Skip to main content

Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol greiriol yn bennaf, yn debyg i HLCA 029, o bosibl â gwreiddiau canoloesol; ffiniau caeau amlwg; mân nodweddion echdynnu diwydiannol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm (Mynydd Penygraig) yn estyniad ar wahân o HLCA 029 y Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm a HLCA 033 y Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm (Cwm Lan – Nant-y-Gwiddon). Nodweddir yr ardal gan gaeau bach a chanolig eu maint o fewn ffiniau caeau nas defnyddir yn aml, a ffurfir gan wrychoedd a waliau sych. Ar wahân i amaethyddiaeth, mae tystiolaeth bod rhywfaint o ddefnydd wedi’i wneud o’r tir at ddibenion diwydiannol, hen lefelau glo, chwareli a ffyrdd aer i lefelau tanddaearol gan mwyaf, nodweddion a ddangosir ar 2il argraffiad map 6″ yr AO dyddiedig 1900.

Plannwyd rhai coedwigoedd yn ystod y cyfnod modern o fewn ffiniau’r HLCA; mae enwau caeau Coedcae yn tystio i’r ffaith bod yr ardal wedi’i gorchuddio â llawer mwy o goed yn y dyddiau gynt. Ychydig o gofrestrau archeolegol a gofnodir ar gyfer yr ardal ar wahân i fferm Penygraig yn dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol, a allai fod yn dy hir a daliad ôl-ganoloesol Gelli-Faelog.

Ffynonellau

Gelli-Faelog Farm, derelict post-medieval holding above Tonypandy.