Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

285 - Penmaen Dewi 286 - Porthmawr 287 - Tywyn 288 - Treleddyd - Tretio - Caerfarchell 285 - Penmaen Dewi 290 - Pwll Trefeiddan 289 - Treleddyn - Treginnis 300 - Porth Clais 292 - St Nons - Llandrydian 291 - Dyffryn Alun 294 - Tyddewi 295 - Warpool 292 - St Nons - Llandrudion 297 - Waun Caerfarchell 296 - St David's Airfield 293 - Comin: Dowrog - Treleddyd - Tretio 298 - Middle Mill 299 - Caerforiog 302 - Ramsey 301 - Caer Llundain - Caer Ysgubor 303 - Ynys Selyf - Old Farm 304 - Ynys Selyf - prehistoric fields 304 - Ynys Selyf - prehistoric fields

Character Areas

293 Comin: Dowrog – Treleddyd – Tretio

293 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Comin Dowrog - Treleddyd - Tretïo yn cynnwys tir comin gwlyb a chorslyd. Yn ôl i'r map

294 Tyddewi

294 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tyddewi yn cynnwys dinas Tyddewi. Mae'n cynnwys clos yr eglwys gadeiriol - Eglwys Gadeiriol Tyddewi, hen Lys yr Esgob ac adeiladau cysylltiedig - craidd y ddinas ganoloesol a datblygiadau modern ar y cyrion. Yn draddodiadol, mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig. Y tu allan i glos yr eglwys gadeiriol, ceir amrywiaeth mawr o fathau o adeiladau, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.
Gweld mwy 294 Tyddewi
Yn ôl i'r map

295 Warpool

295 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Warpool wedi'i lleoli ar draws hen system o gaeau agored o amgylch Dinas Tyddewi. Nodweddir yr ardal hon gan lain gaeau cul wedi'u hamgáu gan gloddiau a gwrychoedd isel. Mae datblygiadau'r 19eg a'r 20fed ganrif ar gyrion y ddinas wedi meddiannu rhywfaint o'r hen lain-gaeau hyn.
Gweld mwy 295 Warpool
Yn ôl i'r map

296 St David’s airfield

296 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maes Awyr Tyddewi yn cynnwys tirwedd agored o dir pori wedi'i adfer. Erbyn hyn dymchwelwyd pob un o adeiladau'r maes awyr a ddyddiai o'r ail ryfel byd, ond mae darnau byr o'r llwybr glanio concrid a'r ffyrdd gwasanaethu wedi goroesi. Yn ôl i'r map

Y Felinganol

298 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Y Felinganol wedi'i lleoli yn nyffryn serth a chul Afon Solfach ac wedi'i lleoli o amgylch pentrefan sef y Felinganol. Yn draddodiadol codwyd yr adeiladau o gerrig, gyda'r rhan fwyaf o'r anheddau yn dyddio o'r 19eg ganrif gydag ambell i dy yn dyddio o'r 20fed ganrif. Lleolir chwarel fawr segur ar ochr y dyffryn sy'n edrych dros y pentrefan. Mae'r defnydd o dir yn cynnwys tir pori ar lawr y dyffryn a choetir a phrysgwydd ar ochrau'r dyffryn.
Gweld mwy Y Felinganol
Yn ôl i'r map

299 Caerforiog

299 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Caerforiog yn cynnwys caeau mawr hirsgwar o dir pori a thir âr wedi'i wella sydd wedi'u rhannu gan gloddiau a gwrychoedd, a ffermydd gwasgaredig. Mae'r gwrychoedd yn isel ac yn wasgarog a thirwedd foel heb goed ydyw. Mae'r ffermydd yn fawr. Yn ôl i'r map

300 Porth Clais

300 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porth Clais yn cynnwys harbwr bach wedi'i adeiladu o gerrig, ceiau, odynau calch a meysydd parcio wedi'u lleoli mewn cilfach gul ac iddi ochrau serth. Yn ôl i'r map

301 Caer Llundain – Caer Ysgubor

301 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Caer Llundain - Caer Ysgubor yn cynnwys ardal rhostir agored bryniog a chreigiog Ynys Dewi ac mae clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr i'w cael ar dair ochr. Ceir olion ffiniau caeau cynhanesyddol yn yr ardal hon. Tirwedd foel heb goed ydyw. Yn ôl i'r map

302 Ynys Dewi

302 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Dewi yn cynnwys y rhan ogleddol gysgodol ar Ynys Dewi a rannwyd yn gaeau mawr gan waliau cerrig sych. Mae'n cynnwys fferm sy'n dyddio o'r 19eg ganrif a man glanio. Tir pori yw'r tir gan fwyaf. Tirwedd foel heb goed ydyw. Yn ôl i'r map

Ynys Selyf – yr Hen Fferm

303 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf - yr Hen Fferm wedi'i lleoli yng nghanol Ynys Selyf ac mae'n cynnwys y rhan honno o'r ynys a ffermiwyd yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Ni chaiff y tir ei ffermio bellach ond mae waliau a chloddiau'r hen gaeau a'r hen fferm yn goroesi. Yn ôl i'r map

