Disgrifiad
Mae Heneb yn sefydliad elusennol sydd wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru.
Bydd y Rheolwr Datblygu Busnes yn gyfrifol am wthio ac ehangu gwasanaethau prosiectau archaeolegol Heneb yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae’r rôl hon yn cynnwys nodi cyfleoedd busnes newydd, datblygu partneriaethau â datblygwyr, penseiri ac arweinwyr y diwydiant adeiladu a chynyddu refeniw trwy gontractau prosiectau archaeolegol.
Bydd deiliad y swydd yn gallu gweithio’n hybrid trwy gymysgedd o weithio gartref a gweithio mewn swyddfa yn unrhyw un o’n swyddfeydd yn Ne-ddwyrain Cymru (Baglan neu Gasnewydd), a bydd angen teithio ledled y rhanbarth.
Mae Heneb wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan bob unigolyn cymwys.

Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl at y Pennaeth Archaeoleg, John Roberts [email protected] erbyn 14 Chwefror 2025.