Cafodd ei ddal gan yr awdurdodau bedair neu bum gwaith, unwaith ym mis Tachwedd 1605, yn ystod Brad y Powdwr Gwn, tra roedd yn nhy Mrs Percy (gwraig Thomas Percy), ond ar bob achlysur, ar ôl cyfnod byr yn y carchar, cafodd ei ddedfrydu i alltudiaeth. Roedd y Pla Du ymhob man ar droad yr unfed ganrif ar bymtheg, a daeth yn eithaf adnabyddus am weini ar bobl a oedd yn sâl ac yn marw yr adeg honno, ac yn hynod am ei gysondeb, ei frwdfrydedd, ei garedigrwydd a’i ymroddiad dyfal.
Er ei fod yn gwybod ei fod yn wynebu dienyddiad, fe ddychwelodd i Loegr am y tro olaf ym 1610. Tra roedd yn gorffen yr Offeren, cymerwyd ef yn ei urddwisgoedd gan y rhai a oedd yn ceisio’i ddal a’i daflu i garchar Newgate. Cafwyd ef yn euog o deyrnfradwriaeth, a dienyddiwyd ef ar 10 Rhagfyr 1610.
Dienyddiwyd ef trwy gael ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru. Roedd yn draddodiad diberfeddu’r sawl a ddienyddid tra roedd yn dal yn fyw, ond nid oedd y dyrfa yn barod i ganiatáu hyn yn yr achos hwn. Y bobl dlawd yr oedd Sant John Roberts wedi gofalu amdanynt yn ystod y Pla Du oedd y rhain, a chofient ei garedigrwydd. Felly roedd yn rhaid i’r dienyddiwr aros nes ei fod wedi marw. Traddodiad arall oedd i’r dienyddiwr gymryd y galon ar ôl y diberfeddu a’i dangos i’r bobl, gan weiddi: “Wele galon bradwr!” a byddai’r dyrfa’n ateb “Hir oes i’r Brenin” – ond y tro hwn, ni ynganodd y dyrfa yr un gair.
Gyda chymorth Dona Luisa de Caravajal, cenhadwr lleyg o Sbaen, fe gymerodd y mynachod ei olion i Douai yn Ffrainc. Aeth y creiriau ar goll yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Aeth rhai o’i weddillion i Valladolid a Santiago de Compostela yn ogystal, ond aethant hwythau hefyd ar goll.