Pleser oedd lansio Strategaeth 5 Mlynedd Heneb yn y Senedd yr wythnos hon, gan nodi ein huchelgais i lunio dyfodol archaeoleg yng Nghymru drwy waith cymunedol, arloesol, a chynaliadwy.
Cafodd y strategaeth ei lansio mewn digwyddiad yn y Senedd ddydd Iau 29 Ionawr 2026. Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru a llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant oedd yn noddi’r digwyddiad.
Pum Blaenoriaeth Strategol ar gyfer Dyfodol Archaeoleg Cymru
Mae’r strategaeth gynhwysfawr, Datgelu Gorffennol Cymru, Llunio Ein Dyfodol, yn amlinellu pum nod strategol rhyng-gysylltiedig:
Nod Un: Cryfhau Gwasanaethau Cyhoeddus: Mae Heneb yn cynghori pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ar faterion cynllunio a datblygu, yn darparu cymorth arbenigol i dirfeddianwyr a datblygwyr, ac yn rheoli’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol statudol. Erbyn 2030, mae’n gobeithio gwella’r gwasanaeth a ddarperir, ei gwneud hi’n haws i gael mynediad digidol at ragor o gofnodion, a chefnogi gwydnwch lleol drwy Baneli Cynghori Rhanbarthol.
Nod Dau: Cynyddu Incwm a Gwydnwch: Mae’r cynlluniau’n cynnwys datblygu archaeoleg dan arweiniad datblygwyr o un flwyddyn i’r llall, amrywio incwm drwy godi arian, aelodaeth a nawdd, lansio ymgyrchoedd rhanbarthol a chreu sianeli hygyrch ar gyfer rhoddion a rhoddion cymynrodd.
Nod Tri: Ymgysylltu a Chynnwys: Mae Heneb yn datblygu dull ymgysylltu cynhwysol sy’n cael ei arwain gan y gymuned drwy ddigwyddiadau cyhoeddus, darlithoedd, gwyliau a chynadleddau, er mwyn sicrhau bod cymunedau amrywiol Cymru yn cael eu cynrychioli a datblygu gofod arddangos symudol y Ganolfan Ddarganfod.
Nod Pedwar: Arwain Arloesedd ac Ymchwil: Bydd y sefydliad yn nodi prosiectau cloddio ac ymchwil, yn arwain partneriaethau gyda phrifysgolion drwy astudiaethau thematig Cymru gyfan, yn ehangu eu defnydd o LiDAR a mapio gyda drôn, yn lansio gweithgareddau cloddio er budd llesiant a rhaglenni henebion sydd mewn perygl a rhannu data’n agored gydag ysgolion ac ymchwilwyr.
Nod Pump: Tyfu fel Un Sefydliad: Mae camau gweithredu’r sefydliad unedig yn cynnwys datblygiad proffesiynol strwythuredig, cyfathrebu dwyieithog, cyflogi cynhwysol, a systemau TG mewnol wedi’u moderneiddio
Dywedodd Cadeirydd Heneb, Dr Carol Bell: “Gydag ôl troed cenedlaethol, mae Heneb yn seiliedig ar 50 mlynedd a mwy o brofiad sydd wedi’i wreiddio yn y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol ranbarthol hanesyddol yng Nghymru. Rydyn ni’n adeiladu dyfodol archaeoleg yng Nghymru wrth ddatgelu ei hanes a dod â’r gorffennol yn fyw i gymunedau ledled y wlad. Mae ein strategaeth bum mlynedd yn nodi sut rydyn ni’n cyflawni ein dyletswydd gyhoeddus, yn cynyddu ein capasiti a’n gwydnwch, ac yn sicrhau bod cymunedau’n cysylltu â’u treftadaeth.”
Dywedodd Heledd Fychan AoS: “Mae treftadaeth archaeolegol Cymru yn perthyn i ni i gyd, ac mae strategaeth Heneb yn sicrhau y bydd hi’n cael ei gwarchod, ei dathlu, a’i rhannu â phob cymuned yng Nghymru. Mae hon yn weledigaeth feiddgar a chyffrous sy’n cydnabod y bygythiadau sy’n ein hwynebu yn sgil newid hinsawdd, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd gennym ni i gysylltu pobl â’r hanes cyfoethog o dan eu traed. Rwy’n falch o gefnogi hyn ac yn edrych ymlaen at ddilyn stori Heneb dros y pum mlynedd nesaf ac ar ôl hynny.”
Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd
Un o gonglfeini’r strategaeth yw ymateb Heneb i newid yn yr hinsawdd, mater sy’n peri bygythiad brys i safleoedd archaeolegol arfordirol ac ar dir isel. Mae’r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw ar brosiectau monitro ac yn blaenoriaethu safleoedd sydd mewn perygl o erydu a llifogydd.
Mae prosiectau diweddar yn dangos yr ymrwymiad hwn ar waith. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys y gwaith cloddio yn erbyn amser yn Dinas Dinlle, ardal lle mae bryngaer o Oes yr Haearn yn cael ei cholli o ganlyniad i erydu, a gwaith mapio cymunedol sy’n cyfuno treftadaeth y dirwedd â chynllunio i addasu i’r hinsawdd.
Archaeoleg dan arweiniad y gymuned ar waith
Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at hanes Heneb o gynnal prosiectau cymunedol arloesol, gan gynnwys darganfod Cerbyd Rhyfel o’r Oes Haearn wrth gloddio yn Sir Benfro, darganfyddiad a arweiniodd at ymweliadau ag ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, a phrosiect mapio Ynys Cybi, prosiect sy’n fodel ar gyfer archaeoleg ddwyieithog sy’n uno cenedlaethau ar lawr gwlad.
Dywedodd Richard Nicholls, Prif Swyddog Gweithredol Heneb: “Mae’r strategaeth hon yn nodi dechrau pennod newydd gyffrous i archaeoleg yng Nghymru. “Mae gan Heneb ddegawdau o arbenigedd rhanbarthol a gweledigaeth genedlaethol feiddgar – i warchod safleoedd sydd dan fygythiad, cynnal ymchwil newydd arloesol, a sicrhau bod pob cymuned yn gallu cysylltu â’r dreftadaeth ar garreg eu drws. Gyda’n gilydd, byddwn ni, ein cefnogwyr a’n cymunedau yn gwarchod, yn archwilio ac yn rhannu straeon Cymru — heddiw, ac am genedlaethau i ddod.”
Prif bartneriaid Heneb yw: Cadw, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru, yn ogystal ag aelodau, rhoddwyr, partneriaid academaidd a phartneriaid cymunedol.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru: “Mae’r strategaeth hon yn dangos yn union y math o ddull uchelgeisiol a chymunedol sy’n gwneud treftadaeth yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n gallu cefnogi gwaith hanfodol Heneb yn gwarchod ac yn rhannu treftadaeth archaeolegol Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â Heneb, wrth iddynt ddod â gorffennol Cymru yn fyw i gynulleidfaoedd newydd a diogelu safleoedd na ellir eu disodli ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Dr Kathryn Roberts, Prif Weithredwr Cadw: “Mae Cadw wrth ei bodd yn gweithio’n rhagweithiol gyda Heneb tuag at ein nod cyffredin o hyrwyddo rheolaeth dda a gwerthfawrogiad o Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn ased gwerthfawr sy’n perthyn i ni i gyd ac yn dreftadaeth hanfodol i ni ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r strategaeth hon yn cydnabod y rôl bwysig y gall archaeolegwyr ei chwarae yn cefnogi ein treftadaeth ac yn helpu ein cymunedau a’n pobl ifanc i ymgysylltu â’n treftadaeth unigryw a’i mwynhau.”
Cymryd rhan a Chael Rhagor o Wybodaeth
Gall aelodau o’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi gwaith Heneb fynd i www.heneb.org.uk i roi rhodd, i wirfoddoli, neu i gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.
Mae strategaeth Heneb yn cynnwys ymgynghoriad â phartneriaid allweddol fel Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Awdurdodau Lleol a Phrifysgolion ledled Cymru.
Mae’r ddogfen sy’n cynnwys y strategaeth lawn, Strategaeth Heneb 2025-2030: Datgelu Gorffennol Cymru, Llunio ein Dyfodol, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Ein Strategaeth – Heneb