304 Ynys Selyf – Caeau

304 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf - caeau cynhanesyddol yn cynnwys pob rhan o Ynys Selyf nas ffermiwyd yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr yn amgylchynu llwyfandir lle gwelir olion caeau cynhanesyddol ac aneddiadau ar ffurf cloddweithiau a muriau isel. Tirwedd foel heb goed ydyw. Caiff y glaswellt ei gadw'n fyr oherwydd bod cwningod yn pori'r tir dros ran fawr o'r ynys. Yn ôl i'r map

297 Waun Caerfarchel

297 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Waun Caerfarchell yn cynnwys tir comin gwlyb a chorslyd. Yn ôl i'r map

286 Porthmawr

286 Porthmawr historic landscape character area is a treeless landscape of dispersed farms and fields. Dry-stone walls are the main type of field boundary. Hedges are few, and where present are low and windswept. Improved pasture is the main land-use. Camp sites and caravan parks are present. Paired farms situated on the south-facing slopes of Carn Llidi are a feature of this landscape. A wide range of dwelling type is present. Stone is the traditional building material. Yn ôl i'r map

285 Penmaen Dewi

285 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Penmaendewi ar ben eithaf gorllewinol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel sy'n disgyn i'r môr a rhostir agored sy'n ymestyn i gopa Carn Llidi sydd ryw 180m o uchder. Ar y rhostir ceir olion cynhanesyddol, gan gynnwys caer bentir, siambrau claddu a systemau caeau. Yn ôl i'r map

287 Tywyn

287 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tywyn yn cynnwys ardal o dywod chwyth Porth Mawr. Tir comin ydoedd tan 1869 pan y'i hamgaewyd gan Ddeddf Seneddol. Ceir system o dwyni tywod ar hyd yr arfordir gyda glaswelltir yn gorchuddio'r tywod chwyth yn yr ardaloedd mewndirol. Lleolir cwrs golff, gwesty, tai modern, maes parcio a chyfleusterau twristiaeth eraill yn yr ardal hon.
Gweld mwy 287 Tywyn
Yn ôl i'r map

288 Treleddyd – Tretio – Caerfarchell

288 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyd - Tretïo - Caerfarchell ar dir amaethyddol ffrwythlon ar ochr ogleddol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys caeau, pentrefannau bach a ffermydd gwasgaredig. Mae'r anheddau yn draddodiadol wedi'u hadeiladu o gerrig ac yn amrywio o ran dyddiad ac arddull o'r tai isganoloesol a thai Sioraidd i fythynnod yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae adeiladau amaethyddol mawr modern yn elfen gref yn y dirwedd. Mae gwrychoedd gwasgarog, isel i'w cael ar ben y cloddiau terfyn. Ceir yma safleoedd gwersylla a pharciau carafannau ond defnyddir y tir gan fwyaf fel tir pori wedi'i wella gyda pheth tir âr. Tirwedd foel heb goed ydyw. Yn ôl i'r map

289 Treleddyn – Treginnis

289 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyn - Treginnis ar gyrion gorllewinol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr a thirwedd amaethyddol o gaeau bach, cerrig brig tebyg i foelydd a ffermydd gwasgaredig. Mae ffermydd wedi'u clystyru mewn grwpiau a leolir yng nghysgod y moelydd. Yn draddodiadol mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig ac yn amrywio o dai isganoloesol a thai Sioraidd i fythynnod sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir cymysgedd o dir pori, tir âr a thir pori garw yma. Tirwedd foel heb goed ydyw. Cer yma safleoedd gwersylla a pharciau carafannau. Yn ôl i'r map

290 Pwll Trefeiddan

290 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pwll Trefeiddan yn cynnwys tir comin gwlyb agored gydag ardal helaeth o ferddwr. Yn ôl i'r map

291 Dyffryn Alun

291 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dyffryn Alun yn cynnwys ochrau serth dyffryn cul sydd wedi'u gorchuddio â phrysgwydd. Mae llawr y dyffryn yn dir pori neu'n gors. Mae'r gwrychoedd ar y cloddiau ffiniau ar waelod y dyffryn wedi'u gadael ac nis defnyddir rhagor. Lleolir gwaith trin carthion yma. Yn ôl i'r map

292 St Nons – Llandrudion

292 Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol St Nons - Llandridian ar gyrion deheuol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr a thirwedd o gaeau bach a ffermydd gwasgaredig. Yn draddodiadol, mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig, ac mae'r rhan fwyaf o'r tai yn dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir sawl safle gwersylla a pharc carafannau yn yr ardal ond defnyddir y tir gan fwyaf ar gyfer tir pori a rhywfaint o dir âr. Mae'r gwrychoedd sy'n goroesi ar y cloddiau terfyn pridd a charreg yn isel ac yn wasgarog. Tirwedd foel heb goed ydyw. Yn ôl i'r map