
Mae Heneb –Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru yn falch iawn i gyhoeddi sicrhad o gyllid o £238,150 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi ei phrosiect trawsnewidiol, Adeiladu Cynaliadwyedd a Gwydnwch: Heneb – yr Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru. Mae’r fenter ddwy flynedd hon, sy’n dechrau ym mis Ionawr 2025, yn mynd i gryfhau gweithrediadau Heneb, gan sicrhau dyfodol cynaliadwy a chynhwysol i archaeoleg yng Nghymru.
Bydd y cyllid yma yn galluogi Heneb i wella ei allu fel sefydliad newydd unedig, a ffurfiwyd drwy uno pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar pump maes allweddol:
- Cynllunio Strategol a Gweithredol: Datblygu strategaeth bum mlynedd gynhwysfawr i arwain ymdrechion twf a chadwraeth treftadaeth Heneb.
- Codi Arian a Datblygiad Busnes: Arallgyfeirio ffrydiau refeniw a phenodi Rheolwr Datblygu Busnes i sicrhau cadernid ariannol.
- Ymgysylltu Digidol a Chyhoeddus: Datblygu ail gam wefan newydd deinamig a strategaeth cyfryngau cymdeithasol i ehangu cyfranogiad cymunedol a mynediad i’r archaeoleg yng Nghymru.
- Rheoli Gwirfoddolwyr: Ymledu cyfleoedd i wirfoddolwyr o gefndiroedd amrywiol, gan sicrhau cynwysoldeb mewn archaeoleg yng Nghymru.
- Allgymorth Cymunedol: Ymgysylltu ag ysgolion, grwpiau lleol, a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gweithgareddau archaeolegol, a maethu cysylltiad a rennir â hanes Cymru.
Mae’r fenter hon yn adeiladu ar genhadaeth Heneb i ddiogelu safleoedd archaeolegol Cymru, gwarchod Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (CAH), ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o archeolegwyr. Mae’r CAH, sy’n gonglfaen rheolaeth dreftadaeth Cymru, yn cefnogi asesu dros 20,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn, gan ddiogelu safleoedd rhag bygythiadau fel datblygiadau a newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Dr Carol Bell, Cadeirydd Heneb:
“Daw’r cyllid hwn ar adeg bwysig i Heneb ac archaeoleg Gymreig. 9 mis ar ôl i Heneb gael ei ffurfio o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru treftadaeth, mae’n ein galluogi i fuddsoddi mewn gwneud ein gweithrediadau yn fwy cynaliadwy, ehangu ymgysylltiad y cyhoedd, a sicrhau bod gwybodaeth am dreftadaeth Cymru yn tyfu ac yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a phawb sy’n chwarae’r Loteri, am gefnogi’r gwaith hanfodol hwn.”
Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae’n anodd meddwl am gysylltiad mwy diamwys â threftadaeth a hanes Cymru na thrwy ddarganfyddiadau archeolegol. Felly, rwy’n falch iawn o ddyfarnu cyllid hwn i Heneb a fydd yn helpu’r maes i ffynnu am flynyddoedd i ddod; a’r cydbwysedd braf mai’r bobl, chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n gyrru’r ail-gysylltiad hwn â’n gorffennol.”
Mae’r cyllid hwn yn tanlinellu ymrwymiad Heneb i gadwraeth treftadaeth, cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfranogiad cynhwysol. Drwy ddefnyddio offer digidol a maethu cysylltiadau cymunedol, bydd y prosiect yn gadael etifeddiaeth barhaol, gan sicrhau gwytnwch a pherthnasedd treftadaeth archaeolegol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan yng ngwaith Heneb, cysylltwch â ni: