Neidio i'r prif gynnwys

Disgrifiad

Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect profiadol i ymuno â’n Tîm Gwasanaethau Maes sy’n tyfu yn Ne Cymru. Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio’n agos gyda’n tîm rheoli i oruchwylio ac i gydlynu ein gwaith maes ar draws de Cymru.

Teitl y Swydd: Swyddog Prosiect
Lleoliad: Sain Ffagan (a hybrid)
Math o Gontract: Parhaol – Llawn amser (37awr yr wythnos)
Cyflog: [SP14-19] £31,992 – £36,196 y flwyddyn

Yn adrodd i:   Gwasanaethau Maes – Uwch Reolwr (De Cymru)

Crynodeb o’r Swydd

Bydd y Swyddog Prosiect yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau archaeolegol Heneb yn Ne Cymru a bydd yn adrodd i’n Huwch Reolwr (De Cymru). Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am brosiectau bach a chanolig, gan oruchwylio tîm o archaeolegwyr ar adegau, gan sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n ddiogel, yn effeithlon ac i safon broffesiynol uchel. Mae’r swydd hon yn addas i archaeolegydd profiadol sy’n gyfrifol o bryd i’w gilydd am reoli prosiectau, gan barhau i gyfrannu’n uniongyrchol at waith maes ac adrodd.

Gwybodaeth am Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru

Heneb yw’r prif ddarparwr gwasanaethau archaeolegol a threftadaeth yng Nghymru. Ffurfiwyd Heneb yn 2024 drwy uno pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, ac mae’n cyfuno dros bum degawd o arbenigedd ym maes archaeoleg a rheoli treftadaeth. Fel elusen, rydym yn ailfuddsoddi unrhyw elw yn uniongyrchol yng nghymunedau Cymru.

Gyda swyddfeydd rhanbarthol ym mhob cwr o Gymru, mae Heneb yn cyflogi tîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol sydd wedi ymrwymo i ymchwilio i amgylchedd hanesyddol y wlad, ei ddeall a’i ddiogelu. Mae ein gwybodaeth ranbarthol, ynghyd ag ymrwymiad i ragoriaeth ac arloesedd, yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau ymatebol o ansawdd uchel sydd wedi’u teilwra i anghenion unigryw pob prosiect.

Rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau archaeolegol ac ymgynghori i gefnogi datblygiadau yn y sector cyhoeddus yn ogystal â’r sector preifat.

Prif Ddyletswyddau

  • Goruchwylio a chydlynu gwaith maes archaeolegol, gan sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni yn unol â’r cwmpas, yr amserlen a’r gyllideb.
  • Cyfrannu at baratoi dyluniadau prosiectau, asesiadau risg a datganiadau dull fel sy’n ofynnol gan Reolwr y Prosiect.
  • Gwneud gwaith maes archaeolegol, gan gynnwys gwaith cloddio, gwerthusiadau, briffiau gwylio, gwaith arolygu a chofnodi adeiladau.
  • Cyfrannu at asesiadau desg a dogfennau technegol eraill.
  • Ymgymryd â dadansoddi, adrodd a chyhoeddi ar ôl gwaith maes i safon broffesiynol.
  • Cyfrannu at y gwaith o ledaenu canlyniadau prosiectau drwy gyhoeddiadau, sgyrsiau neu weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Reolwr y Prosiect.
  • Sicrhau bod yr holl waith yn bodloni safonau ansawdd a chanllawiau proffesiynol Heneb.
  • Bod yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch ar y safle, gan sicrhau bod systemau gwaith diogel ar waith ac y glynir wrthynt.
  • Cysylltu â chleientiaid, contractwyr, archaeolegwyr curadurol a rhanddeiliaid, gan gynrychioli Heneb yn broffesiynol.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol gan yr Uwch Reolwr (De Cymru).

