Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Character Areas

Aber Afon Nyfer

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Aber Afon Nyfer sy’n cynnwys fflatiau llaid llanw, gwelyau cyrs a choetir prysgog ar lannau’r dwˆ r, yn cynnwys ychydig iawn o elfennau adeiledig ar wahân i Bont Trefdraeth, hen odyn calch a Llwybr Arfordir Sir Benfro. Yn ôl i'r map

Bryn-henllan

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Bryn-henllan¸ sy’n gorwedd ar wastadedd arfordirol gogledd sir Benfro yn gyfuniad o bentrefannau, ffermydd bach a chaeau. Mae’r pentrefannau o dai carreg o’r 19eg ganrif bellach wedi’u cysylltu gan ddatblygiadau o dai modern. Mae ffermydd yn gymharol fach, ac mae caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp gyda chloddiau a gwrychoedd yn tyfu arnynt sy’n ffiniau iddynt.
Gweld mwy Bryn-henllan
Yn ôl i'r map

Holmhouse – Tycanol

Mae Holmhouse - Tycanol yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol o ffermydd cymharol fawr wedi’u gosod o fewn caeau mawr o siâp rheolaidd. Cloddiau â wyneb carreg a gwrychoedd wedi’u cynnal yn dda yn tyfu arnynt yw’r fffiniau. Mae’r adeiladau yn rhai carreg ac yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf. Yn ôl i'r map

Carningli

Mae Carningli yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol o rostir agored. Mae ambell i hen glawdd a wal derfyn yn ei chroesi. Mae bryngaer Carningli yn nodwedd amlwg yn y dirwedd hon, ac mae sawl cofeb lai gysylltiedig yn ogystal â charneddi claddu a chofebau defodol ac angladdol eraill.
Gweld mwy Carningli
Yn ôl i'r map

Mynydd Melyn

Mae Mynydd Melyn yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol uwchdirol fach sydd wedi cael ei rhannu yn y gorffennol yn gaeau mawr gan gloddiau â wyneb carreg a waliau carreg sychion, er nad oes angen y rhain bellach, a ffensys gwifren yw ffensys cadw stoc. Mae’r defnydd tir yn gymysgedd o borfa wedi’i gwella a rhostir grug.
Gweld mwy Mynydd Melyn
Yn ôl i'r map

Ffordd Cilgwyn

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ffordd Cilgwyn yn cynnwys ffermydd bach a thai. Mae bron y cyfan o’r adeiladau wedi’u hadeiladu o garreg ac yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae caeau yn fach yn rheolaidd eu siâp ac maent wedi’u hamgylchu gan gloddiau â wyneb carreg a gwrychoedd yn tyfu’n arnynt. Yn ôl i'r map

Trefdraeth

Mae tref fach Trefdraeth, sy’n gorwedd ar lan ddeheuol aber Nyfer, wedi’i nodweddu’n gryf gan nifer o dai carreg o’r 19eg ganrif. Sefydlwyd gan yr Eingl-Normaniaid, ac mae’r eglwys ganoloesol a’r castell canoloesol yn dal i fod yn elfennau cryf o’r treflun.
Gweld mwy Trefdraeth
Yn ôl i'r map

Llain Arfordirol Trefdraeth i Ynys Fach Llyffan Gawr

Mae Llain Arfordirol Trefdraeth i Ynys Fach Llyffan Gawr yn cynnwys clogwyni uchel o garreg galed a darn cul iawn o ben clogwyn y mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg drosto. Mae hen chwareli yn dyst i bwysigrwydd gwaith llechi yn y gorffennol. Yn ôl i'r map

Y Garn – Parke

Mae Y Garn - Parke sy’n gorwedd ar y llethrau islaw Mynydd Carningli sy’n wynebu tua’r gogledd wedi’i nodweddu gan wasgariad cymharol ddwys o fythynnod, tai a daliadau amaethyddol bach wedi’u gosod mewn caeau bach a chloddiau wyneb carreg yn ffiniau a waliau carreg sychion yn ffiniau iddynt. Ar dir uwch mae porfa yn troi’n rhostir unwaith eto. Yn ôl i'r map