Skip to main content

Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

the Black Mountain Usk Reservoir Allt y Ferdre Cefntelych Cilgwyn - Llwynwormwood Maes-Gwastad Myddfai Llandeusant - Capel Gwynfe Blaensawdde Rhiwaiu Pen Arthur Plantation Trichug Dafadfa Trap Carreg Cennen Castle Cilmaenllwyd Upper Cennen Blaen Cennen Beddau y Derwyddon Banc Wernwgan - Foel Fraith Quarries Pentregronw

Character Areas

Castell Carreg Cennen

256 Mae ardal gymeriad Castell Carreg Cennen yn cynnwys bryn carreg galch greigiog ac ar ei gopa lleolir olion sylweddol castell canoloesol Yn ôl i'r map

Ardal 197 – Trap

197 Mae ardal gymeriad Trap yn dir caeëdig sy'n cynnwys clostiroedd bach a phocedi o glostiroedd rheolaidd mwy o faint. Y patrwm anheddu yw un o dai a ffermydd gwasgaredig gyda chlwstwr o anheddau o'r 19eg ganrif a rhai modern ym mhentref Trap. Yn ôl i'r map

Ardal 230 Planhigfa Pen-Arthur

230 Mae ardal gymeriad Planhigfa Pen Arthur yn gorwedd ar draws cefnen uchel ac ochrau dyffryn afon Sawdde. Mae'n cynnwys coedwigaeth o'r 20fed ganrif a blannwyd ar gyn gaeau. Goroesa anheddau mewn cliriadau yn y blanhigfa. Yn ôl i'r map

Ardal 229 – Rhiwiau

229 Gorwedd ardal gymeriad Rhiwiau ar draws y gefnen. Er iddi fod wedi'i rhannu'n gaeau yn flaenorol mae llawer o'r hen gloddiau a gwrychoedd yn awr wedi dymchwel ac mae gwedd agored i'r dirwedd. Nid oes anheddau. Yn ôl i'r map

Ardal 228 – Cilgwyn-Llwynwormwood

228 Ceir sawl cyn ystad yn ardal gymeriad Cilgwyn-Lllwynwormwood. Mae rhai o'r plasdai wedi goroesi, ond y prif ddylanwad ar y cymeriad hanesyddol gan yr ystadau oedd creu'r dirwedd parcdir. Yn ôl i'r map

Ardal 211 – Blaensawdde

211 Mae ardal gymeriad Blaensawdde yn gorwedd yn rhan uchaf dyffryn afon Sawdde wrth droed y Mynydd Du. Mae'n cynnwys ffermydd mawr gwasgaredig, caeau bach i ganolig eu maint a choedydd. Mae'r ffermdai yn dyddio'n bennaf i'r 18fed a'r 19eg ganrif ac maent yn gysylltiedig ag ystod eang o dai allan. Yn ôl i'r map

Ardal 198 – Uwch Cennen

198 Gorwedd ardal gymeriad Cennen Uchaf ym mhen uchaf dyffryn afon Cennen sydd â llethrau serth coediog iawn, a thir wedi ei rannu'n gaeau gyda ffermydd gwasgaredig ar dir mwy gwastad. Yn ôl i'r map

Ardal 200 – Dafadfa

200 Gorwedd ardal gymeriad Dafadfa ar lethrau esmwyth sy'n wynebu'r gogledd ac mae'n cynnwys tir pori wedi'i wella wedi ei rannu'n gaeau canolig eu maint a lled reolaidd. Mae'r patrwm anheddiad yn un o ffermydd gwasgaredig iawn. Mae'r ffermdai a'r tai allan yn bennaf o'r 19eg ganrif ac wedi eu codi o gerrig. Yn ôl i'r map

Ardal 199 – Beddau Y Derwyddon Cyfeirno

199 Mae ardal gymeriad Beddau y Derwyddon yn ardal fechan o dir pori garw ac wedi ei wella wedi ei amgylchynu gan wal gerrig yn gwahanu gweundir agored oddi wrth dir caeëdig is a anheddir. Yn ôl i'r map

Ardal 255 – Blaen Cennen

255 Gorwedd ardal gymeriad Blaen Cennen ar ymyl gogleddol y Mynydd Du ac mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau tir pori. Yn ôl i'r map

