
Ym mis Hydref 2024, cyfarfu holl staff ac Ymddiriedolwyr Heneb yn Aberystwyth ar gyfer ein diwrnod cwmni cyntaf erioed i ffwrdd. Dechreuodd y diwrnod gyda chwpanau o goffi a bisgedi mewn llaw, a phawb o bedwar rhanbarth Heneb yn cymysgu, gan rannu hanesion archaeoleg o bob cwr o’r wlad.
Cawsom groeso gan – Carol Bell a Richard Nicholls.
Cawsom groeso gan Gadeirydd Heneb – Carol Bell, a’r Prif Swyddog Gweithredol Richard Nicholls. Roedd y bore yn cynnwys cyfres o weithdai a gynlluniwyd i herio meddyliau ac ysbrydoli cydweithio. Fe wnaethom rannu’n sawl grŵp a thrafod pynciau amrywiol sy’n ymwneud â Heneb ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys Grŵp Cymraeg – yn trafod sut i ennyn diddordeb staff yn y Gymraeg, Grŵp Archifau – sesiwn ymarferol a ddefnyddiwyd i archwilio enghreifftiau da a drwg o archifo, Grŵp Technoleg – yn edrych ar sut y gall technoleg symleiddio a gwella prosiectau archaeolegol, ac efallai mai un o’r grwpiau mwyaf poblogaidd oedd y Grŵp Lles – a grëwyd i rannu adnoddau lles a chymhellion i’r staff wrth geisio curo’r cloc mewn gêm o ‘ddianc rhag y siwtces’.
Dros amser cinio, cafodd y staff gyfle i sgwrsio a dod i adnabod ei gilydd ychydig yn fwy. Er bod tipyn ohonom wedi cyfarfod o’r blaen ar sawl achlysur, anaml iawn y cawn gyfle i siarad fel y gwnaethom y diwrnod hwnnw. Roedd hi’n brofiad i’w groesawu i allu cwrdd â’n cyfoedion a’n cydweithwyr yr ydym mor aml yn eu gweld ar sgrin yn unig.
Roedd sesiwn y prynhawn yn cynnwys trafod strategaeth Heneb ar gyfer ein dyfodol. Roedd hi’n gyfle amhrisiadwy i’r holl staff cael cyfle i roi eu barn ar draws am ragolygon Heneb. Buom yn trafod cynigion ar gyfer datganiadau cenhadaeth a’n gwerthoedd, a chyfrannu syniadau at gynllun pum mlynedd Heneb.
Daeth un o uchafbwyntiau’r dydd pan gychwynnodd yr araith gyweirnod gan Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol a gyflwynodd araith fywiog am Gynhanes a Chymru Rhufeinig. Roedd hi’n wych dysgu am safleoedd a darganfyddiadau archaeolegol newydd, a’n hatgoffa o’r angerdd am ein gwaith yr ydym i gyd yn ei rannu.