Neidio i'r prif gynnwys

Ffurfiodd tywod a chwythwyd gan y gwynt gryn ehangder o dwyni tywod ar nifer o fannau ar hyd arfordir De Cymru, gyda thopograffeg yr arfordir a’r gwyntoedd gorllewinol yn bennaf yn rheoli eu dosbarthiad. Fe’u ceir fel arfer yn y baeau, lle mae maint y bae a thirwedd y gefnwlad yn rheoli eu lledaeniad. Dengys tystiolaeth hanesyddol y digwyddodd tywodi yn gyflym iawn yn y cyfnod canoloesol diweddar, yn ystod y 13edd i’r 15fed ganrifoedd, gyda dirywiad yn yr hinsawdd a chynnydd sylweddol mewn tywodi o ganlyniad i stormydd, glawiad uwch a llanw anarferol, oll yn digwydd gyda’i gilydd. Arweiniodd yr amodau hyn at erydu twyni tywod yr arfordir, a’r tywod yn symud i mewn i’r tir.

Back to main map 005 Margam and Kenfig Sands 003 Margam Burrows 002 Margam Moors 001 South Wales Main Line (Great Western and Port Talbot Railways) and Newlands Loop Rail Corridor 011 M4 Motorway Corridor 006 River Kenfig and Llanmihangel 006 River Kenfig and Llanmihangel 006 River Kenfig and Llanmihangel 006 River Kenfig and Llanmihangel 007 Kenfig and Mawdlam 007 Kenfig and Mawdlam 008 Kenfig Golf Course 009 Sker 010 Sker Point to Porthcawl Point 015 Newton Point to Black Rocks, Ogmore-by-Sea 013 Merthyr Mawr Warren 014 Candleston 014 Candleston 014 Candleston 012 Merthyr Mawr 016 Ogmore Down 018 Ogmore 017 Ochr Draw and Island Farm 004 Kenfig Burrows 004 Kenfig Burrows

Mae Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam yn ddwy ardal o dwyni ar wahHn ar arfordir gorllewinol Morgannwg, a dyma’r enghreifftiau gorau yn Ne Cymru o’r grymusderau naturiol a dilywodraeth hyn, ac o’r effaith sylweddol a gawsant ar gymdeithasau cynharach. Yn anorfod, cynrychiolir dau dirwedd, y nail1 ym Margam a Chynffig yn dirwedd a dywodwyd yn y b8n oherwydd amodau tywydd anffafriol a ffenomenh’r llanw yn y Canol Oesoedd ac yn gynt, efallai, t a’r llall ym Merthyr Mawr fel tirwedd cyffredinol mwy hynafol, gyda safleoedd archeolegol wedi’u llwyr gladdu a gan y grymusderau naturiol hyn.

Twyni Merthyr Mawr

Mae Twyni Merthyr Mawr ar ochr ogledd orllewinol moryd Afon Ogwr. Mae cyfundrefn y twyni yn uwch o lawer nac yng Nghynffig, gall gyrraedd uchder o 80m uwchben SO, ac yn tueddu i oruchafa’r golygfeydd o’r foryd a’r gefnwlad yn union o gwmpas Merthyr Mawr sydd, fel y’i diffinir yma, yn cynnwys Castell Ogwr ar ochr arall y foryd i’r twyni.

