Neidio i'r prif gynnwys

Mae Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn mynd i lansio rhwydwaith newydd ar gyfer gwirfoddoli i ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, diolch i ariannu gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae’r CGGC wedi buddsoddi yn Heneb trwy’r cynllun grant Strategol Gwirfoddoli Cymru gyda chyllid gan Llywodraeth Cymru.

Bydd Heneb yn derbyn £100,000 i alluogi’r Ymddiriedolaeth i adeiladu Treftadaeth gynaliadwy Cymru a Rhwydwaith Gwirfoddoli Archaeoleg, gan gysylltu pobl, lleoedd, a chyfleoedd. Bydd y cyllid yn helpu i wella mynediad, cynyddu gwelededd a sefydlu cysondeb ar gyfer gwirfoddoli yn y maes archaeoleg yng Nghymru.

Prif amcan Heneb fydd rhoi pŵer i gymunedau lleol, cefnogi symudedd gwirfoddol ar draws y sector, a sefydlu’r sylfeini ar gyfer trefn wirfoddoli unedig, dinesig arloesol sy’n gyrru effaith hir dymor i gymunedau ledled Cymru.

Dywedodd Richard Nicholls, Prif Weithredwr Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru:

“Rydym yn falch ein bod wedi’i adnabod trwy gynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru gyda’r wobr hon o £100,000.”

Bydd y cyllid yn ein helpu i greu cysondeb i bobl sy’n dymuno gwirfoddoli mewn rolau treftadaeth ac archaeoleg mewn amrywiaeth o leoliadau treftadaeth a gyda grwpiau gwahanol ar draws Cymru.

Gall gwirfoddoli mewn archaeoleg gael mwy nag un fantais. Wrth gwrs, bu amgylchedd hanesyddol Cymru yn elwa ond mae hefyd nifer o fanteision i’r bobl sy’n gwirfoddoli. Mae gennym eisoes dystiolaeth o’r gwelliannau i les meddyliol a chorfforol a brofir gan bobl sy’n cymryd rhan mewn cloddiadau cymunedol archaeolegol, er enghraifft.

Yn yr Haf llynedd, gwirfoddolodd Edward, 17 oed, at gloddiad cymunedol Heneb yn Sir y Fflint ac roedd yn falch iawn pan ddarganfuwyd mownt ffrwyn ceffyl 2,000 mlwydd oed.

“Dyma’r math o brofiadau sy’n dod ag ysbrydoliaeth i’r gwirfoddolwyr rydyn ni’n gweithio gyda nhw – ag ein huchelgais gyda’r cyllid newydd hwn yw’r gallu i gynyddu cyfleoedd gwirfoddoli ond nid yn unig o fewn ein sefydliad – gyda’n partneriaid yn y sector amgylchedd hanesyddol gan gynnwys cymdeithasau hanes lleol a grwpiau archeoleg gymunedol yng Nghymru.”

Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi gyda chyfres o weithdai i bobl a chymunedau gymryd rhan.

Dywedodd Dr Carol Bell, Cadeirydd Heneb: “Mae’r cyllid hwn trwy Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn seiliedig ar ein llwyddiant diweddar o gefnogaeth ariannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn wir, mae’n ddiolch i’r Loteri Genedlaethol y cawson ni’r siawns i gael cymorth i’n helpu ysgrifennu ceisiadau i’r CGGC yn y lle cyntaf.

Er bod ein cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd hirdymor Heneb, mae’r cyllid newydd hwn gan CGGC yn rhoi cyfle i ni sefydlu dulliau gweithio i gynyddu cyfranogiad gwirfoddol mewn archaeoleg ledled y sector yng Nghymru, felly mae’n ategu ein trefniadau cyllid presennol yn hynod effeithiol.”

Mae unrhyw un sydd gyda diddordeb i gymryd rhan mewn gwirfoddoli’n cael eu hannog i anfon e-bost i:  

[email protected] 

Mwy o Newyddion

Rhai o'n Hymddiriedolwyr Heneb a staff gyda staff academaidd o UCL.

Wythnos Cymru yn Llundain

Roedd y mis hwn yn cynnwys ffocws sylweddol ar ymgysylltu allanol a datblygu partneriaeth. Treuliodd Heneb amser yn Llundain fel…

Ffarwel Annwyl i Mark Walters

Ar ddiwedd Mai, byddwn yn ffarwelio â Mark Walters, sy’n ymddeol ar ôl gweithio am 35 mlynedd yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol…
Beddrod siambr Sweyne's Howe (a enwyd ar ôl Sweyn Forkbeard, sylfaenydd honedig Abertawe)

Llychlynwyr yng Nghymru: Ddoe a Heddiw

Arddangosfa yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, 2 Ebrill – 17 Mai Links between Scandinavia and Wales began long…