Ardal 254 – Cilmaenllwyd

254 Mae ardal gymeriad Cilymaenllwyd yn cynnwys ffermydd a bythynnod gwasgaredig a chaeau eithaf rheolaidd o dir pori wedi'i wella. Mae'r ffiniau o gloddiau a gwrychoedd. Dyddia'r rhan fwyaf o'r ffermdai a'r adeiladau eraill o'r 19eg ganrif. . Yn ôl i'r map

Ardal 240 – The Black Mountain – Y Mynydd Ddu

240 Gweundir hollol agored yw ardal gymeriad Y Mynydd Du. Mae'n cynnwys copaon Bannau Sir Gar/Fan Brycheiniog ar uchder o dros 800m, ond yn bennaf mae'n Cynnwys tir pori garw a mawnogydd blanced rhwng 250m a 600m. Yn ôl i'r map

Ardal 231 – Trichrug

231 Gorwedd ardal gymeriad Trichrug ar draws cefnen sy'n codi o ardal o dir amaethyddol cyfoethog. Er ei bod wedi ei rhannu'n gaeau gynt mae llawer o'r cloddiau a'r ffiniau cerrig wedi eu dymchwel ac mae'r ardal yn awr yn frodwaith o dir pori a wellwyd, tir pori garw, gweundir a phlanhigfeydd coniffer. Yn ôl i'r map

Ardal 239 – Banc Wernwgan – Chwareli Foel Fraith

239 Mae ardal gymeriad Banc Wernwgan - Chwareli Foel Fraith ar ymyl gogleddol y Mynydd Du. Gweundir agored ydyw. Elfennau amlwg yn y dirwedd hanesyddol yw olion y diwydiant cloddio am garreg galch. Yn ôl i'r map

Ardal 238 – Fforest Glasfynydd – Cronfa Ddwr Afon Wysg

238 Mae ardal gymeriad Fforest Glasfynydd - Cronfa Ddwr Afon Wysg yn cynnwys planhigfa goniffer o'r 20fed ganrif a chronfa ddwr o'r 20fed ganrif. Sefydlwyd y ddwy ar dir a oedd yn bennaf yn weundir agored. Yn ôl i'r map

Ardal 232 – Myddfai

232 Gorwedd ardal gymeriad Myddfai mewn dyffryn agored ac mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau tir pori cymharol reolaidd. Mae pentref Myddfai gyda'i eglwys ganoloesol yn ganolbwynt i'r ardal. Yn ôl i'r map

Ardal 237 – Allt y Ferdre

237 Gorwedd ardal gymeriad Allt y Ferdre ar draws bryniau ac ochrau dyffryn serth iawn. Mae'n cynnwys yn ei chyfanrwydd dir coediog, yn goed collddail hynafol a phlanhigfeydd coniffer o'r 20fed ganrif. Yn ôl i'r map

Ardal 234 – Cefntelych

234 Gorwedd ardal gymeriad Cefntelych ar draws cefnen isel ac mae'n cynnwys tir pori wedi'i wella a rannwyd yn gaeau mwy o faint. Mae cloddiau'r caeau erbyn hyn bron i gyd wedi dymchwel, gan roi gwedd agored i'r dirwedd. Yn ôl i'r map

Ardal 233 – Llanddeusant – Capel-Gwynfe

233 Mae ardal gymeriad Llanddeusant-Capel Gwynfe yn cynnwys tir amaethyddol a Rannwyd yn gaeau, ffermydd gwasgaredig a choedydd collddail gwasgarog sy'n cyffinio â gweundir agored y Mynydd Du. Yn ôl i'r map

Ardal 236 – Pentregronw

236 Gorwedd ardal gymeriad Pentregronw ar lethrau serth sy'n gogwyddo tua'r de- orllewin ar ymyl y Mynydd Du. Er ei bod wedi ei rhannu'n gaeau gynt gan waliau a chloddiau mae'r ardal hon yn dychwelyd yn gyflym i fod yn weundir. Lleolir ffermdy a adawyd yn segur yn yr ardal hon. Yn ôl i'r map

Ardal 235 – Maes-gwastad

235 Gorwedd ardal gymeriad Maes-gwastad ar draws gwaelod dyffryn afon Brân ac mae'n cynnwys caeau mawr o dir pori wedi'i wella a rennir gan gloddiau cymen, ffermydd gwasgaredig ond heb fawr iawn o goedwigoedd na choed unigol. Yn ôl i'r map