Dros y ganrif ddiwethaf, ildiodd y twyni amrywiaeth o ddefnydd archeolegol sy’n nodi preswyliaeth a gweithgaredd o’r cyfnod Mesolithig i’r gorffennol diweddar, trwy i nodweddion ac arwynebeddau archeolegol a gladdwyd ddod i’r wyneb dro ar ôl tro trwy symudiad y tywod. Mae adnoddau cudd archeolegol y twyni yn uchel iawn, gan bod cofnodion am y darganfyddiadau yn awgrymu y bu preswyliad yma yn y cyfnodau Mesolithig, Neolithig, o Oes yr Efydd gynnar (a gynrychiolir gan feddau cistfaen a thwmwli) ac o Oes yr Haearn (gyda thystiolaeth o weithio metel). Yn y cyfnod hanesyddol, ceir tystiolaeth o breswyliad canoloesol o ddarganfyddiadau crochenwaith, muriau, tomenydd cregyn, cefnennau o dir wedi’u trin, ffyrdd, cerrig ffin, a melin wynt o bosibl o’r 15fed ganrif ar ben y twyni. Parhau i symud y mae’r twyni: arwydd o hyn yw Castell Tregantllo, murddun maenordy bach castellog y codwyd y rhan fwyaf ohono’n wreiddiol yn niwedd y 14edd ganrif. Bu pobl yn byw ynddo tan y 19edd ganrif, ond yn awr, saif yn erbyn ochr ddwyreiniol y twyni, a’i dir wedi’i gladdu’n llwyr dan y tywod.

Mae Merthyr Mawr yn nodweddiadol o bentrefi Bro Morgannwg i’r dwyrain, (q.v. Llancarfan, Bro Morgannwg, tud. 50). Mae gan yr eglwys ganoloesol gasgliad o gerrig Cristnogol Cynnar, sy’n awgrymu y gallai yn wreiddiol fod wedi bod yn sefydliad clas mynachaidd (uned weinyddu wedi’ i seilio ar aneddiad mynachaidd canoloesol). Mae Castell Ogwr, caer Normanaidd i’r de, yn gastell gwaith cerrig o’r 12fed i’r 14edd ganrifoedd, wedi’i leoli’n strategol nesaf at ryd llanw ar draws Afon Ewenni, un o isafonydd Afon Ogwr. Fe’i codwyd yn wreiddiol o waith cloddiog a phren, gyda ffos fyddai’n llenwi 8 dwr ar adeg llanw uchel, ac mae’n debyg mai’r gorthwr gwaith cerrig o’r 12fed ganrif a osodwyd wedyn yn y ward fewnol yw un o’r adeiladau gwaith cerrig Normanaidd hynaf yn Ne Ddwyrain Cymru.

Twyni Cynffig a Margam

Gorwedd y twyni hyn oddeutu 7km i’r gogledd orllewin o Ferthyr Mawr, ar y gwastadedd arfordirol rhwng y m6r a Mynydd Margam i’r gogledd, a chadwasant eu golwg drawiadol er i gyfundrefnau cludiant modern y rheilffordd a’r draffordd dorri ar draws eu hymylon dwyreiniol. Maent lawer yn is, ond yn fwy helaeth, na thwyni Merthyr Mawr. Yn hanesyddol ac yn archeolegol, mae ardal Cynffig yn gyfoethog o ran tystiolaeth am y gorffennol, ac y mae’n cynnwys castell a bwrdeistref Cynffig a dywodwyd; fe’u disgrifiwyd fel Pompeii Prydain. Er mae’n debyg mai sefydliad Normanaidd oedd Cynffig, dengys darganfyddiadau archeolegol eraill o’r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a’r Oesoedd Tywyll o’r ardal yn union gerllaw iddo fod yn safle ffafriol i’w aneddu o gyfnod cynnar iawn.

Daw enw arglwyddiaeth, castell a bwrdeistref ganoloesol gynnar Cynffig o Afon Cynffig a fu unwaith yn bwysig. Tardda ar Fynydd Margam 6km i’r gogledd. Ar y Ian ddeheuol y mae’r castell; 2km o’r foryd bresennol, er mai o ddiwedd y cyfnod canoloesol y mae’n dyddio. Yn wreiddiol, yr oedd yma foryd eang a ymestynai i mewn i’r tir bron at safle’r castell, ac y mae’r nodwedd ddaearyddol gynnar a phwysig hon yn amlwg heddiw ym Mhwll Cynffig, sy’n fawr ac wedi ei amgylchynu gan dir, a phyllau llai tua’r gogledd. Oherwydd y topograffi gwreiddiol hwn, yr oedd castell Cynffig a’r fwrdeistref gerllaw yn arwyddocaol o safbwynt strategol a milwrol gan eu bod ar borthladd ac afon o gryn bwysigrwydd.