Manyleb y Person – Hanfodol:

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn archeoleg neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
  • Profiad amlwg mewn archaeoleg fasnachol, gan gynnwys goruchwylio gwaith maes archaeolegol gan gynnwys cloddio, gwaith arolygu a chofnodi adeiladau.
  • Profiad o ysgrifennu adroddiadau i safon broffesiynol.
  • Sgiliau TG da
  • Sgiliau trefnu cadarn a’r gallu i reoli amser ac adnoddau’n effeithiol.
  • Gwybodaeth am ofynion Iechyd a Diogelwch mewn gwaith maes archeolegol.
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac ar bapur.
  • Dealltwriaeth dda o archaeoleg Prydain a safonau proffesiynol (e.e. CIfA).
  • Trwydded yrru gyfredol, lawn.
  • Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (neu’n gweithio tuag ato).

Manyleb y Person – Dymunol:

  • Gwybodaeth am archeoleg yng Nghymru, deddfwriaeth berthnasol, a fframweithiau treftadaeth.
  • Profiad o gysylltu â chleientiaid, contractwyr ac archaeolegwyr curadurol.
  • Tystiolaeth o gyfrannu at gyhoeddiadau, sgyrsiau neu ledaenu canlyniadau archeolegol yn ehangach.
  • Iechyd a diogelwch ac ardystiad Cymorth Cyntaf.
  • Gallu cyfathrebu’n Gymraeg.

Cymwyseddau Craidd sydd eu Hangen

  • Cyflawni Prosiectau: Cyflawni prosiectau yn unol â chwmpas, amser, cost ac ansawdd y cytunwyd arnynt.
  • Cyfathrebu: Cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol â staff, cleientiaid a rhanddeiliaid.
  • Datrys Problemau: Canfod a datrys problemau wrth iddynt godi yn y maes ac wrth adrodd.
  • Cydweithio: Gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad a phartneriaid allanol.
  • Arbenigedd Proffesiynol: Cymhwyso sgiliau a gwybodaeth archaeolegol i bob agwedd ar waith.
  • Gwelliant Parhaus: Cefnogi arloesedd, dysgu a datblygu arferion gorau.

Buddion

  • Gwyliau Blynyddol: 38 diwrnod o wyliau y flwyddyn (gan gynnwys gwyliau banc).
  • Cyflog: Cystadleuol, yn seiliedig ar allu a phrofiad.
  • Cynllun Pensiwn: Cynllun pensiwn wedi’i gynnwys.
  • Aelodaeth CIfA: Caiff y ffioedd aelodaeth eu talu’n llawn.
  • Llety a Chynhaliaeth: Ar gael wrth weithio oddi cartref.
  • Polisi Milltiredd – am yr holl waith a wneir y tu allan i’ch swyddfa.
  • Archaeoleg Gymunedol: gwaith ar ein prosiectau archaeoleg cymunedol amrywiol.
  • Hyfforddiant a Datblygu: Mynediad at gyllidebau a lwfansau hyfforddi penodol.
  • Gweithio’n hyblyg: Mae gennym bolisi Amser Hyblyg ac Amser i Ffwrdd yn Lle Tâl (TOIL).

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn gofyn am weithio oddi cartref o bryd i’w gilydd.

Mae’r swydd hon yn golygu teithio cyson yn Ne Cymru a’r cyffiniau, a bydd angen teithio i rannau eraill o Gymru yn achlysurol.

Sut mae Ymgeisio

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol sy’n amlinellu pa mor addas ydych chi ar gyfer y swydd at [email protected] erbyn 1af Ebrill 2026.

Mae Heneb wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Bydd pob ymgeisydd cymwysedig yn cael ei ystyried ar gyfer cyflogaeth heb ystyried hil, lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, geneteg, anabledd, oedran neu statws cyn-filwr. Mae Heneb hefyd wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r holl arferion cyflogaeth deg sy’n berthnasol i ddinasyddiaeth a statws mewnfudo.

Os nad yw eich sgiliau’n cyfateb yn llawn i’n meini prawf ond eich bod yn dal i deimlo y byddech chi’n aelod da o’n tîm, cysylltwch â Fran Murphy [email protected] i gael trafodaeth anffurfiol.

Staff Away Day 2024

Manylion

  • Dyddiad Cau April 1, 2026
  • Cyflog [SP14-19] £31,992 - £36,196 y flwyddyn
  • Lleoliad Sain Ffagan (a hybrid)
This vacancy has closed.