Skip to main content

Tirwedd amaethyddol greiriol; ffiniau amlwg; tresmasu canoloesol; anheddu canoloesol posibl a nodweddion amaethyddol cysylltiedig.

Cefndir Hanesyddol

Lleolir ardal tirwedd hanesyddol Cilelái a Rhiwgarn at ei gilydd y tu allan i Dirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda ac mae’n cynnwys ardal o ucheldir amgaeëdig ar lethrau gorllewinol Mynydd-y-Glyn. Canolbwynt yr ardal yw fferm wag Rhiwgarn, a cheir caeau afreolaidd bach creiriol fwy neu lai o bobtu iddi, sy’n cynrychioli ardal y tresmaswyd arni yn ystod y cyfnod canoloesol neu ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae’n debyg bod yr ardal yn rhan anghysbell o safle’r anheddiad canoloesol posibl a leolir ymhellach i’r de, y tu allan i Dirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda yn ST 0259 8973.

Ffynonellau

Post-medieval enclosure below Cilely Farm.