Mae twyni helaeth Twyni Cynffig yn cuddio’r castell a’r fwrdeistref gladdedig cystal fel mai’r peth gorau yw eu lleoli mewn perthynas d nodweddion modern; fel mae’n digwydd, y mae’r rheiny eu hunain heddiw yn tystio i safle bwysig Cynffig ar y tramwyfeydd. Gorwedd bwrdeistref y castell yn union i’r de o’r brif reilffordd, a rhyw 300m i’r gorllewin o fan Ile maedarn uchel o draffordd yr M4 yn croesi’r rheilffordd. Nid oes dichon bod y castell yn bell o’r fan lle’r oedd y ffordd Rufeinig o Gaerdydd i Gastell-nedd yn croesi Afon Cynffig. Rhufeinig oedd tarddiad y ffordd hynafol hon, y Pwrtwai neu’r Fartima ganoloesol, a dewis eithriadol o dda oedd codi’r castell ar y dramwyfa strategol hon, Ile mae’r afon yn cyfarfod â’r môr.

Safle strategol ac agored bwrdeistref y castell fel caer fwyaf gorllewinol Arglwyddi Morgannwg yn y 12fed ganrif sydd i gyfrif am y cofnod dogfennol arbennig o lawn a oroesodd. Rhwng 1167 a 1321, ymosododd y Cymry, a gyfyngid bellach i ucheldiroedd cyfagos Mynydd Margam, ddim llai nag with gwaith ar Gynffig, yn ôl y cofnodion. Mae’r tirwedd heddiw yn adlewyrchu llawer o’r gwrthdaro rhwng y carfannau rhyfelgar hyn, y nail1 yn goresgyn ac yn elwa ar y tiroedd isel, breision, a’r llall wedi’u cau allan a’u cyfyngu gan rym milwrol i’r bryniau o fewn golwg i furiau Cynffig.

Crybwyllir Castell Cynffig ac Eglwys Sant Iago gyntaf yn y cyfnod 1135-54. Mae’n amlwg, felly, bod y fwrdeistref a’i heglwys a gofnodwyd wedi’i sefydlu fan bellaf erbyn can01 y 12fed ganrif, a bod iddi amddiffynfeydd o waith cloddiog a phren. Yng nghanol y 14edd ganrif, yr oedd Cynffig yn fwrdeistref sylweddol o ryw 700-800 o bobl. Cofnodir Stryd ‘Fawr’, Stryd y ‘Dwyrain’ a Stryd y ‘Gorllewin’ yn ogystal â chapel i St. Thomas, y Guildhall a maladaria (ysbyty neu glafdy). Mae’n amlwg bod y fwrdeistref yn ffynnu ar yr adeg hon, er i’r sefyllfa ddirywio’n gyflym yn ystod y 15fed ganrif, wrth i’r tywod gau i mewn.

Erbyn 1470, yr oedd pawb, bron, wedi gadael y dref. Y flwyddyn ganlynol, dywedwyd wrth y bwrdeisiaid am adael eu heglwys a symud i’r Pîl, lle’r oedd anheddiad newydd yn datblygu. Erbyn y 1530au, gallai’r hynafiaethydd Leland nodi yn unig ‘a village on the est side of Kenfik, and a Castel, both in ruins and almost shokid and devoured with the sanaes that the Severne se there castith up’. Erbyn 1572, tri bwrdais yn unig oedd ar ôl, tra cofnododd arolwg o’r fwrdeistref ym 1665 un teulu yn unig yn byw ‘on the site of the ould castle’.

Roedd Ty Scer, sydd wedi’i gynnwys ar ochr ddeuheuol yr ardal, gynt yn blas oedd yn eiddo i Abaty Nedd.

