Neidio i'r prif gynnwys
Beddrod siambr Sweyne's Howe (a enwyd ar ôl Sweyn Forkbeard, sylfaenydd honedig Abertawe)

Arddangosfa yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, 2 Ebrill – 17 Mai

Links between Scandinavia and Wales began long before the 1860s, when Scandinavian sailors arrived in Cardiff and constructed the Norwegian Church in Cardiff Bay. This April and May, the heritage team at the Norwegian Church Arts Centre, in collaboration with exhibition partners, are opening an exhibition focused on some of the earliest links between Wales and Scandinavia, looking into the history and heritage of Vikings and Wales. The exhibition will be hosted in the upstairs Dahl Gallery at the Norwegian Church Arts Centre in Cardiff Bay from April 2nd to May 17th, closing at the end of the most symbolic date in the Norwegian calendar, the Norwegian Constitution Day. The exhibition will focus on four main sections, each outlining key aspects of Viking history, reception, and heritage in modern Wales.

Mae rhan gyntaf yr arddangosfa yn rhoi sylw i Gymru Oes y Llychlynwyr ei hun ac mae’n cynnwys posteri sy’n amlinellu digwyddiadau allweddol yng Nghymru Oes y Llychlynwyr a’r rhyngweithio rhwng yr Hen Lychlynwyr a’r Cymry yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Bydd rhan dau yn symud ymlaen mewn amser, gan arddangos cyfres o eitemau Celf Werin Norwyaidd traddodiadol, a fenthycwyd gan Robert Davis, aelod o’r Gymdeithas Norwyaidd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys enghreifftiau o baentio rhosod ac ellyllon Norwyaidd, sy’n agwedd hanfodol ar ddiwylliant hanesyddol Norwyaidd mewn cyfnodau mwy diweddar.

Bydd rhan tri yn edrych ar adfywiad crefyddol y Llychlynwyr yn Ne Cymru heddiw. Mae Paganiaid modern yn credu yn nuwiau, mythau a defodau Oes Haearn Sgandinafia, ac maent yn rhan o fudiad neo-Baganaidd mwy lle mae miloedd o bobl ledled y byd yn adfywio agweddau ar grefyddau cyn-Gristnogol. Mae’r arferion crefyddol hyn yn wahanol mewn sawl ffordd i’r rhai yn Oes y Llychlynwyr ac maent wedi datblygu i fod yn grefydd gynhwysol, sy’n agored i bawb. Mae’r arddangosfa hon wedi’i chyd-guradu gan aelodau o’r gymuned Baganiaid ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ac Olivia Husøy-Ciaccia, yn annibynnol ar ei rôl fel Swyddog HER Heneb ar gyfer Morgannwg-Gwent.

Mae rhan pedwar yn symud ymlaen i elfen allweddol arall o dreftadaeth Oes y Llychlynwyr yng Nghymru yn ein cymdeithas heddiw, sef y digwyddiadau sy’n Ail-greu Hanes. Datblygir y rhan hon mewn cydweithrediad â’r grŵp ail-greu yng Nghymru, Blaeddau Du, sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili, ac sy’n gangen o’r Gymdeithas Ail-greu Hanes y Llychlynwyr. Mae’r grŵp yn portreadu’r Llychlynwyr-Gwyddelig a’r Cymry a oedd yn byw yng Nghymru tua 950CE, gan ddod â chymdeithas Oes y Llychlynwyr yng Nghymru i’r byd modern.

Bydd Blaeddau Du hefyd yn arwain pedwar digwyddiad hanes byw i’r cyhoedd yn yr Eglwys Norwyaidd ar y diwrnodau canlynol (am ddim):

  • Dydd Mercher 8 Ebrill
  • Dydd Sadwrn 18 Ebrill
  • Dydd Sadwrn 25 Ebrill
  • Dydd Sadwrn 9 Mai

Ym mhob un o’r digwyddiadau hyn, bydd y cwmni’n arddangos crefftau Llychlynnaidd trwy hanes byw, gan symud i ffwrdd o’r pwyslais a’r traddodiad mai ymosodwyr oedd y Llychlynwyr tuag at agweddau eraill ar y cyfnod a’r diwylliant cyfoethog hwn.

Mae’r arddangosfa yn cynnig cyfle i weld sut mae Oes y Llychlynwyr yn rhan o dreftadaeth Cymru a sut mae agweddau ohoni yn parhau i fod yn fyw yn ein tirwedd, ein trefi a’n cymunedau heddiw. Yr arddangosfa yw’r seithfed sy’n deillio o Brosiect Ymchwil ac Allgymorth Treftadaeth yr Eglwys Norwyaidd, a ariennir yn hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae’r tîm treftadaeth a phartneriaid yr arddangosfa yn diolch i’r rhain am eu cefnogaeth i wneud hyn yn bosibl.

Er nad yw Heneb yn ymwneud yn uniongyrchol â’r arddangosfa arfaethedig hon, ymgynghorwyd â staff Heneb yn annibynnol i fanteisio ar eu harbenigedd yn ystod y broses o’i churadu. Mae Heneb wedi ymgysylltu â Chanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd o’r blaen, a bu staff mewn cynhadledd am hanes crefyddol amrywiol Caerdydd ym mis Ebrill 2025 yn ystod cam cyntaf prosiect ARWAP. Maent wedi cael gwahoddiad i fynychu digwyddiad agoriadol yr arddangosfa i barhau i adeiladu ar y berthynas rhwng y ddau sefydliad.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!

Dr Thomas Alexander Husøy
Hanesydd a Swyddog Allgymorth, Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd

Dr Olivia Husøy-Ciaccia
Swyddog Cofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol, Heneb – Yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Archaeoleg Cymru

Mwy o Newyddion

Staff Away Day 2024

Heneb: Oes Newydd i Archaeoleg Cymru – Archwilio Ein Cenhadaeth a’n Gwaddol

Darganfod Heneb, yr ymddiriedolaeth archaeolegol unedig a ffurfiwyd drwy uno pedair ymddiriedolaeth ranbarthol Cymru. Dysgwch sut mae Heneb yn gwarchod, yn archwilio ac yn hyrwyddo archaeoleg Cymru.

A dyna ni wedi gorffen! Parc y Drenewydd

A dyna ni wedi gorffen! Diolch i'n gwirfoddolwyr gwych sydd wedi helpu gyda'n cloddiad tair wythnos o'r gwrthglawdd llinellol ym mharc…

Swyddi gwag ar gyfer ymddiriedolwyr

Ar ôl lansio cynllun 5 mlynedd uchelgeisiol Heneb ar gyfer archaeoleg yng Nghymru yn y Senedd ym mis Ionawr 2026,…