Character Areas

Ogwr

Anheddiad cnewyllol-organig sydd wedi lleihau mewn maint sy'n cynnwys amddiffynfa gylch/castell cerrig canoloesol a leolir yn strategol o fewn tirwedd amaethyddol/tirwedd gorlifdir â chlostiroedd yn dyddio o'r cyfnod…
Gweld mwy Ogwr
Yn ôl i'r map

Ochr Draw ac Island Farm

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf, sy'n cynnwys patrwm caeau datblygedig ond eithaf rheolaidd a ffiniau pendant; anheddiad amaethyddol ôl-ganoloesol; coridor cysylltiadau sy'n cynnwys llinell ffordd Rufeinig (Caerllion -… Yn ôl i'r map
Unenclosed common; recreational open space; Ancient and other broadleafed woodland; with a small multi-period relict archaeological landscape element with communication features.

Rhos Ogwr

Tir comin agored; man hamdden agored; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; ag elfen dirwedd archeolegol greiriol amlgyfnod fach â nodweddion cysylltiadau. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol…
Gweld mwy Rhos Ogwr
Yn ôl i'r map
Intertidal zone at mouth of Ogmore River (Aberogwr); relict archaeological intertidal features.

Trwyn Drenewydd i Garreg Ddu, Aberogwr

Parth rhynglanwol yn aber Afon Ogwr (Aberogwr); nodweddion rhynglanwol archeolegol creiriol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Trwyn Drenewydd i Garreg Ddu, Aberogwr yn cynnwys y parth rhynglanwol… Yn ôl i'r map

Trecantle

Craidd maenoraidd Castell Trecantle a leolir o fewn ardal o dirwedd amaethyddol a choediog gymysg (gan gynnwys Coetir Hynafol) ar gyrion Cwningar Merthyr Mawr; archeoleg greiriol: aneddiadau/caeau canoloesol…
Gweld mwy Trecantle
Yn ôl i'r map
Nationally important unenclosed be-sanded landscape; multi-period and multi-functional landscape; post-medieval rabbit warren.

Cwningar Merthyr Mawr

Tirwedd agored a orchuddiwyd â thywod sydd o bwys cenedlaethol; tirwedd amlgyfnod ac amlswyddogaethol; cwningar ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwningar Merthyr Mawr yn ardal dirwedd… Yn ôl i'r map
Post-medieval gentry estate: house, parkland and garden, and associated estate village; varied settlement pattern; post-medieval vernacular, picturesque and polite estate architecture; post-medieval agricultural landscape; distinctive field boundaries; relict prehistoric and medieval settlement/fields.

Merthyr Mawr

Ystad fonedd ôl-ganoloesol: ty, parcdir a gardd, a phentref ystad cysylltiedig; patrwm anheddu amrywiol; pensaernïaeth ystad frodorol, pictiwrésg a boneddigaidd ôl-ganoloesol; tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol; ffiniau caeau pendant; aneddiadau/caeau…
Gweld mwy Merthyr Mawr
Yn ôl i'r map
Major road transport corridor; civil engineering: road and motorway bridges.

Coridor Traffordd yr M4

Coridor trafnidiaeth ffordd pwysig; peirianneg sifil: pontydd ffordd a thraffordd. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Coridor Traffordd yr M4 yn cynnwys darn bach o lwybr traffordd yr… Yn ôl i'r map
Coastal and intertidal zone; unenclosed common; intertidal features; historic associations; minor communications and distinctive boundaries.

Trwyn y Sger i Drwyn Porthcawl

Parth arfordirol a rhynglanwol; tir comin agored; nodweddion rhynglanwol; cysylltiadau hanesyddol; cysylltiadau llai pwysig a ffiniau pendant. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Trwyn y Sger i Drwyn… Yn ôl i'r map
Medieval/post-medieval agricultural landscape; distinctive field boundaries; relict and buried archaeology, primarily prehistoric funerary and ritual; ecclesiastic: medieval monastic grange; medieval/post-medieval vernacular architecture; historic associations.

Y Sger

Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau caeau pendant; archeoleg greiriol a chladdedig, sy'n cynnwys nodweddion angladdol a defodol yn bennaf; eglwysig: maenor fynachaidd ganoloesol; pensaernïaeth frodorol ganoloesol/ôl-ganoloesol; cysylltiadau hanesyddol. Cefndir…
Gweld mwy Y Sger
Yn ôl i'r map
Open area of stabilised sand dunes; recreational use - managed and in use as golf course; buried archaeology; communications.

Cwrs Golff Cynffig

Ardal agored o dwyni tywod sefydlog; defnydd hamdden - fe'i rheolir ac fe'i defnyddir fel cwrs golff; archeoleg gladdedig; cysylltiadau. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwrs Golff… Yn ôl i'r map
Post-medieval settlement and agricultural landscape with medieval precursor; medieval and post-medieval fields; distinctive boundaries; ribbon development settlement pattern; post-medieval vernacular buildings; ecclesiastical features; communications: footpaths, tracks and straight lanes; historic associations.

Cynffig a Mawdlam

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol a ddatblygodd o anheddiad a thirwedd ganoloesol gynharach; caeau canoloesol ac ôl-ganoloesol; ffiniau pendant; patrwm anheddu a nodweddir gan ddatblygiadau hirgul; adeiladau brodorol… Yn ôl i'r map

Afon Cynffig a Llanmihangel

Tirwedd amaethyddol o aneddiadau/caeau ôl-ganoloesol â nodweddion canoloesol creiriol sydd wedi goroesi sy'n gysylltiedig yn bennaf â maenor fynachaidd Llanmihangel; ffiniau caeau pendant; Coetir hynafol a choetir llydanddail… Yn ôl i'r map
Present-day intertidal zone; intertidal features: post-medieval wrecks; buried archaeology: prehistoric - post-medieval find scatters; modern industrial/military structures; historic associations.

Traethau Margam a Chynffig

Parth rhynglanwol cyfoes; nodweddion rhynglanwol; llongddrylliadau ôl-ganoloesol; archeoleg gladdedig: darganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol - ôl-ganoloesol; strwythurau diwydiannol/milwrol modern; cysylltiadau hanesyddol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Traethau Margam a… Yn ôl i'r map
Unenclosed burrows; buried archaeology: medieval settlement/fields, ie be-sanded Kenfig, military/defensive: Kenfig Castle; associated medieval ecclesiastical features; post-medieval rabbit warren; characteristic field boundaries; prehistoric find scatters; communications corridor; historic associations.

Twyni Cynffig

Twyni agored: archeoleg gladdedig: anheddiad/caeau canoloesol, hy Cynffig a orchuddiwyd â thywod, milwrol/amddiffynnol: Castell Cynffig; nodweddion eglwysig canoloesol cysylltiedig; cwningar ôl-ganoloesol; ffiniau caeau nodweddiadol; darganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol; coridor… Yn ôl i'r map
Coastal sand dunes, with recent industrial intrusion; medieval warren; 20th century military/defensive landscape.

Twyni Margam

Twyni tywod arfordirol, yr effeithiwyd arnynt gan ddiwydiant yn ddiweddar; cwningar ganoloesol; tirwedd filwrol/amddiffynnol o'r 20fed ganrif Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Margam yn cynnwys ardal…
Gweld mwy Twyni Margam
Yn ôl i'r map
Reclaimed and enclosed salt marsh wetland pasture; medieval/post-medieval fields and former medieval monastic grange land, varied field pattern with typical ridge and furrow, earth bank and drainage features.

Morfa Margam

Tir pori gwlyb morfa heli a adferwyd ac a amgaewyd; caeau canoloesol/ôl-ganoloesol a thir a arferai berthyn i faenor fynachaidd ganoloesol, patrwm caeau amrywiol sy'n cynnwys nodweddion cefnen…
Gweld mwy Morfa Margam
Yn ôl i'r map
Communication corridor: rail

Prif Linell De Cymru (Rheilffyrdd y Great Western a Phort Talbot) a Choridor Rheilffordd Ddolennog Newlands

Coridor cysylltiadau: rheilffordd. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Prif Linell De Cymru a Choridor Rheilffordd Ddolennog Newlands yn cynnwys rhan o lwybrau cyfochrog Rheilffordd De Cymru a… Yn ôl i'r map